Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

Croesawodd y Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol i’r cyfarfod a chyflwynodd pawb eu hunain.

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Materion Brys a Ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu Swyddog a Benodwyd Ganddi

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w adrodd.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 328 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfodydd o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar yn dyddiadau canlynol:-

 

  18 Ionawr 2021 (Cyllideb)

  25 Ionawr 2021

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith eu cymeradwyo, gofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2021 a 25 Ionawr 2021.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2021 a 25 Ionawr 2021.

 

4.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 387 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’w ystyried, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod rhwng mis Mawrth 2021 a mis Hydref 2021 a nodwyd y newidiadau a ganlyn -

 

·        Eitemau newydd

 

·         Eitem 9 – Ffioedd a Thaliadauar gyfer y cyfarfod ar 1 Mawrth 2021

·         Eitem 13 - Moderneiddio Ysgolion Ardal Llangefni - wedi ei raglennu’n wreiddiol ar gyfer y cyfarfod ar 1 Mawrth 2021 ond ar ôl cyhoeddi’r Rhaglen Waith derbyniwyd cais i ail-raglennu’r eitem i gyfarfod yn ddiweddarach ym mis Mawrth, ar ddyddiad i’w gadarnhau.

·         Eitem 22 – Adroddiad Cynnydd gan y Panel Gwasanaethau Cymdeithasolar gyfer y cyfarfod ar 22 Mawrth, 2021.

 

·        Eitem a ailraglennwyd:

 

·                Eitem 21 – Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) a ailraglenwyd o’r cyfarfod ar 1 Mawrth i’r cyfarfod ar 22 Mawrth 2021.

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng mis Chwefror a mis Medi 2021 gyda’r newid ychwanegol y cyfeiriwyd ato yn y cyfarfod.

5.

Rhenti Tai y CRT a Thaliadau'r Gwasanaethau Tai 2021/22 pdf eicon PDF 689 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai yn ceisio cymeradwyaeth y Pwyllgor Gwaith i’r cynnydd yn y rhent a’r taliadau gwasanaeth ar gyfer 2021/22.

 

Yn dilyn cyflwyniad byr gan yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Chefnogi Cymunedau, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai fod Llywodraeth Cymru yn cytuno ar y polisi ar gyfer Rhenti Tai Cymdeithasol bob blwyddyn a derbyniwyd llythyr yn cadarnhau’r polisi ar gyfer 2021/22 ar 30 Tachwedd 2020. Mae’n cynghori y dylai pob awdurdod lleol ddefnyddio fformiwla mynegai prisiau defnyddwyr (CPI) + 1% gyda gwerth CPI ym mis Medi yn 0.5% h.y. 1.5%. Er mwyn gweithredu’r cynnydd rhent blynyddol yn deg ac yn gyfartal ymhlith tenantiaid ac i sicrhau nad eir tu hwnt i’r trothwy uchaf ar gyfer y cynnydd blynyddol, argymhellir y cyfrifir y cynnydd trwy ddefnyddio “rhent cyfredol + 0.45%” a’i weithredu ar gyfer pob tenant. Codir £2.00 yr wythnos yn ychwanegol ar denantiaid y mae eu rhent yn sylweddol is na’r band rhent targed ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Gwneir hyn er mwyn sicrhau bod yr Awdurdod yn parhau i weithio tuag at sicrhau bod y rhent a godir yn cyfateb i renti darparwyr tai cymdeithasol eraill. Yn ymarferol bydd hyn yn golygu y bydd cynnydd o 0.45% + £2.00 yr wythnos yn y rhent cyfredol ar gyfer y 1,910 eiddo y mae eu rhenti’n is na’r bandiau rhent targed cyfredol. Ar gyfer y 1942 o anheddau sy’n weddill ac y mae eu rhent ar y targed neu’n uwch, bydd cynnydd o 0.45% yr wythnos. Cynigir cynnydd o 13c yr wythnos ar gyfer rhent pob garej ac mae’r taliadau gwasanaeth wythnosol arfaethedig ar gyfer 2021/22, yn seiliedig ar 51 wythnos, yn cael eu hamlinellu ym mharagraff 3.3 yr adroddiad.

 

Yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf, mae’r Awdurdod yn edrych i ddatblygu tai Cyngor newydd gyda’r bwriad o godi rhenti canolradd ac mae hyn yn elfen ychwanegol ar gyfer 2021/22. Mae’r mathau hyn o dai yn rhai fforddiadwy lle mae’r rhenti yn uwch na rhenti cymdeithasol eraill ond yn is na rhenti preifat a chânt eu gosod dan y Gofrestr Gosod Tai Teg ac nid y Gofrestr Dai Gyffredin. Maent ar gyfer pobl sydd ddim yn gymwys ar gyfer tai cymdeithasol ond sydd ddim yn gallu fforddio rhenti neu eiddo ar y farchnad agored. Cynigir bod rhenti canolradd yn cael eu pennu ar 80% o gostau rhent y farchnad agored neu hyd at y Lwfans Tai Lleol.

 

Os cymeradwyir y cynnydd arfaethedig mewn rhenti a’u gweithredu, bydd gan yr Awdurdod 1,677 eiddo sy’n parhau i fod yn is na’r rhent targed a 2,175 eiddo ar y rhent targed.

 

Wrth ystyried y cynigion, ceisiodd y Pwyllgor Gwaith eglurhad ynglŷn â’r canlynol –

 

           Ar ba lefel y byddai Rhenti Canolradd yn cael eu pennu yng nghyd-destun y tabl ym mharagraff 6.3 yr adroddiad sy’n darparu gwybodaeth ar gyfer Ynys Môn mewn perthynas â rhenti cymdeithasol, rhent sector preifat cyfartalog a’r lwfans tai lleol ar gyfer eiddo 1, 2, 3 a 4 ystafell wely.  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.