Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Fe wnaeth Mr. Dylan Rees ddatgan diddordeb yng nghyswllt cais 09 – Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru gan ei fod yn ‘Gyfaill i Gymdeithas Gwiwerod Coch Ynys Môn’.  Ni wnaeth y Cynghorydd Rees gymryd rhan yn y drafodaeth ar y cais.

 

Fe wnaeth y Rheolwr Gwasanaethau Cyfrifeg ddatgan diddordeb yng nghyswllt cais 46 – Clwb Plant Bach, Llangefni ac ni wnaeth gymryd rhan yn y drafodaeth ar y cais.

 

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 83 KB

Bydd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Grantiau Cyffredinol a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf, 2014 yn cael eu cyflwyno.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf 2014.

 

3.

Grantiau Blynyddol 2015/16 pdf eicon PDF 384 KB

Cyflwyno adroddiad y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad ar ran y Trysorydd yng nghyswllt yr uchod.

 

Adroddwyd mai pwrpas yr adroddiad oedd ystyried ceisiadau sy’n berthnasol i Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn.  Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn yn dyrannu arian yn flynyddol i brosiectau yn y categorïau a ganlyn:-

 

·         Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon (prosiectau cyfalaf bach)

·         Grantiau eraill (grantiau bychain unwaith ac am byth yn bennaf)

 

Yng nghyfarfod yr Ymddiriedolaeth Elusennol lawn a gynhaliwyd ar 20 Ionawr 2015, penderfynwyd dirprwyo cyllideb o £125,000 i’r Pwyllgor hwn ar gyfer y rhaglen grantiau blynyddol.  Penderfynodd yr Ymddiriedolaeth lawn hefyd y dylid cynyddu cyfyngiad y grant yng nghyswllt Grantiau Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon o £6,000 i £8,000.  Mae cyfyngiad ar gyfer grantiau bychain yn aros ar £1,000 ac mae’r terfyn cyllido uchaf i bob grant yn aros ar 80%.  Fodd bynnag, yn ei gyfarfod ar 21 Ebrill 2015, penderfynodd yr Ymddiriedolaeth lawn roi hyblygrwydd i’r Pwyllgor hwn gynyddu’r terfyn uchaf a chyfradd y ganran gefnogaeth yn wyneb y ceisiadau a dderbynnir.

 

Mae’r swyddogion perthnasol o Gyngor Sir Ynys Môn wedi ystyried a blaenoriaethu’r ceisiadau a dderbyniwyd cyhyd â phosib ac yn gyson â phenderfyniadau a meini prawf yr Ymddiriedolaeth a sefydlwyd yn y blynyddoedd blaenorol.  Mae argymhellion y swyddogion i’w gweld yn Atodiadau A a B sydd ynghlwm yn yr adroddiad.  Caiff y ceisiadau hyn eu hystyried yn unol â’r meini prawf ar gyfer dyrannu grantiau o Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn, ac roedd copi o hwn ynghlwm fel Atodiad C i’r adroddiad.

 

Mae’r ceisiadau a dderbyniwyd a’r symiau a argymhellwyd ar gyfer Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon – Grantiau Cyfalaf 2015/16 fel a ganlyn :-

 

01

Clwb Pêl-droed Llangoed

Adnewyddu ystafelloedd newid         

£5,469

(Cymeradwyo’r grant uchod, mewn egwyddor, yn amodol ar dderbyn cyfrifon wedi eu harchwilio ac ar foddhad Swyddogion y Cyngor ynghylch sefyllfa ariannol y Clwb o fewn cyfnod o 2 fis)

 

02

Canolfan Gymuned David Hughes

Uwchraddio cegin a’r ystafell gyfagos

70% o’r gost cymwys, hyd at £2,715

 

(Cymeradwyo’r grant uchod, mewn egwyddor, yn amodol ar dderbyn amcanbrisiau pellach o fewn cyfnod o 2 fis)

 

04

Cyngor Plwyf Llangristiolus a Cherrigceinwen

 

Creu Cae Chwarae

£8,000

05

Cyngor Cymuned Llanfairpwllgwyngyll

Gwaith paratoi angenrheidiol ar gyfer neuadd newydd

DIM

 

(Mae’r arian a geisir ar gyfer gwaith paratoi ac mae risg na fyddai’r prosiect yn mynd yn ei flaen fel y disgwylir).

 

06

Canolfan Goffa Gymunedol Porthaethwy

 

Adnewyddu’r bwyler gwres

£2,968

07

Ffederasiwn Pysgotwyr Môr Cymru

Cefnogaeth i berson ifanc talentog lleol gyda chostau cystadlu ym Mhencampwriaethau’r DU

DIM

 

(Cynhaliwyd y gystadleuaeth cyn y cyfarfod hwn, felly nid yw’n gymwys)

 

08

Clwb Pêl-droed Pentraeth

Darparu draen cerrig i atal dŵr rhag mynd ar y cae

 

DIM

10

CRhA Ysgol Esceifiog

Prynu popty i’w roi ar ben bwrdd ac offer i roi profiad i ddisgyblion CA1 a CA2 ddysgu am fwyd, bwyta’n iach a pharatoi bwyd.

DIM

 

(Nid yw’r Ymddiriedolaeth yn cefnogi ysgolion, felly nid yw’r cais yn gymwys)

 

12

Pwyllgor Cae Chwarae Bodffordd

Atgyweirio arwyneb llawr diogelwch, prynu seddi a bin sbwriel

70% o’r gost gymwys hyd at £1,428  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.