Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Materion brys a ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu Swyddog a benodwyd ganddi

Dim materion brys ar adeg anfon allan y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 327 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar  28 Medi 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 28 Medi, 2020 i'w cymeradwyo ganddo.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau bod cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 28 Medi, 2020 yn gywir.

4.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 396 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn ymgorffori Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod Tachwedd 2020 hyd at Fehefin 2021 i'w ystyried a nodwyd yr eitemau newydd canlynol: -

 

·         Ar gyfer cyfarfod 30 Tachwedd, 2020

 

Eitem Newydd - Cyllideb gyfun ar gyfer Anableddau Dysgu

 

·         Ar gyfer cyfarfod 14 Rhagfyr, 2020: -

 

Eitem 13 - Premiwm Treth Gyngor ar gyfer Ail Gartrefi

 

·         Ar gyfer cyfarfod 25 Ionawr, 2020: -

 

Eitem 17 - Strategaeth Dai Dros Dro 2020/21

 

·         Ar gyfer cyfarfod Mawrth 2021:

 

·         Eitem 19 – Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2019/20;

·         Eitem 28 – Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai (CRT).

 

·           Ar gyfer cyfarfod Mehefin 2021:-

 

o   Eitem 36 - Adroddiad Blynyddol Safonau Iaith Gymraeg 2020/21;

o   Eitem 38 - Cerdyn Sgorio Corfforaethol - Chwarter 4, 2020/21;

o   Eitem 39 - Adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw - Chwarter 4, 2020/21;

o   Eitem 40 - Adroddiad Monitro’r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 4, 2020/21;

o   Eitem 41 - Adroddiad Monitro Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai - Chwarter 4, 2020/21.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau Blaenraglen Waith ddiweddaredig y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod Tachwedd 2020 hyd at Fehefin 2021 fel y cafodd ei chyflwyno.

 

5.

Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2019/20 pdf eicon PDF 1 MB

I gyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn (AD a Thrawsnewid).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid ar Adroddiad Perfformio Blynyddol 2019/20 i'r Pwyllgor Gwaith i'w ystyried. Roedd yr adroddiad - y mae'n ofynnol i'r Awdurdod ei gyhoeddi yn unol â statud - yn cynnwys adolygiad o'r canlynol: -

 

  • y cynnydd a wnaed gan yr Awdurdod o ran cyflawni'r amcanion yn ei Ddogfen Gyflawni Flynyddol ar gyfer 2019/20 fel yr amlinellir o dan y 3 amcan blaenoriaeth (para 1.3)
  • ei berfformiad yn gyffredinol gan gynnwys perfformiad yn seiliedig ar ddangosyddion cenedlaethol (dangosyddion MAC a DPA lleol).

 

Tynnodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Corfforaethol sylw at nifer o gyflawniadau o dan y 3 amcan allweddol ond gan gydnabod hefyd fod meysydd y gellid eu gwella ymhellach. Nododd fod 3 dangosydd perfformiad yn cael eu hamlygu mewn coch yn yr adroddiad. Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio ymhellach at nifer o lwyddiannau nodedig a grybwyllir yn yr adroddiad. Wrth dynnu sylw at y cyflawniadau hyn a rhai eraill, diolchodd yr Aelod Portffolio i staff y Cyngor gan nodi na fyddai'r cyflawniadau hyn wedi bod yn bosib heb eu hymroddiad a'u gwaith caled. Wrth edrych ymlaen, er bod y Cyngor yn parhau i wynebu her ac ansicrwydd wrth ddarparu ei wasanaethau, roedd yn hyderus serch hynny y byddai modd iddo, gyda chefnogaeth ei staff a'i bartneriaid, wneud gwelliannau pellach a sicrhau canlyniadau cadarnhaol er budd pobl Ynys Môn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, fod y Pwyllgor Sgriwtini wedi ystyried yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol yn ei gyfarfod ar 20 Hydref, a bod y Pwyllgor yn falch o argymell yr Adroddiad Perfformio Blynyddol i'r Pwyllgor Gwaith.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff at ffaith bod y cyfraddau ailgylchu yn dangos gostyngiad yn ddiweddar. Nododd fod deunydd yr oedd modd ei ailgylchu yn cael ei dynnu o'r biniau du o’r blaen ond bellach mae holl gynnwys y biniau du'n cael ei gludo i Barc Adfer i'w losgi. Nodwyd bod gofyn  cyrraedd y targed o 70% erbyn 2024 ac mae ffigyrau ailgylchu'r Ynys eisoes yn agos at darged Llywodraeth Cymru.

 

Cydnabu'r Pwyllgor Gwaith y llwyddiannau lu y mae'r adroddiad yn tystio iddynt a chytunwyd bod modd eu priodoli i arweinyddiaeth glir, gweithlu ymroddedig a system rheoli perfformiad, asesu ac adrodd effeithiol.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Adroddiad Perfformio 2019/20 fel adlewyrchiad o waith yr Awdurdod ac y dylid ei gyhoeddi erbyn y dyddiad statudol ar ddiwedd mis Hydref.

 

 

6.

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru – Llythyr Blynyddol 2019/20 pdf eicon PDF 450 KB

I gyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro i'r Pwyllgor Gwaith i'w ystyried.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Corfforaethol fod adroddiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - Llythyr Blynyddol 2019/20 yn adroddiad blynyddol ar y gwaith a wnaed gan yr Ombwdsmon dros y 12 mis blaenorol. Nododd fod hwn yn adroddiad cadarnhaol gan fod nifer y cwynion a wnaed yn erbyn y Cyngor wedi gostwng. O'r 26 o gwynion a gyflwynwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, daeth yr Ombwdson i'r casgliad nad oedd angen i'w swyddfa ymchwilio i 25 ohonynt ac  ymdriniwyd ag 1 gŵyn a gyflwynwyd trwy ddatrysiad cynnar.

 

PENDERFYNWYD derbyn Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2019/20 a dirprwyo grym i'r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro ysgrifennu at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru erbyn 30 Tachwedd, 2020 i gadarnhau hynny a nodi y bydd y Cyngor yn parhau i fonitro cwynion, a thrwy hynny'n rhoi i'r Aelodau'r wybodaeth y maent ei hangen i'w helpu  i graffu ar berfformiad.

 

 

7.

Strategaeth Ataliol ac Ymyrraeth Gynnar pdf eicon PDF 553 KB

I gyflwyno adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro a’r Pennaeth Gwasanaethau Tai.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'r Pwyllgor Gwaith i'w ystyried, adroddiad ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Pennaeth Gwasanaethau Tai mewn perthynas â'r Strategaeth Atal ac Ymyrraeth Gynnar a'r amserlen ar gyfer ei gweithredu.

 

Dywedodd y Cadeirydd a'r Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ma nod y strategaeth yw hyrwyddo gwell ansawdd bywyd i bobl. Diffinnir y Weithred Atal fel mabwysiadu dulliau sy'n adeiladu ar gyfranogiad gweithredol defnyddwyr gwasanaeth a chymunedau i sicrhau gwell canlyniadau ac i gyfrannu'n sylweddol at wneud y defnydd gorau posib o arian ac asedau eraill.

 

Adroddodd y Prif Swyddog Datblygu (Gwasanaethau Tai) fod gan y Strategaeth Atal ac Ymyrraeth Gynnar ran annatod i'w chwarae o ran lleihau'r galw am ddarpariaeth rheng flaen, statudol, a thrwy hynny leihau costau a sicrhau bod pob dinesydd, gan gynnwys rhai o'r bobl fwyaf bregus, yn derbyn ymyriadau amserol i gwrdd â'u hanghenion amrywiol. Bydd y Strategaeth yn canolbwyntio ar ddull gweithredu ledled yr Awdurdod, fel yr amlinellir yn y Cynllun Gweithredu, ac yn cael ei gweithredu ochr yn ochr â Chynllun Corfforaethol y Cyngor er mwyn cyflawni'r 3 nod corfforaethol craidd fel yr amlinellwyd hwy yn yr adroddiad. Adroddodd ymhellach fod angen dull corfforaethol o weithredu a bod raid cymryd perchnogaeth o'r Strategaeth Atal, gan gynnwys amser staff ac ymrwymiad ariannol ar draws holl Adrannau'r Cyngor, os am gyflawni nodau'r Strategaeth Atal ac Ymyrraeth Gynnar yn llawn. Nodir yr ymrwymiad ariannol dros y 18 mis i 2 flynedd nesaf wrth i anghenion a blaenoriaethau ddod yn gliriach. Adroddodd y Swyddog ymhellach fod gweithio mewn partneriaeth yn allweddol i lwyddiant y Strategaeth hon.

 

Dywedodd y Cynghorydd Aled Morris Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, fod y Pwyllgor Sgriwtini wedi ystyried y Strategaeth Atal ac Ymyrraeth Gynnar yn ei gyfarfod ar 20 Hydref, a bod y Pwyllgor yn falch o argymell y Strategaeth i'r Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wedi codi pryderon ynghylch goblygiadau ariannol y Strategaeth yn y dyfodol gan y bydd yn dibynnu ar grantiau. Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 y gall llwyddiant y Strategaeth leihau costau'n sylweddol i'r Awdurdod dros y blynyddoedd i ddod gan na fyddai pobl yn gorfod bod yn ddibynnol ar wasanaethau a ddarperir gan y Cyngor.

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Strategaeth Atal ac Ymyrraeth Gynnar a'r Cynllun Gweithredu.

 

8.

Ffioedd Casglu Gwastraff Gwyrdd pdf eicon PDF 511 KB

I gyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a’r Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a'r Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo i'r Pwyllgor Gwaith i'w ystyried.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo fod y Pwyllgor Gwaith, ar 27 Ionawr, 2020, wedi cymeradwyo gwasanaeth casglu Gwastraff Gardd pythefnosol y codir tâl amdano o 1 Ebrill, 2021. Nododd mai'r Awdurdod hwn yw'r unig awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru nad yw'n codi tâl am gasglu gwastraff gardd ac mai argymhelliad Llywodraeth Cymru yw y dylid codi tâl am gasglu gwastraff gwyrdd yn unol â'r strategaeth wastraff genedlaethol 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff'. Bydd y bin gwyrdd cyfredol yn cael ei ddefnyddio gan yr aelwydydd a bydd y gwasanaeth yn casglu’r gwastraff gwyrdd 26 gwaith y flwyddyn a chodir tâl blynyddol o £35 a thâl ychwanegol o £30 am bob bin gwyrdd ychwanegol. Taliad blynyddol fydd hwn a bydd aelwydydd yn cael opsiwn i dalu ar-lein neu dros y ffôn. Darperir  sticer adnabod fel rhan o'r Pecyn Gwybodaeth y bydd aelwydydd yn ei dderbyn unwaith y byddant wedi cofrestru a thalu am y gwasanaeth. Dywedodd na chodir tâl ar neuaddau pentref, mynwentydd, eglwysi a chapeli. Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at y crynodeb o'r costau a amcangyfrifir fel y nodwyd nhw yn rhan 5.4 yr adroddiad a'r angen i gyflogi 2 Ymgynghorydd Gwasanaethau Cwsmer ychwanegol dros dro i weinyddu'r broses o godi tâl am gasglu gwastraff gardd.

Rhoddodd y Cynghorydd Gwilym O Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio adroddiad manwl ar y drafodaeth a gafwyd yn y Pwyllgor Sgriwtini ar 22 Hydref wrth iddo ystyried y bwriad i godi tâl am gasglu  Gwastraff Gardd. Dywedodd fod y Pwyllgor Sgriwtini  wedi argymell i'r Pwyllgor Gwaith y dylid codi tâl am gasglu gwastraff gardd  o Ebrill 2021.

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid y byddai peidio â chodi ffi am gasglu gwastraff gardd ar gyfer aelwydydd sy'n dymuno derbyn y gwasanaeth hwn wedi arwain at orfod codi'r dreth gyngor 1% ychwanegol.

Roedd y Cadeirydd o’r farn bod angen cyhoeddi Atodiad 2 o'r adroddiad oedd yn ymwneud â ‘cwestiynau cyffredin’ ar wefan y Cyngor i breswylwyr ei ei weld fel rhan o weithredu’r cynllun codi tâl am gasglu gwastraff gardd,

 

PENDERFYNWYD:-

 

·         Awdurdodi codi tâl o £35 y flwyddyn am gasglu gwastraff gardd o'r bin cyntaf a £30 y flwyddyn am gasglu o finiau  ychwanegol;

·         Awdurdodi'r gyllideb gwariant ychwanegol fel yr amlinellir hi ym mharagraff 5.4, gyda'r gyllideb gwariant honno'n cael ei hariannu o'r incwm a gynhyrchir trwy godi tâl;

·         Bod y ‘cwestiynau cyffredin’ sy'n rhan o’r adroddiad yn Atodiad 2 yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor.