Rhaglen a chofnodion

Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn - mae’r cronfeydd elusennol yn cael eu gweinyddu’n awr gan elusen gofrestredig breifat, Y Gymdeithas, ac nid yw’r Cyngor Sir bellach yn ymddiriedolwr. - Dydd Mawrth, 17eg Ebrill, 2018 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Council Chamber, Council Offices, Llangefni

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem of fusnes.

Cofnodion:

Cafwyd y datganiadau o ddiddordeb canlynol :-

 

Bu Mr Richard Griffiths ddatgan diddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 5 – Ceisiadau Grantiau Mawr 2018/19 – Cais 7 Cymdeithas Dreftadaeth Diwydiannol Amlwch.

 

Bu Mr Trefor Ll Hughes ddatgan diddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 5 – Ceisiadau Grantiau Mawr 2018/19 – Cais 19 Pum Cyngor Tref Ynys Môn.

 

Bu Mr R Meirion Jones ddatgan diddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 5 – Ceisiadau Grantiau Mawr 2018/19 – Cais 14 Band Biwmares a Chais18 Cwmni’r Fran Wen.

 

Bu Mr Bryan Owen ddatgan diddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 5 – Ceisiadau Grantiau Mawr 2018/19 – Cais 6 Tudur Cyf.

 

Bu Mr Dylan Rees ddatgan diddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 5 – Ceisiadau Grantiau Mawr 2018/19 – Cais 19 Pum Cyngor Tref Ynys Môn a Cais 25 Gobaith Môn.

 

Bu Mrs Nicola Roberts ddatgan diddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 5 – Ceisiadau Grantiau Mawr 2018/19 – Cais 19 Pum Cyngor Tref Ynys Môn.

 

Bu Mr Robin Williams ddatgan diddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 5 – Ceisiadau Grantiau Mawr 2018/19 – Cais 19 Pum Cyngor Tref Ynys Môn.

 

 

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 44 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfodydd canlynol :-

 

·           Cofnodion y cyfarfod arbennig a gafwyd ar 28 Chwefror, 2018.

·           Cofnodion y cyfarfod arbennig a gafwyd ar 27 Mawrth, 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfodydd canlynol fel rhai cywir  :-

 

·      Cofnodion y cyfarfod arbennig a gynhaliwyd ar 28 Chwefror, 2018.

·      Cofnodion y cyfarfod arbennig a gynhaliwyd ar 27 Mawrth, 2018.

3.

Adroddiadau o Is-Bwyllgorau'r Ymddiriedolaeth Elusennol pdf eicon PDF 30 KB

Pwyllgor Adfywio

 

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfodydd canlynol :-

 

·           Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 14 Chwefror, 2018

·           Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 13 Mawrth, 2018

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Pwyllgor Adfywio

 

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfodydd canlynol fel cofnod cywir :-

 

·      Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Chwefror, 2018.

·      Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Mawrth, 2018.

4.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 15 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd fel y cyflwynwyd nhw.”

5.

Ceisiadau am Grantiau Mawr 2018/19

Cyflwyno adroddiad gan Drysorydd yr Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn.

Cofnodion:

 Adroddodd y Trysorydd bod cyfanswm o 34 o geisiadau grant wedi dod i law a oedd yn werth £1,467,487m i gyd. Cytunodd y Pwyllgor Adfywio ar 14 Chwefror, 2018 ar restr fer o geisiadau a nodwyd y rhai hynny lle roedd angen gwybodaeth ychwanegol gan yr ymgeiswyr. Ar 13 Mawrth, 2018 fe ystyriodd y Pwyllgor Adfywio’r ceisiadau ar y rhestr fer ynghyd â’r wybodaeth ychwanegol a lefel y cyllid y dylid argymell ei gymeradwyo. Penderfynwyd y dylid cyfeirio 14 cais i’r Ymddiriedolaeth Lawn ar gyfer eu cymeradwyo.     

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo argymhellion y Pwyllgor Adfywio a gynhaliwyd ar 13 Mawrth, 2018 fel â ganlyn:-

 

·           Prosiectau a gymeradwywyd

 

Ymgeisydd

Prosiect

Swm a Gymeradwywyd

Clwb Pêl-droed Cemaes

Llifoleuadau newydd ar y cae hyfforddi

£37,170

 

(gydag ar amod i beidio â thalu unrhyw grant tan bod tîm hŷn wedi’i ail sefydlu)

 

Neuadd Bentref Aberffraw

Creu toiled cyhoeddus a maes parcio newydd

£43,100

Cyngor Ar Bopeth

Cefnogaeth i gostau rhedeg craidd

£39,794

Neuadd Bentref Llanfairynghornwy

Cyllid ychwanegol ar gyfer gwaith ar du allan yr adeilad

£26,388

Banc Bwyd Ynys Môn

Prynu car trydan newydd er mwyn gallu danfon bwyd, talebau tanwydd a danfon pobl i’r ysbyty

£20,000

Tudur Cyf

Gwelliannau i do Canolfan Ebeneser

£6,000

Cymdeithas Dreftadaeth Ddiwydiannol Amlwch

Ail-wynebu’r Maes Parcio i Ymwelwyr ynghyd ag arwyddion a rhwystr mynediad

£66,414

Beiciau Gwaed Cymru

Prynu beic modur newydd

£7,590

Clwb Rygbi Llangefni

Adeiladu stand a mannau ymochel (dugouts) newydd

£18,000

Ffrindiau Moelfre

Adnewyddu ac ehangu’r maes parcio sy’n berchen i’r Cyngor Cymuned

£26,900

Côr Ieuenctid Môn

Sefydlu canolfan ar gyfer y Côr

£13,762

Ymddiriedolaeth Colofn Môn

Angen cyllid i gyflogi cwmni ymgynghori i ysgrifennu cais am arian Loteri Treftadaeth

£10,000

Neuadd Goffa Bodwrog

Atgyweiriadau a gwelliannau i gyfleusterau’r Neuadd

£24,650

Band Biwmares

Cyllid i gefnogi costau fel y gall y Band ieuenctid fynychu cystadleuaeth fawr.

£10,000

 

                                    

·           Bod yr Ymddiriedolaeth yn dirprwyo’r awdurdod i’r Trysorydd i gysylltu â’r ymgeiswyr aflwyddiannus yn nodi’r rhesymau pam nad oedd eu cais yn llwyddiannus. 

 

·           Bod yr Ymddiriedolaeth yn dirprwyo’r awdurdod i’r Trysorydd anfon llythyr cynnig ffurfiol at yr ymgeiswyr llwyddiannus.