Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Council Chamber, Council Offices, Llangefni
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem | ||
---|---|---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Cafwyd datganiadau o ddiddordeb fel a ganlyn :-
Datganodd Mr Richard Griffiths ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 7 – Grant Caru Amlwch a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais arni.
Datganodd Mr Richard O Jones ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 7 – Grant Caru Amlwch a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais arni.
Datganodd Mr Richard O Jones ddiddordeb personol mewn perthynas ar eitem ychwanegol – Gemau’r Ynysoedd. Cymerodd ran yn y drafodaeth a’r bleidlais ar y mater. |
|||
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 12 Rhagfyr, 2017. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr, 2017. |
|||
Cymorth posibl i drigolion a busnesau sydd wedi dioddef colledion o ganlyniad i lifogydd PDF 237 KB Cyflwyno adroddiad gan yr Ysgrifennydd mewn perthynas â’r uchod. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan yr Ysgrifennydd yn dilyn cais a wnaed mewn cyfarfod llawn o Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr, 2017 ynghylch a yw'n briodol i'r Ymddiriedolaeth sefydlu cronfa i roi cymorth i drigolion yr Ynys a gafodd lifogydd i'w cartrefi a’u busnesau yn ddiweddar.
‘Roedd y 'Meini Prawf ar gyfer Dyrannu Grantiau o Gronfa Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn' ynghlwm wrth yr adroddiad fel Atodiad 1.
PENDERFYNWYD bod Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn yn derbyn na fyddai'r Dibenion Elusennol a nodir yng Ngweithred yr Ymddiriedolaeth yn cael eu defnyddio i roi cymorth ariannol i drigolion neu fusnesau’r Ynys sydd wedi dioddef llifogydd.
|
|||
Adroddiad Blynyddol 2016/17 PDF 252 KB Cyflwyno, i’w mabwysiadu, Adroddiad Blynyddol 2016/17. Cofnodion: Cyflwynwyd - Adroddiad Blynyddol drafft 2016/17 gan y Trysorydd i'w fabwysiadu gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol.
Dywedodd y Trysorydd y dyrannwyd grantiau i 64 o sefydliadau gan ddefnyddio'r meini prawf a sefydlwyd a bod yr Ymddiriedolaeth yn parhau i fod yn ffynhonnell gyllido bwysig ar gyfer elusennau lleol, sefydliadau chwaraeon a gwirfoddol. Parhaodd yr Ymddiriedolaeth hefyd i ariannu Oriel Ynys Môn ac ‘roedd yr adroddiad yn nodi’r gweithgareddau a gynhaliwyd yn yr Oriel.
Mae perfformiad buddsoddi portffolio'r Ymddiriedolaeth Elusennol wedi cynhyrchu incwm buddsoddi o £610,710, sef £190,711 yn uwch na’r targed o £420,000. ‘Roedd y gronfa yn werth £21.581m ar 31 Mawrth, 2017. Roedd rhestr o'r grantiau a ddyfarnwyd o fewn y categorïau blynyddol arferol a rhestr o’r grantiau mwy wedi'u cynnwys yn yr adroddiad.
Cyfeiriodd Mr R Meirion Jones at fuddsoddiadau portffolio’r Ymddiriedolaeth yn cael eu buddsoddi dramor; gofynnodd a roddir ystyriaeth i gefndir moesegol y cwmnïau hyn. Ymatebodd y Trysorydd bod Rheolwyr Buddsoddi HSBC wedi cael canllawiau ynghylch y cwmnïau y mae'r Ymddiriedolaeth yn barod i fuddsoddi ynddynt. Dywedodd ymhellach fod y Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2017 wedi cael dogfennau gan Reolwyr Buddsoddi HSBC o ran y canllawiau a'r cwmnïau y mae'r Ymddiriedolaeth Elusennol hon yn barod i fuddsoddi ynddynt.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon ar gyfer 2016/17 ac awdurdodi'r Cadeirydd i arwyddo'r fersiwn derfynol.
|
|||
Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â'r uchod.
Dywedodd y Trysorydd mai adroddiad yw hwn i gadarnhau'r dyraniadau cyllidol ar gyfer 2018/19. ‘Roedd portffolio’r Ymddiriedolaeth Elusennol yn werth £22,909,352 ar 30 Tachwedd, 2017. Yr amcanestyniad diweddaraf ar gyfer incwm buddsoddi yn ystod 2018/19 yw £680,000. Mae'r Ffi Reoli yn seiliedig ar gyfradd sefydlog o 0.4% o werth y portffolio ac yn 2018/19 amcangyfrifir y bydd yn £94,000. Roedd diffyg o £82,854 yn y cronfeydd wrth gefn a ddygwyd ymlaen o 2016/17 y gellir ei weld yn y Datganiad o Weithgareddau Ariannol yn Adroddiad Blynyddol 2016/17.
Y gyllideb a argymhellir ar gyfer grantiau yn 2018/19 yw: -
Oriel Ynys Môn £215k Neuaddau Pentref £80k Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon a Mân Grantiau £125k
Grantiau Mwy - Ymrwymiadau Hirdymor: -
Ffermwyr Ifanc Ynys Môn £30k Urdd Gobaith Cymru £40k Cymdeithas Gemau Ynysoedd Ynys Môn £40k
Bwriedir cadw'r gyllideb ar gyfer y Neuaddau Pentref yn £80k fel y dyfarnwyd yn 2017/18. Fodd bynnag, mae’r arian a ddyfarnwyd ar gyfer neuaddau pentref wedi bod yn is na £80k (£67k yn 2015/16, £64k yn 2016/17 a £64k hyd at Chwarter 3 yn 2017/18). Mae lle i ostwng y gyllideb hon i adlewyrchu'r tueddiadau diweddar.
Bwriedir cadw'r gyllideb ar gyfer Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon a Mân Grantiau ar £125k fel y dyfarnwyd yn 2017/18. Fodd bynnag, mae'r dyfarniadau grant diweddar ar gyfer y Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon a Mân-Grantiau wedi bod yn is na £125k (£103k yn 2015/16, £86k yn 2016/17 a £59k yn 2017/18). Mae yna sgôp hefyd i leihau'r gyllideb hon i adlewyrchu hynny.
Dywedodd y Trysorydd ymhellach y bydd y cynnig cyllidebol hwn yn arwain at ddwyn ymlaen diffyg o £103k i 2018/19. Fodd bynnag, ni fydd diffyg mwyach pan ddaw'r Ymrwymiadau Hirdymor o £110k sy'n weddill i ben yn 2018/19.
Penderfynodd y Pwyllgor Buddsoddiadau a Chontractau yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd, 2017 y byddai £350k yn cael ei neilltuo tuag at grantiau mwy yn 2018/19.
PENDERFYNWYD: -
· Mabwysiadu cyllideb ar gyfer 2018/19 fel a ganlyn: -
Oriel Ynys Môn £215k Neuaddau Pentref £80k Cyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon a Mân Grantiau £125k Grantiau Mwy o'r Gronfa Gyfalaf £350k Ymrwymiadau Tymor Hir Parhaus £110k
· Dirprwyo £125k i'r Pwyllgor Grantiau Cyffredinol i ddelio â cheisiadau am Gyfleusterau Cymunedol a Chwaraeon a Mân Grantiau.
|
|||
Menter Môn - Prosiect Leader PDF 165 KB Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â phrosiect ‘Leader’ Menter Môn sydd wedi'i ddylunio i gynorthwyo gydag ailstrwythuro economaidd yn Ynys Môn. Ym mis Ebrill 2014, rhoddodd Rheolwr-Gyfarwyddwr blaenorol Menter Môn gyflwyniad i'r Ymddiriedolaeth ar y prosiect ‘Leader’. Dyluniwyd y prosiect ‘Leader’ i redeg am gyfnod o 6 blynedd a gofynnodd y Rheolwr-Gyfarwyddwr ar y pryd am gyllid gan yr Ymddiriedolaeth fel arian cyfatebol er mwyn sicrhau y gellir cael arian grant o Ewrop. Cymeradwyodd yr Ymddiriedolaeth y cais mewn egwyddor.
Dywedodd y Trysorydd bod Rheolwr-Gyfarwyddwr blaenorol Menter Môn wedi rhoi cyflwyniad i'r Pwyllgor Adfywio yn ei gyfarfod ar 22 Mai 2015 a bod y Pwyllgor wedi cymeradwyo'r cais a bod yr Ymddiriedolaeth lawn wedi cadarnhau’r penderfyniad hwnnw yn ei gyfarfod ar 13 Gorffennaf, 2015. Dyfarnodd yr Ymddiriedolaeth swm o £330k a oedd yn daladwy dros gyfnod o 3 blynedd (2015 - 2017) fel arian cyfatebol er mwyn sicrhau'r grant o £1.65m.
Estynnodd y Cadeirydd groeso i’r cyfarfod i Mr Dafydd Gruffydd, Rheolwr-Gyfarwyddwr Menter Môn a chafwyd cyflwyniad byr ganddo ar y Prosiect ‘Leader’.
Dywedwyd bod y prosiect yn un 6 blynedd a fydd rhedeg hyd at Ragfyr 2021. Cyfanswm cost y prosiect yw £3.3m, a bydd £2.78m yn cael ei ariannu gan arian grant Ewropeaidd a hefyd gan Lywodraeth Cymru. Mae'r balans o £0.52m yn arian cyfatebol y mae'n rhaid i Menter Môn ei sicrhau. Mae'r £330k cychwynnol a ddarparwyd gan yr Ymddiriedolaeth yn rhan o'r arian cyfatebol, gan adael balans o £191,438 y mae'n rhaid i Menter Môn ei sicrhau.
Rhoddodd aelodau'r Ymddiriedolaeth Elusennol sylw i’r cais a chodwyd y canlynol: -
· Gofynnwyd a yw logo'r Ymddiriedolaeth Elusennol i’w weld ar fwrdd gwybodaeth a hysbysebu’r prosiect y mae'r Ymddiriedolaeth wedi ei ariannu. Ymatebodd y Trysorydd nad oes gan Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn logo penodol ac efallai y bydd y Sefydliad Corfforedig Elusennol (SCE), unwaith y bydd wedi ei sefydlu, yn dymuno ystyried cael logo. · Holwyd am yr effaith ar gyllideb yr Ymddiriedolaeth ar gyfer 2018/19 pe cymeradwyir y cais gan Menter Môn am arian i gefnogi cais am gyllid cyfatebol ar gyfer y prosiect ‘Leader’. Ymatebodd y Trysorydd y byddai angen cynnwys £64k ychwanegol yn y gyllideb am gyfnod o 3 blynedd.
PENDERFYNWYD: -
· Cefnogi'r cais prosiect ‘Leader’ a’i drin fel eithriad i'r broses ar gyfer grantiau mwy; · Nodi y byddai angen cynnwys £64k ychwanegol o fewn cyllideb yr Ymddiriedolaeth Elusennol am gyfnod o 3 blynedd.
|
|||
Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â'r uchod.
Dywedodd y Trysorydd fod y Pwyllgor Grantiau Cyffredinol a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf, 2017 wedi penderfynu dyrannu grant o £4,200 i Grŵp Cymunedol Amlwch i ddatblygu llecyn o dir i'w ddefnyddio fel rhandir. Roedd y dyfarniad grant yn amodol ar dderbyn amcangyfrifon a phrawf perchenogaeth neu brydles ar gyfer y tir. Cyfeiriodd at Adran 2.1, paragraff (c) o'r meini prawf ar gyfer dyrannu grantiau gan Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn sy'n dweud "Pan fo’n angenrheidiol, bod yr ymgeiswyr (y gymdeithas / corff) â thystiolaeth o ddeiliadaeth ar y tir neu’r adeilad y gofynnir am grant iddo a’r ddeiliadaeth honno, fel arfer, am gyfnod sydd o leiaf 21 mlynedd. Yng nghyswllt adeiladau symudol, bydd deiliadaeth o saith mlynedd yn cael ei hystyried yn ddigonol. Yn achos caeau chwaraeon, bydd tystiolaeth o ddefnydd sefydlog dros gyfnod o 10 mlynedd neu fwy yn dderbyniol yn hytrach na thystiolaeth o ddeiliadaeth”
‘Roedd Cyngor Sir Ynys Môn wedi cynnig rhywfaint o dir i Grŵp Cymunedol Amlwch, ond ar ôl gwneud ymchwiliadau pellach, mae'r Cyngor Tref yn credu y gall bod y tir wedi ei lygru ac yn anaddas i’w ddefnyddio fel rhandir, o gofio y byddai'n cael ei ddefnyddio i dyfu ffrwythau a llysiau. Yn dilyn hynny, mae'r Grŵp wedi darganfod llecyn o dir preifat y mae'r perchennog yn fodlon ei gynnig ar brydles i'r Grŵp ond nid yw’r tirfeddiannwr ond yn fodlon cynnig prydles gychwynnol o 5 mlynedd ar y tir, er y gellid ymestyn y cyfnod hwn wedyn. Fodd bynnag, yn dilyn cyhoeddi'r Rhaglen ar gyfer y cyfarfod hwn, daeth yn amlwg nad yw'r tir preifat dan sylw yn addas ac mae’r tirfeddiannwr wedi tynnu’r cynnig yn ôl.
Dywedodd yr Is-Gadeirydd fod Grŵp Cymunedol Amlwch bellach yn gofyn am estyniad chwe mis gan yr Ymddiriedolaeth lawn i allu chwilio am dir arall y gellid, o bosib, ei ddefnyddio fel rhandir.
Gadawodd yr Is-Gadeirydd, Mr R O Jones a Mr. Richard Griffiths y cyfarfod gan bod y ddau ohonynt wedi datgan diddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas â'r eitem hon ac ni chymerodd yr un o’r ddau unrhyw ran yn y drafodaeth na’r bleidlais ar y mater.
Rhoddodd aelodau'r Ymddiriedolaeth Elusennol sylw i’r cais a chodwyd y canlynol: -
· Codwyd pryderon na ddylai'r meini prawf ar gyfer dyrannu grantiau gael eu rhoi heibio oherwydd dylid sicrhau bod deiliadaeth 21 mlynedd ar dir y gofynnir am grant ar ei gyfer. Roedd rhai Aelodau o'r Ymddiriedolaeth o'r farn y dylid cael trafodaeth bellach ar y meini prawf ar gyfer prydlesu yng nghyfarfod nesaf yr Ymddiriedolaeth Elusennol lawn; · ‘Roedd Aelodau o’r farn fod Grŵp Cymunedol Amlwch - Caru Amlwch wedi cael grant o £4,200 ar 12 Gorffennaf 2017 yn amodol ar dderbyn prawf o berchnogaeth neu brydles ar y tir a bod ganddynt 4 blynedd felly i wireddu'r prosiect.
Yn dilyn trafodaethau PENDERFYNWYD: -
· Hysbysu Grŵp Cymunedol Amlwch - Caru Amlwch bod ganddynt 4 blynedd i ddarganfod darn o dir ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7. |
|||
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 14 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau alln y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu'r canlynol: -
"O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”
|
|||
Grant Mawr - Rheilffordd Ganolog Môn Cyf. Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â chais gan Rheilffordd Ganolog Môn Cyf i ddiwygio amodau’r grant a chaniatȧu rhyddhau’r grant i ariannu costau parhaus.
PENDERFYNWYD rhyddhau grant o £25k i Reilffordd Ganolog Môn i gwrdd â chostau perthnasol ac offer ychwanegol i hyrwyddo gweithrediadau presennol ar y corridor rheilffyrdd. |
|||
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd PDF 13 KB Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-
“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu'r canlynol: -
"O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”
|
|||
Newid Prosiect- Cymunedau Gyntaf Môn Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â newid lleoliad yr Hyb Cyflogaeth a Hyfforddiant yng Nghaergybi a chostau prosiect gan Cymunedau yn Gyntaf Môn.
PENDERFYNWYD parhau i gefnogi’r prosiect yn y lleoliad newydd.
EITEM YCHWANEGOL A YSTYRIWYD GYDA CHANIATÂD CADEIRYDD YMDDIRIEDOLAETH ELUSENNOL YNYS MÔN
GEMAU’R YNYSOEDD
Dywedodd yr Ysgrifennydd fod cais wedi ei gyflwyno i’r Ymddiriedolaeth Elusennol am gymorth i ddenu Gemau'r Ynysoedd i Ynys Môn. Nododd, yn dilyn ymgynghori â'r Cadeirydd, y penderfynwyd bod angen mwy o wybodaeth a chefndir mewn perthynas â'r cais i'r Ymddiriedolaeth Elusennol ac i bwyso a mesur a fyddai cais o'r fath yn cydymffurfio â meini prawf yr Ymddiriedolaeth ar gyfer cyllido ceisiadau.
CYTUNWYD i ofyn i'r Ysgrifennydd geisio rhagor o wybodaeth ynghylch y cais a gyflwynwyd i'r Ymddiriedolaeth Elusennol am gymorth ariannol i ddenu Gemau'r Ynysoedd i Ynys Môn ac iddo adrodd yn ôl i'r Ymddiriedolaeth lawn gyda hyn.
|