Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd Ethol Cadeirydd. Cofnodion: Ailetholwyd Mr. H. Eifion Jones yn Gadeirydd. |
|
Ethol Is-Gadeirydd Ethol Is-Gadeirydd. Cofnodion: Ailetholwyd Councillor G.O. Jones yn Is-Gadeirydd. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 8 Mehefin, 2015. Cofnodion:
Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Mehefin, 2015 yn gywir.
Yn codi o’r cofnodion
Contract i Wasanaethau Oedolion
Adroddwyd y bydd adroddiad ar y contract ar gyfer Gwasanaethau Archwilio yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn. |
|
Rheoli Buddsoddi Cyflwyno, adroddiad gan HSBC Global Asset Management (UK) Limited. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad HSBC Global Asset Management (UK) Limited hyd at fis Tachwedd 2015.
Adroddodd y Rheolwr Buddsoddi mai amcan y portffolio yw tyfu’r cyfalaf yn unol â chwyddiant a chreu digon o incwm i gwrdd â gofynion llif arian sy’n cael eu cytuno’n flynyddol gyda’r ymddiriedolwyr. Y strategaeth y cytunwyd arni yw mynd tu hwnt i’r meincnod sefydlog o 1.5% a gytunwyd bob blwyddyn dros gyfnodau treigl o dair blynedd. Roedd gwerth y gronfa ar 17 Tachwedd 2015 yn £16,930,549. Yn y cyfarfod heddiw mae gwerth y gronfa wedi cynyddu i £17,100,000.
Eglurwyd perfformiad y portffolio a’r perfformiad tymor hir yn fanwl i’r Pwyllgor. Nodwyd fod portffolio’r Ymddiriedolaeth wedi symud i ‘Gronfa Twf ac Incwm’ erbyn hyn ar ôl i’r Ymddiriedolaeth Elusennol lawn gefnogi’r symudiad yn ei gyfarfod ar 13 Gorffennaf 2015.
Cyfeiriodd y Rheolwr Buddsoddi at werthiant Tir Rhosgoch yn ddiweddar am gyfanswm o £3m. Cafwyd trafodaethau ar yr opsiynau sydd ar gael ar gyfer y buddsoddiad. Roedd Aelodau’r Pwyllgor yn ystyried y dylid rhoi’r £3m o werthiant Tir Rhosgoch gyda phortffolio presennol yr Ymddiriedolaeth Elusennol.
PENDERFYNWYD:-
• Diolch i’r cynrychiolydd o HSBC am fynychu’r cyfarfod, a derbyn yr adroddiad; • Argymell i’r Ymddiriedolaeth Elusennol lawn bod y £3m o werthiant Tir Rhosgoch yn cael ei roi gyda phortffolio presennol yr Ymddiriedolaeth Elusennol. |