Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Datganodd Mr. R. Meirion Jones ddiddordeb personol a rhagfarnus mewn perthynas ag Eitem 8 a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a'r pleidleisio.
Dywedodd Mr. H. Eifion Jones ei fod yn datgan diddordeb personol yn Eitem 8 gan ei fod yn aelod o Bwyllgor Apêl Codi Arian ar gyfer Eisteddfod Llanidan. Nododd nifer o Aelodau eraill yr Ymddiriedolaeth eu bod hwythau hefyd yn aelodau o Bwyllgorau Apêl i Godi Arian ar gyfer Eisteddfodau Lleol o fewn eu hetholaethau. Dywedodd Ysgrifennydd yr Ymddiriedolaeth y gofynnwyd am gyngor y Swyddog Monitrocyn y cyfarfod ac mai’r cyngor a gafwyd gan y Swyddog Monitro oedd y gallai aelodau'r Ymddiriedolaeth gymryd rhan yn y drafodaeth ar yr egwyddor o dderbyn cais gan Gadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod. Fodd bynnag, os bydd yr Ymddiriedolaeth yn penderfynu cefnogi'r cais am arian tuag at yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhelir ar yr Ynys yn 2017 dywedodd y byddai angen gofyn am gyngor cyfreithiol pellach.
|
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod arbennig o’r Ymddiriedolaeth Elusennol a gafwyd ar 22 Medi, 2015. Cofnodion: Cadarnhwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Medi, 2015 fel rhai cywir yn amodol ar newid i fersiwn Gymraeg y cofnodion yn Eitem 4 i ddarllen: -
'Cododd Aelod y mater bod rhaid i Aelodau sefyll i siarad yng nghyfarfodydd y Cyngor Sir yn unol â 4.1.24.1 yn y Cyfansoddiad.'
|
|
Adroddiadau o Is-Bwyllgorau'r Ymddiriedolaeth Elusennol PDF 275 KB · Pwyllgor Grantiau Cyffredinol
Cyflwyno, i’w cadarnhau a’u mabwysiadu lle bo angen, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 8 Gorffennaf, 2015.
· Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau
Cyflwyno, i’w cadarnhau a’u mabwysiadu lle bo angen, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 26 Tachwedd, 2015.
YN CODI
Rheoli Buddsoddiadau
Argymell i’r Ymddiriedolaeth Elusennol lawn bod y £3m o werthiant Tir Rhosgoch yn cael ei roi gyda phortffolio presennol yr Ymddiriedolaeth Elusennol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
· Pwyllgor Grantiau Cyffredinol
Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Grantiau Cyffredinol a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf, 2015 yn gywir ac fe’u mabwysiadwyd lle bo angen.
· Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau
Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd, 2015 yn gywir ac fe’u mabwysiadwyd lle bo angen.
MATERION YN CODI
Rheoli Buddsoddiadau
Cyflwynwyd - y dyfyniad canlynol o gofnodion y Pwyllgor uchod fel a ganlyn: -
'Argymell i'r Ymddiriedolaeth Elusennol lawn bod y £3 miliwn o werthu tir Rhosgoch yn cael ei roi ym mhortffolio cyfredol yr Ymddiriedolaeth Elusennol.'
PENDERFYNWYD bod y £3 miliwn o werthu tir Rhosgoch yn cael ei roi ym mhortffolio cyfredol yr Ymddiriedolaeth Elusennol.
|
|
Diweddariad ar Grantiau 2015/16 PDF 223 KB Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad y Trysorydd mewn perthynas â'r sefyllfa ynghylch grantiau a ddyfarnwyd yn 2015/16 ac a oedd yn rhoi gwybodaeth am incwm buddsoddi a diweddariad ar grantiau a ddyfarnwyd mewn blynyddoedd blaenorol.
Adroddwyd bod y tabl yn yr adroddiad yn dangos y dyraniad grantiau ar gyfer 2015/16. Y cyfanswm a neilltuwyd ar gyfer y flwyddyn oedd £737,766 ac roedd £128,537 o’r swm hwnnw wedi ei hawlio hyd yn hyn (17.4%). Nid oes rhaid i'r sefydliadau hawlio eu dyraniad yn 2015/16 gan fod amod y grant yn dweud 'Bydd raid cwblhau unrhyw gynllun cyfalaf cyn pen 4 blynedd i flwyddyn dyrannu’r grant. Bydd unrhyw ddyraniad sydd ar ôl heb ei ddefnyddio ar ddiwedd 4 blynedd ariannol yn cael ei drosglwyddo’n ôl i Gronfa’r Ymddiriedolaeth’.
Rhaid cwblhau unrhyw gynllun cyfalaf cyn pen 4 blynedd ar gyfer y flwyddyn dyrannu'r grant. Bydd unrhyw ddyraniad sy'n weddill heb ei ddefnyddio ar ddiwedd 4 blynedd ariannol yn cael ei drosglwyddo yn ôl i'r Gronfa Ymddiriedolaeth.
Mae'r adroddiad blynyddol drafft ar gyfer 2014/15 yn dangos Incwm o £515,804 o’r buddsoddiadau o gymharu â £499,915 yn 2013/14. Mae'r dyraniad grant o £737,766 yn 2015/16 yn uwch na’r ffigyrau hyn ac yn debygol o fod yn uwch na'r incwm a ragwelir ar gyfer 2015/16. Fodd bynnag, dylid nodi bod lefel y grantiau a ddyfarnwyd yn llai na'r twf a ragwelir yng ngwerth y gronfa.
‘Roedd tabl yn dangos y dyraniad grant ym mlynyddoedd ariannol 2008-2015 wedi'i gynnwys yn yr adroddiad. ‘Roedd y tabl yn dangos bod dyraniadau grant o £469,863 o’r blynyddoedd cynt wedi eu dwyn ymlaen i 2015/16. Hyd yma, talwyd £306,654, sef 65% o'r cyfanswm a ddygwyd ymlaen. Mae hyn yn gadael balans o £163,208.92. O’r balans hwn, mae £29,238.19 ohono’n grantiau a gafodd eu dyfarnu dros 4 blynedd yn ôl ac felly ni chawsant eu hawlio yn unol ag amodau dyfarnu’r grant. Cynigiwyd yn yr adroddiad y dylai Swyddogion yr Ymddiriedolaeth ysgrifennu at y sefydliadau unigol nad ydynt wedi hawlio eu dyraniad grant yn ystod y cyfnodau 2008/09 i 2010/11 i'w hysbysu bod y grant wedi cael ei dynnu'n ôl yn unol â chanllawiau'r Ymddiriedolaeth Elusennol bod raid cwblhau prosiectau cyn pen pedair blynedd i’r dyfarniad grant.
‘Roedd aelodau'r Pwyllgor yn ystyried y dylid cysylltu gyda sefydliadau nad ydynt wedi hawlio'r grantiau a ddyfarnwyd yn 2010/11 i ganfod a ydynt yn gallu cyflawni eu prosiectau a hawlio'r grant a ddyfarnwyd iddynt.
PENDERFYNWYD: -
· Awdurdodi Swyddogion yr Ymddiriedolaeth i ysgrifennu at y sefydliadau unigol nad ydynt wedi hawlio eu dyraniad grant yn ystod y cyfnodau 2008/09 a 2009/2010 i'w hysbysu bod y cynnig o grant wedi cael ei dynnu'n ôl erbyn hyn. · Awdurdodi Swyddogion yr Ymddiriedolaeth i ysgrifennu at y sefydliadau unigol nad ydynt wedi hawlio eu dyraniad grant yn ystod y cyfnod 2010/11 i weld a ydynt yn gallu cwblhau eu prosiectau a hawlio'r grant a ddyfarnwyd iddynt. · Nodi bod y lefel gwariant cyfredol yn uwch na'r incwm ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Ystyried mabwysiadu'r isod:- "Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau a ganlyn, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei rhyddhau fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A (Paragraffau 14 a 16) y Ddeddf.”
Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu'r canlynol: -
"Dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir yn Atodlen 12A ( Paragraffau 14 a 16) o'r Ddeddf honno. "
|
|
Llywodraethiant a Gweinyddiaeth yr Ymddiriedolaeth yn y dyfodol Cyflwyno adroddiad gan Ysgrifennydd yr Ymddiriedolaeth mewn perthynas â’r uchod. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad Ysgrifennydd yr Ymddiriedolaeth mewn perthynas â'r uchod.
Dywedodd Ysgrifennydd Ymddiriedolaeth fod cyfarfod blaenorol yr Ymddiriedolaeth Elusennol llawn a gynhaliwyd ar 22 Medi, 2015 wedi codi mater gweinyddiaeth yr Ymddiriedolaeth i’r dyfodol a’r posibilrwydd o benodi Ymddiriedolwyr o'r tu allan i'r Cyngor. Yn dilyn trafodaethau, penderfynwyd y dylai Panel o Aelodau’r Ymddiriedolaeth Elusennol a Swyddogion gyfarfod ac adrodd ar eu trafodaethau mewn cyfarfod i’r dyfodol. Adroddwyd ar ganfyddiadau'r Panel i'r Ymddiriedolaeth ynghylch aelodaeth, materion llywodraethiant a gweinyddiaeth yr Ymddiriedolaeth i’r dyfodol.
‘Roedd cynrychiolydd cyfreithiol yr Ymddiriedolaeth wedi defnyddio trafodaethau'r Panel i lunio Manyleb ar gyfer Cyngor a Gwaith ar Lywodraethiant a Gweinyddiaeth yr Ymddiriedolaeth a oedd ynghlwm fel Atodiad 1 i'r adroddiad.
PENDERFYNWYD: -
· Nodi'r Fanyleb ar gyfer Cyngor a Gwaith ar Lywodraethiant a Gweinyddiaeth Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn.
· Awdurdodi cyllideb ddigonol i dalu unrhyw gwmni o Gyfreithwyr a benodir i wneud y gwaith yn unol â thelerau'r Cytundeb Fframwaith y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol perthnasol.
· Awdurdodi Ysgrifennydd yr Ymddiriedolaeth i: -
· benodi cwmni addas o Gyfreithwyr ar ôl i’r Panel ac unrhyw swyddogion a ddewisir ganddo werthuso’r cynigion;
· gwneud unrhyw benderfyniad arall y gall bod ei angen i hwyluso naill ai penodi’r Cyfreithwyr hynny neu i gyflawni’r gwaith y gofynnwyd amdano gan gynnwys talu am y gwaith a wnaed o’r gyllideb a awdurdodwyd.
· Cytuno i gynnal sesiwn gweithdy ar gyfer yr Ymddiriedolwyr i drafod y papur opsiynau ar ddyddiad ac amser i'w pennu gan Ysgrifennydd yr Ymddiriedolaeth.
|
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Ystyried mabwysiadu'r isod:- "Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau a ganlyn, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei rhyddhau fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A (Paragraff 16) y Ddeddf.”
Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu'r canlynol: -
"Dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir yn Atodlen 12A ( Paragraff 14) o'r Ddeddf honno. "
|
|
Cyfraniad posib i'r Eisteddfod Genedlaethol yn Ynys Môn yn 2017 Cyflwyno adroddiad gan Ysgrifennydd yr Ymddiriedolaeth mewn perthynas â’r uchod. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad Ysgrifennydd yr Ymddiriedolaeth mewn perthynas â'r uchod.
Dywedodd Ysgrifennydd Ymddiriedolaeth fod cais wedi dod i law gan Gadeirydd Pwyllgor Gwaith lleol yr Eisteddfod am gyfraniad tuag at y targed ariannol a osodwyd ar gyfer ar gyfer Ynys Môn.
PENDERFYNWYD: -
· Cytuno mewn egwyddor i gefnogi'r Eisteddfod a gwahodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith lleol i gyflwyno cais i'r Pwyllgor Adfywio;
· Gofyn i'r Pwyllgor Adfywio gyflwyno argymhellion o ran swm y cymorth ariannol ynghyd ag unrhyw amodau perthnasol a osodwyd ar y dyfarniad terfynol.
‘Roedd Mr Jeff Evans yn dymuno cofnodi y byddai'n well ganddo gael barn gyfreithiol annibynnol mewn perthynas â'r mater hwn.
|