Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

Estynnodd y Cadeirydd groeso cynnes i bawb a oedd yn bresennol yn y cyfarfod rhithwir hwn o'r Pwyllgor Gwaith.

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Richard Dew ddatgan diddordeb sy’n rhagfarnu o ran eitem 6 ar yr agenda ac nid oedd yn bresennol pan drafodwyd y mater.

 

Bu i’r Cynghorydd Ieuan Williams ddatgan diddordeb yn eitem 4 ar yr agenda.

2.

Materion Brys a Ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu Swyddog a Benodwyd Ganddi

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim i’w hadrodd.

3.

Cyllideb Gyfalaf Cychwynnol 2021/22 pdf eicon PDF 490 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 sy'n cynnwys y gyllideb gyfalaf gychwynnol ar gyfer 2021/22 i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, yr adroddiad drwy esbonio y bydd y gyllideb gyfalaf arfaethedig gychwynnol, fel rhan o'r broses o bennu'r gyllideb ynghyd â chynigion y gyllideb refeniw ddrafft o dan yr eitem ddilynol, yn destun ymgynghoriad ffurfiol â'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a'r cyhoedd. Yna bydd y Pwyllgor Gwaith yn gwneud ei argymhellion terfynol ynghylch cyllideb 2021/22 i'r Cyngor Sir. Bydd cyfarfod y Cyngor Llawn ar 9 Mawrth, 2021 wedyn yn cymeradwyo’r gyllideb a lefel y Dreth Gyngor ar gyfer 2021/22.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ei bod wedi bod yn anos llunio'r gyllideb gyfalaf eleni oherwydd diffyg cyllid sy'n golygu y bydd yn rhaid dod o hyd i arian ychwanegol er mwyn cyflawni’r prosiectau cyfalaf a argymhellir yn llawn. Cyfanswm y Cyllid Cyfalaf Cyffredinol a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2021/22 (ac eithrio'r rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif a'r Cyfrif Refeniw Tai) yn seiliedig ar ffigurau dros dro y setliad Llywodraeth Leol yw £4.321m. O'r swm yma, mae angen £4.167m i gefnogi'r rhaglen ar gyfer adnewyddu a newid asedau presennol yn unol â’r Strategaeth Gyfalaf a fabwysiadwyd gan y Cyngor.  Argymhellir cynnwys pedwar prosiect cyfalaf untro yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2021/22 ac mae'r rhain yn dod i gyfanswm o £1.105m sy'n fwy na'r £921k sydd ar gael. Gallai tanwariant posibl yn y gyllideb refeniw ar gyfer 2020/21 olygu y gellid ychwanegu £1m ychwanegol at y gronfa gyffredinol y gellid ei defnyddio i ariannu'r gwariant cyfalaf ychwanegol yn 2021/22. Fodd bynnag, nid oes sicrwydd o hyn ac os bydd sefyllfa'r gyllideb refeniw yn dirywio yn ystod ail hanner y flwyddyn ariannol, gall lefel y cyllid sydd ar gael fod yn llai nag £1m. O'r 4 cynllun untro a nodir yn Nhabl 4 o'r adroddiad ystyrir bod angen rhoi blaenoriaeth i’r arian cyfatebol ar gyfer prosiectau Datblygu Economaidd (£95k) a phrynu llyfrau chrome i ddisgyblion (£305k) sy'n golygu, os nad oes digon o arian wrth gefn ar gael, yna efallai y bydd yn rhaid gwario llai ar y ddau gynllun arallgosod wyneb newydd ar ardaloedd chwarae a chynlluniau lliniaru llifogydd. Cynigir cyfanswm rhaglen gyfalaf o £36.155m ar gyfer 2021/22.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 mai un o egwyddorion allweddol y Strategaeth Gyfalaf yw y bydd cyllid cyfalaf yn cael ei ddyrannu bob blwyddyn i sicrhau y buddsoddir yn asedau presennol y Cyngor i'w diogelu ar gyfer y dyfodol; mae'r flaenoriaeth hon wedi'i chyflawni ar y cyfan drwy Grant Cyfalaf Llywodraeth Cymru a benthyca â chymorth. Mae'r ddau bennawd yma wedi aros yn weddol gyson dros nifer o flynyddoedd gyda Llywodraeth Cymru yn cefnogi prosiectau gwariant cyfalaf penodol drwy gyllid grant. Mae hyn yn golygu bod y cyllid craidd sydd ar gael at ddibenion cyfalaf  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Cyllideb Refeniw Ddrafft 2021/22 pdf eicon PDF 475 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys y Gyllideb Refeniw ddrafft ar gyfer 2021/22 i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, mai £142.146m oedd y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2020/21 h.y. y flwyddyn ariannol gyfredol. Ar gyfer 2021/22 mae nifer o newidiadau hysbys yr ymrwymwyd iddynt yn debygol o effeithio ar y gyllideb. Manylir ar y rhain yn adran 3 o'r adroddiad ysgrifenedig ac maent yn cynnwys amrywiadau yn niferoedd disgyblion, taliadau i Gais Twf Gogledd Cymru, costau Pensiwn hanesyddol a buddsoddi mewn technoleg gwybodaeth. Y newid mwyaf arwyddocaol yw cost gynyddol y Contract Casglu Sbwriel a Glanhau Strydoedd newydd gyda Biffa, sydd £909k yn uwch na’r gyllideb gyfredol. Gan ystyried yr holl addasiadau a thybiaethau fel y'u nodir yn Adran 3, cyfanswm y gyllideb ddigyfnewid ar gyfer 2021/22 yw £147.076m, cynnydd o £4.930m ar gyllideb derfynol 2020/21. Bydd setliad dros dro uwch gan Lywodraeth Cymru yn talu £3.821m o'r costau uwch gan adael diffyg cyllid o tua £1m i'w ariannu drwy Dreth y Cyngor.

 

Byddai'r gyllideb ddigyfnewid o £147.076m yn caniatáu i'r Cyngor gynnal ei wasanaethau presennol; fodd bynnag, mae'r Cyngor yn wynebu pwysau cyllidebol newydd a gofynion newydd am wasanaethau na chaniatawyd ar eu cyfer yn y gyllideb. Mae'r pwysau a'r gofynion hyn - rhai ohonynt mewn gwasanaethau sydd wedi dioddef gostyngiadau yn ystod y cyfnod o lymder - wedi dod yn fwy amlwg wrth i'r Cyngor ymateb i bandemig Covid. Manylir ar y meysydd blaenoriaeth y nodwyd bod angen cyllid ychwanegol arnynt yn adran 10.6 o'r adroddiad ac maent yn cynnwys adfer y rhaglen hyfforddeion broffesiynol; cryfhau capasiti Gwarchod y Cyhoedd; Cynhwysiant Addysg; Cymorth TG i ysgolion; rheoli twristiaeth a newid yn yr hinsawdd. Ar ôl ystyried y gyllideb ddigyfnewid ac yng ngoleuni'r ffaith bod angen cynnydd o 2.55% yn bennaf i ariannu'r cynnydd yng nghost y contract casglu sbwriel newydd, ystyriwyd cynnydd ychwanegol o 1.2% yn y Dreth Gyngor fel ffordd o ariannu'r pwysau a’r gofynion ychwanegol ar y gyllideb. Byddai cynnydd ychwanegol o 1.2% yn uwch na'r lefel sy'n ofynnol i ariannu'r gyllideb ddigyfnewid (tabl 4 ym mharagraff 9.2) yn cynhyrchu £494k ychwanegol o gyllid. Cynigir felly y dylid cynyddu lefel y Dreth Gyngor o 3.75% sy'n cyfateb i gynnydd wythnosol o 94c ar gyfer eiddo Band D.

 

Tynnodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 sylw at y risgiau canlynol i'r gyllideb

 

           Ansicrwydd o ran y dyfarniadau cyflog posibl ar gyfer y ddau brif grŵp o weithwyr llywodraeth leolathrawon a staff NJC. Er bod cyhoeddiad wedi’i wneud ym mis Tachwedd, 2020 y byddai cyflogau holl weithwyr y sector cyhoeddus (ac eithrio'r GIG) sy'n ennill dros £24,000 yn cael ei rewi, ac y byddai’r dyfarniad tâl i'r rhai sy'n ennill llai na £24,000 o leiaf yn £250, nid Llywodraeth y DU sy'n pennu'r dyfarniad  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 215 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd –

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd fel y cyflwynwyd nhw.

 

6.

Achos Busnes - Corn Hir

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc sy'n cynnwys yr Achos Busnes Llawn ar gyfer adeilad ysgol newydd yn lle Ysgol Corn Hir yn Llangefni i'w ystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Ar ôl datgan diddordeb personol sy’n rhagfarnu yn y mater hwn, ymneilltuodd y Cynghorydd Richard Dew o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r penderfyniad arno.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd R. Meirion Jones, Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd Diwylliant ac Ieuenctid, yr adroddiad drwy ddweud bod yr Achos Busnes Llawn wedi cael ei baratoi i sicrhau cyllid cyfalaf ar gyfer adeilad ysgol newydd ar gyfer Ysgol Corn Hir o dan Raglen Band A Ysgolion yr 21ain Ganrif. Os bydd yn llwyddiannus, bydd yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn ariannu 50% o gostau'r cynnig gyda gweddill y costau i'w hariannu drwy adnoddau cyfalaf y Cyngor.

 

Atgoffodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc y pwyllgor o gefndir y cynnig gan ddweud bod holl elfennau'r Achos Busnes Llawn yn seiliedig ar yr opsiwn newydd a ffefrir gan y Cyngor ar ôl cynnal ymgynghoriad statudol rhwng 6 Chwefror a 20 Mawrth 2020 a'i gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith ar 17 Rhagfyr, 2020 sef adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Corn Hir a gadael Ysgol Bodffordd fel y mae. Lluniwyd yr achos Busnes yn unol â chanllawiau Achos Busnes Ysgolion yr 21ain Ganrif yn seiliedig ar yr Achos Busnes – Model Pum Achos ac mae'n darparu gwybodaeth mewn perthynas â phob cam o ddatblygiad y cynnig mewn perthynas â'r achos strategol, yr achos economaidd, yr achos masnachol, yr achos rheoli a'r achos ariannol dros y cynnig.

 

Diolchodd y Pwyllgor Gwaith i'r Gwasanaeth Dysgu a staff y Gwasanaeth Trawsnewid am eu gwaith ar yr Achos Busnes Llawn.

 

Penderfynwyd

 

·        Cymeradwyo'r Achos Busnes Llawn ar gyfer adeilad ysgol newydd yn lle Ysgol Corn Hir

·        Cymeradwyo cyflwyno'r Achos Busnes Llawn i Lywodraeth Cymru

·        Cymeradwyo bod derbyniadau cyfalaf yn cael eu neilltuo ar gyfer codi adeilad newydd yr ysgol yn lle Ysgol Corn Hir, yn amodol ar unrhyw broblemau sy'n codi wrth werthu'r safle.

·        Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc mewn ymgynghoriad â'r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 a Chyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro i ddiwygio'r Achos Busnes Llawn os oes angenos nad yw'r newidiadau'n arwain at newidiadau sylweddol (o ran polisi, egwyddorion, cyfraniad ariannol, risgiau a niwed i drydydd partïon).