Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Cyfarfod Rhithiol (Ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod), Pwyllgor Gwaith - Dydd Llun, 13eg Gorffennaf, 2020 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

Croesawodd y Cadeirydd bawb oedd yn yr ail gyfarfod rhithwir hwn o’r Pwyllgor Gwaith i’w gynnal yn ystod argyfwng pandemig Covid-19.

 

Cyn cychwyn ar fusnes y cyfarfod, cynhaliwyd munud o dawelwch fel arwydd o barch at bawb y cafodd pandemig Covid-19 effaith arnynt ac oedd wedi colli teulu a ffrindiau.

 

 

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd datganiad o ddiddordeb.

2.

Materion brys a ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu Swyddog a benodwyd ganddi

Dim materion brys ar adeg anfon allan y rhaglen hon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w adrodd.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 281 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod rhithiol o’r Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd 15 Mehefin, 2020.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 15 Mehefin, 2020 fel rhai cywir.

4.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 352 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i'w ystyried, adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a ymgorfforai flaenraglen waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod rhwng Medi 2020 ac Ebrill 2021 a nodwyd yr eitemau newydd a ganlyn -

 

          Eitem 7 - Adroddiad ar y Perfformiad Blynyddol (ar gyfer cyfarfod Medi 2020 o’r Pwyllgor Gwaith)

          Eitem 8 - Adroddiad cynnydd gan Banel Gwella’r Gwasanaethau Cymdeithasol (ar gyfer cyfarfod Medi, 2020 o’r Pwyllgor Gwaith)

          Eitem 9 - Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol (ar gyfer cyfarfod Medi, 2020 o’r Pwyllgor Gwaith)

 

Dywedwyd ymhellach wrth y Pwyllgor Gwaith y byddid yn cynnal cyfarfod ychwanegol o'r Pwyllgor Gwaith, 17 Awst, 2020 ac y byddai dwy eitem o fusnes y Gwasanaeth Tai, sef eitem 10 - Addasiadau i'r Polisi Gosodiadau i ymdrin ag Unigolion mewn Llety Brys ac eitem 11 - Unedau Ychwanegol ar Safle Marquis, Rhosybol, y bwriedir eu hystyried yng nghyfarfod mis Medi o’r Pwyllgor Gwaith, nawr yn cael eu dwyn ymlaen i gyfarfod mis Awst, oherwydd newidiadau pellach i'r rhaglen waith.

 

Cymeradwyodd y Pwyllgor Gwaith y cyfarfod ychwanegol ym mis Awst gan gredu ei fod yn angenrheidiol, o gofio’r amgylchiadau, a hefyd er mwyn datblygu busnes cyffredin y Cyngor fel rhan o'r broses adfer yn gynnar.

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi’i diweddaru am y cyfnod Medi, 2020 i Ebrill, 2021 gyda’r newidiadau a amlinellwyd yn y cyfarfod.

5.

Gwaith Cynllunio Cynnar ar gyfer Adfer yn dilyn yr haint Coronafeirws pdf eicon PDF 441 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Dirprwy Brif Weithredwr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Dirprwy Brif Weithredwr ar y dull cychwynnol o gynllunio adferiad cynnar.

 

Adroddodd y Cadeirydd fod penderfyniadau wedi'u gwneud yn ddiweddar i lacio mesurau’r cyfyngiadau symud ac i ddechrau ailagor cymdeithas. Bellach roedd yn ddyletswydd statudol ar y Cyngor i arwain adferiad yr Ynys ac roedd wedi ymrwymo i gynllunio ar gyfer y rôl hon a'i chyflawni'n llawn wrth barhau i gydweithredu'n effeithiol gyda'i phartneriaid rhanbarthol. O'r herwydd, byddai’r Cyngor yn canolbwyntio ar anghenion lleol ac yn defnyddio’i lais i ddylanwadu ar y broses adfer ranbarthol mewn ffordd oedd yn diwallu'r anghenion hynny. Yn yr adroddiad a gyflwynwyd, amlinellwyd y strwythurau rhanbarthol oedd yn eu lle i gynllunio ar gyfer y cam adfer ynghyd â'r strwythurau lleol a mewnol a'r trefniadau ar gyfer adrodd ac atebolrwydd. Roedd y raddfa, yr ansicrwydd parhaus a'r heriau oedd yn gysylltiedig â'r argyfwng coronafeirws wedi arwain at ddull cyfochrog oedd yn golygu bod cynllunio ymateb ac adfer, ar hyn o bryd, yn gweithredu law yn llaw ar lefelau rhanbarthol a lleol yn yr hyn y gellid ei ddisgrifio fel cyfnod trosiannol.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at anferthwch a chymhlethdod y cyfnod adfer a wnaed yn fwy heriol gan yr ansicrwydd a chan risg o gynnydd sylweddol yn nifer yr achosion o coronafeirws. Roedd Grŵp Cydlynu Adferiad rhanbarthol wedi'i sefydlu i weithio ochr yn ochr â'r Grŵp Cydlynu Strategol rhanbarthol. Roedd y grŵp hwn wedi bod yn gyfrifol am y cyfnod ymateb brys yng Ngogledd Cymru i sicrhau dull rhanbarthol strategol oedd yn gyson ac yn gydlynol o ran cynllunio adferiad a adlewyrcha hynny yn ystod cyfnod yr argyfwng. Roedd cynllunio gwaith cynnar ar gyfer adfer y Grŵp Cydlynu Adferiad yn troi o amgylch tri maes thematig - adferiad Iechyd a Gofal; adferiad Economaidd ac adferiad Gwydnwch Cymunedol, pob un gyda'i grŵp ymroddedig. Ceid gwaith goruchwyliaeth a chydlynu gan strwythurau rhanbarthol a lleol presennol. Ychwanegwyd Profi, Olrhain a Diogelu yn ddiweddar fel maes thematig.

 

Yn lleol, cynigiwyd bod y strwythurau a'r berthynas waith a sefydlwyd gyda Menter Môn a Medrwn Môn, gyda darpariaeth gymunedol leol a rhwydweithiau gwirfoddol cryf, yn cael eu hatgyfnerthu a'u cynnal lle bo hynny'n bosibl ar gyfer y cyfnod adfer. Canlyniad cadarnhaol yn sgil yr argyfwng fu ymateb y gymuned a rhoddwyd diolch arbennig i'r holl wirfoddolwyr oedd wedi cefnogi'r Cyngor yn ystod yr amser anodd hwn. Cydnabuwyd bod adferiad economaidd pob sector yn arbennig o bwysig a byddai angen i'r Cyngor benderfynu sut gallai ddarparu gwasanaethau’n wahanol er mwyn datblygu’r economi a chreu swyddi ac, yr un pryd, chwarae ei ran mewn “adferiad gwyrdd”. Nid oedd modd tanbrisio pwysigrwydd a gwerth y sector twristiaeth a lletygarwch a byddai’r Cyngor yn ceisio cynyddu'r cyfleoedd oedd yn bodoli fel rhan o'r normal newydd i ailddyfeisio'r Ynys fel cyrchfan i dwristiaid. Byddai’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau i ddiogelu dinasyddion Ynys Môn yn y gymuned ac mewn lleoliadau preswyl. O ganlyniad, byddai rhaid ystyried a rheoli gwytnwch gwaith staffio’r Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Covid-19 - Effaith Ariannol ar y Cyngor pdf eicon PDF 479 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn nodi effaith ariannol amcangyfrifedig y pandemig Covid-19 ar gyllid y Cyngor Sir yn 2020/21, ynghyd â'i oblygiadau tymor hwy ar gyfer sefyllfa ariannol y Cyngor.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio - Cyllid fod pandemig Covid-19 wedi creu ansicrwydd sylweddol yng nghyllideb 2020/21 a hefyd yn yr arian y câi llywodraeth leol yng Nghymru yn y dyfodol. Roedd yr adroddiad a gyflwynwyd yn seiliedig ar nifer o ragdybiaethau ac amcangyfrifon a gallai’r canlyniad terfynol newid o'r asesiad effaith cychwynnol hwn. Byddai’r adroddiad yn bwydo i mewn i Gynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor a gâi ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith ym mis Medi, 2020 a byddai’n nodi'r strategaeth ariannol ar gyfer cyllideb refeniw 2021/22. Byddai’r sefyllfa ariannol hefyd yn dylanwadu ar weithgareddau a dull cynllunio adferiad y Cyngor.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod yr adroddiad yn nodi'r meysydd lle ‘roedd effaith ariannol argyfwng Covid-19 yn debygol o gael ei deimlo fwyaf ac yn ceisio rhoi amcangyfrif o raddfa'r broblem. I grynhoi –

 

           Paratoi ar gyfer y Pandemig - roedd risg pandemig byd-eang wedi bod ar gofrestr risg y Cyngor ac roedd yn un o'r materion oedd yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor gynnal cronfeydd ariannol digonol (£7.06m mewn cronfeydd wrth gefn cyffredinol ar 31 Mawrth, 2020). Dangosai Adran 2 yr adroddiad sut roedd penderfyniadau a wnaed mewn perthynas â chynnal cronfeydd ariannol, rheoli trysorlys a Threth y Cyngor (trwy anfon biliau allan wrth i’r cyfyngiadau symud ddechrau a, thrwy hynny, sicrhau llif incwm gan y rhai a allai dalu) wedi helpu llif arian o ddydd i ddydd y Cyngor a’i gwneud yn bosib iddo  dalu costau ychwanegol yr argyfwng.

           Gwariant Tymor Byr i ymdrin â'r Pandemig - roedd adran 3 yr adroddiad yn nodi'r meysydd lle'r oedd y Cyngor wedi ysgwyddo costau ychwanegol wrth ddelio ag argyfwng y pandemig. Roedd mwyafrif helaeth y costau hyn wedi’u talu gan Lywodraeth Cymru, oedd wedi sicrhau bod cyfanswm o £120m ar gael i Gynghorau Cymru i dalu'r gwariant ychwanegol. Hyd yma, roedd Cyngor Ynys Môn wedi hawlio £858k am gostau yr aethpwyd iddynt ym misoedd Mawrth, Ebrill a Mai. Câi cais arall am fis Mehefin ei gyflwyno ym mis Gorffennaf oedd yn debygol o fod yn fwy na hawliad mis Mai o £526k

           Colli incwm o Ffïoedd a Thaliadau - roedd y Cyngor yn cynhyrchu dros £5m mewn incwm yn flynyddol o ffioedd a thaliadau am wasanaethau a ddarparwyd. Lle tynnwyd gwasanaethau yn ôl - Canolfannau Hamdden, prydau ysgol, meysydd parcio, clybiau gofal ysgolion, llyfrgelloedd, Oriel Ynys Môn - collwyd yr incwm a fyddai, fel arfer, wedi’i gynhyrchu. Efallai y byddai incwm rhai gwasanaethau - Cynllunio, Rheoli Adeiladu, Cofrestryddion, Ailgylchu a Chasglu Gwastraff Swmpus, Taliadau Tir a gwaith stryd Priffyrdd - nad oeddynt wedi bod yn gweithredu, wedi’u gohirio er y gellid derbyn yr incwm pan fyddid yn llacio’r cyfyngiadau symud. Roedd yn anodd amcangyfrif y golled incwm yn gywir  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Crynodeb o Gyfrifon Terfynol Drafft 2019/20 pdf eicon PDF 521 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn ymgorffori'r prif ddatganiadau ariannol drafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio - Cyllid mai’r hyn oedd yn yr adroddiad oedd Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr drafft ar gyfer 2019/20 a’r Fantolen ddrafft hyd at 31 Mawrth, 2020 ynghyd â gwybodaeth am gronfeydd wrth gefn a balansau. Nid oedd y ffigurau yn yr adroddiad wedi’u harchwilio ac, felly, roedd modd iddynt gael eu newid. Câi’r adroddiad ei gyflwyno i'r Cyngor wedi i’r Archwiliad Allanol gael ei gwblhau. Wrth gyflwyno'r adroddiad, achubodd yr Aelod Portffolio - Cyllid ar y cyfle i ddiolch i staff y Gwasanaeth Cyllid am eu gwaith yn ystod y pandemig a diolchodd hefyd i'r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 am yr arweiniad a roes yn ystod yr amser anodd hwn. Ategwyd y teimladau hynny gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfanrwydd.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod y Datganiad drafft llawn o'r Cyfrifon ar gyfer 2019/20 ar gael ar wefan y Cyngor ac y câi ei gyflwyno i'r Pwyllgor Archwilio ar 21 Gorffennaf, 2020. I grynhoi

 

           Roedd y Datganiad Incwm a Gwariant Cynhwysfawr drafft ynghlwm yn Atodiad 2 yr adroddiad yn dangos cost cyfrifyddu yn y flwyddyn o ddarparu gwasanaethau yn unol ag arferion cyfrifyddu yn hytrach na'r swm a ariannwyd o drethiant, ac ynddo roedd addasiadau ar gyfer dibrisiant, ailbrisio asedau, ac ailfesur atebolrwydd pensiwn. Roedd y Llywodraeth yn derbyn na ddylai fod yn ofynnol i dalwyr treth y cyngor ariannu addasiadau o'r fath ac, felly, roedd y cyfrifon yn eithrio effaith y rhain yn y nodyn o'r enw Addasiadau rhwng y Sail Gyfrifyddu a'r Sail Ariannu dan Reoliadau (Nodyn 7 yn y cyfrifon). Dangosai’r nodyn hwn am 2019/20 £8.782m o addasiadau cyfrifyddu a ganslwyd yn y Datganiad Symud Cronfeydd Wrth Gefn. Golygodd hyn y cafodd gwir effaith darparu gwasanaethau ar gronfeydd wrth gefn y Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ei leihau, o ddiffyg o £7.683m i warged o £ 1.1m oedd yn gynnydd yng nghronfeydd wrth gefn y Cyngor. Y rheswm dros hyn oedd tanwariant o £0.308m ar Gronfa'r Cyngor a thanwariant o £0.210m yn y CRT a throsglwyddiadau i'r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd.

           Dangosodd Tabl 1 yr adroddiad y symudiad yng nghronfeydd wrth gefn y Cyngor y gellid eu defnyddio yn ystod y flwyddyn. £25.944m oedd balans yr holl gronfeydd wrth gefn y gellid eu defnyddio ar 31 Mawrth, 2020, sef cynnydd o £ 1.1m (4.2%). Roedd cronfa wrth gefn y CRT, y balansau ysgolion a'r Gronfa Derbyniadau Cyfalaf wedi'u clustnodi a dim ond at y diben dynodedig yr oedd modd eu defnyddio.

           Cyflwynai Atodiad 3 yr adroddiad fantolen ddrafft y Cyngor ar 31 Mawrth, 2020. Cynyddodd asedau net cyffredinol y Cyngor o £162.456m  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.