Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaed datganiad o ddiddordeb personol a rhagfarnus gan y Cynghorydd Richard A Dew mewn perthynas ag Eitem 5 - Premiymau Treth Gyngor - Ail Gartrefi ac Eiddo sydd wedi bod yn wag am Gyfnod Hir (Adolygiad) a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r bleidlais.

 

2.

Materion Brys a Ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu Swyddog a Benodwyd Ganddi

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw faterion o’r fath.

 

3.

Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 370 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd a oedd yn ymgorffori Blaenraglen y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod rhwng Ionawr ac Awst, 2021 a nodwyd y newidiadau canlynol:-

 

Cyfarfod Arbennig o'r Pwyllgor Gwaith ar 18 Ionawr, 2021 i gwblhau cynigion terfynol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y gyllideb ddrafft i bwrpas  ymgynghori.

 

Eitemau a ailraglennwyd

 

Eitem 22 - Cyflwyno Galw Gofal - Taliadau Cyswllt Gofal ar gyfer Tenantiaid Tai Cyngor (eitem y bwriedir ei thrafod yng nghyfarfod 22 Mawrth, 2021 - i'w gadarnhau)

 

Eitem 4 - Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn 2019/20 (eitem y bwriedir ei thrafod yng nghyfarfod 25 Ionawr, 2021)

 

Eitem 5 - Cwrs Golff Llangefni (eitem wedi'i hailraglennu i'w thrafod rhwng 25 Ionawr, 2021 a 15 Chwefror, 2021).

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaenraglen Waith ddiwygiedig y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod Ionawr i Awst, 2021 fel y'i cyflwynwyd.

4.

Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli Trysorlys 2020/21 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a oedd yn ymgorffori Adolygiad Canol Blwyddyn mewn perthynas â Rheoli'r Trysorlys .

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid fod yr Adroddiad Canol Blwyddyn ar Reoli'r Trysorlys yn cael ei gyflwyno'n unol â rheoliadau a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 a Chynllun Dirprwyo Rheoli Trysorlys y Cyngor ar gyfer 2020/21 (Atodiad 8 o’r Datganiad ar Strategaeth Rheoli Trysorlys 2020/21). Mae'r adroddiad yn cyfeirio at sefyllfa gwariant cyfalaf y Cyngor a'i gydymffurfiaeth â dangosyddion darbodus, ynghyd â'i weithgareddau buddsoddi a benthyca hanner ffordd trwy'r flwyddyn ariannol. Yn unol â'r Cynllun Dirprwyo, craffwyd ar yr adroddiad gan y Pwyllgor Archwilio yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr, 2020. Cyflwynir yr adroddiad i'r Cyngor Llawn gan gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a wneir arno gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Tynnwyd sylw at y canlynol gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151  -

 

  • Bod yr adroddiad adolygu canol blwyddyn wedi cael sylw gan y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a bod y cyfryw bwyllgor wedi ei dderbyn heb wneud sylwadau pellach arno.
  • Roedd pryderon ar ddechrau'r flwyddyn ariannol o ran llif arian oherwydd y pandemig Covid-19 a'r effaith ar allu'r Cyngor i dalu am wasanaethau. Benthycodd y Cyngor £10m ym mis Mawrth gan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus (BBGC)  i sicrhau bod adnoddau ar gael i'r Cyngor fedru gweithredu. Fodd bynnag, oherwydd cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru fe ddaru’r sefyllfa wella wrth i Lywodraeth Cymru gynnig grantiau busnes ac oherwydd bod y taliad Grant Cynnal Refeniw wedi'i wneud cyn y dyddiad cau. Oherwydd hynny bu gan y Cyngor falansau o £50m sy'n uwch na'r terfyn a gymeradwywyd yn y Strategaeth Fuddsoddi Flynyddol a nodir yn y Datganiad ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys ar gyfer 2020/21. Yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn ariannol mae'r Cyngor wedi rhoi benthyciadau i Awdurdodau Lleol eraill fel y nodwyd yn yr adroddiad, gan mai dyma'r ffordd fwyaf diogel o fuddsoddi arian, gan sicrhau bod y symiau a adneuwyd mewn cyfrifon o fewn y terfynau a osodwyd yn y Datganiad ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys ar gyfer 2020/21 a gan sicrhau enillion sy'n uwch nag a geir o'r mwyafrif o gyfrifon  banc. Y balans cyfredol yw £30m ond bydd raid i’r £10m a fenthycwyd ym mis Mawrth 2020 gael ei ad-dalu ym mis Mawrth 2021.
  • Rhagwelir y bydd angen i'r Cyngor gael benthyg arian i dalu am gerbydau casglu gwastraff newydd fel rhan o'r contract casglu gwastraff newydd ym mis Mawrth 2021.
  • Mae'r gwariant cyfalaf yn is gan nad yw prosiectau wedi symud ymlaen oherwydd y pandemig;
  • Roedd y Cyngor wedi cydymffurfio â'r terfynau a'r dangosyddion darbodus a nodir yn y Datganiad ar y Strategaeth Rheoli Trysorlys ar gyfer 2020/21.

 

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad a'i anfon ymlaen i'r Cyngor Llawn heb wneud sylwadau pellach.

 

5.

Premiymau'r Dreth Gyngor - Ail Garfrefi ac Eiddo Gwag Tymor Hir (Adolygiad) pdf eicon PDF 834 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 a oedd yn adolygu gweithrediad Premiwm y Dreth Gyngor ar Ail Gartrefi ac Eiddo sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir .

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid y gwnaed penderfyniad i gynyddu swm uwch y dreth gyngor (a elwir yn bremiwm Treth Gyngor) a fyddai’n dod i rym o 1 Ebrill 2019. O'r dyddiad hwn, cytunodd y Cyngor llawn i osod premiwm Treth Gyngor a oedd yn cyfateb i 100% o gyfradd safonol y dreth gyngor ar gyfer anheddau sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir, a 35% ar gyfer anheddau y mae pobl yn byw ynddynt o bryd i'w gilydd, a elwir fel arfer yn ail gartrefi. Nododd fod nifer o berchenogion eiddo yn ystod y flwyddyn hon wedi 'symud' eu tai o'r rhestr treth gyngor i'r rhestr trethi busnes, sy’n golygu na fydd y perchnogion yn gorfod talu unrhyw drethi. Mae'r Cyngor wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn iddi adolygu'r rheoliadau trethiant er mwyn gostwng nifer y cartrefi sy'n cael eu cofrestru ar gyfer trethi busnes ond mae LlC wedi anwybyddu'r cais gan ei bod o'r farn nad yw hon yn broblem. Galwodd yr Aelod Portffolio Cyllid ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio ei phwerau a diwygio'r dreth trafodion tir i sicrhau bod y lefel yn uwch ar gyfer ail gartrefi ac i ystyried treth twristiaeth fel sydd ar waith mewn rhannau eraill o'r byd  er mwyn denu cyllid i fedru lleihau pwysau ar wasanaethau o fewn awdurdodau lleol sy'n gweld eu poblogaethau’n  cynyddu, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf. Nododd ymhellach gan fod cyfleusterau hunanarlwyo'n gymwys i gael Cymorth Ardrethi Busnesau Bach mae hynny’n golygu’n aml nad oes dim cyfraniad o gwbl i goffrau’r awdurdodau lleol.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid mai penderfyniad y Pwyllgor Gwaith yw peidio cynyddu Premiwm y Dreth Gyngor ar gyfer Ail Gartrefi ac Eiddo sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir yn y flwyddyn ariannol nesaf, sef 2021/2022, ond ei fod yn bwriadu cynyddu'r premiwm ar gyfer ail gartrefi i 50% o Ebrill 2022. Dywedodd fod angen parhau i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i adolygu'r rheoliadau cyfredol ac i gyflwyno dulliau trethiant newydd er mwyn gostwng nifer yr ail gartrefi ar yr Ynys ac i ddarparu cyllid ychwanegol i helpu i gefnogi prosiectau lleol sydd â’r  nod o helpu pobl ifanc Ynys Môn i allu prynu neu rentu eu cartref eu hunain ar yr Ynys.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 mai pwrpas yr adroddiad oedd adolygu premiwm y Dreth Gyngor ers penderfyniad diwethaf y Cyngor llawn ar 27 Chwefror, 2019 a hefyd ystyried effaith pandemig Covid-19 ar sylfaen Treth Gyngor y Cyngor a'r symudiadau o'r Rhestr Dreth Gyngor i'r Rhestr Trethi Busnes ac yn benodol ar gyfer ail gartrefi / llety gwyliau sy'n cael eu gosod. Dywedodd y bu cynnydd yn nifer y cartrefi gwag yn ystod y pandemig ond mae hyn o  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Chwaraeon Gogledd Cymru - Achos Busnes pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd Dros Dro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith, adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd Dros Dro yn ceisio cefnogaeth i sefydlu Partneriaeth Chwaraeon Gogledd Cymru .

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd mai hwn yw'r Achos Busnes i greu Partneriaeth Chwaraeon Gogledd Cymru. Mae'r weledigaeth ar gyfer Chwaraeon Gogledd Cymru wedi'i datblygu trwy bartneriaeth gydweithredol newydd sy'n cynnwys nifer o fudiadau sydd wedi hen sefydlu ac sy'n gweithredu ledled y rhanbarth ac sy’n rhannu uchelgais  i weithio gyda'i gilydd ac i wneud newid a chael effaith sylweddol a fydd o fudd i bobl Gogledd Cymru.

 

Dywedodd y Rheolwr Hamdden Masnachol y rhagwelir y bydd Chwaraeon Gogledd Cymru wedi'i sefydlu'n gadarn fel corff rhanbarthol effeithiol a chryf. Bydd Chwaraeon Gogledd Cymru yn ychwanegu gwerth ac yn sbarduno newid o ran comisiynu a chyflawni  cymunedol trwy weithio'n agosach gyda'r cymunedau hynny ac oddi mewn iddynt. Bydd y Bartneriaeth yn mynd i'r afael â phroblemau iechyd mewn cymunedau lleol oherwydd gordewdra ac yn enwedig gordwedra ymysg plant o oed cyn-ysgol. Nododd mai Cyngor Conwy fydd yr Awdurdod arweiniol mewn perthynas â Phartneriaeth Chwaraeon Gogledd Cymru a bod adran gyfreithiol yr Awdurdod hwn wedi bod yn gweithio'n agos ag ef o ran yr Achos Busnes. Dywedodd ymhellach y bydd polisi Iaith Cymraeg yn cael ei sefydlu gan Bartneriaeth Chwaraeon Gogledd Cymru ond mae risg gan nad yw’r polisi wedi ei sefydlu ar hyn o bryd.

 

Roedd y Pwyllgor Gwaith yn cefnogi sefydlu Partneriaeth Chwaraeon Gogledd Cymru ond dywedodd bod angen i bolisi Iaith Gymraeg fod ar waith ac nid yw bod â Swyddogion sy'n gallu siarad Cymraeg ar hyn o bryd yn sicrhau y gellir cwrdd â'r gofynion iaith Gymraeg ar gyfer y blynyddoedd i ddod. 

 

·           Cefnogi, mewn egwyddor, sefydlu Partneriaeth Chwaraeon Gogledd Cymru;

·           Rhoi pwerau dirprwyedig i'r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) / Swyddog Monitro gwblhau'r Cytundeb Rhwng yr Awdurdodau mewn ymgynghoriad â'r Arweinydd a'r Prif Weithredwr a dod â'r mater yn ôl i'r Pwyllgor Gwaith os oes unrhyw bryder y bydd y cyfryw gytundeb yn niweidio gofynion y Cyngor mewn perthynas â'r Gymraeg.