Rhaglen a chofnodion

Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn - mae’r cronfeydd elusennol yn cael eu gweinyddu’n awr gan elusen gofrestredig breifat, Y Gymdeithas, ac nid yw’r Cyngor Sir bellach yn ymddiriedolwr. - Dydd Mercher, 27ain Mehefin, 2018 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ethol Cadeirydd

Ethol Cadeirydd.

Cofnodion:

Cafodd Mr Trefor Ll Hughes MBE ei ail ethol fel Cadeirydd.

 

Diolchodd Mr Hughes i Aelodau Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn am yr hyder a ddangoswyd ynddo.  Diolchodd hefyd i Swyddogion yr Ymddiriedolaeth Elusennol am eu cefnogaeth a’u gwaith ar ran yr Ymddiriedolaeth.

2.

Etholiad Is-Gadeirydd

Ethol Is-Gadeirydd.

Cofnodion:

Cafodd Mr Richard O Jones ei ail ethol yn Is-gadeirydd yn ei absenoldeb.

 

O ganlyniad i absenoldeb yr Is-gadeirydd fe GYTUNWYD ethol Mr Bob Parry OBE FRAgS fel Is-gadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn yn unig.

3.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Dim.

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 76 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 17 Ebrill, 2018.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Ebrill, 2018 fel cofnod cywir.

5.

Ysgol Gyfun Llangefni - Cystadleuaeth 'Fformiwla 1 i Ysgolion' - Cais am gyllid pdf eicon PDF 3 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Bennaeth Ysgol Gyfun Llangefni, Mr Clive Thomas, a disgyblion yr ysgol i’r cyfarfod.  

 

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â chais am gyllid ar gyfer yr uchod.

 

Adroddodd y Trysorydd, fod disgyblion o Flwyddyn 11 Ysgol Gyfun Llangefni yn gynharach eleni, wedi ennill rownd Cymru y gystadleuaeth Formula 1 for Schools, sef prosiect STEM i gynllunio car fformiwla 1. Fel enillwyr cystadleuaeth Cymru, gwahoddwyd y disgyblion i gymryd rhan yn y gystadleuaeth ryngwladol a gynhelir yn Singapore ym mis Hydref, i gyd-fynd â’r Grand Prix Fformiwla 1. Nododd yr amcangyfrifir y bydd cost cymryd rhan yn y gystadleuaeth, yn cynnwys costau hedfan, llety, prydau bwyd, cost cystadlu a chost mynediad i’r Grand Prix ar gyfer y disgyblion a’r athrawon fydd yn eu hebrwng tua £30,000. Mae’r ysgol wedi sicrhau cyllid gan gwmnïau preifat i dalu cyfran o’r costau a bydd rhieni a disgyblion yn codi arian hefyd er mwyn sicrhau y gall y disgyblion fynychu’r gystadleuaeth.

 

Rhoddwyd cyflwyniad i’r Pwyllgor gan ddisgyblion Ysgol Gyfun Llangefni a eglurodd gefndir y gystadleuaeth a’r llwyddiant yr oeddent wedi’i gael hyd yma o gael eu dewis yn Bencampwyr Cymru yn y Rowndiau terfynol 2018 ynghyd ag yn y 3 Uchaf yng Ngwobr Hunaniaeth Tîm Ferrari, y 3 Uchaf yng Ngwobr Arddangos Pit a’r 3 Uchaf yn y Wobr Nawdd a Marchnata. Dywedodd y disgyblion bod cyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth ‘F1 i Ysgolion’ wedi ysbrydoli disgyblion ar draws yr ysgol i gymryd diddordeb mewn pynciau STEM. Fe wnaethant ddweud ei bod hi’n fraint gallu cynrychioli eu hysgol, Ynys Môn a Chymru yn y Rownd Derfynol Ryngwladol yn Singapore. 

 

Yn dilyn sesiwn cwestiwn ac ateb fe adawodd cynrychiolwyr Ysgol Gyfun Llangefni y cyfarfod tra cynhaliwyd trafodaeth ar yr eitem.

 

Cefnogodd Aelodau’r Pwyllgor yn unfrydol y cais am gyllid a mynegwyd y dylid cydnabod Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn fel cefnogwr o’r fenter. 

 

PENDERFYNWYD:-

·      Y dylai’r Ymddiriedolaeth genedlaethol wneud cyfraniad o £10k tuag at gais Ysgol Gyfun Llangefni am nawdd ar gyfer Rownd Derfynol Ryngwladol y gystadleuaeth ‘F1 i Ysgolion’ yn Singapore;

·      Bod Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn yn cael ei gydnabod fel cefnogwr o fenter Ysgol Gyfun Llangefni.

 

6.

Menter Môn - prosiect LEADER project pdf eicon PDF 268 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas a chais gan Menter Môn i newid defnydd a wneir o ddyraniad a gymeradwywyd.   

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â chais gan Menter Môn i ddefnyddio’r arian a gymeradwywyd i bwrpas arall.

 

Adroddodd y Trysorydd, ym mis Ionawr 2018, cytunodd Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn i ddyrannu swm o £191,438 i Menter Môn fel arian cyfatebol mewn perthynas â chyllid Ewropeaidd a chyllid Llywodraeth Cymru fyddai’n caniatáu i’r prosiect Leader barhau tan fis Rhagfyr 2021. Adroddodd ymhellach, ym mis Ebrill 2016, argymhellodd y Pwyllgor Adfywio fod yr Ymddiriedolaeth yn dyrannu grant mawr o £50,000 i Menter Iaith Môn i gynorthwyo i gyflawni amcanion Strategaeth Iaith Gymraeg yr Ynys. Ym mis Chwefror 2018, cyflwynodd Menter Iaith Môn gais pellach am swm ychwanegol o £100,000 er mwyn parhau â’r gwaith. Wrth ddyrannu’r arian a fyddai ar gael ar gyfer grantiau mawr yn 2018, rhoddodd y Pwyllgor Adfywio yr holl arian a oedd ar gael i geisiadau newydd ac o ganlyniad, nid oedd unrhyw arian ar gael ar gyfer ceisiadau gan sefydliadau a oedd wedi derbyn nawdd yn ystod y pum mlynedd diwethaf.  

 

Adroddodd y Trysorydd ymhellach bod Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn wedi cysylltu â Swyddogion yr Ymddiriedolaeth i weld a fydd yr Ymddiriedolaeth yn caniatáu trosglwyddiad o £25,000 o gyllid o’r prosiect LEADER er mwyn gallu ei ddefnyddio ar gyfer prosiect Menter Iaith Môn. 

 

Nododd rhai Aelodau o’r Ymddiriedolaeth fod Menter Iaith Môn yn hanfodol ar gyfer datblygiad yr Iaith Gymraeg ar Ynys Môn. Nodwyd fod Menter Iaith Môn yn cefnogi disgyblion a theuluoedd o fewn ysgolion yr Ynys wrth hyrwyddo’r Iaith Gymraeg. 

 

Holwyd a fyddai trosglwyddo cyllid sydd wedi’i glustnodi ar gyfer prosiect LEADER Menter Iaith Môn yn cydymffurfio â’r ‘Meini Prawf ar gyfer Dyrannu Grantiau gan Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn’. Ymatebodd y Trysorydd na chafodd y cais gan Menter Iaith Môn ym mis Chwefror 2018 ei gymeradwyo o ganlyniad i argymhelliad yr Ymddiriedolaeth llawn yn ei gyfarfod ar 12 Rhagfyr, 2017 y bydd ceisiadau sydd wedi derbyn nawdd grant yn ystod y bum mlynedd diwethaf ond yn cael eu hystyried unwaith y bydd yr holl geisiadau eraill wedi eu hystyried ac os oes arian dros ben ar gael yn dilyn ystyried y ceisiadau hynny. Dywedodd hefyd fod Menter Môn wedi nodi petai’r Ymddiriedolaeth yn cymeradwyo trosglwyddiad y £25k o’r prosiect LEADER i Menter Iaith Môn y byddai modd iddynt gael arian cyfatebol o ffynonellau eraill er mwyn crafangu’n ôl y cap o fewn y prosiect LEADER. Nododd y byddai’r cynllun gyda Menter Iaith Môn yn dod i ben os na gymeradwyir y trosglwyddiad cyllid hwn. Nododd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol fod gan yr Ymddiriedolaeth ddyletswydd ymddiriedol i amddiffyn yr arian elusennol. Nododd ymhellach, os nad oedd Menter Môn angen yr holl gyllid a ddarparwyd gan yr Ymddiriedolaeth tuag at y Prosiect LEADER yna  dylent ddychwelyd yr arian yn hytrach na throsglwyddo’r arian i brosiect arall.      

 

Yn dilyn trafodaeth bellach PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais er mwyn galluogi Swyddogion yr Ymddiriedolaeth i drafod y cais ymhellach gyda Menter Môn.

 

YmatalioddMr Dafydd Roberts ei bleidlais.

 

7.

Neuad Bentref Llanfairynghornwy - Gwybodaeth ddiweddaraf am y grant pdf eicon PDF 204 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.

 

Adroddodd y Trysorydd y gwnaeth Bwyllgor Neuadd Bentref Llanfairynghornwy gais i Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn ym Mai 2017 am arian i wneud gwaith ailwampio i’r Neuadd Bentref, ar gost a amcangyfrifwyd fyddai’n £12,420. Cymeradwywyd grant o £8k gan y Pwyllgor Grantiau Cyffredinol yn ei gyfarfod ar 12 Gorffennaf 2017. Dywedodd, wrth i’r adeiladwr wneud y gwaith o dynnu’r nenfwd y gwelwyd bod hefyd angen gwneud gwaith ar y to a drychiad blaen allanol yr adeilad ac na fyddai pwrpas parhau â’r gwaith y tu mewn tan y byddai’r gwaith tu allan wedi’i gwblhau. Mae Pwyllgor y Neuadd Bentref wedi cael cyfanswm o £12,134 o gostau hyd yma ac o hynny maent wedi ariannu £4,134. Gwnaed cais am Grant Mawr pellach i’r Ymddiriedolaeth ym mis Ionawr 2018. Roedd y cais yn un ar gyfer cwblhau’r gwaith adeiladu mewnol, addurno, gosod system wresogi a tharmacio tu allan yr adeilad. Yn ei gyfarfod ar 17 Ebrill 2018, fe ddyfarnodd yr Ymddiriedolaeth £26,388 tuag at gyfanswm cost y prosiect sef £34,743 h.y. byddai’r Ymddiriedolaeth yn ariannu 76% o’r gwaith. Yn ystod Ymweliad Ymgysylltu â’r Prosiect gyda Phwyllgor y Neuadd Bentref, gwelwyd nad oedd yr arian cyfatebol a nodwyd yn y cais bellach ar gael ac nad oedd gan y Pwyllgor ddigon o gyllid er mwyn eu galluogi nhw i wneud y gwaith a gymeradwywyd yn yr ail gais. Mae angen gwneud gwaith ar frys ond bellach does dim digon o gyllid ar gael i’r Pwyllgor allu cwblhau’r gwaith fel y nodwyd yn eu cais gwreiddiol. Adroddodd y Trysorydd ymhellach, yn dilyn trafodaethau â Phwyllgor y Neuadd Bentref, yr ystyriwyd y dylid ail edrych ar y cais am nawdd grant ac y dylai’r Ymddiriedolaeth Elusennol ariannu’r gwaith mewnol yn y Neuadd Bentref ond na ddylid gwneud y gwaith tarmacio gan leihau’r grant i £22,343.60 ond canlyniad hyn fyddai bod yr Ymddiriedolaeth yn ariannu 100% o’r gwaith. Byddai’r gwaith tarmacio yn cael ei ohirio tan y gallai’r Pwyllgor ddod o hyd i’r arian.     

 

Nododd rhai Aelodau o’r Ymddiriedolaeth bod y Neuadd Bentref yn Llanfairynghornwy yn adnodd cymunedol hanfodol gan mai dyma’r unig neuadd bentref yn yr ardal. Nodwyd bod gwaith sylweddol eisoes wedi’i wneud ar y Neuadd Bentref ond nad oes modd ei defnyddio fel ag y mae hi ar hyn o bryd. Nodwyd hefyd fod Pwyllgor y Neuadd Bentref yn cynnwys grŵp bach o wirfoddolwyr a bod camddealltwriaeth wedi digwydd mewn perthynas â’r costau sydd ynghlwm â’r prosiect hwn.      

 

Mynegwyd pryderon gan rai Aelodau o’r Ymddiriedolaeth fod angen cyflwyno Achos Busnes cadarn gydag achosion o’r fath a’i bod yn annheg rhoi nawdd o 100% i’r prosiect hwn o gymharu â cheisiadau eraill sy’n derbyn 76% o nawdd tuag at y costau.

 

Yn dilyn trafodaethau pellach PENDERFYNWYD parhau i gefnogi’r prosiect ond gydag amserlen waith wedi’i hadolygu, costau prosiect is a gostyngiad yn lefel y grant.

 

8.

Llywodraethiant Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn a Cymdeithas Elusennol Ynys Môn/The Isle of Anglesey Charitable Association

Cyflwyno adroddiad gan yr Ysgrifennydd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan yr Ysgrifennydd yn gofyn am awdurdod i drosglwyddo asedau Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn i’r Gymdeithas Elusennol.  

 

Adroddodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol, bod YEYM yn ei gyfarfodydd ym mis Rhagfyr 2016 a mis Chwefror 2017 wedi penderfynu creu cymdeithas elusennol gofrestredig [CEG] a chytunodd ar nifer o ddarpariaethau ynglŷn â ffurf a chyfansoddiad y CEG. Enw’r CEG fyddai “Cymdeithas Elusennol Ynys Môn / The Isle of Anglesey Charitable Association” [Y Gymdeithas]. Yn y cyfarfod ym mis Rhagfyr 2016 rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad gan gyfreithwyr cwmni Browne Jacobson a oedd yn bresennol yn y cyfarfod. Yn y cyfarfod ym mis Chwefror 2017 cytunodd YEYM i greu’r CEG a dirprwyo i Ysgrifennydd yr Ymddiriedolaeth yr hawl i gyflwyno’r cais ffurfiol a delio â materion cysylltiedig yn unol â chyngor gan Browne Jacobson. Nododd mai’r brif weithred angenrheidiol fydd trosglwyddo asedau’r Ymddiriedolaeth Elusennol o’u perchnogaeth presennol gyda’r ymddiriedolaeth elusennol a sefydlwyd ym 1990.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD :-

 

  • Awdurdodi trosglwyddo’r asedau elusennol a chronfeydd ariannol o YEYM i’r Gymdeithas
  • Dirprwyo i Ysgrifennydd yr Ymddiriedolaeth, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd YEYM, y Trysorydd ac unrhyw swyddog arall y mae’r Ysgrifennydd yn ystyried yn briodol, y grym i drosglwyddo’r asedau ar ddyddiad y bernir ei fod yn briodol
  • Rhoi cyfarwyddyd i Browne Jacobson gymryd camau i drosglwyddo’r asedau ac i roi cyngor fel y mae’r Ysgrifennydd yn gweld sydd orau.
  • Dirprwyo i’r Ysgrifennydd yr hawl i ddelio â’r tasgau gweinyddol a restrir ym mharagraff 3.3 uchod sydd angen eu cwblhau cyn neu yn ystod cyfarfod cyntaf Y Gymdeithas wedi iddi dderbyn yr asedau elusennol;
  • Dirprwyo i’r Ysgrifennydd yr hawl i alw cyfarfod cyntaf Y Gymdeithas wedi i’r asedau gael eu trosglwyddo iddi.