Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Arbennig, Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn - mae’r cronfeydd elusennol yn cael eu gweinyddu’n awr gan elusen gofrestredig breifat, Y Gymdeithas, ac nid yw’r Cyngor Sir bellach yn ymddiriedolwr. - Dydd Mercher, 28ain Chwefror, 2018 11.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Datganodd Mr R O Jones ddiddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 4 – Cais Grant – Gemau’r Ynysoedd.  Cymerodd ran yn y drafodaeth a’r bleidlais ar y mater wedi iddo gael cyngor cyfreithiol.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 99 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 24 Ionawr, 2018.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Ionawr, 2018 fel rhai cywir.

3.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei rhyddhau fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A (Categori 16) y Ddeddf.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol :-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y posibilrywdd y caiff gwybodaeth eithriedig ei rhyddhau fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A (Categori 16) y Ddeddf.”

4.

Cais am Grant - Gemau'r Ynysoedd

Cyflwyno adroddiad gan Ysgrifennydd yr Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan yr Ysgrifennydd mewn perthynas â chais a gafwyd am gymorth ariannol i gynnal Gemau’r Ynysoedd yn Ynys Môn yn 2025.

 

Croesawodd y Cadeirydd gynrychiolwyr o Bwyllgor Cais Gemau’r Ynysoedd Ynys Môn 2025 ac fe gafodd yr Ymddiriedolaeth Elusennol gyflwyniad manwyl ganddynt.  Yn dilyn sesiwn holi ac ateb, gadawodd y cynrychiolwyr y cyfarfod cyn i’r cais gael ei drafod.

 

Anerchwyd y cyfarfod gan yr Ysgrifennydd, y Trysorydd a’r Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol ac yn dilyn trafodaethau PENDERFYNWYD :-

 

·      Bod yr Ymddiriedolaeth Elusennol yn cefnogi’r cais, mewn egwyddor, a’i bod yn gosod amodau i sicrhau gwariant elusennol priodol;

·      Bod angen Cynllun Busnes llawn sy’n nodi’n glir i ba ddibenion y bydd arian yr elusen yn cael eu gwario a bod unrhyw drefniadau ar gyfer rhyddhau arian yn amodol ar dderbyn prawf bod meini prawf y flwyddyn flaenorol wedi’u bodloni o dan y Cynllun Busnes os yn berthnasol;

·      Rhoi pŵer dirprwyedig i’r Ysgrifennydd (mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-Gadeirydd yr Ymddiriedolaeth Elusennol, y Trysorydd ac unrhyw Swyddogion eraill fel y gwêl yr Ysgrifennydd yn briodol) i osod unrhyw amodau ar unrhyw grant neu ymrwymiad er mwyn diogelu priodoldeb gwario arian elusennol;

·      Bod yr amodau a osodir yn cynnwys amod bod raid adrodd ar y mater eto i’r Ymddiriedolaeth Elusennol lawn cyn rhyddhau unrhyw arian o’r fath.