Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 01248 752516
Rhif. | Eitem | ||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cadeirydd Ethol Cadeirydd i’r Pwyllgor Grantiau Cyffredinol. Cofnodion: Ail-etholwyd Mr. Jeff Evans yn Gadeirydd.
Diolchodd i’r Aelodau am eu hyder ynddo.
|
|||||||||||||||||||
Is-Gadeirydd Ethol Is-Gadeirydd i’r Pwyllgor Grantiau Cyffredinol. Cofnodion: Ail-etholwyd Mr. Jim Evans yn Is-Gadeirydd.
|
|||||||||||||||||||
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Datganodd Mr. Lewis Davies ddiddordeb yng nghais 29 - Canolfan Gymunedol Llanfaes a chais 45 - Cae Chwarae Llangoed. Gadawodd Mr. Davies y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r pleidleisio ar y ceisiadau.
Datganodd Mr. Peter S. Rogers ddiddordeb yng nghais 18 - Institiwt Pritchard Jones Cyf., cais 20 - Malltraeth Ymlaen Cyf., a chais 40 - Ysgol Parc y Bont - Cymdeithas Rhieni Athrawon. Arhosodd Mr. Rogers yn y cyfarfod ond ni chymerodd ran yn y drafodaeth a’r pleidleisio ar y ceisiadau.
|
|||||||||||||||||||
Cofnodion Cyfarfod 9 Gorffennaf, 2013 PDF 229 KB Bydd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Grantiau Cyffredinol a gynhaliwyd ar 9 Gorffennaf, 2013 yn cael eu cyflwyno. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 9 Gorffennaf, 2013. |
|||||||||||||||||||
Grantiau Blynyddol 2014/15 PDF 319 KB Cyflwyno adroddiad y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod. (Adroddiad Hwyr) Cofnodion:
Cyflwynwyd – adroddiad ar ran y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.
Dywedwyd mai pwrpas yr adroddiad oedd ystyried ceisiadau oedd yn berthnasol i Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn. Gwneir y dyraniadau yn flynyddol o Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn i’r categorïau canlynol o brosiectau:-
· Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon (prosiectau cyfalaf bychan) · Grantiau Eraill (yn bennaf grantiau bychan unwaith yn unig)
Yn ei gyfarfod ar 24 Ebrill, 2014 penderfynodd yr Ymddiriedolaeth Elusennol lawn i awdurdodi’r Pwyllgor hwn i gymeradwyo’r holl geisiadau a dderbyniwyd erbyn yr amser cau ac a oedd yn cydymffurfio â meini prawf cyllido’r Ymddiriedolaeth heb ragfarn i unrhyw benderfyniadau mewn blynyddoedd i ddod a bod rhan o’r gronfa gyfalaf yn cael ei defnyddio i’r pwrpas hwn pe bai angen hynny. Dywedodd yr Ysgrifennydd bod 5 cais wedi ei dderbyn ar ôl y dyddiad cau i dderbyn ceisiadau am grant. Roedd Aelodau’r Pwyllgor o’r farn na ddylid ystyried y ceisiadau hyn.
Roedd y Swyddogion perthnasol o’r adrannau penodol wedi ystyried ac wedi blaenoriaethu’r ceisiadau a dderbyniwyd i’r graddau y gellid gwneud hynny ac yn gyson â phenderfyniadau’r Ymddiriedolaeth, y meini prawf a sefydlwyd mewn blynyddoedd blaenorol ac o fewn swm y cyllid oed ar gael i bob dyraniad. Roedd argymhellion y Swyddogion i’w gweld yn Atodiadau A a B oedd ynghlwm wrth yr adroddiad. Roedd system gyfeirio ar y cyd wedi ei defnyddio ar gyfer y grantiau a roddwyd gerbron y pwyllgor hwn ac am geisiadau grant i Gronfa’r Eglwys yng Nghymru; bydd unrhyw fylchau yn y rhifau cyfeirnod wedi eu hachosi oherwydd i’r grantiau hynny gael eu rhoi ymlaen i Gronfa’r Eglwys yng Nghymru yn hytrach nag i’r Ymddiriedolaeth. Nodwyd bod y ceisiadau yn cael eu hystyried yn unol â’r ‘Meini Prawf ar gyfer Dyrannu Grantiau gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol’ gyda chopi ohono ynghlwm fel Atodiad C i’r adroddiad.
Roedd y ceisiadau a dderbyniwyd a’r symiau a argymhellwyd ar gyfer Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon – Grantiau Cyfalaf am 2014/15 fel a ganlyn:-
|