Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ethol Cadeirydd

Ethol Cadeirydd.

Cofnodion:

Etholwyd Mr. R.O. Jones yn Gadeirydd.

2.

Ethol Is-Gadeirydd

Ethol Is-Gadeirydd.

Cofnodion:

Etholwyd Mr. R.Ll. Jones yn Is-Gadeirydd.

3.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 35 KB

Cyflwyno, i’w cadarnahu, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 1 Tachwedd, 2016.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Tachwedd, 2016.

5.

Rheoli Buddsoddi

Cyflwyno adroddiad gan HSBC Global Asset Management (UK) Limited.

(ADRODDIAD I’W DOSBARTHU YN Y CYFARFOD)

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad HSBC Global Asset Management (UK) Limited am y cyfnod hyd at fis Hydref 2017.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Tîm Elusennau HSBC eu bod yn adrodd yn chwarterol ar berfformiad cronfa’r Ymddiriedolaeth.  Rhoddodd gipolwg i Aelodau’r Pwyllgor ar gefndir y portfolio buddsoddi a nododd fod buddsoddiad Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn yn cael ei fuddsoddi yn y Strategaeth Twf ac Incwm sy’n bortffolio aml-ased.  Gwerth y portfolio ar 30 Medi, 2017 oedd £22,947.867.  Yr elw a ragwelir o’r portfolio oedd 7.67% (gros) gyda 7.36% (net).

 

Rhoddwyd gwybodaeth ychwanegol a manwl i’r Pwyllgor am ddosbarthiad yr asedau a pherfformiad gwahanol elfennau’r portfolio.

 

Roedd aelodau’r Pwyllgor yn dymuno cyfleu eu gwerthfawrogiad i HSBC Investment Management am berfformiad eithriadol cronfa’r Ymddiriedolaeth Elusennol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a diolch i’r Cyfarwyddwr – Tîm Elusennau HSBC am fynychu’r cyfarfod.

6.

Dyrannu Cyllid ar gyfer Grantiau Mwy pdf eicon PDF 20 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â dyrannu cyllid ar gyfer grantiau mwy yn 2018.

 

Dywedodd y Trysorydd bod Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn wedi neilltuo swm o arian yn 2016 a 2017 i ariannu ceisiadau llywyddiannus am grantiau mwy (dros £8,000).  Yn 2016, dyrannwyd £200,000 ac yn 2017 dyrannwyd £350k.  Yn 2017 rhoddwyd cyhoeddusrwydd eang i’r broses o wneud cais am arian ac fe arweiniodd hynny at yr Ymddiriedolaeth yn cael 31 o geisiadau gan sefydliadau a oedd yn werth cyfanswm o £1.6m.  Ar ôl i’r Pwyllgor Adfywio ystyried a gwerthuso’r ceisiadau roedd 12 ohonynt yn llwyddiannus a dyfarnwyd y cyfan o’r £350k ar ffurf grantiau.

 

Rhoddodd y Pwyllgor sylw i 3 opsiwn:-

 

1.     Yn seiliedig ar 20% o’r cynnydd yn y gwerth cyfalaf (heb gynnwys gwerth yr arian a drosglwyddwyd i’r Portffolio yn sgil gwerth safle Rhosgoch) – byddai hyn yn darparu cronfa o £177,000 ar gyfer grantiau mwy yn 2018.

 

2.     Yn seiliedig ar 20% o’r cynnydd yn y gwerth cyfalaf (gan gynnwys gwerth yr arian a drosglwyddwyd i’r Portffolio yn sgil gwerthu safle Rhosgoch) – byddai hyn yn darparu cronfa o £577,000 ar gyfer y grantiau mwy yn 2018.

 

3.     Cynnal gwerth y gronfa fel yr oedd yn 2017 h.y. £350,000.

 

Yn dilyn trafodaethau ac ar ôl ystyried yr effaith ar y gronfa petai gwerth y buddsoddiadau yn disgyn PENDERFYNWYD argymell opsiwn 3 i’r Ymddiriedolaeth Elusennol a bod £350,000 ar gael tuag at gyllido grantiau mwy yn 2018.