Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

 

2.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 217 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig.”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriwyd a phenderfynwyd –

 

O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y Wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd a gyflwynwyd.

 

3.

Moderneiddio Ysgolion Ardal Llangefni - SOC/OBC ar gyfer Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig

Derbyn adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd R. Meirion Jones, Aelod Portffolio ar gyfer Addysg, Llyfrgelloedd, Ieuenctid a Diwylliant adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc yn ymgorffori'r Achos Amlinellol Strategol a’r Achos Busnes Amlinellol (AAS/ABA) ar gyfer sicrhau 65% o’r cyllid o dan Raglen Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru ar gyfer bloc Cyfnod Sylfaen newydd yn Ysgol y Graig.

 

Rhoddodd y Cynghorydd R. Meirion Jones grynodeb o’r cefndir hyd yma. Cynhaliwyd ymgynghoriad statudol ynghylch dyfodol Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn rhwng 6 Chwefror a 20 Mawrth 2020 ar ôl i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a’r Pwyllgor Gwaith ystyried y papur cynnig ym mis Ionawr 2020. Cyflwynwyd yr adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad statudol i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 10 Rhagfyr 2020, ac ar ôl ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd a’r sylwadau a wnaed, penderfynwyd argymell i’r Pwyllgor Gwaith y dylai fwrw ymlaen â’r cynnig gwreiddiol fel y ffordd fwyaf priodol ymlaen, sef cynyddu capasiti Ysgol y Graig i dderbyn disgyblion o Ysgol Talwrn, cau Ysgol Talwrn ac adolygu dalgylchoedd Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn. Yn dilyn hynny, cymeradwyodd y Pwyllgor Gwaith y cynnig ar 17 Rhagfyr 2020.

 

Adroddodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad bod datblygu’r Achos Amlinellol Strategol a’r Achos Busnes Amlinellol yn nodi pwynt penodol yn y broses o gwblhau’r broses foderneiddio ysgolion yn y rhan hon o Langefni. Yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor Gwaith ar 17 Rhagfyr 2020 i fwrw ymlaen i gynyddu capasiti Ysgol y Graig i dderbyn disgyblion o Ysgol Talwrn a chau Ysgol Talwrn, cyhoeddwyd rhybudd statudol i’r perwyl hwnnw. Mae’r Achos Busnes Amlinellol yn nodi’r buddsoddiad disgwyliedig yn Ysgol y Graig ar ran Llywodraeth Cymru, a fydd yn darparu 65% o gost y prosiect, ac ar ran y Cyngor a fydd yn darparu’r 35% arall. Gwneir buddsoddiad y Cyngor drwy gyfuniad o fenthyca digymorth, derbyniadau cyfalaf a chyllid gan ddatblygwyr sy’n datblygu tai yn nalgylch Ysgol y Graig. Mae’r Achos Busnes hefyd yn cynnwys dadansoddiad o’r opsiynau amgen ar gyfer cyflawni’r amcanion buddsoddi yn unol â methodoleg Achos Busnes Llywodraeth Cymru. Nododd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad y bydd y prosiect, yn ogystal â chyflawni buddiannau addysgol holl bwysig, yn diddymu’r gwariant presennol a rhagamcanol ar gynnal a chadw yn Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn ac yn cyfrannu at arbedion refeniw.

 

Bydd dau o banelau Llywodraeth Cymru yn craffu ar yr AAS/ABA ac yn eu herio – sef cyfarfod y Grŵp Craffu Achos Busnes ar 16 Medi 2021 a chyfarfod Panel Buddsoddi’r Rhaglen ar 14 Hydref 2021. Wedi hynny, cyflwynir yr Achos Busnes Llawn i’r Pwyllgor Gwaith.

 

Diolchodd y Pwyllgor Gwaith i’r Swyddogion, ac yn arbennig staff y Gwasanaeth Trawsnewid, am y gwaith a wnaed i gynhyrchu dogfen mor fanwl a nodwyd y bu’r mater hwn dan ystyriaeth ers cryn amser. Wrth drafod yr adroddiad, gofynnodd y Pwyllgor Gwaith eglurhad ar ddau bwynt, un yn ymwneud â lleoedd i ddisgyblion a’r llall ynghylch amserlen cyfarfodydd panelau Llywodraeth Cymru ac roedd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.