Rhaglen a chofnodion

Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn - mae’r cronfeydd elusennol yn cael eu gweinyddu’n awr gan elusen gofrestredig breifat, Y Gymdeithas, ac nid yw’r Cyngor Sir bellach yn ymddiriedolwr. - Dydd Mercher, 12fed Rhagfyr, 2018 9.30 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Yn ystod y drafodaeth datganodd Mr Aled M Jones ddiddordeb sy’n rhagfarnu mewn perthynas â Ffermwyr Ifanc Ynys Môn, ond yn dilyn derbyn cyngor cyfreithiol roedd modd iddo gymryd rhan yn y drafodaeth ond gadawodd y cyfarfod yn ystod y bleidlais ar y mater.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 44 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 18 Medi, 2018.

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Medi, 2018 yn gywir.

3.

Adroddiadau o Is-Bwyllgorau'r Ymddiriedolaeth Elusennol pdf eicon PDF 21 KB

Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau

 

Cyflwyno cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau a gafwyd ar 6 Tachwedd, 2018.

Cofnodion:

Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau

 

Cadarnhawyd cofnodion y Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd, 2018.

4.

Grantiau Mawr - Diweddariad pdf eicon PDF 89 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad wedi ei ddiweddaru gan y Trysorydd ynglŷn â statws y grantiau mawr a ddyfarnwyd yn 2017 a 2018.

 

Adroddodd y Trysorydd fod deuddeg o grantiau mawr wedi cael eu dyrannu yn 2017/18 a phedwar ar ddeg yn 208/19.  Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion am wariant a lefel y grantiau a hawliwyd hyd yma.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

5.

Proses Dyranu Grantiau Mawr pdf eicon PDF 32 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd.

Cofnodion:

(Yn ystod y drafodaeth, datganodd y Cynghorydd Aled M Jones ddiddordeb mewn perthynas â Ffermwyr Ifanc Ynys Môn, ond yn dilyn derbyn cyngor cyfreithiol roedd modd iddo gymryd rhan yn y drafodaeth ond gadawodd yr ystafell yn ystod y bleidlais ar y mater).

 

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r broses ar gyfer dyrannu grantiau mawr, yn cynnwys penderfynu ar lefel y cyllid sydd ar gael a’r broses ar gyfer monitro grantiau a ddyfarnwyd.

 

Adroddodd y Trysorydd fod yr Ymddiriedolaeth wedi dyfarnu grantiau mawr ers 2016 gyda gwahoddiad agored i sefydliadau gyflwyno ceisiadau am gymorth. Yn 2018, derbyniwyd cyfanswm o 34 o geisiadau ac roedd 14 sefydliad yn llwyddiannus, gan dderbyn grantiau o rhwng £6,000 a £66,414 gyda chyfanswm grantiau o £349,768 yn cael eu dyfarnu. Nododd y Trysorydd, gan nad yw’r Ymddiriedolaeth Elusennol bresennol yn cyflogi ei staff ei hun mae cyfyngiad ar yr hyn y gellir ei gyflawni ac mae’n debyg mai dosbarthu grantiau yn y modd hwn yw’r gorau y gall yr Ymddiriedolaeth ei wneud o ystyried yr adnoddau presennol. Bydd sefydlu Sefydliad Corfforedig Elusennol (SCE) yn caniatáu i’r Ymddiriedolaeth ailystyried sut mae’n defnyddio ei chronfeydd er mwyn cyflawni’r budd mwyaf i bobl Ynys Môn.

 

Cynhaliwyd cyfarfod o’r Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau ar 6 Tachwedd 2018 ac ar ôl ystyried perfformiad y portffolio buddsoddi yn ystod y 12 mis blaenorol a’r risgiau ynghyd â’r angen i gynnal gwerth y gronfa ar lefel sy’n cynhyrchu digon o incwm blynyddol, argymhellodd y Pwyllgor y dylai’r swm sydd ar gael ar gyfer grantiau mawr barhau ar yr un lefel ag yn 2018, h.y. £350k.

 

Gofynnodd yr Ysgrifennydd a oedd yr Ymddiriedolaeth Elusennol yn dymuno ystyried ceisiadau gan Urdd Gobaith Cymru a Ffermwyr Ifanc Ynys Môn fel rhan o’r Cynllun Dyfarnu Grantiau Mawr gan fod y trefniant i gyllido’r sefydliadau hyn yn dod i ben yn 2019. Ym mis Mehefin 2014 penderfynodd yr Ymddiriedolaeth Elusennol roi grant o £40k y flwyddyn i Urdd Gobaith Cymru a grant o £30k y flwyddyn i Ffermwyr Ifanc Ynys Môn, am gyfnod o 5 mlynedd i’r ddau sefydliad. Ychwanegodd yr Ysgrifennydd y gallai’r Ymddiriedolaeth Elusennol ystyried cyllido’r sefydliadau hyn am flwyddyn ychwanegol nes bydd y SCE wedi cael ei sefydlu.

 

Mynegodd rhai Aelodau o’r Ymddiriedolaeth Elusennol bryder na chyfeiriwyd at y sefydliadau hyn yn yr adroddiad. Er yn derbyn bod y ddau sefydliad yn hollbwysig o ran cynnig cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan mewn cystadlaethau a gweithgareddau, ystyriwyd y dylid ymdrin â phob sefydliad yn gyfartal yn ystod y broses dyfarnu grantiau. Yn dilyn trafodaeth, cytunwyd y dylid cyflwyno adroddiad i gyfarfod yr Ymddiriedolaeth Elusennol ym mis Ionawr 2019 er mwyn trafod opsiynau ar gyfer cyllido Urdd Gobaith Cymru a Ffermwyr Ifanc Ynys Môn yn y dyfodol.

 

 

PENDERFYNWYD :-

 

·      Dyrannu grantiau mwy eto yn 2019 a bod yr SCE, unwaith y bydd wedi ei sefydlu, yn adolygu a ddylid parhau i ddyfarnu grantiau mwy o 2020 ymlaen.

·      Dyrannu swm o £350,000, fel yr argymhellir gan y Pwyllgor Buddsoddiadau a Chontractau, i gyllido'r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 16 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r

cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

7.

Pwyllgor Neuadd Bentref Llanddona - Cais am Grant Mawr

Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Trysorydd ynghlych yr uchod.

 

Cyflwynodd y Trysorydd fanylion materion annisgwyl a gododd o ganlyniad i werthu Neuadd Bentref Llanddona i’r sefydliad.  Nododd fod Pwyllgor Neuadd Bentref Llanddona wedi gwneud cais am gyllid ychwanegol gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol er mwyn cwblhau gwaith annisgwyl.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo grant ychwanegol o £20,354 oherwydd y problemau annisgwyl yn Neuadd Bentref Llanddona. 

8.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 16 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r

cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

9.

Clwb Pel-droed Bae Cemaes - Cais am Grant Mawr

Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Trysorydd ynghylch yr uchod.

 

Cyflwynodd y Trysorydd fanylion am gostau ychwanegol y prosiect oherwydd nad oedd colofnau’r llifoleuadau yn addas ac felly gwnaed cais am gyllid ychwanegol i ymgymryd â’r gwaith yng Nghlwb Pêl-droed Bae Cemaes.

 

Yn dilyn trafodaeth PENDERFYNWYD cymeradwyo grant ychwanegol o £34,948 o ganlyniad i amgylchiadau annisgwyl yng Nghlwb Pêl-droed Bae Cemaes.

 

(Ataliodd Mr Alun W Mummery ei bleidlais)

10.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 17 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r

cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

11.

Cymdeithas y Byddar Gogledd Cymru - Grant Bach

Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – er gwybodaeth, adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.