Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Derbyniwyd y datganiadau o ddiddordeb canlynol :-

 

Datganodd Mr. Alwyn Rowlands ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw drafodaeth yn ymwneud â’r cais gan Ganolfan Hamdden Biwmares a’r Cylch o dan Eitem 3 - Cofnodion y Pwyllgor Adfywio.

 

Datganodd Mr. T. V. Hughes ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw drafodaeth yn ymwneud â’r cais gan Gwmni Tref Llangefni o dan Eitem 3 – Cofnodion y Pwyllgor Adfywio.

 

Datganodd Mr. T. Ll. Hughes ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw drafodaeth yn ymwneud â’r cais gan Gyngor Tref Caergybi o dan Eitem 3 – Cofnodion y Pwyllgor Adfywio.

 

Datganodd Mr. Ieuan Williams ddiddordeb mewn perthynas ag unrhyw drafodaeth yn ymwneud â’r cais gan Gyngor Cymuned Llanfair Mathafarn Eithaf o dan Eitem 3 – Cofnodion y Pwyllgor Adfywio.

 

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 26 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod arbennig a gafwyd ar 28 Chwefror, 2017.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod arbennig a gynhaliwyd ar 28 Chwefror, 2017.

3.

Adroddiadau o Is-Bwyllgorau'r Ymddiriedolaeth Elusennol pdf eicon PDF 24 KB

Pwyllgor Adfywio

 

Cyflwyno, i’w cadarnhau a’i mabwysiadu lle bo angen, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 24 Chwefror, 2017.

Cofnodion:

Pwyllgor Adfywio

 

Cadarnhawyd a mabwysiadwyd, yn ôl y gofyn, gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Chwefror 2017.

 

Dywedodd y Trysorydd bod angen i’r Ymddiriedolaeth lawn gadarnhau argymhelliad y Pwyllgor Adfywio i gefnogi 12 o geisiadau grant ond bod yr wybodaeth yn parhau i fod yn gyfrinachol nes bod yr Ymddiriedolaeth wedi gwneud penderfyniad terfynol.

 

PENDERFYNWYD cau allan y wasg a’r cyhoedd ac i fabwysiadu’r isod:

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem isod oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A (Categori 16) y Ddeddf honno.”

 

Adroddodd y Trysorydd fod cyfanswm o 31 o geisiadau wedi eu derbyn, gwerth dros £1.6m. Cynhaliwyd cyfarfod o’r Pwyllgor Adfywio ar 10 Chwefror 2017 a 24 Chwefror 2017 i drafod y ceisiadau hynny.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo argymhellion y Pwyllgor Adfywio a gynhaliwyd ar 24 Chwefror 2017 fel a ganlyn :-

 

·           PROSIECTAU A GYMERADWYWYD                                                                                 

 

 

Ymgeisydd

Prosiect

 Swm a Gymeradwywyd (£)

1

Rheilffordd Ganolog Môn Cyf

Ail agor y lein rheilffordd o Gaerwen i Amlwch.

 25,000.00

2

Canolfan Hamdden Biwmares

Costau rhedeg y ganolfan am 12 mis ac ehangu’r cyfleusterau a’r gweithgareddau.

 45,000.00

3

Canolfan Ucheldre

Costau rhedeg y ganolfan am 12 mis.

 30,000.00

4

Cwmni Tref Llangefni

Ailddatblygu hen adeilad yr Orsaf Rheilffordd.

 25,000.00

5

Cyngor Cymuned Llanfair ME

System CCTV newydd.

 10,000.00

6

Clwb Bocsio Caergybi

Estyniad ac adnewyddu’r cyfleusterau.

 20,000.00

7

Cadetiaid Môr Caergybi

Ail-doi’r Byncws.

 20,000.00

8

Cyngor Tref Caergybi

Ailddatblygu Parc Caergybi ac ehangu Sinema’r Empire.

 50,000.00

9

Neuadd Bentref Llanddona

Datblygu Neuadd Bentref newydd

 45,000.00

10

Medrwn Môn

Costau rhedeg i gefnogi’r Prosiect Adeiladu Cymunedau.

25,000.00

11

Cymunedau’n Gyntaf Môn

Datblygu Hyb Gwaith a Hyfforddiant.

35,000.00

12

Mind Ynys Môn a Gwynedd

Costau rhedeg am 12 mis.

20,000.00

Cyfanswm

350,000.00

 

 

 

 

 

 

 

 

 

·       Nodwyd y canlynol :-

 

Ni chymeradwywyd 9 o geisiadau a hysbyswyd y sefydliadau unigol.

Cyfeiriwyd 8 cais i’r Pwyllgor Grantiau Bach.

Barnwyd bod 2 gais yn anghymwys.

 

4.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A (Categori 16) y Ddeddf.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol :-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem isod oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A (Categori 16) y Ddeddf honno.”

 

5.

Adolygiad o Drefniadau Llywodraethiant Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn

Derbyn diweddariad llafar gan yr Ysgrifennydd mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol bod Brown Jacobson LLP angen ychydig o fanylion pellach gan Aelodau’r Ymddiriedolaeth cyn cyflwyno cais i gofrestru’r Sefydliad Corfforedig Elusennol (SCE) gyda’r Comisiwn Elusennau.

 

PENDERFYNWYD bod Aelodau’r Ymddiriedolaeth Elusennol yn cyflwyno’r manylion sydd eu hangen ar Browne Jacobson LLP, fel y nodwyd uchod.

 

Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn pryderu mai dim ond 2 Ymddiriedolwr Annibynnol fydd ar Sefydliad Elusennol Ynys Môn. Nododd ei fod o’r farn y dylai’r Sefydliad Elusennol ystyried cynyddu nifer yr ymddiriedolwyr annibynnol yn y dyfodol.