Cofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Proposed venue: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs. Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ethol Cadeirydd

Cofnodion:

Etholwyd Mr. Jeff Evans yn Gadeirydd.

Diolchodd i’r Aelodau am eu hyder ynddo

2.

Ethol Is-Gadeirydd

Cofnodion:

Etholwyd Mr. Jim Evans yn Is-Gadeirydd.

3.

Datganiad o Ddiddordeb

Cofnodion:

Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan Mr. Richard Dew mew perthynas â chais 23 – Chwarae Cymunedol Rhosneigr.  Mae hefyd yn aelod o Bwyllgor y Neuadd Bentref.

Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan Mr. Jim Evans mewn perthynas â chais 17 – Clwb Bowlio Tref Biwmares.

Cafwyd datganiad o ddiddordeb gan Mr. Peter Rogers mewn perthynas â chais 1 - Clwb hwyl ar ôl ysgolParc y Bont, Llanddaniel.

4.

Grantiau Blynyddol 2013/14

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad ar ran y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.

Adroddwyd mai pwrpas yr adroddiad oedd ystyried y ceisiadau hynny sy’n berthnasol i Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn.  Gwneir dyraniadau yn flynyddol o Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn i’r mathau canlynol o brosiectau :-

·         Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon (grantiau cyfalaf bach)

·         Grantiau Eraill (grantiau bychain unwaith ac am byth yn bennaf)

Yn ei gyfarfod ar 23 Ebrill, 2013, cymeradwyodd yr Ymddiriedolaeth lawn swm o £50,000 i’r Panel Grantiau i’w ddyrannu i’r categorïau arferol.

Mae’r swyddogion perthnasol o’r gwahanol adrannau wedi ystyried a blaenoriaethu’r ceisiadau a dderbyniwyd, cyn belled ag y bo modd ac yn gyson gyda phenderfyniadau’r Ymddiriedolaeth, amodau a sefydlwyd yn y gorffennol ac o fewn y swm sydd ar gael i’w ddyrannu.  Mae argymhellion y swyddogion i’w gweld yn Atodiadau A a B oedd ynghlwm i’r adroddiad.  Mae’r ceisiadau yn cael eu hystyried yn unol â’r ‘Amodau ar gyfer dosbarthu grantiau o Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn’ ac yr oedd copi ynglwm fel Atodiad C i’r adroddiad.

Nodwyd bod un cais arall sy’n llai syml ac sydd heb ei gynnwys yn y crynodeb uchod ond y byddai efallai’n werth ei gefnogi.  Y cais oedd  :-

Cais Rhif 11             -           Canolfan Hamdden Biwmares a’r Cylch: (Mae rhedeg y ganolfan wedi ei drosglwyddo’n ddiweddar o Gyngor Sir Ynys Môn, ynghyd â’r offer y maent yn dymuno’i ailosod).

Roedd yr Aelodau o’r farn y dylid neilltuo swm o £2,352 (grant sy’n cyfateb i 80% o gyfanswm y gost) i’r sefydliad gan eu bod yn teimlo fod yr achos yn haeddu cefnogaeth yr Ymddiriedolaeth Elusennol.

PENDERFYNWYD rhyddhau swm o £2,352 i Ganolfan Hamdden Biwmares a’r Cylch.

Roedd y ceisiadau a dderbyniwyd a’r symiau a argymhellwyd i’w dyrannu ar gyfer Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon yn 2012/13 fel a ganlyn :-

1.   Clwb Hwyl ar ôl ysgol –Parc y Bont, Llanddaniel

 

 

Eu galluogi i gynnal gweithdai

i ddifyrru’r plant

 

(DIM)

(Ni fedrir cyllido costau rhedeg ac nid yw’r Ymddiriedolaeth wedi cefnogi clybiau ar ôl ysgol yn y gorffennol)

2.   Groundwork Gogledd Cymru (ar ran Grŵp Lleiniau Garddio Benllech)

I brynu twneli tyfu planhigion a chyfarpar

(£1,922)

(Mae Groundwork Gogledd Cymru wedi cynorthwyo i sefydlu Grŵp Lleiniau Garddio Benllech.  Deellir mai Grŵp Lleiniau Garddio Benllech fyddai berchen y cyfarpar).

14.  Clwb Pêl-droed Bae Cemaes

Darparu lloches ddiogel rhag y tywydd i wylwyr ac adnewyddu’r ffens sydd wedi rhydu yn yr ardal i wylwyr ym mhen gogleddol y safle

(£4,337)

(Teimlir y byddai hyn yn gwella ymarferoldeb a diogelwch y cyfleusterau)

 

17.  Clwb Bowlio Tref Biwmares

Gwneud gwaith ar yr ardal o gwmpas y lawnt fowlio a phrynu peiriant torri gwair.

(Byddai’r gwaith ar yr ardal o gwmpas y lawnt fowlio yn golygu adnewyddu pren sydd wedi pydru.  Bydd gwirfoddolwyr yn gosod y pren newydd a byddai’r grant felly’n mynd tuag at y deunyddiau’n unig.  Rhoddodd yr Ymddiriedolaeth hon grant tebyg i Glwb Bowlio Llanfairpwll yn 2011/12. 

Mae’r peiriant torri gwair yn 18 oed ac mae angen un newydd. Ni dderbyniwyd dyfynbrisiau cymharol. £4,150 a  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.