Rhaglen a chofnodion

Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn - mae’r cronfeydd elusennol yn cael eu gweinyddu’n awr gan elusen gofrestredig breifat, Y Gymdeithas, ac nid yw’r Cyngor Sir bellach yn ymddiriedolwr. - Dydd Mawrth, 19eg Medi, 2017 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Datganodd Mr. Bob Parry OBE FRAgS ddiddordeb mewn perthynas ag Eitem 3 – Cais 013 – Cyngor Cymuned Bryngwran (Ffens ychwanegol yn y cae chwarae).

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 26 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 6 Gorffennaf, 2017.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf, 2017 fel rhai cywir.

3.

Adroddiadau o Is-Bwyllgorau'r Ymddiriedolaeth Elusennol pdf eicon PDF 83 KB

Pwyllgor Grantiau Cyffredinol

 

Cyflwyno, er gwybodaeth, gofnodion y Pwyllgor Grantiau Cyffredinol a gafwyd ar 12 Gorffennaf, 2017.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Grantiau Cyffredinol a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf, 2017 er gwybodaeth.

 

Yn codi o’r cofnodion

 

Cyfeiriodd yr Ysgrifennydd at gais 028 – Pwyllgor Celfyddydau Gweledol Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn, a dywedodd fod y Pwyllgor Grantiau Cyffredinol wedi derbyn llythyr manwl gan Ysgirfennydd y Pwyllgor Celfyddydau Gweledol ar ôl y cyfarfod a oedd yn codi nifer o faterion y cyfeiriwyd atynt yn y Pwyllgor Grantiau Cyffredinol ynghylch y diffyg gwybodaeth gyda’r cais gwreiddiol.  Dywedodd yr Ysgrifennydd ei fod wedi trafod y wybodaeth ychwanegol gyda’r Cadeirydd a benodwyd ar y diwrnod ar gyfer y Pwyllgor Grantiau Cyffredinol ac yn dilyn ei drafodaethau gydag Aelodau’r Pwyllgor a oedd yn bresennol yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf, 2017 penderfynwyd cefnogi’r cais.

 

Adroddwyd bod gohebiaeth wedi’i hanfon at Ysgrifennydd y Pwyllgor Celfyddydau Gweledol ond hyd yn hyn ni dderbyniwyd ymateb.   

4.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei rhyddhau fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A (Categori 16) y Ddeddf.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan y gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A (Categori 16) o’r Ddeddf honno.”

5.

Llywodraethiant Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn (YEYM) a Chymdeithas Elusennol Ynys Môn

Cyflwyno adroddiad gan yr Ysgrifennydd mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan yr Ysgrifennydd mewn perthynas â ffurfio Sefydliad Corfforedig Elusennol (SCE), fel y cymeradwywyd gan Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn yn ei gyfarfod ar 15 Rhagfyr, 2016 ac i gytuno ar y camau cysylltiedig y bydd angen eu cymryd.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol, fel rhan o’r cais i gofrestru’r SCE, fod y Comisiwn Elusennau wedi dwyn sylw at ddau fater bach ym Mholisi Grantiau’r Ymddiriedolaeth Elusenol a chytunodd y Cyfreithwyr allanol nad yw’r un o’r ddau fater hyn yn ddibenion elusennol ac y dylid eu tynnu allan o’r polisi.  Mae’r cais bellach wedi’i gymeradwyo gan y Comisiwn Elusennau ac mae’r SCE wedi’i greu a’i gofrestru fel endid cyfreithiol ar wahân.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol yr adroddiad i sylw’r Pwyllgor a nododd yr awgrymir bod y Panel a sefydlwyd gan Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn yn cael ei ailgynnull i drafod gwahanol faterion gweinyddol a gweithredol y mae angen mynd i’r afael â hwy er mwyn caniatȧu trosglwyddo’n llyfn i SCE.

 

PENDERFYNWYD :-

 

·           Tynnu’r ddau ymadrodd canlynol o’I Bolisi Grantiau am y rhesymau a roddir yn yr adroddiad hwn : “o fudd i ddatblgu twristiaeth” ac “o ddefnydd yng ngweithgareddau datblygu economaidd y Cyngor”;

 

·           Cytuno y dylai trosglwyddiad yr asedau o YEYM i’r SCE ddigwydd ar ddyddiad hwyrach, sef 1 Ebrill 2018 mwy na thebyg, ac ar ôl cyflwyno adroddiad pellach i YEYM yn amlinellu’r camau sydd eu hangen, ac a gynigir ac sy’n gysylltiedig â’r trosglwyddiad;

 

·           Dirprwyo i Ysgrifennydd yr Ymddiriedolaeth yr holl bwerau a hawliau angenrheidiol i :-

 

·      Gynnull y Panel o 5 aelod etholedig i ymgymryd ag unrhyw waith sy’n angenrheidiol i baratoi rhaglen waith ar gyfer trosglwyddo o Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn i’r Sefydliad Corfforedig Elusennol :

 

·      Parhau i gyfarwyddo’r cyfreithwyr allanol i gynghori Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn ar y trosglwyddiad i’r Sefydliad Corfforedig Elusennol, yn unol â phenderfyniad Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn dyddiedig 15 Rhagfyr 2015 ac ar y telerau yn Nghytundeb Fframwaith y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol ar gyfer Cyfreithwyr Allanol.