Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni fu i unrhyw un ddatgan diddordeb.

 

2.

Materion brys a ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu Swyddog a Benodwyd Ganddi

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim materion i’w hadrodd.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 273 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, cofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 21 Mehefin 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 21 Mehefin, 2021 i'w cymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 21 Mehefin, 2021 fel rhai cywir.

 

4.

Panel Rhiantu Corfforaethol pdf eicon PDF 480 KB

Cyflwyno i’w mabwysiadu, gofnodion drafft y Panel Rhiantu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2021.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion drafft y cyfarfod o’r Panel Rhiantu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 8 Mehefin, 2021 i’w mabwysiadu gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Penderfynwyd mabwysiadu cofnodion drafft cyfarfod y Panel Rhiantu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 8 Mehefin, 2021.

 

5.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 364 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd a oedd yn cynnwys Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng Medi, 2021 ac Ebrill, 2022 i'w ystyried ac adroddwyd mai’r unig newid oedd Eitem 9 – Strategaeth Cyfraniadau Budd Cymunedol sydd wedi’i gynnwys fel eitem newydd ar yr amserlen a fydd yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 27 Medi, 2021.

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod o Fedi, 2021 tan Ebrill, 2022 fel y’i chyflwynwyd.

 

6.

Cyfrifon Terfynol Drafft 2020/21 a defnyddio Cronfeydd Wrth Gefn a Balansau pdf eicon PDF 622 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog 151 i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith a oedd yn cynnwys y prif ddatganiadau ariannol drafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/21 ynghyd â manylion balansau cyffredinol a chronfeydd wrth gefn clustnodedig y Cyngor ac argymhellion ar gyfer eu defnyddio.  

 

Adroddodd y Cynghorydd Robin Williams, Deilydd y Portffolio Cyllid bod yr adroddiad yn cynnwys Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr drafft ar gyfer 2020/21 a Thaflen Falansau ddrafft hyd at 31 Mawrth, 2021.  Darparwyd gwybodaeth fanwl am falansau cyffredinol a chronfeydd wrth gefn clustnodedig y Cyngor yn ogystal ac mae’r adroddiad yn nodi sut y bwriedir defnyddio’r cronfeydd wrth gefn a’r balansau sydd, ym marn broffesiynol Swyddog Adran 151 y Cyngor, ar y lefel angenrheidiol i gwrdd ag unrhyw risgiau  ariannol a wynebir gan y Cyngor, i gwrdd ag unrhyw ymrwymiadau cyllido presennol ac mae’n cymryd i ystyriaeth unrhyw gyfyngiadau penodol ar ddefnydd y cyllid e.e. cyfyngiadau a osodir gan amodau grant. Gall lefel y risg a wynebir gan y Cyngor newid a chedwir golwg ar lefelau'r balansau cyffredinol a’r cronfeydd wrth gefn clustnodedig a’u hadolygu dros y misoedd nesaf. Nid yw’r ffigyrau a gyflwynwyd wedi cael eu harchwilio eto a gallant newid oherwydd y broses archwilio.

 

Bu i’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddogion 151 gynghori bod y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr (CIES) drafft yn crynhoi’r gost o ddarparu gwasanaethau’r Cyngor yn unol â’r gofynion cyfrifo statudol a’i fod yn cynnwys costau na chodir Treth Cyngor amdanynt sydd yn egluro’r ffigwr o £24.231m. Mae’r costau sydd yn cynnwys costau dibrisiant ac addasiadau ar gyfer pensiwn yn cael eu canslo allan cyn penderfynu ar y sefyllfa derfynol mewn perthynas â’r balansau, cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd, balans y cyfrif CRT a balansau ysgolion. O ganlyniad, nid oes modd tynnu cymhariaeth uniongyrchol rhwng y CIES a’r adroddiadau alldro a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ym Mehefin, 2021.

 

Roedd Balans Cronfa Gyffredinol y Cyngor ar 31 Mawrth 2021 yn £11.593m, sydd yn

cyfateb i 7.86% o’r gyllideb refeniw net ar gyfer 2021/22. Mae’r Pwyllgor Gwaith wedi

pennu isafswm o 5% o’r gyllideb refeniw net ar gyfer Balans y Gronfa Gyffredinol a byddai

hyn yn cyfateb i £7.37m. O’r herwydd, mae Balans y Gronfa Gyffredinol £4.223m yn uwch

na’r lleiafswm. Fel arfer, byddai’r Swyddog 151 yn argymell cynnal y lefelau hyn ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, fodd bynnag yng ngoleuni’r ansicrwydd ynglŷn ag effaith y pandemig ar y galw am wasanaethau’r Cyngor yn 2021/22; parhad y cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru neu fel arall ac effaith y cyfyngiadau parhaus a’r cyfyngiadau cadw pellter ar allu’r Cyngor i gynhyrchu incwm drwy wasanaethau penodol, ystyrir ei bod yn synhwyrol cynyddu lleiafswm balans y gronfa  gyffredinol yn 2021/22 ac efallai yn 2022/23 hyd nes bydd effeithiau’r pandemig yn fwy eglur. Ym marn broffesiynol y Swyddog 151 byddai lleiafswm o £9m (6.1% o’r gyllideb refeniw net ar gyfer 2021/22) yn ddigonol i liniaru’r risgiau hyn.

 

Cyn y pandemig, roedd y Pwyllgor Gwaith wedi cymeradwyo mewn egwyddor i drosglwyddo

cyfran o’r balansau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr ar Effeithiolrwydd Gwasanaethau Cymdeithasol 2020/21 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr ar Effeithiolrwydd Gwasanaethau Cymdeithasol 2020/21 i’w ystyried.

 

Adroddodd y Cynghorydd Llinos Medi, Cadeirydd a Deilydd y Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol, bod gofyniad statudol ar Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol i adrodd i’r Cyngor yn flynyddol ar ddarpariaeth a pherfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod y flwyddyn honno. Mae’r adroddiad yn rhoi trosolwg o’r gweithgarwch yn ystod y flwyddyn yn ogystal ag amlinellu’r ffocws ar gyfer gwella ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.  Er mai adroddiad y Cyfarwyddwr yw hwn fe ddylai’r Cyngor feddiannu’r adroddiad ar y cyd gan ei fod yn adlewyrchu’r gwaith caled a’r llwyddiannau a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn. 

 

Cyfeiriodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol at yr heriau digynsail a wynebwyd gan y Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2020/21 o ganlyniad i’r pandemig Covid ac at ymdrechion staff y Gwasanaethau Cymdeithasol a gafodd eu cefnogi gan gydweithwyr mewnol y Cyngor a sefydliadau partner allanol i sicrhau bod pobl Ynys Môn yn aros yn ddiogel yn ystod y cyfnod hwn. Yn yr un modd, mae gofalwyr maeth yr Awdurdod wedi gweithio’n galed iawn i wneud yn siŵr bod y plant sydd dan eu gofal yn ddiogel ac mae’n rhaid diolch iddynt am eu hymrwymiad gwerthfawr.  Yn ystod y pandemig Covid 19, mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi parhau i gwrdd â’u dyletswyddau statudol ac wedi gweithio’n agos â Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW), y Bwrdd Iechyd a sefydliadau partner eraill ac roedd y Gwasanaeth Plant ac Oedolion yn destun arolwg sicrwydd gan CIW a gafodd adborth cadarnhaol. Fe wnaeth y CIW hefyd ymweld â dau gartref grŵp bach yn ystod y flwyddyn ac roedd yr adborth yn dilyn yr ymweliadau hyn hefyd yn galonogol. Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Ynys Môn yn rhan o drafodaethau rhanbarthol a chenedlaethol i wneud yn siŵr bod gan ddinasyddion Ynys Môn lais ynglŷn â phenderfyniadau sy’n effeithio arnynt hwy.  Mae’r pandemig wedi arwain at newidiadau i drefniadau gweithio drwy gynnal sesiynau cyswllt a rhyngweithio ar-lein a chynnal cyfarfodydd o bell; fodd bynnag mae Gwasanaethau Cymdeithasol Ynys Môn bob amser yn chwilio am gyfleoedd i wneud pethau’n wahanol er mwyn ymateb yn well i anghenion pobl wrth iddynt newid.

 

Wrth amlygu’r pwyntiau allweddol o ran y Gwasanaeth Oedolion a'r Gwasanaeth Plant a Theuluoedd, cyfeiriodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol at y newid a fu tuag at sianeli digidol er enghraifft y neuaddau pentref rhithiol a gafodd eu sefydlu; yr eiddo a brynwyd yng nghanol tref Llangefni i ddarparu hwb ar gyfer Menter Môn ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu sydd ymysg dim ond un o’r enghreifftiau o gydweithio sydd wedi bod yn bwysig iawn yn ystod 2020/21 wrth ymateb i’r pandemig; y gwaith gydag ysgolion a’r Gwasanaeth Dysgu i adnabod plant bregus a threfnu darpariaeth briodol, ac at gymeradwyo 9 aelwyd maethu prif lif a 14 aelwyd person cysylltiedig (teulu neu ffrindiau) yn ystod y flwyddyn.  Mae’r rhain yn rhoi blas ar y math o weithgareddau amrywiol a gyflawnwyd ar draws y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod 2020/21. Er gwaetha’r pandemig Covid  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Newid i'r Cyfansoddiad: Hawliau Dirprwyol - Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol a Buddion Cymunedol Anstatudol pdf eicon PDF 408 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparwyd adroddiad y Prif Weithredwr i’w ystyried i geisio cefnogaeth y Pwyllgor Gwaith dros newid y Cyfansoddiad.

 

Adroddodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Deilydd y Portffolio Prosiectau Mawr, bod y newidiadau arfaethedig y gofynnir i’r Pwyllgor Gwaith eu cefnogi mewn perthynas â dirprwyo pwerau i’r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd mewn perthynas â swyddogaethau statudol y Cyngor yn gysylltiedig ag unrhyw ddatblygiad a ystyrir yn Ddatblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol a datblygiadau sydd angen Gorchymyn Datblygu Arbennig. Hefyd, gofynnir i’r Pwyllgor Gwaith gymeradwyo dirprwyo pwerau i’r Dirprwy Brif Weithredwr mewn perthynas â negodi a chymeradwyo buddion cymunedol anstatudol ar gyfer unrhyw ddatblygiad a ystyrir yn Ddatblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol.

 

Cynghorodd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd bod angen newid y Cyfansoddiad i adlewyrchu’r fframwaith statudol cyfredol yng Nghymru sydd bellach yn cynnwys Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol a Gorchmynion Datblygu Arbennig. Bydd y newidiadau’n galluogi’r Cyngor i ymateb yn effeithiol a chadarn i brosesau ymgysylltu o’r fath sydd fel arfer yn destun amserlenni a therfynau amser llym. Bydd y newidiadau hefyd yn cefnogi’r broses gyfathrebu bresennol  fel y gall y Cyngor sicrhau bod yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth a’r Aelodau Etholedig yn cael eu diweddaru ynglŷn â materion perthnasol a hynt datblygiadau o’r fath.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) a’r Swyddog Monitro bod yr adroddiad yn adlewyrchu cyfraniad y Swyddog Monitro ynglŷn â’r mater hwn.

 

Penderfynwyd

 

·         Argymell bod y Cyngor Llawn fel Awdurdod Lleol, Awdurdod Cynllunio Lleol ac Awdurdod Priffyrdd Lleol yn dirprwyo pwerau i’r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd mewn perthynas â chyflawni holl swyddogaethau statudol y Cyngor yn gysylltiedig ag unrhyw ddatblygiad a ystyrir yn Ddatblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS) yn ôl y diffiniad yn Neddf Cynllunio (Cymru) 2015, sy’n diwygio Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“y Ddeddf”), a Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016 (fel y’u diwygiwyd) a Rheoliadau dilynol.

·         Argymell bod y Cyngor Llawn yn dirprwyo pwerau i’r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd mewn perthynas â chyflawni holl swyddogaethau statudol y Cyngor yn gysylltiedig ag unrhyw ddatblygiadau sydd angen Gorchymyn Datblygu Arbennig (e.e. Rheoli Ffiniau) o dan Adran 59 (3) yn Neddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

·         Bod y Pwyllgor Gwaith yn dirprwyo awdurdod dros negodi’r holl fuddion cymunedol anstatudol a phob penderfyniad sy’n berthnasol i drafodaethau o’r fath, yn gysylltiedig â, neu’n deillio o ddatblygiad a ystyrir yn Ddatblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS) i’r Dirprwy Brif Weithredwr mewn ymgynghoriad â’r Prif Weithredwr ac Arweinydd y Cyngor.

·         Argymell bod adran 3.5.3 yn y Cyfansoddiad yn cael ei diweddaru i adlewyrchu’r dirprwyaethau uchod.

 

9.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 235 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, penderfynwyd gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd.

 

 

10.

Trawsnewid Sianeli Digidol CSYM

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid, a oedd yn amlinellu’r prosiect arfaethedig i drawsnewid sianeli digidol y Cyngor, i’w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, Deilydd y Portffolio Busnes Corfforaethol bod y prosiect yn rhan o ymdrechion parhaus y Cyngor i’r wella gwasanaethau y mae’n eu darparu i ddinasyddion Ynys Môn yn cynnwys y rheiny a ddarperir drwy dechnoleg ddigidol. Mae’r pandemig Covid19 wedi dangos gwerth technoleg ddigidol o ran cynnal gwasanaethau ac o ran cadw dulliau cyfathrebu ar agor; ac er mwyn parhau â’r gwaith cadarnhaol mae’n rhaid buddsoddi yn systemau’r Cyngor a dyna’r rheswm dros y cynnig.

 

Cytunodd y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid bod y prosiect yn hanfodol os ydi’r Cyngor am wneud cynnydd o ran gwella ei siwrnai ddigidol ac er mwyn sicrhau gwell profiad i staff a chwsmeriaid fel ei gilydd o ran eu rhyngweithiadau digidol â’r Cyngor.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog 151 bod goblygiadau ariannol ynghlwm â chymeradwyo’r prosiect o ran y gwariant cyfalaf cychwynnol a’r ymrwymiadau refeniw parhaus wedi hynny a sut y gellid cwrdd â’r rhain.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Deilydd y Portffolio Cyllid bod rhaid buddsoddi mewn systemau os ydi’r Cyngor am gyflawni ei ymrwymiad i barhau i wella gwasanaeth cwsmer.

 

Ar ôl ystyried yr wybodaeth a gyflwynwyd yn yr adroddiad ac ar lafar yn ystod y cyfarfod, fe wnaeth y Pwyllgor Gwaith gefnogi’r cynnig.

 

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad a bwrw ymlaen yn unol â hynny.