Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem | |
---|---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: |
||
Materion Brys a Ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu Swyddog a Benodwyd Ganddi Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.
Dogfennau ychwanegol: |
||
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfodydd o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar yn dyddiadau canlynol:-
• 15 Chwefror 2021 • 1 Mawrth 2021 (Cyllideb) Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 15 Chwefror 2021 a 1 Mawrth 2021.
|
||
Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod o fis Ebrill i fis Tachwedd 2021, fel y’i cyflwynwyd. |
||
Adroddiad Monitro'r Cerdyn Sgorio – Chwarter 3, 2020/21 Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd derbyn adroddiad monitro’r Cerdyn Sgorio ar gyfer Chwarter 3, 2020/21 a nodi’r meysydd y mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu rheoli er mwyn sicrhau gwelliannau i’r dyfodol ac i dderbyn y mesurau lliniaru a amlinellir yn yr adroddiad.
|
||
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn 2019/20 Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Penderfynwyd cymeradwyo Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn ar gyfer 2019/20.
|
||
Ffioedd Cartrefi Gofal y Sector Annibynnol ar gyfer 2021/22 Cyfwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion dros dro. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd – · Cydnabod Methodoleg Ffioedd Gogledd Cymru, fel y cafodd ei gweithredu hyd yma gan yr Awdurdodau yng Ngogledd Cymru, fel sylfaen ar gyfer pennu ffioedd yn Ynys Môn yn ystod 2021/22. · Cymeradwyo’r argymhelliad i gynyddu’r lefelau ffioedd fel y nodwyd yn Nhabl 2 yn yr adroddiad. · Yn yr un modd ag Awdurdodau eraill, rhoi’r awdurdod i’r Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Swyddogaeth Adnoddau ymateb i unrhyw geisiadau gan gartrefi unigol i edrych ar eu cyfrifon penodol a defnyddio’r ymarfer fel sylfaen i ystyried unrhyw eithriadau i’r ffioedd y cytunwyd arnynt. Rhaid i unrhyw eithriadau gael eu cytuno gyda’r Aelod Portffolio, y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a’r Pennaeth Oedolion o’r cyllidebau cyfredol.
|
||
Cyflwyno adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd cefnogi a chymeradwyo y canlynol – · Gwaith datblygu a gweithredu Rhaglen Newid Hinsawdd gorfforaethol newydd fel bod yr awdurdod yn gallu croesi’r bont i fod yn sefydliad carbon niwtral erbyn 2030. · Mai'r Dirprwy Brif Weithredwr yw'r Uwch Berchennog Cyfrifol. · Blaenoriaethu adnoddau ar ymrwymiadau'r awdurdodau lleol y cytunwyd arnynt yn y Panel Strategaeth Datgarboneiddio Llywodraeth Leol (adran 3.2.1 yn yr adroddiad). · Defnyddio cronfa gyfyngedig wrth gefn o £400,000 i greu capasiti/arbenigedd penodol i arwain y gwaith o ddatblygu a chydlynu camau cychwynnol datblygu a darparu. · Recriwtio Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd gorfforaethol i arwain ar ddatblygu a chyflawni. · Sefydlu Gweithgor Newid Hinsawdd (gyda chynrychiolaeth wleidyddol) – grŵp cynghori, nad yw'n gwneud penderfyniadau, i wneud argymhellion a cheisiadau. · Penodi 'Hyrwyddwr Newid Hinsawdd' ar y Pwyllgor Gwaith, a · Bod y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas yn cael ei benodi’n Bencampwr Newid Hinsawdd y Pwyllgor Gwaith.
|
||
Cwrs Golff Llangefni Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd Dros Dro. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Penderfynwyd – · Symud ymlaen gyda gwerthiant cartref Ffridd gyda rhywfaint o dir a’r 42 erw sy’n weddill mewn ymgynghoriad â’r Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo a’r Aelod Portffolio Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd ac i farchnata’r safle i sicrhau’r incwm mwyaf posib ar y farchnad agored i’w werthu. · Ymgymryd ag isafswm o 6 wythnos o hysbysiad yn y wasg leol am Hysbysiad Penderfyniad yn nodi penderfyniad y Cyngor i waredu’r safle, a · Ail-fuddsoddi unrhyw dderbyniadau cyfalaf a dderbynnir o waredu'r safle yng nghyfleuster hamdden Plas Arthur.
|
||
Datganiad ar y Polisi Trwyddedu am y cyfnod 2021-2026 Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Dadblygu Economaidd Dros Dro. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd argymell i'r Cyngor Llawn y dylid mabwysiadu'r Datganiad ar Bolisi Trwyddedu 2021-2026
|
||
Cynlluniau Cyflawni a Chomisiynu Grant Cymorth Tai 2021/22 Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd – · Cymeradwyo argymhellion Cynlluniau Cyflawni a Chomisiynu Grant Cymorth Tai Cyngor Sir Ynys Môn ar gyfer 2021-22, a thrwy hynny, sicrhau y byddir yn cydymffurfio â Thelerau ac Amodau'r Grant; · Rhoi sêl bendith parthed y cyllid a ddyrennir i bob maes Gwasanaeth, fel yr amlinellwyd yn y Cynllun Comisiynu Cefnogi Pobl ac a gymeradwywyd yn flaenorol gan y Grŵp Cynllunio Cymorth Tai aml-asiantaethol · Anfon llythyr at Lywodraeth Cymru, ar ran yr Aelod Portffolio Cyllid a’r Aelod Portffolio Tai a Chefnogi Cymunedau, i gydnabod y cynnydd yn y dyraniad grant ac hefyd i bwysleisio pwysigrwydd derbyn sicrwydd hirdymor ynghylch parhad y grant ar y lefel yma fel y gellir gwneud darpariaeth briodol ar gyfer y bobl hynny y mae’r cyllid yn eu cynorthwyo ac er mwyn hwyluso gwaith cynllunio cyllidebol ac ariannol.
|
||
Adroddiad Cynnydd Gwelliannau Gwasanaethau Cymdeithasol Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a'r
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd cadarnhau bod y Pwyllgor Gwaith yn fodlon â chyflymder y cynnydd a'r gwelliannau a wnaed hyd yma yn y Gwasanaethau Oedolion a'r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd. |