Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Grantiau Cyffredinol - mae’r cronfeydd elusennol yn cael eu gweinyddu’n awr gan elusen gofrestredig breifat, Y Gymdeithas, ac nid yw’r Cyngor Sir bellach yn ymddiriedolwr. - Dydd Mercher, 10fed Gorffennaf, 2019 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddrodeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Gwnaeth Mr Dylan Rees ddatganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â chais 007 (Gobaith Môn) a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 73 KB

Cyflwyno cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 11 Gorffennaf, 2018.

(Cofnodion wedi cael eu cadarnhau gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn yn ei gyfarfod a gafwyd ar 18 Medi, 2018).

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf, 2018.

(Cafodd y cofnodion eu cadarnahu gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn yn ei gyfarfod ar 18 Medi, 2018).

3.

Grantiau Blynyddol 2019/20 pdf eicon PDF 162 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.

 

Dywedwyd mai pwrpas yr adroddiad oedd ystyried y ceisiadau a oedd yn berthnasol i Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn.  Dyrennir arian yn flynyddol ar gyfer prosiectau yn y categorïau canlynol:-

 

Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon (prosiectau cyfalaf bychan)

Grantiau Eraill (grantiau unwaith ac am byth yn bennaf)

 

Yn ei gyfarfod ar 23 Ionawr, 2019, penderfynodd yr Ymddiriedolaeth lawn ddirprwyo cyllideb o £125k i’r Pwyllgor Grantiau Cyffredinol ar gyfer y rhaglen grantiau blynyddol. Yn ogystal, penderfynodd yr Ymddiriedolaeth lawn yn ei gyfarfod i ddirprwyo awdurdod i’r Pwyllgor Grantiau Cyffredinol i gymeradwyo ceisiadau am Grantiau Bach ac, o’r herwydd, ni fydd angen i’r Ymddiriedolaeth Elusennol lawn ond nodi cofnodion y Pwyllgor Grantiau Cyffredinol o hyn ymlaen.  Uchafswm y grant mewn perthynas â Grantiau Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon yw £8,000 a hyd 70% o’r gost gymwys.  Fodd bynnag, yn ei gyfarfod ar 21 Ebrill 2011, penderfynodd yr Ymddiriedolaeth lawn roi hyblygrwydd i’r Pwyllgor hwn i godi’r uchafswm a’r gyfradd o gefnogaeth yn wyneb y ceisiadau a ddeuai i law. 

 

Mae’r swyddogion perthnasol o fewn Cyngor Sir Ynys Môn wedi ystyried a blaenoriaethu’r ceisiadau a dderbyniwyd, i’r graddau y mae hynny’n bosibl ac yn gyson gyda phenderfyniadau’r Ymddiriedolaeth a meini prawf a sefydlwyd yn y gorffennol.  Mae system gyfeirio ar y cyd wedi cael ei sefydlu ar gyfer y ddau fath o grantiau a gyflwynwyd i’r Pwyllgor hwn ac ar gyfer ceisiadau am gyllid o Gronfa’r Degwm; bydd unrhyw fylchau yn y cyfeirnodau i’w priodoli i’r ffaith bod y grantiau hynny wedi cael eu cyflwyno i Gronfa’r Degwm yn hytrach na’r Ymddiriedolaeth hon.  

 

Mae’r ceisiadau yn cael eu hystyried yn unol â’r ‘Meini Prawf ar gyfer Dosbarthu Grantiau o Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn’, ac mae copi ynghlwm yn Atodiad B i’r adroddiad.

 

Dyma’r ceisiadau a dderbyniwyd a’r symiau a argymhellwyd ar gyfer Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon 2019/20 fel a ganlyn:-

 

001 – DHDC (Darganfod                Cyfieithu hanes llawn deiliaid                    £3,500

Hen Dai Cymreig)                            Plas Penmynydd o 1500 hyd

                                                            heddiw, yn cynnwys adroddiad

                                                            pensaernïol a thaflenni o hanes

                                                            byr Plas Penmynydd ar gyfer

                                                            ymwelwyr.

 

002 – Parti Meibion Bara Brith      Prynu allweddell a weithredir gan                         £79

                                                            fatri i biano trydan i’w defnyddio

                                                           lle nad oes trydan ar gael ac i brynu

                                                            bag i’w gludo.

 

005 - MȎN-SAR                               Prynu offer achub hanfodol i ymdopi        DIM

                                                            gydag ehangu’r tîm a chyhoeddusrwydd.

 

(cais wedi ei gyfeirio i’r Pwyllgor Adfywio)

 

006 – Cymdeithas Ddinesig          Cyhoeddi llyfryn yn ymwneud                    £848

Bro Porthaethwy                              â bwyd traddodiadol Ynys Môn.  Uwchraddio’r

                                                            Wefan i ddarparu gwasanaeth dwyieithog.

 

007 – Gobaith Môn                          Prynu cawell pêl-droed a threlar.              £5,600

                                                           

 

008 – Neuadd Goffa                        Amnewid dau foeler gwres canolog         £5,005

Bodedern                                          a phrynu byrddau a throli i’w cludo.         

 

009 – Cyngor Cymuned                 Gosod matiau diogelwch o dan/o              DIM

Bryngwran                                        gwmpas offer cae Chwarae Bryngwran.

 

                                                                                        (Wedi derbyn grant yn 2017/18 felly ddim yn gymwys)

 

010 – Cantorion Menai                   Prosiect Cerddorol ar raddfa fawr i           £4,500                                                            lwyfannu gwaith corawl gydag unawdwyr

                                                            Proffesiynol o Gymru,  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.