Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd Ethol Cadeirydd. Cofnodion: Cafodd Mr T Ll Hughes MBE ei ethol yn Gadeirydd. |
|
Ethol Is Gadeirydd Ethol Is-Gadeirydd. Cofnodion: Cafodd Mr Dafydd Roberts ei ethol yn Is-gadeirydd. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Dim. |
|
Cyflwyno cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 7 Tachwedd, 2017.
(Cofnodion wedi eu mabwysiadu gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn a gafwyd ar 12 Rhagfyr, 2017). Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd, 2017.
(Cadarnhawyd y cofnodion gan gyfarfod o’r Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr, 2017). |
|
Rheoli Buddsoddi Cyflwyno adroddiad gan HSBC Global Asset Management (UK) Limited. (ADRODDIAD I’W DOSBARTHU YN Y CYFARFOD) Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad HSBC Global Management (UK) Limited hyd at ddiwedd Hydref 2018.
Rhoddodd cynrychiolwyr HSBC drosolwg manwl o bortffolio buddsoddi’r Ymddiriedolaeth Elusennol o fewn cyfrif Twf ac Incwm Gwasanaeth Elusennau’r DU. Roedd gwerth y portffolio yn £21,381,961.84 fel ar 30 Hydref, 2018. Hysbyswyd y Pwyllgor am y datblygiadau allweddol yn y farchnad a nodwyd bod dechrau cryf i 2018 wedi’i amharu arno wrth i’r farchnad ddychwelyd i fod yn gyfnewidiol gyda phryderon yn dychwelyd am arenillion bondiau, lefelau uwch o chwyddiant a chwyddiant cyflymach yn yr Unol Daleithiau. Cafodd y dirywiad ei adfer yn ail hanner mis Chwefror wrth i’r buddsoddwyr ganolbwyntio ar gefndir o dwf economaidd byd-eang ac enillion corfforaethol cadarnhaol. Cafodd gwendid pellach yn y farchnad ei nodi ym mis Mawrth gan bryderon dros gryfder yr economi byd-eang a chynnydd mewn amddiffyn masnach, ynghyd â phryderon penodol dros fwy o reoliadau yn y sector technoleg. Bu marchnadoedd sefydlogi ym mis Ebrill wrth i densiynau masnach byd-eang a phryderon am chwyddiant yn yr Unol Daleithiau leihau. Roedd y bunt i lawr ym mis Ebrill yn erbyn cryfder eang y ddoler UD. Bu tensiynau masnach yr Unol Daleithiau â Tsieina gysgodi’r marchnadoedd ecwiti ym mis Mehefin gyda bondiau ac ecwitïau newydd yn cael eu pwyso i lawr gan ddata gweithgaredd Tsieineaidd gwannach na’r disgwyl a chynnydd Fed mewn cyfraddau llog o 0.25%. Nodwyd ymhellach bod marchnadoedd ariannol yn sensitif i ddatblygiadau gwleidyddol.
PENDERFYNWYD diolch i gynrychiolwyr y Tîm Elusennau HSBC am fynychu’r cyfarfod ac i dderbyn yr adroddiad.
|
|
Dyrannu Cyllid ar gyfer Grantiau Mawr PDF 44 KB Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â dyrannu cyllid ar gyfer grantiau mawr yn 2019.
Adroddodd y Trysorydd, Yn ystod y dair mlynedd ddiwethaf, rhoddodd Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn swm o arian o’r neilltu er mwyn cyllido ceisiadau llwyddiannus am grantiau mwy (dros £8,000). Dyrannwyd £200,000 yn 2016 a £350,000 yn 2017 a 2018. Yn achos 2018, hysbysebwyd y broses ymgeisio yn eang ac, o ganlyniad, derbyniodd yr Ymddiriedolaeth 34 o geisiadau gan sefydliadau yn gofyn am gymorth – gyda’r ceisiadau i gyd yn dod i gyfanswm o £1.48m. Wedi i’r Pwyllgor Adfywio asesu ac ystyried y ceisiadau, bu 14 ohonynt yn llwyddiannus a chafodd y swm llawn o £350,000 ei ddyrannu mewn grantiau.
Ym 2017, ystyriodd y Pwyllgor hwn 3 opsiwn i benderfynu ar y swm i'w ddyrannu:-
• Yn seiliedig ar 20% o'r cynnydd yng ngwerth cyfalaf y portffolio (heb gynnwys gwerth yr arian parod a drosglwyddwyd i mewn i'r portffolio yn ystod y flwyddyn); • Yn seiliedig ar 20% o'r cynnydd yng ngwerth cyfalaf y portffolio (gan gynnwys gwerth yr arian parod a drosglwyddwyd i'r portffolio yn ystod y flwyddyn); • Cadw’r swm a ddyrannwyd fel y flwyddyn flaenorol h.y. £350,000.
Yn dilyn trafodaeth PENDERFYNWYD argymell ‘r Ymddiriedolaeth Elusennol llawn bod swm o £350,000 yn cael ei ddyrannu fel yn y flwyddyn flaenorol tuag at grantiau mwy.
|