Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Gwnaed datganiadau o ddiddordeb personol gan y Mri. R.A. Dew, John Griffith, Derlwyn R. Hughes, G.O. Jones, H. Eifion Jones, Alun Mummery ac Ieuan Williams mewn perthynas ag Eitem 6 – Dyfarniadau Grant Mawr 2016 ynghlych cais Eisteddfod Genedlaethol 2017. Nododd yr Aelodau eu bod yn gwasanaethu ar Bwyllgorau Apȇl Lleol i Ariannu’r Eisteddfod. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol bod angen i Aelodau’r Ymddiriedolaeth Elusennol sy’n gwasanaethu ar Bwyllgorau Apȇl Lleol ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2017 ddatgan diddordeb personol ond y gallent gymryd rhan a phleidleisio ar y mater hwn. Fodd bynnag, os yw unrhyw Aelod o’r Ymddiriedolaeth Elusennol yn aelod o Bwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol 2017 neu Is-Bwyllgorau o’r Pwyllgor Gwaith, yna byddai angen iddynt ystyried datgan diddordeb sy’n rhagfarnu.
Roedd y Cadeirydd yn dymuno cofnodi ei fod wedi ymddiswyddo o Bwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol 2017 yn ddiweddar. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 27 Ionawr, 2016. Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Ionawr, 2016 yn gywir. |
|
Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad y Trysorydd mewn perthynas â'r uchod.
PENDERFYNWYD:-
· Mabwysiadu cyllideb ar gyfer 2016/17 fel a ganlyn: -
Oriel Ynys Môn £215k Neuaddau Pentref £80k Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon a Grantiau Bychan £125k Grantiau Mwy £200k Ymrwymiadau Tymor Hir Parhaus (a ddangosir yn nhabl £200k 3 yr adroddiad)
· Dirprwyo i'r Pwyllgor Grantiau Cyffredinol swm o £125k i ymdrin â cheisiadau am Gyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon a Grantiau Bychain;
· Dirprwyo i'r Pwyllgor Adfywio swm o £200k i ymdrin â cheisiadau am grantiau mwy.
|
|
Adroddiadau o Is-Bwyllgorau'r Ymddiriedolaeth Elusennol PDF 58 KB Cyflwyno, i’w cadarnhau a’u mabwysiadu, lle bo angen, gofnodion y cyfarfodydd fel â ganlyn :-
· Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 24 Chwefror, 2016. · Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 3 Mawrth, 2016.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Y Bwyllgor Adfywio
Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfodydd canlynol o’r Pwyllgor Adfywio ac fe’u mabwysiadwyd lle bo angen :-
· Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Chwefror, 2016; · Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Mawrth, 2016. |
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 16 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol :-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei datgelu a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” |
|
Dyfarniadau Grant Mawr - 2016 Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad y Trysorydd mewn perthynas â dyfarniadau grant mawr ar gyfer 2016.
Adroddodd y Trysorydd fod y Pwyllgor Adfywio a gynhaliwyd ar 3 Mawrth, 2016 wedi argymell bod pob un o’r pedwar cais a gyflwynwyd yn deilwng o gefnogaeth ond ei fod yn ymwybodol bod y cyfanswm yn gofynnwyd amdano yn uwch na’r cyllid sydd ar gael. Argymhellodd y Pwyllgor Adfywio y dylid dyfarnu’r grantiau canlynol : -
Menter Iaith Môn - £50,000 am flwyddyn yn unig; Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2017 - £37,500; Menter Gymdeithasol Llangefni - £37,500 – yn amodol ar gadarnhad bod yr holl arian arall wedi’i sicrhau a bod y cynllun yn mynd yn ei flaen; Cwmni Fran Wen - £45,000 – am flwyddyn yn unig.
Argymhellodd y Pwyllgor Adfywio hefyd na fydd y ceisiadau a dderbyniwyd ar ôl y dyddiad cau ar 10 Chwefror 2016 yn cael eu hystyried.
Roedd cyfanswm y dyraniad yn £170,000 a rhoddwyd 50% o’r swm y gofynnwyd amdano ym mhob achos a dyrannwyd yr arian grant am flwyddyn yn unig sy’n cydymffurfio â'r penderfyniad a wnaed yn flaenorol gan yr Ymddiriedolaeth.
Yn dilyn trafodaethau PENDERFYNWYD cymeradwyo argymhellion y Pwyllgor Adfywio a gynhaliwyd ar 3 Mawrth, 2016:-
· Dyfarnu grantiau i’r 4 sefydliad fel y nodwyd uchod; · Na fydd y ceisiadau a dderbyniwyd ar ôl y dyddiad cau, sef 10 Chwefror 2016, yn cael eu hystyried.
|
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 16 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”
Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu'r canlynol: -
"Dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei datgelu a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm. "
|
|
GRANT I GYMDEITHAS SIOE AMAETHYDDOL YNYS MÔN Cyflwyno adorddiad gan y Trysorydd. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad y Trysorydd mewn perthynas â'r dyfarniad grant i Sioe Cymdeithas Amaethyddol Môn.
Adroddodd y Trysorydd fod y cais gan Gymdeithas Sioe Amaethyddol Môn a gyflwynwyd i’r Ymddiriedolaeth Elusennol ar gyfer gwella cyfleusterau ar y Cae Sioe wedi cael ei ddiwygio oherwydd derbyn llai o gyllid na’r disgwyl gan gwmni lleol. Gofynnwyd i'r Ymddiriedolaeth Elusennol lawn ailystyried y cais o gofio’r newidiadau ac ymateb Cymdeithas y Sioe a phenderfynu a ddylid anrhydeddu’r cynnig gwreiddiol o £60,000 ynteu ystyried swm llai.
Yn dilyn trafodaethau PENDERFYNWYD anrhydeddu grant o £60,000 i Sioe Cymdeithas Amaethyddol Môn fel y cymeradwywyd gan gyfarfod llawn yr Ymddiriedolaeth Elusennol a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf, 2015.
|