Rhaglen a chofnodion

Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn - mae’r cronfeydd elusennol yn cael eu gweinyddu’n awr gan elusen gofrestredig breifat, Y Gymdeithas, ac nid yw’r Cyngor Sir bellach yn ymddiriedolwr. - Dydd Mawrth, 16eg Ebrill, 2019 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Derbyniwyd y Datganiadau o Ddiddordeb canlynol fel a ganlyn:-

 

Bu Mr Aled M Jones ddatgan diddordeb sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 7 – Cais am Grant – Mudiad Ffermwyr Ifanc Ynys Môn a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth

 

Bu Mr R O Jones ddatgan diddordeb sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 12 – Ceisiadau am Grantiau Mawr (Cais Caru Amlwch) a gadawodd y cyfarfod yn ystod y trafodaethau a’r bleidlais a ddilynodd. 

 

Bu Mr Bryan Owen ddatgan diddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 12 – Cais am Grantiau Mawr (Cais Clwb Pêl-droed Aberffraw) a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais a ddilynodd. 

 

Bu Mr Bob Parry OBE ddatgan diddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 7 – Cais am Grant – Mudiad Ffermwyr Ifanc Ynys Môn a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais a ddilynodd. 

 

Bu Mrs Nicola Roberts ddatgan diddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 5 – Cais am Grant – Urdd Gobaith Cymru a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais a ddilynodd.

 

Bu’r Ysgrifennydd ddatgan diddordeb mewn perthynas ag Eitem 9 – Cais am Grant – Môn FM.

 

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 52 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfaffod a gafwd ar 23 Ionawr, 2019.

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Ionawr, 2019 yn gywir.

4.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 14 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD  mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd fel y cyflwynwyd nhw.”

 

 

5.

Cais am Grant - Urdd Gobaith Cymru

·           Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd.

 

·           Cyflwyno y cais am grant gan Urdd Gobaith Cymru a derbyn cyflwyniad gan gynrychiolwyr o’r mudiad.

Cofnodion:

·      Cyflwynwyd – adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â chais am grant gan Urdd Gobaith Cymru.

 

Adroddodd y Trysorydd fod yr Ymddiriedolaeth Elusennol, ym Mehefin 2014, wedi penderfynu dyfarnu grant o £40k y flwyddyn i’r Urdd am gyfnod o 5 mlynedd. Er y dyfarnwyd y grant yn y blynyddoedd ariannol 2014/15, 2015/16, 2016/17, 2017/18 a 2018/19, dim ond £23,333 o’r £40k a ddyfarnwyd i’r Urdd yn ystod 2014/15. O ganlyniad, bydd £16,667 yn cael ei dalu i’r Urdd yn 2019/20. Yn ei gyfarfod ar 23 Ionawr, 2019 fe benderfynodd yr Ymddiriedolaeth y dylid delio â’r cais gan Urdd Gobaith Cymru y tu allan i’r broses ymgeisio flynyddol am grantiau mawr. Yn ogystal, byddai cynrychiolydd o’r sefydliad yn cael eu gwahodd i’r cyfarfod hwn o'r Ymddiriedolaeth er mwyn rhoi syniad o’r gwaith a gyflawnwyd yn ystod y 5 mlynedd diwethaf. Roedd y sefydliad wedi cyflwyno cais newydd am grant o £48k ar gyfer 2019/20.     

 

·      Croesawodd y Cadeirydd gynrychiolwyr o Urdd Gobaith Cymru i’r cyfarfod. Rhoddodd gynrychiolwyr o’r Urdd gyflwyniad manwl i’r Ymddiriedolaeth llawn ar y gweithgareddau yr oedd y sefydliad wedi ymgymryd â nhw yn ystod y 5 mlynedd diwethaf a rhoddwyd amlinelliad o fwriadau’r Urdd ar gyfer y cyfnod 2019/20. 

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD yn unfrydol dyrannu grant o £48k i Urdd Gobaith Cymru.  

 

 

6.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 14 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD  mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd fel y cyflwynwyd nhw.”

 

7.

Cais am Grant - Mudiad Ffermwyr Ifanc Ynys Môn

·           Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd.

 

·           Cyflwyno y cais am grant gan Mudiad y Ffermwyr Ifanc Ynys Môn a derbyn cyflwyniad gan gynrychiolwyr o’r mudiad.

 

Cofnodion:

·      Cyflwynwyd – adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â chais am grant gan Fudiad Ffermwyr Ifanc Ynys Môn. 

 

Adroddodd y Trysorydd fod yr Ymddiriedolaeth Elusennol, ym Mehefin 2014, wedi penderfynu dyfarnu grant o £30k y flwyddyn i Fudiad Ffermwyr Ifanc Ynys Môn am gyfnod o 5 mlynedd. Er y dyfarnwyd y grant yn y blynyddoedd ariannol 2014/15, 2015/16, 2016/17, 2017/18 a 2018/19 dim ond £7,500 o’r £30k a ddyfarnwyd a dalwyd i Fudiad Ffermwyr Ifanc Ynys Môn yn ystod 2014/15. O ganlyniad, bydd £22,500 yn cael ei dalu i Fudiad Ffermwyr Ifanc Ynys Môn yn ystod 2019/20. Yn ei gyfarfod ar 23 Ionawr, 2019 fe benderfynodd yr Ymddiriedolaeth y dylid delio â’r cais gan Fudiad Ffermwyr Ifanc Ynys Môn y tu allan i’r broses ymgeisio flynyddol am grantiau mawr. Yn ogystal, byddai cynrychiolydd o’r sefydliad yn cael eu gwahodd i’r cyfarfod hwn o'r Ymddiriedolaeth er mwyn rhoi syniad o’r gwaith a gyflawnwyd yn ystod y 5 mlynedd diwethaf. Roedd y sefydliad wedi cyflwyno cais newydd am grant dros 5 mlynedd yn dechrau gyda cais am £30k ar gyfer 2019/20.     

 

·      Croesawodd y Cadeirydd gynrychiolwyr o Fudiad Ffermwyr Ifanc Ynys Môn i’r cyfarfod.

 

     Rhoddodd gynrychiolwyr o Fudiad y Ffermwyr Ifanc gyflwyniad manwl i’r Ymddiriedolaeth llawn ar y gweithgareddau yr oedd y sefydliad wedi ymgymryd â nhw yn ystod y 5 mlynedd diwethaf a rhoddwyd amlinelliad o fwriadau Mudiad Ffermwyr Ifanc Ynys Môn ar gyfer y 5 mlynedd nesaf. 

 

Yn dilyn trafodaeth PENDERFYNWYD:-

 

·      Gan y bydd yr Ymddiriedolaeth Elusennol yn newid i ‘Gymdeithas Elusennol Ynys Môn/The Isle of Anglesey Charitable Association’ fe gytunwyd y dylid dyfarnu grant o £30k i Fudiad Ffermwyr Ifanc Ynys Môn am gyfnod o flwyddyn;

·      Argymell i ‘Gymdeithas Elusennol Ynys Môn/The Isle of Anglesey Charitable Association’ y dylid cefnogi’r cais am grant am gyfnod pellach o 4 blynedd.

 

8.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 15 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD  mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd fel y cyflwynwyd nhw.”

 

9.

Cais am Grant - MônFM

·           Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd.

 

·           Cyflwyno y cais am grant gan MônFM a derbyn cyflwyniad gan gynrychiolwyr o MônFM.

 

Cofnodion:

·      Cyflwynwyd – adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â chais am grant gan Môn FM.

 

Adroddodd y Trysorydd fod Môn FM wedi cyflwyno cais am grant mawr i’w ystyried gan y Pwyllgor Adfywio yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Chwefror, 2019 ac yn y cyfarfod a ddilynodd ar 14 Mawrth, 2019. Yn ei gyfarfod ar 14 Mawrth, 2019 fe ystyriwyd fod Môn FM yn darparu gwasanaeth i holl drigolion Ynys Môn ac y gallai fod yn haeddiannol o gefnogaeth yr Ymddiriedolaeth ond fod y cyllid a ofynnwyd amdano yn gyfran sylweddol o’r arian a oedd ar gael a, phetai’r cais yn cael ei gefnogi, byddai’n cyfyngu’r arian ar gael ar gyfer ceisiadau eraill. Yn ogystal, roedd y cais yn un am gyfnod o 3 blynedd, tra fod y broses ceisiadau grantiau mawr yn ystyried bod grantiau yn rhai am flwyddyn yn unig. Felly, penderfynodd y Pwyllgor anfon y cais ymlaen at yr Ymddiriedolaeth Elusennol fel cais y tu allan i’r broses grantiau mawr arferol, yn unol â’r penderfyniad a wnaed mewn perthynas â’r ymdriniaeth o geisiadau gan Urdd Gobaith Cymru a Mudiad Ffermwyr Ifanc Ynys Môn.     

 

Nodwyd fod y cais grant am y symiau canlynol:-

 

2019/20  -  £50,826

2020/21  -  £47,475

2021/22  -  £19,344

 

Cyfanswm      - £117,645

 

Croesawodd y Cadeirydd gynrychiolwyr o Môn FM i’r cyfarfod. Rhoddodd cynrychiolwyr Môn FM gyflwyniad manwl i’r Ymddiriedolaeth llawn ar y cais am grant. 

 

Yn dilyn trafodaethau, PENDERFYNWYD ar bleidlais fwrw’r Cadeirydd:-

 

·      Cymeradwyo’r cais am grant o £50,826 ar gyfer y cyfnod 2019/20;

·      Bod ‘Cymdeithas Elusennol Ynys Môn/The Isle of Anglesey Charitable Association’ yn ystyried a ddylid cefnogi’r cyllid grant ar gyfer 2020/21 a 2021/22.

 

 

10.

Adroddiadau o Is-Bwyllgorau'r Ymddiriedolaeth Elusennol pdf eicon PDF 27 KB

Pwyllgor Adfywio

 

Cyflwyno, i’w cadarnahu, gofnodion y cyfarfodydd canlynol :-

 

·      Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 13 Chwefror, 2019.

·      Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 14 Mawrth, 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Pwyllgor Adfywio

 

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfodydd canlynol fel cofnod cywir:-

 

·      Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Chwefror, 2019

·      Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mawrth, 2019

 

11.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 17 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD  mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd fel y cyflwynwyd nhw.”

 

12.

Ceisiadau Grantiau Mawr 2019/20

Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.

 

Adroddodd y Trysorydd fod 29 o geisiadau grant wedi eu derbyn a oedd yn dod i gyfanswm o £1.170m. Cynhaliwyd y Pwyllgor Adfywio ar 13 Chwefror, 2019 a cytunwyd ar restr fer o geisiadau a chafodd y rhai hynny lle roedd angen gwybodaeth ychwanegol gan yr ymgeiswyr eu nodi. Cynhaliwyd cyfarfod pellach o’r Pwyllgor Adfywio ar 14 Mawrth, 2019 lle ystyriwyd y ceisiadau ynghyd â’r wybodaeth ychwanegol a chytunwyd ar lefel y cyllid y dylid ei argymell ar gyfer ei gymeradwyo. Penderfynwyd y dylid argymell 11 cais ar gyfer eu cymeradwyo gan yr Ymddiriedolaeth lawn a ddaeth i gyfanswm o £319k. Amlinellodd y Trysorydd y rhesymau pam nad oedd 12 o’r ceisiadau a dderbyniwyd yn cael eu cefnogi fel yr amlinellwyd yn Atodiad 3 o’r adroddiad. Nodwyd ymhellach, fel yr amlinellwyd yn Atodiad 4 o’r adroddiad, bod 4 cais arall wedi eu derbyn ond eglurwyd eu bod wedi derbyn cyllid yn ystod y 5 mlynedd diwethaf ac felly nad oeddent yn cael eu cefnogi.  

 

Penderfynwyd hefyd yn y Pwyllgor Adfywio y dylid gofyn am i’r cais gan Môn FM am gyllid dros 3 blynedd gael ei dynnu allan o’r broses ceisiadau Grantiau mawr a’i drin fel achos arbennig gyda chefnogaeth o’r gyllideb gyfalaf graidd. Mae’r cais wedi’i ystyried o dan eitem 9.

 

Adroddodd y Trysorydd ymhellach y derbyniwyd cais hwyr gan Copperfest, Amlwch. Cytunodd y Pwyllgor Adfywio dderbyn y cais hwyr hwn ac i anfon y cais ymlaen i’r Ymddiriedolaeth llawn am benderfyniad.

 

 

 

 

 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo argymhellion y Pwyllgor Adfywio a gynhaliwyd ar 14 Mawrth, 2019 fel â ganlyn:-

 

·                              Prosiectau a gymeradwywyd

 

Ymgeisydd                                    Prosiect                       Swm a gymeradwywyd 

 

Caru Amlwch                       Cyllid i gyflogi Cydlynydd Prosiect             £37,542

 

 

Clwb Rygbi Caergybi          Adeiladu ystafelloedd newid a                      £50,000

                                                  chawodydd pwrpasol

 

Clwb Pêl-droed Aberffraw    Darpariaeth Eisteddle ac                             £54,018

                                                  ystafelloedd newid

 

Age Cymru Gwynedd          Cyllid i gefnogi costau Swyddog                 £13,000

a Môn                                    Cefnogi Iechyd a Llesiant Cymdeithasol

                                                i gefnogi pobl 50+ ar Ynys Môn

 

Hosbis Dewi Sant              Cyllid i gefnogi uned ofal hosbis pedwar    £34,000                                                         gwely wedi’i leoli o fewn Ysbyty Penrhos

                                             Stanley

 

Menter Gymdeithasol     Cyllid ar gyfer gwaith adeiladu a chostau        £12,026

CIC Parc Mount                   sefydlu Gwasanaeth Canolfan Ddydd

                                                Dementia

 

Meithrinfa Morlo                Cyllid i ddarparu llawr newydd,                        £27,397

                                            gosod boeler newydd a gwneud gwaith

                                            trydanol ynghyd ag adnodd dysgu newydd

 

Stroke Association           Cyllid i gefnogi cyflog a chostau gweithredu      £10,895

                                           Cydlynydd a fydd yn darparu cymorth i  

                                           bobl sydd wedi dioddef strôc a’u gofalwyr

 

Medrwn Môn                     Cyllid am 2 flynedd i gefnogi Prosiect                 £58,000

                                           Partneriaeth rhwng y Cyngor Sir a  

                                           Menter Môn

 

Gŵyl Forwrol                   Cyllid i dalu am logi’r babell fawr a’r toiledau       £7,854

Hamdden a                        ar gyfer Gŵyl Caergybi

Threftadaeth

Caergybi

 

Cwmni                              Cyllid i ddarparu dau raglen hyfforddiant             £14,633

Budd Cymunedol         12 wythnos sydd wedi eu cynllunio i helpu 20

Wild Elements                          o bobl o gefndiroedd difreintiedig

 

·           I gefnogi dyrannu’r balans sy’n weddill o’r cyllid, sef £30,635 i Copperfest, Amlwch;

 

·           Dirprwyo’r awdurdod i’r Trysorydd gysylltu ag ymgeiswyr aflwyddiannus yn nodi’r rhesymau pam na chafodd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A (Categori 16) y Ddeddf honno.”

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD  mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir yn Atodlen 12A (Categori 16) y Ddeddf”.

 

14.

Llywodraethiant Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Mô (YEYM) a Chymdeithas Elusennol Ynys Môn/Isle of Anglesey Charitable Trust Association

Cyflwyno adroddiad gan yr Ygrifennydd.  

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan yr Ysgrifennydd mewn perthynas â’r uchod.

 

Adroddodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol fod Swyddogion Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn bellach yn rhoi cyfarwyddyd i Browne Jacobson baratoi’r weithred a fydd yn trosglwyddo’r asedau a’r bwriad yw cwblhau’r trosglwyddiad yn ystod mis Mai neu Fehefin. Cafodd yr awdurdod i wneud y penderfyniad ei ddirprwyo i’r Ysgrifennydd fel rhan o benderfyniadau Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn ar 27 Mehefin, 2018. Mae gweithredu’r ddirprwyaeth yn amodol ar ymgynghori gyda Chadeirydd ac Is-gadeirydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.   

 

PENDERFYNWYD nodi’r bwriad i drosglwyddo asedau Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn i Gymdeithas Elusennol Ynys Môn o fewn yr wythnosau nesaf yn unol â phenderfyniad Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn dyddiedig 27 Mehefin, 2018. 

 

15.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 18 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A y Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD  mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd fel y cyflwynwyd nhw.”

 

 

16.

Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn (YEM), sefydlu'r Sefydliad Corfforedig Elusennol (SCE), llesiant cymunedol a gwasanaethau anstatudol

Cyflwyno adroddiad gan yr Ysgrifennydd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan yr Ysgrifennydd mewn â’r uchod.

 

Adroddodd yr Ysgrifennydd fod yr adroddiad yn tynnu sylw at rai o’r materion allweddol sydd angen eu hystyried fel rhan o’r trosglwyddiad o Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn i’r Sefydliad Corfforedig Elusennol (CIO) fel a ganlyn:-  

 

·      Cyllid grant a datblygu blaenoriaethau llesiant seiliedig ar y gymuned;

·      Defnyddio pwerau’r CIO er mwyn darparu gwasanaethau sy’n cyfrannu’n uniongyrchol at wella llesiant dinasyddion;

·      Agweddau gweinyddol  

 

Dywedodd yr Ysgrifennydd ymhellach ei bod yn bwysig bod cynllun cynllunio lle lefel uchel (y Cynllun) yn cael ei fabwysiadu ar gyfer yr Ynys, wedi’i ddylunio er mwyn datblygu ‘llesiant a gwytnwch cymunedol’. Yn y tymor byr, awgrymir bod angen i unrhyw geisiadau fod â chysylltiad â’r Cynllun.  

 

Nodwyd ymhellach y bydd asedau Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn yn trosglwyddo i berchnogaeth y CIO (Y Gymdeithas) fel corff cyfreithiol elusennol cofrestredig ar wahân. Unwaith y bydd yr asedau wedi eu trosglwyddo, ymddiriedolwyr ‘Y Gymdeithas’ fydd yn gwneud yr holl benderfyniadau yn y dyfodol mewn perthynas â’r cyllid elusennol. O ganlyniad, awgrymir y bydd ‘Y Gymdeithas’ yn dymuno sefydlu trefniadau ei hun.

 

Dywedodd yr Ysgrifennydd fod angen i rôl yr Ysgrifennydd fod yn un benodol ac yn un sydd ar wahân i rôl unrhyw Swyddog cysylltiedig â’r Cyngor a nodwyd hyn mewn modd a ddylid adlewyrchu’r disgwyliad hwn.  

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl, PENDERFYNWYD:-

 

·      Argymell i’r CIO (Y Gymdeithas) ei fod yn mabwysiadu cynllun Cynllunio Lle lefel uchel (y Cynllun) ar gyfer yr Ynys sydd wedi’i ddylunio er mwyn datblygu ‘llesiant a gwytnwch cymunedol’. Yn y tymor byr, sicrhau bod unrhyw geisiadau grant â chysylltiad â’r Cynllun – bydd hyn yn arwain at geisiadau sy’n fwy strategol eu natur ac sydd wedi eu cynllunio er mwyn gwella llesiant cymunedol. Yn y tymor hirach, dylid defnyddio’r Cynllun er mwyn datblygu cynllun cynllunio lle sy’n adnabod y blaenoriaethau ‘llesiant’ a chynaliadwyedd ar gyfer pob ardal gymunedol;  

·      Amlinellu’r gweithgareddau CIO posibl a fyddai’n darparu cymorth ar gyfer gwasanaethau sy’n seiliedig ar y gymuned a sicrhau bod cyngor arbenigol yn cael ei geisio er mwyn sicrhau eu cyfreithlondeb;

·      Gwneud trefniadau addas er mwyn sicrhau darpariaeth cymorth ariannol a chyfreithiol o safon uchel;  

·      Gwahanu rôl yr Ysgrifennydd oddi wrth unrhyw Swyddog cysylltiedig â’r Cyngor a datblygu swydd ddisgrifiad manwl sy’n adlewyrchu hyn a’r disgwyliadau y mae angen eu gwireddu.