Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ethol Cadeirydd

Ethol Cadeirydd.

Cofnodion:

Etholwyd Mr Vaughan Hughes yn Gadeirydd.

2.

Ethol Is-gadeirydd

Ethol Is-gadeirydd.

Cofnodion:

Etholwyd Mrs Margaret M Roberts yn Is-gadeirydd.

3.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Gwnaeth Mr Lewis Davies ddatganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 038 (Cyngor Cymuned Llangoed a Phenmon) ac ni chymerodd unrhyw ran yn ystod y drafodaeth a’r bleidlas ar y cais hwn.

 

Gwnaeth Mr T Ll Hughes MBE, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn ddatganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 033 (TreseifionCymdeithas Cae Cybi) ac ni chymerodd unrhyw rhan yn y drafodaeth ar y cais.

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 83 KB

Cyflwyno cofndion y cyfarfod a gafwyd ar 12 Gorffennaf, 2017.

(Cofnodion wedi cael eu cadarnhau gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn yn ei gyfarfod a gafwyd ar 19 Gorffennaf, 2017).

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf, 2018.

 

(Nodwyd y cofnodion gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol lawn yn ei chyfarfod ar 19 Gorffennaf, 2017).

5.

Grantiau Blynyddol 2018/19 pdf eicon PDF 185 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.

 

Dywedwyd mai pwrpas yr adroddiad oedd ystyried y ceisiadau a oedd yn berthnasol i Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn. Dyrennir arian yn flynyddol ar gyfer prosiectau yn y categorïau canlynol:

 

·       Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon (prosiectau cyfalaf bychan)

·       Grantiau Eraill (grantiau unwaith ac am byth yn bennaf)

 

Yn ei gyfarfod ar 24 Ionawr 2018, penderfynodd yr Ymddiriedolaeth lawn ddirprwyo cyllideb o £125,000 i’r Pwyllgor hwn ar gyfer y rhaglen grantiau blynyddol.  Yn ogystal, penderfynodd yr Ymddiriedolaeth lawn yn ei gyfarfod ar 13 Medi 2016 i ddirprwyo awdurdod i’r Pwyllgor Grantiau Cyffredinol i gymeradwyo ceisiadau Grantiau Bychan a, felly, dim ond rhaid nodi cofnodion y Pwyllgor Grantiau Cyffredinol bydd rhaid i’r Ymddiriedolaeth Elusennol lawn ei wneud o hyn ymlaen. Uchafswm y grant mewn perthynas a Grant Cyfleusterau’r Gymuned a Chwaraeon yw £8,000 a hyd at 70% o’r gost gymwys. Fodd bynnag, yn ei gyfarfod ar 21 Ebrill 2011, penderfynodd yr Ymddiriedolaeth lawn i roi hyblygrwydd i’r Pwyllgor hwn godi’r uchafswm a’r gyfradd o gefnogaeth yn wyneb y ceisiadau a ddeuai i law. 

 

Mae swyddogion perthnasol o fewn Cyngor Sir Ynys Môn wedi ystyried a blaenoriaethu'r ceisiadau a dderbyniwyd, cyn belled ag y bo modd ac yn gyson gyda phenderfyniadau'r Ymddiriedolaeth a meini prawf a sefydlwyd yn y gorffennol. Mae system gyfeirio ar y cyd wedi cael ei sefydlu ar gyfer y ddau fath o grantiau a gyflwynwyd i’r Pwyllgor hwn ac ar gyfer ceisiadau am arian o Gronfa’r Degwm; bydd unrhyw fylchau yn y cyfeirnodau i’w priodoli i’r ffaith bod y grantiau hynny wedi cael eu cyflwyno i Gronfa’r Degwm yn hytrach na’r Ymddiriedolaeth hon.

 

Cafodd y ceisiadau eu hystyried yn unol â'r 'Meini Prawf ar gyfer Dosbarthu Grantiau o Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn', ac roedd copi yn Atodiad C yr adroddiad.

 

Dyma’r ceisiadau a dderbyniwyd a’r symiau a argymhellwyd ar gyfer Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon 2018/19 :-

 

001 – 3DKids Môn/Anglesey               

I gynnal gweithgareddau ar gyfer plant gydag anableddau a’u teuluoedd

DIM

 

(wedi derbyn grant i’r un pwrpas yn 2016/17)

002 – Music in Hospitals and Care

I ran gyllido cerddoriaeth ac atgofion.

 

Cyfres blwyddyn o gyngherddau byw dwyieithog i ddod â llawenydd a chynyddu atgofion ar gyfer yr henoed a phobl ynysig sy’n byw mewn cartrefi preswyl ar yr Ynys

£5,468

005 - Clwb Pêl Droed Bae Trearddur

Gwella a chynnal a chadw y tiroedd

DIM

(wedi derbyn grant yn 2016/17)

006 – Roberts & Susan Howe

Gwneud ochrau ffyrdd yn fwy deniadol

DIM

(dim yn gymwys oherwydd mai cais gan unigolion yn hytrach na sefydliad ydyw)

007 – Sefydliad Pritchard Jones

I brynu byrddau ar gyfer cynnal amrywiaeth o weithgareddau

£618

008 – Ynys Môn Ramblers

Prynu offer ac eitemau diogelwch cysylltiedig

£1,522

(ar yr amod y derbynnir ail ddyfynbris ar gyfer y gwaith)

 

009 - Ffedarasiwn Sefydliad y Merched Môn

Addurno tu mewn a tu allan i’r neuadd a’r amgueddfa ynghyd â deunydd marchnata

£644

(tuag at gost y deunydd marchnata yn unig. Nid yw’r Ymddiriedolaeth wedi cefnogi costau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.