Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodir uchod.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 73 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 12 Rhagfyr, 2018.

Cofnodion:

Cadarnhawyd fod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr, 2018 yn gywir.

3.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem of fusnes.

Cofnodion:

Datganodd Mr Aled M Jones ddiddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 6 – Ffermwyr Ifanc Môn, ond yn dilyn cyngor cyfreithiol nodwyd ei fod yn cael cymryd rhan yn drafodaeth ond nad oedd yn cael gwneud cynnig neu bleidleisio ar y mater.

 

Datganodd Ms Llinos M Huws ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 6 – Cyllid yn y Dyfodol ar gyfer Urdd Gobaith Cymru a Ffermwyr Ifanc Môn a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar yr eitem.

 

Datganodd Mr Bob Parry OBE FRAgS ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 6 – Cyllid yn y Dyfodol ar gyfer Urdd Gobaith Cymru a Ffermwyr Ifanc Môn a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar yr eitem.

 

Datganodd Mrs Nicola Roberts ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 6 – Cyllid yn y Dyfodol ar gyfer Urdd Gobaith Cymru a Ffermwyr Ifanc Môn a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar yr eitem. 

 

 

4.

Adroddiad Blynyddol 2017/18 pdf eicon PDF 254 KB

Cyflwyno, i’w mabwysiadu, Adroddiad Blynyddol 2017/18.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – Adroddiad Blynyddol drafft 2017/18 gan y Trysorydd i’w fabwysiadu gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol.

 

Cyfeiriodd y Trysorydd at berfformiad yr Ymddiriedolaeth hyd yma yn erbyn yr amcan tymor hir a dywedodd y dylai gwerth y gwaddol gynyddu yn unol â chwyddiant. Nododd, tra bod gwerth cyffredinol yr Ymddiriedolaeth ar 31 Mawrth 2018 wedi gostwng £946k o gymharu â’r flwyddyn gynt, pwysleisiodd y Trysorydd y gall marchnadoedd ariannol fod yn anwadal iawn oherwydd gall buddsoddiadau amrywio o ddydd i ddydd, a dywedodd fod sefyllfa ariannol yr Ymddiriedolaeth ar y cyfan yn iach ac nad oedd y ffigurau yn adlewyrchu tueddiad hirdymor tuag i lawr yng ngwerth yr Ymddiriedolaeth. 

 

Mae perfformiad buddsoddiad portffolio yr Ymddiriedolaeth Elusennol wedi gwireddu incwm buddsoddiad o £601,412 sydd £26,692 yn is na’r targed o £628,104. Fodd bynnag, roedd yr incwm a gynhyrchwyd yn uwch na’r gwariant a gafwyd o £124,302. Roedd yr adroddiad yn cynnwys rhestr o’r grantiau a ddyfarnwyd o fewn y categorïau blynyddol arferol a rhestr o’r grantiau mwy. Adroddodd y Trysorydd fod y fantolen ar 31 Mawrth, 2018 yn dangos bod ‘Dyraniadau heb eu Talu’ (grantiau i sefydliadau nad ydynt wedi cael eu rhyddhau/ gwireddu) yn dangos cynnydd ond nid yw hyn yn annisgwyl gan fod yr Ymddiriedolaeth yn 2017/18 wedi cefnogi cynnydd yn y nifer o grantiau mwy. Nodwyd bod cyfanswm o £928,579 wedi’i ddyrannu mewn grantiau yn 2017/18 o gymharu â £770,996 yn 2016/17.   

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon ar gyfer 2017/18 ac awdurdodi’r Cadeirydd i arwyddo’r fersiwn derfynol. 

 

5.

Cyllideb 2019/20 pdf eicon PDF 59 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.

 

Adroddodd y Trysorydd fod yr adroddiad yn cadarnhau’r dyraniadau cyllid ar gyfer 2019/20.   Y rhagamcan diweddaraf ar gyfer incwm buddsoddiadau yn ystod 2019/20 yw £672,000.  Mae’r Ffi Reoli yn seiliedig ar ffi wastad o 0.4% ac yn 2019/20 rhagwelir y bydd yn £104,000. Roedd £41,449 o arian dros ben yn y Cronfeydd Wrth Gefn a ddygwyd ymlaen o 2017/18 a gellir gweld hwn yn y Datganiad o Weithgareddau Ariannol yn Adroddiad Blynyddol 2017/18.

 

Roedd y Trysorydd yn argymell y canlynol fel y gyllideb grantiau ar gyfer 2019/20:-

 

Oriel Ynys Môn                                                                                   £215k

Neuaddau Pentref                                                                              £80k

Cyfleusterau Cymuned a Chwaraeon a Grantiau Bach                    £125k

 

Grantiau Mwy – Ymrwymiadau Tymor Hir:-

 

Menter Môn                                                                               £63k

 

Nododd y Trysorydd fod yr Ymddiriedolaeth Elusennol yn 2014/15, wedi penderfynu dyrannu cyllid grant i Ffermwyr Ifanc Môn, Urdd Gobaith Cymru a Chymdeithas Gemau’r Ynysoedd yn flynyddol am gyfnod o 5 mlynedd. Roedd y cyfrifon ar gyfer 2014/15 yn dangos y swm llawn a ddyrannwyd i bob sefydliad wedi’i gronni, er mai dim ond rhan o’r cyllid a gafodd ei dalu i’r sefydliadau yn y flwyddyn honno. Mae’r balans sy’n weddill o £16,667 i’r Urdd, £22,500 i’r Ffermwyr Ifanc a £40,000 i Gymdeithas Gemau’r Ynysoedd yn cael ei ddangos ar Fantolen yr Ymddiriedolaeth fel ‘Dyraniadau heb eu Talu’. Caiff y taliadau hyn eu gwneud yn 2019/20 ond nid oes angen dyrannu unrhyw gyllideb ar eu cyfer gan fod y symiau wedi’u cronni yn 2014/15. 

 

PENDERFYNWYD :-

 

·      Mabwysiadu cyllideb ar gyfer 2019/20 fel a ganlyn :-

 

Oriel Ynys Môn                                                                            £215k

Neuaddau Pentref                                                                       £80k

Cyfleusterau Cymuned a Chwaraeon a Grantiau Bach           £125k

Grantiau Mwy o’r Gronfa Gyfalaf                                               £350k

Ymrwymiadau Tymor Hir sy’n Parhau                                     £63k

 

·      Dirprwyo swm o £125k i’r Pwyllgor Grantiau Cyffredinol i ddelio gyda cheisiadau am Gyfleusterau Cymuned a Chwaraeon a Grantiau Bach.

 

6.

Cyllid yn y dyfodol Urdd Gobaith Cymru a Ffermwyr Ifanc Môn pdf eicon PDF 24 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Am eu bod wedi datgan diddordeb a oedd yn rhagfarnu fe wnaeth Ms Llinos M Huws, Bob Parry OBE FRAgS a Nicola Roberts adael y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y mater.

 

Roedd Mr Aled Morris Jones wedi datgan diddordeb personol yn y drafodaeth ynglŷn â Ffermwyr Ifanc Môn ond yn dilyn cyngor cyfreithiol roedd yn cael cymryd rhan yn drafodaeth ond ni chawsai wneud cynnig neu bleidleisio ar y mater.

 

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.

 

Adroddodd y Trysorydd fod yr Ymddiriedolaeth, ym mis Mehefin 2014, wedi penderfynu dyfarnu grant blynyddol o £40k i’r Urdd a grant blynyddol o £30k i Ffermwyr Ifanc Môn, y ddau am gyfnod o bum mlynedd. Hyd at 2016, nododd fod yr Ymddiriedolaeth yn arfer dyfarnu ei grantiau trwy ei ddyraniad Grantiau Bach gyda grantiau o hyd at £8,000, er hynny roedd wedi dyfarnu grantiau mwy i nifer o sefydliadau eraill ar sail ad-hoc, gan asesu’r ceisiadau ar eu rhinweddau eu hunain heb unrhyw ystyriaeth i unrhyw geisiadau eraill posib. Roedd yr Urdd a Ffermwyr Ifanc Môn wedi derbyn eu harian grant trwy’r broses ad-hoc hon. Yn 2017 penderfynodd yr Ymddiriedolaeth Elusennol gyflwyno proses grantiau mwy a byddai’r grantiau hyn yn cael eu hariannu o’r twf yng ngwerth cyfalaf y portffolio; roedd hyn hefyd yn lleihau’r galw i ariannu grantiau’n gyfan gwbl o’r incwm refeniw blynyddol a gynhyrchwyd. Hefyd yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr 2017, penderfynodd yr Ymddiriedolaeth y gellir rhoi ystyriaeth i geisiadau gan sefydliadau sydd wedi derbyn cyllid o’r blaen yn ystod y 5 mlynedd diwethaf, fel rhan o’r broses grantiau mwy, ond dim ond pan fo’r holl geisiadau eraill wedi eu hystyried a bod cyllid yn weddill sydd heb ei ddyrannu. Mae ceisiadau wedi’u gwahodd gan sefydliadau am grantiau mwy, a’r dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 25 Ionawr, 2019. Bydd y Pwyllgor Adfywio yn rhoi ystyriaeth i’r ceisiadau yn ei gyfarfod ar 13 Chwefror, 2019. Er bod y broses ffurfiol, strwythuredig hon mewn lle ers 2017, mae’r Ymddiriedolaeth wedi dyfarnu grant i brosiect Leader Menter Môn ac i ddisgyblion o Ysgol Gyfun Llangefni tu allan i’r broses grantiau mawr flynyddol. Yn ogystal, mae’r Ymddiriedolaeth wedi penderfynu mewn egwyddor dyfarnu grant i Gymdeithas Gemau’r Ynysoedd Ynys Môn i’w cynorthwyo gydag ariannu’r gwaith o gynnal Gemau’r Ynysoedd yn 2025. 

 

Yng nghyfarfod yr Ymddiriedolaeth lawn ar 12 Rhagfyr, 2018, lle trafodwyd y cyllido ar gyfer yr Urdd a Ffermwyr Ifanc Môn, roedd aelodau’r Ymddiriedolaeth yn derbyn bod y ddau fudiad yn hollbwysig wrth gynnig cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan mewn cystadlaethau a gweithgareddau, fodd bynnag, ystyriwyd hefyd y dylai pob sefydliad gael eu trin yn gyfartal fel rhan o’r broses o ddyfarnu grantiau. Fel y nodwyd yn yr adroddiad, amlinellwyd tri opsiwn ar gyfer delio â cheisiadau am gyllid gan yr Urdd a Ffermwyr Ifanc Môn. 

 

Roedd y rhan fwyaf o Aelodau’r Ymddiriedolaeth o’r farn fod angen i’r ddau fudiad gael eu hystyried tu allan i’r broses grantiau mawr flynyddol gan  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.