Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb. |
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn a gafwyd ar 15 Rhagfyr, 2016. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod diwethaf o Bwyllgor Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2016, yn amodol ar ddiwygio’r penderfyniad mewn perthynas ag Eitem 6 – Adolygu Trefniadau Llywodraethiant Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn fel a ganlyn :-
‘Bod 2 Ymddiriedolwr Annibynnol os sefydlir Cymdeithas Elusennol Ynys Môn’.
YN CODI O’R COFNODION
Grantiau Mawr – Adroddiad Gwaith
Adroddodd y Trysorydd fod 31 o geisiadau wedi dod i law ar gyfer grantiau mawr ar ôl gwahodd ceisiadau. Bydd Swyddogion yn awry n gwerthuso’r ceisiadau hynny yn erbyn meini prawf cymhwyster yr Ymddiriedolaeth Elusennol ac fe’u cyflwynir wedi hynny i’r Pwyllgor Adfywio a gynhelir ar 10 Chwefror, 2017 i’w hystyried. |
|
Adroddiad Blynyddol 2015/16 PDF 555 KB Cyflwyno, i’w mabwysiadu, adroddiad mewn perthynas ac Adroddiad Blynyddol 2015/16. Cofnodion: Adroddodd y Trysorydd fod grantiau wedi eu dyrannu i 68 o sefydliadau gan ddefnyddio’r meini prawf a sefydlwyd a bod yr Ymddiriedolaeth yn parhau i fod yn ffynhonnell gyllido bwysig ar gyfer elusennau lleol a mudiadau chwaraeon a gwirfoddol. Mae’r Ymddiriedolaeth hefyd yn parhau i gyddido oriel gelf Oriel Môn. Nodwyd y gweithgareddau a gynhelir yn yr Oriel yn yr adroddiad.
Mae perfformiad buddsoddi portffolio’r Ymddiriedolaeth Elusennol wedi cynhyrchu incwm buddsoddi o £585,561, sydd £175,583 yn uwch na'r targed o £409,978. Ar 31 Mawrth, 2016 ‘roedd y gronfa yn werth £19.070m, o gymharu â £20.30m ar 31 Mawrth, 2015. ‘Roedd y gostyngiad yn bennaf oherwydd gostyngiad yng ngwerth buddsoddiadau ar farchnad Ecwiti’r DU. Eglurodd y Trysorydd i'r Pwyllgor fod gwerth y buddsoddiadau yn cael ei ddangos fel yr oedd ar un dyddiad penodol, gan ychwanegu bod eu gwerth wedi codi’n sylweddol ers diwedd y flwyddyn ariannol , yn arbennig Buddsoddiadau Ecwiti’r DU ac mae’r gronfa bellach yn werth mwy nag yr oedd ar 31 Mawrth, 2015.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Adroddiad Blynyddol a'r Cyfrifon ar gyfer 2015/2016 ac awdurdodi'r Cadeirydd i lofnodi’r fersiwn derfynol. |
|
Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â'r uchod.
Dywedodd y Trysorydd bod yr adroddiad yn cadarnhau'r dyraniadau cyllidol ar gyfer 2017/18. Mae portffolio’r Ymddiriedolaeth Elusennol yn werth £22,487,169 ar hyn o bryd. Yn ôl yr amcangyfrif diweddaraf bydd yr incwm o’r buddsoddiadau ar gyfer 2017/18 yn £675,000. Nododd bod yr Ymddiriedolaeth, yn ei gyfarfod ar 13 Medi 2016, wedi cytuno i dalu cyfraniad at gyflogau Swyddogion Cyngor Sir Ynys Môn sy’n gweithredu ar ran yr Ymddiriedolaeth. Mae cyllideb o £30k yn 2017/18 ar gyfer gwneud y cyfraniadau hyn.
Y gyllideb a argymhellir ar gyfer grantiau yn 2017/18 yw: -
Oriel Ynys Môn £215k Neuaddau Pentref £ 70k Cyfleusterau Chwaraeon a Chymunedol a Mân Grantiau £100k Grantiau mwy - Ymrwymiadau Tymor Hir: - Ffermwyr Ifanc Ynys Môn £ 30k Urdd Gobaith Cymru £40k Cymdeithas Gemau'r Ynysoedd Môn £ 40k Menter Môn £110k
Cynigir torri’r gyllideb ar gyfer Neuaddau Pentref i £70k o gymharu ag £80k yn 2016/17 a hynny i adlewyrchu’r gostyngiad yn nifer y ceisiadau am arian o’r gyllideb hon.
Yn ogystal, cynigir torri'r gyllideb ar gyfer Grantiau i Gyfleusterau Chwaraeon a Chymunedol a Mân-Grantiau i £100k o gymharu â £125k yn 2016/17 i adlewyrchu’r gostyngiad yn nifer y ceisiadau am arian o’r gyllideb hon.
Ychwanegodd y Trysorydd fod y Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau, yn ei gyfarfod ar 1 Tachwedd, 2016, wedi penderfynu gwneud darpariaeth o £350k ar gyfer cyllido grantiau mwy yn 2017/18.
Materion a godwyd gan Aelodau'r Ymddiriedolaeth Elusennol: -
· Cwestiynau ynglŷn â thelerau'r grant i Menter Môn mewn perthynas ag arian cyfatebol o ffynhonnell Ewropeaidd ac ynghylch a fydd y prosiect yn cael ei fonitro. Dywedodd y Trysorydd bod proses fonitro wedi cael ei sefydlu ac y cyflwynir adroddiad diweddaru i'r Pwyllgor yn ymhelaethu ar y defnydd a wneir o’r cyllid grant gan Menter Môn; · Mynegodd yr Aelodau bryderon am y gostyngiad yn y gyllideb ar gyfer grantiau i Neuaddau Pentref a Chymuned a’r gyllideb ar gyfer Cyfleusterau Chwaraeon a Chymunedol a Mân-Grantiau. Argymhellwyd y dylid eu hadfer ac y dylid hysbysebu’r grantiau bychan blynyddol yn well, sef trwy’r wefan a chyfryngau cymdeithasol fel sy’n digwydd ar gyfer y grantiau mwy; · ‘Roedd yr Aelodau yn credu y dylai'r Pwyllgor Adfywio roi sylw gofalus i’r ceisiadau a gafwyd oherwydd y gallai ddigwydd bod y rhan fwyaf o'r ceisiadau yn haeddu cefnogaeth. Dywedodd y Trysorydd y gall y Pwyllgor Adfywio ofyn i'r Ymddiriedolaeth lawn gynyddu'r dyraniad ar gyfer grantiau mwy, ond mae'n rhaid i'r Ymddiriedolaeth fod yn ymwybodol ei bod yn dibynnu ar dwf cronfa’r Ymddiriedolaeth yn ystod y flwyddyn ariannol; bydd HSBC Investment Management yn cyflwyno rhagolygon mewn perthynas â thwf cronfa’r Ymddiriedolaeth.
PENDERFYNWYD : -
· Mabwysiadu cyllideb ar gyfer 2017/18 fel a ganlyn: -
Oriel Ynys Môn £215k
Neuaddau Pentref £80k
Cyfleusterau Chwaraeon a Chymunedol a Mân-Grantiau £125k
Cyngor Sir Ynys Môn (cyfraniad at gyflogauSwyddogion y Cyngor Sir) £30k
Grantiau mwy o'r Gronfa ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |