Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Cyfarfod Hybrid Arbennig (Cyllideb) - yn Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM, Pwyllgor Gwaith - Dydd Iau, 29ain Chwefror, 2024 9.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

 

2.

Materion brys ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu Swyddog a benodwyd ganddo

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w adrodd.

 

3.

Monitro'r Gyllideb Refeniw - Chwarter 3, 2023/24 pdf eicon PDF 356 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.       

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi perfformiad ariannol cyllideb refeniw'r Cyngor ar ddiwedd Chwarter 3, blwyddyn ariannol 2023/2024 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Adroddodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid fod y Cyngor, ar 9 Mawrth 2023, wedi gosod cyllideb net ar gyfer 2023/2024 gyda gwariant net y gwasanaethau o £174.569m, i'w ariannu o incwm y Dreth Gyngor, Trethi Annomestig a grantiau cyffredinol, yn ogystal â £3.780m o gronfeydd wrth gefn cyffredinol.  Y sefyllfa ariannol gyffredinol a ragwelir ar gyfer 2023/2024, gan gynnwys Cyllid Corfforaethol a chronfa’r Dreth Gyngor, yw tanwariant o £0.842m.  Mae hyn yn 0.49% o gyllideb net y Cyngor ar gyfer 2023/2024.  Cyfeiriodd at baragraff 2.2 – Tabl 1 yn yr adroddiad, sy'n crynhoi'r amrywiadau sylweddol o ran gorwario/tanwario o fewn gwasanaethau'r Cyngor. 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y sefyllfa ariannol yn Chwarter 3 wedi gwella ers Chwarter 2.  Nododd fod asesu cleientiaid o fewn Gwasanaethau Oedolion wedi gwella, a bod mwy o incwm wedi'i gynhyrchu na’r hyn a ragwelwyd yn Chwarter 2.  Gofynnwyd hefyd i bob gwasanaeth adolygu eu gwariant ac arafu gwariant lle bynnag y bo modd, a llwyddwyd i wneud hyn, gyda mwyafrif y gwasanaethau yn dangos sefyllfa ariannol well ar ddiwedd chwarter 3.  Fodd bynnag, tynnodd sylw at y ffaith bod swyddi gwag o fewn yr Awdurdod ac nad yw'r gwasanaethau'n gallu parhau i ofyn i staff wneud gwaith swyddi nad ydynt wedi'u llenwi.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ymhellach y gall y lefelau incwm ychwanegol a welwyd yn ystod y trydydd chwarter amrywio hefyd ac efallai na fydd yn cael ei ailadrodd yn 2024/2025.  Mae grantiau untro ychwanegol a dderbyniwyd hefyd wedi lleddfu'r sefyllfa, ond pwysleisiodd nad oes modd ystyried grantiau o'r fath yng nghyllideb 2024/2025.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·           Nodi’r sefyllfa a amlinellir yn Atodiadau A a B mewn perthynas â pherfformiad ariannol yr Awdurdod hyd yma a’r alldro a ddisgwylir ar gyfer 2023/2024;

·           Nodi’r crynodeb o gyllidebau Wrth Gefn ar gyfer 2023/24, y manylir arnynt yn Atodiad C;

·           Nodi’r modd y caiff costau asiantaeth ac ymgynghorwyr eu monitro ar gyfer 2023/24 yn Atodiadau CH a D.

 

4.

Monitro'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 3, 2023/24 pdf eicon PDF 363 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi perfformiad ariannol y Gyllideb Gyfalaf ar ddiwedd Chwarter 3 blwyddyn ariannol 2023/24 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid fod y Cyngor wedi cymeradwyo rhaglen gyfalaf ar gyfer gwasanaethau nad ydynt yn ymwneud â thai o £24.405m ar gyfer 2023/2024, a rhaglen gyfalaf o £13.557m ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai (CRT).  Yn ogystal â hyn, ym mis Mehefin 2023, cymeradwyodd y Pwyllgor Gwaith i lithriad cyfalaf o £13.477m gael ei ddwyn ymlaen o 2022/2023, a daw hyn â chyfanswm y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer gwasanaethau nad ydynt yn ymwneud â thai i £ £33.532m, a £17.907m ar gyfer y CRT.  Ers cwblhau’r broses o osod y gyllideb, ychwanegwyd cynlluniau at y rhaglen, y rhan fwyaf ohonynt yn cael eu cyllido gan grantiau, yn ogystal ag addasu cyllid, a daw hyn i gyfanswm o £9.396m. Mae’r Pwyllgor Gwaith hefyd wedi cymeradwyo swm ychwanegol o £1.26m ar gyfer cynllun o dan y CRT. Daw hyn â chyfanswm y gyllideb gyfalaf ar gyfer 2023/24 i £62.095m. Dangosir hyn yn Nhabl 1.2 yr adroddiad.  Y gyllideb a broffiliwyd ar ddiwedd Chwarter 3 oedd £31.115m tra bod y gwariant gwirioneddol yn £30.790m.  Nododd y bydd unrhyw gynlluniau a ragwelwyd sydd wedi llithro o'r flwyddyn hon yn cael eu trosglwyddo i'r flwyddyn ariannol nesaf.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod disgwyl i ddau brosiect a ariennir gan grant Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag Anghenion Dysgu Ychwanegol gael eu had-dalu oherwydd nad oedd gwaith yn gallu cael ei wneud yn unol â thelerau ac amodau'r grant oherwydd yr angen i flaenoriaethu materion RAAC yn Ysgol Uwchradd Caergybi a chapasiti'r tîm Eiddo.  Nododd fod trafodaethau wedi'u cynnal gyda Llywodraeth Cymru i ganiatáu iddynt drosglwyddo'r ddau brosiect ariannu grant i'r flwyddyn ariannol nesaf ond ni ddaethpwyd i gytundeb hyd yma.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ymhellach y rhagwelir y bydd tanwariant o £9.2m ond mae £5.8m yn ddyledus i'r prosiectau Ffyniant Bro yng Nghaergybi sydd wedi llithro i'r flwyddyn ariannol nesaf. 

 

Mynegodd aelodau'r Pwyllgor Gwaith siom fod disgwyl i'r ddau grant gan Lywodraeth Cymru tuag at Anghenion Dysgu Ychwanegol gael eu had-dalu oherwydd bod yr Awdurdod hwn wedi gorfod delio â materion RAAC mewn ysgolion.  Dywedodd yr Arweinydd y byddai'n ysgrifennu'n ffurfiol at Lywodraeth Cymru ar ran Aelod Portffolio Cyllid ac Aelod Portffolio Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc i fynegi eu siom bod disgwyl i'r grant gael ei ad-dalu a gofyn am estyniad i ddyddiad cau amodau'r grant.

 

PENDERFYNWYD:-

·                Nodi cynnydd y gwariant a’r derbyniadau yn erbyn y gyllideb gyfalaf ar gyfer 2023/24 yn Chwarter 3;

·                Cymeradwyo’r cynlluniau ychwanegol gwerth £9.396m a ychwanegwyd i’r rhaglen gyfalaf a’r cyllid diwygiedig, yn unol ag Atodiad C, a fydd yn rhoi cyllideb gyfalaf ddiwygiedig o £62.095m ar gyfer 2023/2024;

·                Bod Arweinydd y Cyngor yn ysgrifennu’n ffurfiol at Lywodraeth Cymru i wneud cais am estyniad i ddyddiad cau amodau’r grant.

 

5.

Monitro Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai - Chwarter 3, 2023/24 pdf eicon PDF 764 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi perfformiad ariannol Cyllideb Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 3 2023/24 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid yr adroddiad a oedd yn nodi perfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai am y cyfnod rhwng 1 Ebrill, 2023 a 31 Mawrth, 2024 yn cynnwys gwariant refeniw a chyfalaf.  Pwysleisiodd fod y CRT wedi'i glustnodi, ac ni ellir defnyddio ei gronfeydd wrth gefn at ddibenion heblaw ariannu costau sy'n ymwneud â stoc dai'r Cyngor gan gynnwys datblygu tai newydd. Mae'r adroddiad yn dangos bod gan y gyllideb refeniw warged a gynlluniwyd o £8,044k.  Y gyllideb cyfalaf gros ar gyfer 2023/2024 yw £19,988k.  Mae grantiau a chyllideb ariannu arall o £6,890k yn gostwng y gyllideb net i £13.090k.  Roedd cyfuniad o’r gyllideb refeniw a’r gyllideb gyfalaf wedi’i haddasu yn rhoi diffyg a gynlluniwyd o £5,046k, a fyddai’n cael ei gyllido o gronfa wrth gefn y CRT. 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod buddsoddiad darbodus a chyfraddau llog uchel wedi arwain at gynhyrchu mwy o incwm ar gyfer y CRT.  Nododd fod lefel gyffredinol y ddarpariaeth ar gyfer dyledion gwael yn is na'r hyn a ragwelwyd ddechrau'r flwyddyn.  Nododd ymhellach fod Cynnal a Chadw Tai yn dangos tanwariant o £432k ar ddiwedd Chwarter 3.  Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 at y gwariant cyfalaf a dywedodd ei fod yn rhagweld gorwariant ar y gwariant cyfalaf fel y nodir yn Atodiad B yn yr adroddiad.  Nododd fod oedi o ran rhai prosiectau oherwydd eu bod yn aros i Scottish Power uwchraddio'r seilwaith er mwyn caniatáu i'r Awdurdod osod paneli solar ar eiddo.  Cyfeiriodd at Atodiad C yr adroddiad sy'n tynnu sylw at y gyllideb datblygiadau newydd ar gyfer 2023/2024. 

 

Croesawodd y Pwyllgor Gwaith y datblygiadau tai newydd ar yr Ynys a ariennir drwy'r cyfrif CRT ond mynegwyd pryder bod yr oedi a achosir gan Scottish Power i uwchraddio'r seilwaith yn golygu bod oedi yn achos rhai prosiectau.   

 

PENDERFYNWYD nodi’r canlynol:-

 

·         Y sefyllfa a nodir mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ar gyfer Chwarter 3 2023/2024;

·         Yr alldro a ragwelir ar gyfer 2023/2024;

·         Bod Arweinydd y Cyngor yn ysgrifennu at Scottish Power/National Grid yn mynegi pryderon am waith sydd angen ei wneud ac sy’n achosi oedi i waith yr Awdurdod. 

 

6.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chyllideb 2024/25 pdf eicon PDF 395 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn nodi'r cynigion manwl ar gyfer cyllideb refeniw 2024/2025 i’r Pwyllgor Gwaith ei adolygu’n derfynol a rhoi sêl bendith arno.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid fod gofyn i'r Pwyllgor Gwaith gytuno ar nifer o faterion allweddol mewn perthynas â chyllideb 2024/25. Bydd modd wedyn i’r argymhellion terfynol gael eu cyflwyno i’r Cyngor Llawn yn ei gyfarfod ar 7 Mawrth, 2024. Y materion y mae angen cytuno arnynt yw Cyllideb Refeniw'r Cyngor ac yn sgil hynny, y Dreth Gyngor ar gyfer 2024/2025; Strategaeth Ariannol Tymor Canolig wedi'i diweddaru gan y Cyngor a'r defnydd o unrhyw gronfeydd untro i gefnogi'r gyllideb.

 

Ym mis Ionawr 2024, cynigiodd y Pwyllgor Gwaith gyllideb o £184.219m ar gyfer 2024/25 a oedd yn seiliedig ar y Cyllid Allanol Cyfun dros dro o £126.973m, byddai hyn yn gofyn am gynnydd o 10.9% yn y Dreth Gyngor a defnyddio £4.425m o falansau cyffredinol y Cyngor i gydbwyso'r gyllideb.  Wrth osod y gyllideb, cydnabu'r Pwyllgor Gwaith yr angen i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen a chynyddu cyllidebau i fodloni’r galw cynyddol mewn gwasanaethau Oedolion a Phlant.  Roedd y gyllideb arfaethedig yn cynnwys cyfyngu’r cynnydd chwyddiant ar gyfer cyllideb

ddatganoledig ysgolion, gan olygu gostyngiad o £1.25m yn y gyllideb, ac roedd yn cynnwys targed arbedion o £1m a fyddai’n cael ei gyflawni trwy leihau’r gweithlu, peidio â defnyddio premiwm y Dreth Gyngor i gyllido prosiectau tai am un flwyddyn, gan arbed £1.2m, yn ogystal ag arbedion eraill yn y gyllideb a phrosiectau cynhyrchu incwm gwerth £1.327m.  Er bod yr amserlen rhwng cyhoeddi'r gyllideb arfaethedig gychwynnol a’r dyddiad terfynol ar gyfer gosod y Dreth Gyngor yn un fer, cynhaliwyd ymgynghoriad a oedd yn cynnwys ymgynghori o fewn Fforwm y Cynghorau Tref a Chymuned, Fforwm Pobl Ifanc, Fforwm Pobl Hŷn, Fforwm Cyllid Ysgolion ynghyd â phroses ymgynghori ar-lein.

Dywedodd yr Aelod Portffolio fod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi maes o law y byddai cynghorau yn Lloegr yn derbyn £600m yn ychwanegol mewn cyllid yn 2024/25.  Bydd Llywodraeth Cymru’n derbyn £25m o gyllid canlyniadol

yn sgil y cyllid ychwanegol hwn, ac maent wedi cadarnhau y caiff £10.6m o’r cyllid

ychwanegol ei ddefnyddio i adfer Grant y Gweithlu Gofal Cymdeithasol i lefel 2023/24. Mae’r £14.4m sy’n weddill wedi cael ei ddyrannu gan ddefnyddio fformiwla’r setliad Llywodraeth Leol. Effaith y cyllid ychwanegol hwn yw cynnydd o £332k yn y Cyllid Allanol Cyfun.  Nododd hefyd fod Awdurdod Tân Gogledd Cymru wedi adolygu eu cyllideb arfaethedig derfynol sydd wedi arwain at ostyngiad o £87k yn yr ardoll y mae'n rhaid i'r Cyngor ei hariannu. 

 

At hyn, dywedodd yr Aelod Portffolio Cyllid fod y sefyllfa ariannol ychydig yn well na'r hyn a ragwelwyd ar ddechrau'r broses gyllideb gychwynnol.  Er bod cyllideb ysgolion wedi cynyddu, mae'r Pwyllgor Gwaith wedi penderfynu y bydd y cyfyngiad ar y cynnydd i ysgolion yn cael ei ostwng o 2.5% i 1.5% a fydd yn arwain at gynnydd o £498k i gyllideb gyffredinol ysgolion o'i gymharu â'r gyllideb a  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Strategaeth Gyfalaf 2024 - 2029 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys Strategaeth Gyfalaf 2024 - 2029 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid fod Cod Darbodus diwygiedig CIPFA (Medi 2017) yn gofyn i bob awdurdod baratoi strategaeth gyfalaf. Mae’n rhaid iddi osod y cyd-destun tymor hir ar gyfer gwneud penderfyniadau ynghylch gwariant cyfalaf a buddsoddi. Bwriad y gofyniad hwn yw sicrhau bod awdurdodau’n gwneud penderfyniadau ynghylch cyfalaf a buddsoddi yn unol ag amcanion y gwasanaeth, ac yn rhoi ystyriaeth lawn i stiwardiaeth, gwerth am arian, bod yn ddarbodus, cynaliadwyedd a fforddiadwyedd.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y Strategaeth Gyfalaf yn gysylltiedig â nifer o gynlluniau a strategaethau allweddol eraill.  Dywedodd fod bwlch rhwng gofyniad cyfalaf y Cyngor i foderneiddio ac uwchraddio asedau presennol a chyflawni ei flaenoriaethau corfforaethol o fwy na £300m dros y 5 mlynedd nesaf.   Mae’r isafswm cyllid sydd ar gael drwy fenthyca â chefnogaeth a’r grant cyfalaf cyffredinol yn annigonol er mwyn cyllido’r isafswm sydd ei angen i gynnal asedau presennol y Cyngor i lefel sy’n galluogi’r asedau hynny i gael eu gweithredu’n ddiogel ac effeithiol.  Byddai lefel y benthyca yn anghynaladwy oherwydd sefyllfa ariannol a chyfraddau llog uchel.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo ac argymell Strategaeth Gyfalaf 2024-2029 i’r Cyngor Llawn.

 

 

8.

Cyllideb Cyfalaf 2024/25 pdf eicon PDF 217 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys y gyllideb gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2024/25 i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid fod y Gyllideb Gyfalaf ar gyfer 2024/25 yn ystyried yr egwyddorion a nodwyd yn y Strategaeth Gyfalaf a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Gwaith a'r Cyngor llawn ym mis Mawrth 2023.  Dangosir y cyllid sydd ar gael i ariannu'r rhaglen gyfalaf ar gyfer 2024/25 yn Nhabl 1 yr adroddiad. Mae'r ffigwr ar gyfer y Grant Cyfalaf Cyffredinol a Benthyca â Chymorth yn seiliedig ar ffigurau dros dro Llywodraeth Leol.  Dangosir y rhaglen gyfalaf arfaethedig fanwl derfynol yn Atodiad 2 i'r adroddiad.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y cyllid cyfalaf cyffredinol a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2024/2025 £12k yn uwch na'r dyraniad ar gyfer 2023/2024 a'i fod yn cyd-fynd â'r lefelau cyllido a welwyd dros y 12 mlynedd diwethaf.  Ni fu cynnydd sylweddol mewn cyllid, er bod

gwerth y cyllid wedi lleihau’n sylweddol oherwydd chwyddiant yn ystod y cyfnod hwn. Nid oes prosiectau ychwanegol wedi'u cynnwys yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2024/25.   At hyn, dywedodd fod gwaith y Cyngor i foderneiddio’r ystâd ysgolion, drwy raglen Cymunedau Dysgu Llywodraeth Cymru yn parhau, er bod y rhaglen bresennol ond yn cynnwys cwblhau estyniad Ysgol y Graig. Adroddodd ymhellach ar y Cyfrif Refeniw Tai, sy'n gyfrif wedi'i glustnodi, o ran gwariant refeniw a chyfalaf fel ei gilydd.  Yn y rhaglen arfaethedig ar gyfer 2024/25, bydd buddsoddiad yn parhau yn y stoc bresennol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth barhaus gyda safonau SATC ac i ddatblygu eiddo newydd. 

 

Rhoddodd y Cynghorydd Dyfed W Jones, Is-gadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol adroddiad ar drafodaethau'r Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 27 Chwefror, 2024 mewn perthynas â chyllideb gyfalaf 2024/2025.   Cadarnhaodd fod y Pwyllgor wedi cael adborth gan y Panel Sgriwtini Cyllid a'i fod wedi rhoi ystyriaeth ofalus i'r rhaglen gyfalaf arfaethedig a'r cynlluniau o fewn cyd-destun y cyllid cyfalaf cyfyngedig sydd ar gael ar gyfer rhaglen gyfalaf a chynlluniau cyfalaf y gronfa gyffredinol a'i fod wedi gofyn am eglurhad gan y Swyddogion a'r Aelod Portffolio ynghylch sut mae'r cynigion hynny am gyflawni blaenoriaethau tymor canolig y Cyngor wrth gydbwyso pwysau tymor byr yn ogystal ag i ba raddau y mae'r Cyngor yn gallu pennu ei flaenoriaethau a'i wariant cyfalaf ei hun. Gofynnwyd am eglurhad pellach ynglŷn ag effaith y CRT ar y stoc dai a thenantiaid ac unigolion sydd ar y rhestr aros am dŷ.   Ar ôl craffu ar gyllideb gyfalaf ddrafft arfaethedig derfynol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer 2024/25, penderfynodd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol gefnogi ac argymell y gyllideb gyfalaf ddrafft arfaethedig ar gyfer 2024/25 i'r Pwyllgor Gwaith fel y'i cyflwynwyd.

 

PENDERFYNWYD argymell y Rhaglen Gyfalaf ganlynol i’r Cyngor Llawn ar gyfer 2024/25:

 

£’000

 

Cynlluniau 2023/24 2023/24 a ddygwyd ymlaen                    6,102

Atgyweirio / Newid Asedau                                                         4,856

Rhaglen Cymunedau Dysgu                                                       2,878

Cyfrif Refeniw Tai (CRT)                                                       30,002

 

Cyfanswm Rhaglen Gyfalaf Arfaethedig 2024/25              43,838

 

Cyllidir gan:

 

Grant Cyfalaf Cyffredinol  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Gwella Dibynadwyedd a Gwytnwch ar draws Afon Menai pdf eicon PDF 678 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Eonomaidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a oedd yn cynnwys Gwella Dibynadwyedd a Chydnerthedd ar draws y Fenai i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedodd yr Arweinydd, ac Aelod Portffolio Datblygu Economaidd fod Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru (CTGC) wedi ei sefydlu yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i ganslo’r bwriad i adeiladu trydedd bont bosibl ar draws y Fenai.  Dywedodd fod dau bryder sylfaenol gyda chanfyddiadau'r CTGC. Yn gyntaf, nid yw'n ystyried opsiynau ar gyfer gwella cydnerthedd cysylltiadau ar draws y Fenai gan ei bod yn ymddangos bod yr opsiwn ar gyfer gwella'r seilwaith ar gyfer cerbydau wedi'i ddiystyru ar y cychwyn ac yn ail mae hyn yn arwain at argymhellion sy'n gwbl annigonol ar gyfer mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu Ynys Môn a'r ardal ehangach.  Bydd yr argymhellion naill ai’n cael ychydig iawn o effaith ar wella cysylltedd ar draws Afon Menai, neu’n arwain at risgiau / ansicrwydd difrifol o ran eu cyflenwi (gan gynnwys eu bod eisoes wedi’u diystyru).  At hyn, dywedodd yr Arweinydd ei bod o'r farn nad yw'r CTGC wedi ystyried gwir ddiffyg cydnerthedd y ddwy bont ar draws Afon Menai i bobl Ynys Môn o ran mynediad i Ysbyty Gwynedd, sefydliadau addysg, teithio i'r gwaith ac fe allai effeithio ar ddiogelwch a pheryglu bywydau pe bai’r ddwy bont yn cael eu cau. At hyn, dywedodd fod enghreifftiau bod disgyblion wedi methu â mynd i arholiadau oherwydd bod y pontydd ar gau. 

 

Dywedodd yr Arweinydd ei bod yn bwysig bod yr adroddiad yn cael ei rannu gydag Aelodau Cynulliad y rhanbarth i gefnogi safbwynt y Cyngor er budd rhanbarth Gogledd Cymru.  Awgrymodd y dylai ysgrifennu at Brif Weinidog newydd Llywodraeth Cymru, ar ôl ei benodi, i fynegi pryderon yr Awdurdod ynghylch dibynadwyedd a chydnerthedd ar draws y Fenai.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Datblygu Economaidd na fydd yr argymhellion yn adroddiad y CTGC yn datrys cydnerthedd ar draws Afon Menai a'i fod yn rhwystro gallu'r Ynys i ddenu busnesau a gweithgarwch economaidd ac yn enwedig y statws Porthladd Rhydd a sicrhawyd gan yr Ynys. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd R Thomas, Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo nad yw'r CTGC wedi ystyried anghenion yr Ynys i deithio yn ôl a blaen i'r tir mawr.  Mae cydnerthedd y pontydd yn bwysig i'r economi, twristiaeth ac i nwyddau allu teithio’n ôl a blaen i Borthladd Caergybi. 

 

Dywedodd aelodau'r Pwyllgor Gwaith fod yn rhaid ystyried y bydd Pont Menai yn 200 oed ymhen dwy flynedd ac mae Pont Britannia yn 175 oed.  Ar hyn o bryd gwneir gwaith brys ar Bont Menai oherwydd ei hoed, gan arwain at lai o gapasiti a bydd y gwaith hwn yn parhau tan o leiaf 2025.  Mynegwyd y byddai unrhyw ddamwain a allai ddigwydd ar y pontydd yn cael effaith niweidiol ar y rhwydwaith priffyrdd.  Cyfeiriodd y Pwyllgor Gwaith at statws Porthladd Rhydd a’r angen i sicrhau bod nwyddau’n teithio'n rhydd ar draws coridor priffyrdd Gogledd Cymru.  

 

PENDERFYNWYD :-

 

·         Cytuno bod y Prif Weithredwr yn anfon llythyr ffurfiol at Lywodraeth Cymru yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9.