Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: |
|
Materion Brys a Ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu Swyddog a Benodwyd Ganddi Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon. Dogfennau ychwanegol: |
|
Moderneiddio Ysgolion - Ardal Llangefni (Ysgol Talwrn a Ysgol y Graig) Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc mewn perthynas â’r ysgolion canlynol:-
• Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd –
• Cymeradwyo'r cynnig i gynyddu capasiti Ysgol Y Graig i gymryd disgyblion o Ysgol Talwrn, cau Ysgol Talwrn ac adolygu dalgylchoedd Ysgol Y Graig ac Ysgol Talwrn.
• Awdurdodi Swyddogion i symud i ran nesaf y broses a nodir yng Nghôd Trefniadaeth Ysgolion 2018 a chyhoeddi rhybudd statudol am gyfnod o 28 diwrnod yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd.
• Awdurdodi Swyddogion i ymgymryd ag ymatebion i'r rhybudd statudol gan lunio adroddiad gwrthwynebiadau (os oes gwrthwynebiadau) i'w ystyried ymhellach gan y Pwyllgor Gwaith yn y Flwyddyn Newydd.
• Awdurdodi Swyddogion i ailgyhoeddi'r Asesiad Effaith ar y cynnig fel rhan o asesu effaith barhaus y cynnig ar gydraddoldeb, y Gymraeg a'r gymuned.
|
|
Moderneiddio Ysgolion - Ardal Llangefni (Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir) Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc mewn perthynas â’r ysgolion canlynol:-
• Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd –
• Cymeradwyo'r cynnig i adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Corn Hir a gadael Ysgol Bodffordd fel y mae.
• Awdurdodi Swyddogion i weithredu'r penderfyniad cyn gynted ag y bo modd a nodi bod ei weithrediad y tu allan i ddisgwyliadau'r Côd Trefniadaeth Ysgolion (011/2018).
• Awdurdodi Swyddogion i ailgyhoeddi'r Asesiad Effaith ar y cynnig fel rhan o asesu effaith barhaus y cynnig ar gydraddoldeb, y Gymraeg a'r gymuned.
|
|
Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd Ystyried mabwysiadu’r canlynol –
“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig.”
Dogfennau ychwanegol: |
|
Yn amodol ar y penderfyniad ar Eitem 4 item -Ysgol Bodffordd a Corn Hir, i ofyn am awdurdod y Pwyllgor Gwaith i brynu tir ar gyfer datblygiad Ysgol Gynradd Corn Hir newydd yn Llangefni
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo. Penderfyniad: Penderfynwyd cymeradwyo argymhelliad yr adroddiad ynglyn â phrynu tir i adeiladu ysgol gynradd newydd.
|