Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Ann Holmes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nu fu i unrhyw un ddatgan diddordeb.

2.

Materion Brys a Ardystiwyd gan y Prif Weithredwr neu Swyddog a Benodwyd Ganddi

Dim materion brys ar adeg anfon y rhaglen hon.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim materion i’w hadrodd.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 220 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, cofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 17 Mai 2021. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 17 Mai, 2021 i'w cymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 17 Mai, 2021 fel rhai cywir.

4.

Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 443 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd a oedd yn cynnwys Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng Gorffennaf, 2021 a Chwefror, 2022 i'w ystyried a nodwyd y newidiadau canlynol - 

 

·        Eitem tri (3) – Adroddiad Blynyddol Cwynion Gwasanaethau  Cymdeithasoleitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 12 Gorffennaf 2021.

·        Eitem 4 – Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Statudol ar Effeithiolrwydd Gwasanaethau Cymdeithasoleitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 12 Gorffennaf 2021.

·        Eitem 5 – Newidiadau i'r Cyfansoddiad: Pwerau DirprwyedigDatblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol a Manteision Cymunedol anstatudoleitem a aildrefnwyd o gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 21 Mehefin 2021 i'w gyfarfod ar 12 Gorffennaf 2021.

·        Eitem 11 – Adolygiad Ariannol Tymor Canoligeitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 27 Medi 2021. 

·        Eitem 12 – Ymgynghoriad ar lefel Premiwm y Dreth Gyngor ar gyfer ail gartrefieitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 27 Medi 2021.

·        Eitem 21 – Sail y Dreth Gyngor 2022/23 – eitem newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 29 Tachwedd 2021.

·        Eitemau 25 i 27 – eitemau’n gysylltiedig â Monitro’r Gyllidebeitemau newydd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 14 Chwefror 2022.

 

Penderfynwyd cadarnhau Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith wedi ei diweddaru am y cyfnod o fis Gorffennaf, 2021 i fis Chwefror, 2022, fel y’i cyflwynwyd.

5.

Monitro'r Cerdyn Sgorio - Chwarter 4 2020/21 pdf eicon PDF 1 MB

I gyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn, AD a Thrawsnewid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid oedd yn cynnwys y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 4 2020/21 i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol yr adroddiad sy'n portreadu’r sefyllfa ar ddiwedd i flwyddyn nas gwelwyd ei thebyg o’r blaen, wrth reoli’r pandemig Covid-19, a pharhau i gyflawni ei rwymedigaethau o ran dyletswyddau. Yn ystod Chwarter 4 parhaodd Cymru i fod dan gyfyngiadau symud cenedlaethol a gwelodd Ynys Môn ei nifer uchaf o achosion cadarnhaol o Covid 19 yn ogystal ag ymlediad ar Ynys Cybi a gafodd ei reoli'n gyflym ac yn llwyddiannus. Er gwaethaf yr effaith y mae pandemig Covid 19 a'r cyfyngiadau symud cysylltiedig wedi'i chael ac yn parhau i'w chael ar wasanaethau'r Cyngor, mae 87% o'r DP Iechyd Corfforaethol yn parhau i berfformio'n dda yn erbyn targedau. Mae'r perfformiad o ran rheoli absenoldeb staff wedi rhagori ar y targed ac mae'n un o'r ychydig feysydd lle mae effaith Covid-9 wedi arwain at welliannau. Er bod yr holl ddangosyddion o dan yr is-bennawd gwasanaethau digidol wedi gweld perfformiadau sydd wedi rhagori ar ganlyniadau blynyddol blaenorol yn ystod y pandemig roedd nifer y taliadau ar-lein a wnaed ar gyfer y tâl newydd am gasglu gwastraff gwyrdd yn siomedig ac yn ei dro arweiniodd at bwysau sylweddol ar system ffôn y Cyngor yn ystod cyfnodau ym mis Mawrth, 2021. Byddwn yn dysgu gwersi yn sgil y profiad. Bydd Cyswllt Môn, derbynfa’r Cyngor, yn ailagor i'r cyhoedd ar sail apwyntiad yn unig o 28 Mehefin 2021. Mae sefyllfa ariannol y Cyngor yn gadarn ar ôl dod â'r flwyddyn i ben gyda sefyllfa o danwariant, yn bennaf oherwydd y cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru i dalu am gostau'n gysylltiedig â pandemig ac incwm a gollwyd.

 

Gorffennodd yr Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol ei gyflwyniad i'r adroddiad drwy dalu teyrnged i holl staff y Cyngor sydd, yn ogystal â helpu'r Cyngor i ymateb i'r pandemig, wedi cynnal lefelau perfformiad ym musnes y Cyngor o ddydd i ddydd wrth orfod addasu'n gyflym i amgylchedd gwaith sydd wedi newid mewn blwyddyn eithriadol o heriol. Cynigiodd y dylid cofnodi gwerthfawrogiad y Pwyllgor Gwaith yn ffurfiol.

Cytunodd Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid fod 2020/21 wedi bod yn flwyddyn anodd ond bod staff wedi ymateb i'r heriau a ddaeth yn ei sgil; bydd y Cyngor yn defnyddio ei brofiadau o ddelio â'r pandemig a'r heriau y mae wedi'u hwynebu yn ystod y flwyddyn i symud ymlaen i'r normal newydd.

 

Adroddodd Rheolwr Sgriwtini ar brif bwyntiau trafod cyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 7 Mehefin 2021 a fu’n craffu ar adroddiad cerdyn sgorio Chwarter 4 2020/21. Cydnabu'r Pwyllgor Sgriwtini fod y Cyngor wedi perfformio'n dda o dan yr amgylchiadau a bod hynny i’w briodoli i ymdrechion staff ac arweiniad ac arweinyddiaeth Uwch Reolwyr; nododd y Pwyllgor, lle'r oedd perfformiad wedi bod yn is na'r targed, mai'r rheswm  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Monitro’r Gyllideb Refeniw - Chwarter 4, 2020/21 pdf eicon PDF 683 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 oedd yn nodi perfformiad ariannol y Cyngor hyd yma a'r alldro disgwyliedig ar gyfer 2020/21 i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid yr adroddiad oedd yn tynnu sylw at y ffaith bod sefyllfa ariannol gyffredinol y Cyngor ar gyfer 2020/21, gan gynnwys Cyllid Corfforaethol a chronfa'r Dreth Gyngor, yn danwariant o £4.204m oherwydd effaith pandemig Covid 19 ar ddarparu gwasanaethau arferol a'r cymorth ariannol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i helpu cynghorau i ddelio â'r pandemig. Mae'r canlyniad hwn yn cyd-fynd yn bennaf â sefyllfa cynghorau eraill Gogledd Cymru sydd, am yr un rhesymau, yn bennaf oherwydd cyllid hwyr gan Lywodraeth Cymru, wedi nodi tanwariant ar ddiwedd Chwarter 4.  Mae'r tanwariant yn golygu bod balansau cyffredinol y Cyngor yn £11.6m ac er bod hon yn sefyllfa iach iawn i fod ynddi, byddai'n annoeth ei defnyddio fel cyfle i wario fel y mynnwn; bydd y broses adolygu gwasanaethau yn dechrau cyn bo hir a bydd gofynion a dyheadau pob gwasanaeth yn cael eu hystyried yn ogystal â'r opsiynau ariannol. Mae'r rhagolygon o ran pa mor hir y bydd pandemig y Coronafeirws yn para a beth fydd ei effaith ar gyllidebau'r Cyngor yn parhau i fod yn ansicr yn ogystal â pharhad a lefel cymorth ariannol Llywodraeth Cymru, felly mae angen cadw digon o arian wrth gefn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 nad yw blwyddyn ariannol 2020/21 wedi bod yn flwyddyn arferol gan fod Covid 19 wedi cael effaith sylweddol ar gyllid y Cyngor. Mae'r gefnogaeth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru - £6m i dalu costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â Covid a £2.6m ar gyfer colli incwmi'w groesawu'n fawr, heb y cymorth hwn byddai sefyllfa ariannol y Cyngor wedi bod yn llawer gwaeth - tua £4m o orwariant. Balansau cyffredinol y Cyngor ar ddiwedd y flwyddyn yw £11.6m sy'n cyfateb i 8% o'i wariant refeniw net sy'n fwy na'r lefel isaf o 5% wrth gefn y cytunwyd arni gan y Cyngor. Bydd sut y gellir defnyddio'r balansau yn destun trafodaeth ond rhaid cofio bod ansicrwydd o hyd ynghylch effaith Covid 19 ar gyllidebau eleni yn ogystal â lefel y galw ar wasanaethau wrth i gyfyngiadau gael eu codi a allai arwain at wasanaethau’n gorwario a byddai'n rhaid talu am y gorwariant wedyn o'r balansau cyffredinol.

 

Gan gyfeirio at y gostyngiad yn incwm y Dreth Gyngor ar gyfer 2020/21 tynnodd y Swyddog Adran 151 sylw at drosglwyddo eiddo domestig i eiddo hunanarlwyo ar y gofrestr Ardrethi Busnes fel ffactor sy'n cyfrannu'n sylweddol - newidiodd tua 200 o eiddo o'r fath o Dreth Gyngor ddomestig i ardrethi busnes yn ystod y flwyddyn. Gellir ôl-ddyddio'r trosglwyddiadau hyn nifer o flynyddoedd sy'n golygu bod y Cyngor nid yn unig yn colli Treth Gyngor y flwyddyn gyfredol ond rhaid iddo ad-dalu unrhyw daliadau yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Alldro Cyfalaf 2020/21 pdf eicon PDF 451 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 yn nodi perfformiad ariannol y Gyllideb Gyfalaf ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/21, yn amodol ar archwiliad i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Fel gyda blynyddoedd blaenorol, dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, fod tanwariant yn y Gyllideb Gyfalaf ar gyfer 2020/21, ac nad yw'n anarferol pan fo prosiectau cymhleth mawr yn rhan ohoni. Fodd bynnag, mae lefel y tanwariant yn 2020/21 yn sylweddol (43% o'r arian sydd ar gael) ac mae i'w briodoli i effeithiau pandemig Covid 19 a'r cyfyngiadau symud cenedlaethol a gyflwynwyd ar ddechrau blwyddyn ariannol 2020/21 a arweiniodd at ohirio gwaith a chynlluniau cyfalaf. Ym mhob achos, sicrhawyd y cyllid ar gyfer prosiectau a chaiff ei gario ymlaen i 2021/22 heb golli adnoddau i'r Cyngor.

 

Ymhelaethodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 ar y rhesymau dros y tanwariant gan gyfeirio at gynlluniau unigol fel y crynhoir yn y tabl ym mharagraff 2.2 o'r adroddiad sy'n dangos lefel y tanwariant ar bob cynllun a sylwadau ar eu statws. Mae pandemig y Coronafeirws wedi effeithio ar gynnydd, yn enwedig o ran datblygu tai lle mae gofynion cadw pellter cymdeithasol a rheoliadau eraill yn gysylltiedig â Covid wedi amharu ar waith adeiladu a gwaith cynnal a chadw a gynlluniwyd.  Er y cyflawnwyd elfen o ddal i fyny yn chwarter olaf 2020/21, nid oedd yn ddigon i wneud iawn am y tri mis a gollwyd ar ddechrau'r flwyddyn. Mae oedi wrth gwblhau cynigion ar gyfer moderneiddio ysgolion yn ardal Llangefni hefyd wedi cyfrannu at y tanwariant,  hefyd yr oedi wrth ddarparu cerbydau gwastraff newydd sydd wedi golygu na phrynwyd y cerbydau fflyd i gyd cyn diwedd y flwyddyn. Mae llawer o'r cynlluniau cyfalaf yn cael eu hariannu gan grantiau ac er gwaethaf y diffyg cynnydd ar rai o'r cynlluniau ni chollwyd unrhyw arian grant ond yn hytrach bydd yn parhau i 2021/22. Bydd y wybodaeth ddiweddaraf am Strategaeth Rheoli'r Trysorlys yr Awdurdod yn cael ei chyflwyno maes o law i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ac wedi hynny i'r Pwyllgor Gwaith a bydd yn adlewyrchu effaith tanwariant y gyllideb gyfalaf ar reolaeth y Cyngor o'i weithgarwch arian parod a benthyca.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid, fod y Panel, wrth graffu ar adroddiad alldro'r gyllideb gyfalaf, wedi gofyn, er mwyn hwyluso gwariant cyfalaf, a fyddai’n bosibl cyflwyno amserlen pennu'r gyllideb gyfalaf yn gynt, yn enwedig gan fod llawer o gynnwys y rhaglen gyfalaf yn hysbys ymlaen llaw; byddai dechrau’n gynharach yn caniatáu i dendrau gael eu cytuno'n gynt ac i’r gwaith fynd rhagddo ar adeg wahanol fwy ffafriol o'r flwyddyn a thrwy hynny wella'r tebygolrwydd y bydd prosiectau'n cadw at yr amserlen.

 

Penderfynwyd

 

·        Nodi sefyllfa alldro ddrafft Rhaglen Gyfalaf 2020/21 sy’n destun archwiliad, a

·        Chymeradwyo cario ymlaen £11.898m i 2021/22 ar gyfer y tanwariant ar y rhaglen  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Monitro'r Gyllideb CRT – Alldro 2020/21 pdf eicon PDF 466 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 oedd yn nodi perfformiad ariannol Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill, 2020 a 31 Mawrth, 2021 i’r Pwyllgor Gwaith ei ystyried.

 

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid fod yr alldro ariannol refeniw yn dangos tanwariant o £557k a bod gwariant cyfalaf £6.410m yn is na'r gyllideb wreiddiol gan fod y pandemig, fel yr adroddwyd yn flaenorol, wedi effeithio'n ddifrifol ar gynnydd prosiectau cyfalaf.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 fod yr alldro cyffredinol ar gyfer incwm £153k yn well na'r gyllideb yn bennaf oherwydd y gostyngiad yn y ddarpariaeth ar gyfer dyledion drwg. Roedd tanwariant o £138k yn yr Uned Cynnal a Chadw Tai o ganlyniad uniongyrchol i sefyllfa Covid 19 gan mai dim ond atgyweiriadau hanfodol oedd yn cael eu gwneud; roedd gwariant cynnal a chadw ar wahân i waith trwsio £152k yn uwch na’r gyllideb o ganlyniad i'r eitemau a nodir ym mharagraff 6 o'r adroddiad. Rhoddodd y gyllideb refeniw warged o £8.39m sy'n uwch na'r gwarged arfaethedig o £7.8m pan gytunwyd ar y gyllideb. Roedd gwariant cyfalaf wedi gostwng tua £7.6m; mae'r gwariant is wedi caniatáu i £1.145m gael ei ychwanegu at gronfa'r CRT gan godi'r cyfanswm i £9.742m. Mae'r balans hwn wedi'i neilltuo felly mae ar gael i ariannu gwariant CRT yn y dyfodol gan gynnwys datblygiadau tai cyngor newydd yn y presennol a'r dyfodol. Felly, mae'r CRT mewn sefyllfa gadarn ac mae cronfa'r CRT yn rhoi cyfle i ychwanegu at y stoc dai; unwaith y bydd y gronfa wrth gefn wedi'i gostwng i lefel y cyllid y mae angen i'r Cyngor ei gynnal, gall y Cyngor wedyn arfer ei hawl i fenthyca yn erbyn y CRT i barhau â'i gynlluniau adeiladu tai.

 

Dywedodd y Cynghorydd Alun Mummery, Aelod Portffolio Tai a Chefnogi Cymunedau ei fod yn falch o weld bod y ffigur ar gyfer ôl-ddyledion rhent yn mynd i'r cyfeiriad cywir er gwaethaf y pandemig, a'i fod yn edrych ymlaen at barhau i ddatblygu tai newydd i'r dyfodol gan ddefnyddio dulliau arloesol i gynorthwyo'r rhai mewn angen a'r rhai sy’n prynu tai am y tro cyntaf.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid, er nad oedd y Panel wedi craffu’n ffurfiol ar gyllideb y CRT, ei fod wedi trafod cyfraddau casglu a'r goblygiadau i'r gyllideb refeniw.

 

Penderfynwyd nodi’r sefyllfa mewn perthynas â pherfformiad ariannol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) am y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Mawrth, 2021.

9.

Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaethau Cyhoeddus 2000 pdf eicon PDF 249 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) a Chyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc ynghylch effaith Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus 2000 (PSVAR) ar werthu seddi gwag ar gludiant ysgol a choleg i'r Pwyllgor Gwaith ei ystyried. Mae'r adroddiad yn nodi sut y mae'r Awdurdod yn bwriadu mynd i'r afael ag effaith y rheoliadau ar ei ddarpariaeth cludiant o'r cartref i'r ysgol.

 

Dywedodd y Cynghorydd R.G. Parry, OBE, FRAgs, Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo fod PSVAR, o 1 Ionawr 2020, yn berthnasol i bob bws gyda dros 22 sedd ac yn ei gwneud yn ofynnol i gerbydau fod yn hygyrch i bobl anabl. Cynigiodd yr Adran Drafnidiaeth dystysgrif eithrio i eithrio cerbydau o'r rheoliadau hynny tan 1 Ionawr, 2022; mae gan yr Awdurdod dystysgrif eithrio ar gyfer ei fysiau ysgol sy'n gwerthu dros 20% o'r seddi sydd ar gael tan ddiwedd mis Gorffennaf a thystysgrif eithrio tan ddiwedd 2021 ar gyfer y gweddill. Ar gyfartaledd amcangyfrifir bod yr incwm a gynhyrchir drwy docynnau bws tua £66,000 y flwyddyn (yn seiliedig ar y blynyddoedd rhwng 2014/15 a 2019/20). Mae ymholiadau a wnaed gyda rhai o'r gweithredwyr bysiau ysgol ar Ynys Môn yn dangos y byddai'n costio rhwng £5,000 a £7,000 y flwyddyn fesul contract i fodloni'r rheoliadau; byddai'n rhaid trosglwyddo'r gost hon i'r Awdurdod ar gyfer pob contract a ddyfynnir. Yn seiliedig ar y ffigurau hyn, byddai tendro'r 54 contract presennol ar Ynys Môn yn creu cost flynyddol ychwanegol o rhwng £270,000 a £378,000. Fodd bynnag, byddai peidio â chodi ffi yn golygu y gellir ymestyn y trefniadau presennol gyda gweithredwyr bysiau tan fis Hydref 2022 pan fyddai angen ail-dendro beth bynnag oherwydd hyd y contractau presennol. Gan na fyddai taliad yn newid dwylo, ni fyddai'r rheoliadau'n berthnasol.

 

Tynnodd yr Aelod Portffolio sylw at y ffaith y gallai peidio â chodi ffi olygu y byddai myfyrwyr ychwanegol o bosibl yn dymuno defnyddio'r ddarpariaeth. Mae'r adroddiad yn rhoi crynodeb o nifer y seddi ar fysiau a nifer y disgyblion sy'n mynychu ysgolion uwchradd ar Ynys Môn. Mae'r Awdurdod yn bwriadu rheoleiddio'r sefyllfa drwy sicrhau bod pob disgybl cymwys yn cael tocyn bws y byddai'n gorfod ei ddangos er mwyn teithio. I'r perwyl hwn mae'r Awdurdod yn ystyried opsiynau ar gyfer cyflwyno system tocynnau bws.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth (Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo) mai'r meddylfryd i ddechrau ledled Cymru a Lloegr oedd na fyddai contractau bysiau ysgol caeedig yn dod o fewn cwmpas y PSVAR ond yn ystod haf 2019 cadarnhaodd yr Adran Drafnidiaeth y byddai'r rheoliadau'n gymwys i unrhyw wasanaeth lle telir am deithio, boed hynny'n uniongyrchol i'r gyrrwr neu drwy'r Awdurdod Lleol – mae gan yr Awdurdod dystysgrif eithrio tan fis Ionawr, 2022. Ar gyfer disgyblion ag anghenion arbennig, mae'r Awdurdod ar hyn o bryd yn darparu cludiant mewn tacsi o gartref y disgybl i fuarth y sefydliad addysgol y mae'r disgybl yn ei fynychu rhag effeithio ar ei allu i gael mynediad at addysg. Bydd y cynnig yn weithredol am flwyddyn ac ar ôl hynny caiff ei adolygu;  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 220 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd amgaeëdig.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, penderfynwyd gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd.

 

11.

Cynllun Adfywio (hen safle ysgol a Llyfrgell Caergybi)

I gyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygiad Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd oedd yn nodi'r sefyllfa a'r cynnydd presennol o ran ail-ddatblygu hen safle'r ysgol a'r llyfrgell, Caergybi i'w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor Gwaith fod hen safle Ysgol y Parc a'r Llyfrgell yn ymestyn i 4.1 erw ar gyrion Canol Tref Caergybi. Cwblhawyd y gwaith o ddymchwel hen adeiladau'r ysgol a'r llyfrgell yn haf 2020, mae’r safle bellach yn adfeiliedig a ffensys o’i gwmpas i’w ddiogelu. Ar ôl sicrhau cyllid Buddsoddi mewn Adfywio a Dargedir gan Lywodraeth Cymru, comisiynwyd ymgynghorwyr allanol gan y Gwasanaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd i baratoi uwchgynllun cychwynnol ar gyfer y safle er mwyn nodi opsiynau posibl ar gyfer ei ailddatblygu'n llawn gan ganolbwyntio ar greu swyddi, cyfleoedd, mewnfuddsoddi ac adfywio safle pwysig yng nghanol trefi. Mae'r broses hon wedi'i gohirio gan bandemig Covid 19; felly mae'r adroddiad yn rhoi crynodeb o'r cynnydd a wnaed hyd yma ac yn nodi'r ystyriaethau sy'n gysylltiedig â datblygu'r gweithgareddau datblygu ychwanegol pellach a nodwyd yn yr adroddiad.

 

Mae'r Pwyllgor Gwaith wedi ystyried yr adroddiad ac wedi cytuno â'r argymhellion ar gyfer symud ymlaen.

 

Penderfynwyd bwrw ymlaen yn unol â’r argymhellion yn yr adroddiad.