Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Arbennig, Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn - mae’r cronfeydd elusennol yn cael eu gweinyddu’n awr gan elusen gofrestredig breifat, Y Gymdeithas, ac nid yw’r Cyngor Sir bellach yn ymddiriedolwr. - Dydd Mawrth, 27ain Mawrth, 2018 1.30 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Gwnaeth Mr Trefor Ll Hughes ddatganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 3 – Newid Prosiect – Parc Caergybi ac aeth allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar yr eitem honno.

 

Aeth yr Is-gadeirydd i’r Gadair ar gyfer y cyfarfod oherwydd fod y Cadeirydd wedi datgan diddordeb.

2.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 87 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r isod :-

 

Penderfynwyd dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 2917, i wahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem isod ar y sail ei fod yn golygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

3.

Newid i Brosiect - Parc Caergybi

Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Trysorydd ynghylch yr uchod.

 

PENDERFYNWYD bod yr Ymddiriedolaeth Elusennol yn cefnogi’r cais diwygiedig a chyflawni’r prosiect fesul cam ar yr amod y ceir cadarnhad fod Parc Caergybi wedi cael ei drosglwyddo i Gyngor Tref Caergybi.