Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Datganodd Mr Richard O Jones ddiddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 3 – Cofnodion y Pwyllgor Grantiau Cyffredinol (Eitem 5, Grantiau Blynyddol 2018/19 – Cais 019 Clwb Pêl Droed Amlwch).

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 64 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 27 Mehefin, 2018.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Mehefin, 2018.

 

Yn codi o’r Cofnodion

 

Ysgol Gyfun Llangefni – CystadleuaethFformiwla 1’ i YsgolionCais am arian

 

Dywedodd y Trysorydd fod disgyblion o Flwyddyn 11 Ysgol Gyfun Llangefni wedi cystadlu yn y gystadleuaethFformiwla 1 i Ysgolionyn Singapore yn ddiweddar.  Roedd y Trysorydd yn falch o adrodd fod Ysgol Gyfun Llangefni wedi ennill y wobrHunaniaeth Tîm Gorau Ferrari’.  Yn ogystal, mae Elin Pierce ac Owain Roberts, dau ddisgybl o Ysgol Gyfun Llangefni, wedi ennill ysgoloriaethAcademi Peirianneg Williams’.  Roedd y ddau ddisgybl yn rhan o’r tîm a roddodd gyflwyniad i gyfarfod yr Ymddiriedolaeth Elusennol ar 27 Mehefin, 2018.

 

Dywedodd yr Ysgrifennydd fod hwn yn gyflawniad nodedig gan ddisgyblion Ysgol Gyfun Llangefni.  Dywedodd y byddai’n anfon llythyr ar ran yr Ymddiriedolaeth Elusennol at Bennaeth Ysgol Gyfun Llangefni a’r disgyblion a gymerodd ran yn y gystadleuaeth i’w llongyfarch ar eu llwyddiant.

 

Roedd y Cadeirydd yn dymuno llongyfarch disgyblion Ysgol Gyfun Llangefni hefyd a dywedodd ei bod yn galonogol fod y cyfraniad o £10k gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol a chyfraniadau gan sefydliadau eraill wedi denu’r fath anrhydedd i’r ysgol a’r Ynys.

 

3.

Adroddiadau o Is-Bwyllgorau'r Ymddiriedolaeth Elusennol pdf eicon PDF 73 KB

Pwyllgor Grantiau Cyffredinol

 

Cyflwyno cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 11 Gorffennaf, 2018.

Cofnodion:

Pwyllgor Grantiau Cyffredinol

 

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf, 2018 er gwybodaeth.

4.

Cais Grant Bach - Radio Ysbyty Gwynedd pdf eicon PDF 42 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd.   

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.

 

Adroddodd y Trysorydd fod cais am Grant Bach wedi’i gyflwyno gan Radio Ysbyty Gwynedd i’r Pwyllgor Grantiau Cyffredinol yn ei gyfarfod ar 11 Gorffennaf, 2018 am swm o £6,882 fyddai’n caniatáu iddynt uwchraddio eu hoffer darlledu yn eu stiwdio yn Ysbyty Gwynedd. Roedd Swyddogion yn argymell gwrthod y cais oherwydd bod Ysbyty Gwynedd yn darparu gwasanaeth i nifer fawr o gleifion nad ydynt yn byw yn Ynys Môn ac, o’r herwydd, y byddai’n groes i Weithred yr Ymddiriedolaeth.

 

Yn gyffredinol, roedd aelodau’r Pwyllgor Grantiau Cyffredinol o blaid cefnogi’r cais, ac yn cydnabod y budd y mae cleifion Ysbyty Gwynedd yn ei gael o’r gwasanaeth, ond roeddent yn derbyn y gallai dyfarnu’r grant fod yn groes i Weithred yr Ymddiriedolaeth. Penderfynodd y Pwyllgor ofyn am gyngor pellach gan Gyfreithiwr yr Ymddiriedolaeth ynglŷn â’r mater ac i ddirprwyo’r penderfyniad terfynol i’r Trysorydd. Yn dilyn hynny, trafodwyd y mater gyda Chyfreithiwr yr Ymddiriedolaeth a oedd yn cytuno gyda dehongliad gwreiddiol y Swyddogion o Weithred yr Ymddiriedolaeth, gan y byddai trigolion tu hwnt i’r Ynys yn elwa cymaint â thrigolion Ynys Môn.

 

Cafwyd sylwadau gan rai Aelodau o’r Ymddiriedolaeth, er eu bod yn gwbl gefnogol o’r gwasanaeth a ddarperir gan Radio Ysbyty Gwynedd, eu bod yn ystyried y byddai cefnogi’r cais am nawdd grant yn torri amodau Gweithredoedd yr Ymddiriedolaeth gan y byddai’n elw trigolion o du allan i Ynys Môn.  Ymatebodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol fod Gweithredoedd yr Ymddiriedolaeth yn nodi y dylai grantiau’r Ymddiriedolaeth Elusennol fod yn rhai er lles trigolion yr Ynys.  Ysbyty Gwynedd yw’r prif ysbyty cyffredinol ar gyfer Ynys Môn a tra derbynnir fod pobl o’r tir mawr yn cael eu trin yn yr ysbyty, y cyfaddawd o ran y cais hwn yw ystyried y cyfran o drigolion Ynys Môn sydd wedi bod yn gleifion yn yr ysbyty dros y 2½ flynedd diwethaf sef 33%.  Drwy weithredu’r canran hwn i’r cais grant gwreiddiol byddai hynny’n rhoi cynnig grant diwygiedig o £2,271.

 

Yn dilyn trafodaeth bellach, PENDERFYNWYD fod yr Ymddiriedolaeth yn cymeradwyo dyfarnu grant o £2,271 i Radio Ysbyty Gwynedd, ar yr amod fod Swyddogion yn derbyn y cadarnhad arferol a thystiolaeth fod arian wedi ei wario er mwyn prynu’r offer y manylir arno yn y cais gwreiddiol.

 

(Ataliodd Mr K P Hughes a Mr Bryan Owen eu pleidlais).