Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ethol Cadeirydd

Ethol Cadeirydd.

Cofnodion:

Etholwyd Mr Trefor Ll Hughes MBE yn Gadeirydd.

 

Diolchodd Mr Hughes i aelodau Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn am eu hyder ynddo.

2.

Ethol Is-Gadeirydd

Ethol Is-Gadeirydd.

Cofnodion:

Etholwyd Mr Richard O Jones yn Is-gadeirydd.

3.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Dim wedi’u derbyn.

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 71 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 16 Ebrill, 2019.

Cofnodion:

Cadarnhawyd fel rhai cywir, cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Ebrill, 2019.

5.

Adroddiadau o Is-Bwyllgorau'r Ymddiriedolaeth Elusennol pdf eicon PDF 47 KB

Pwyllgor Grantiau Cyffredinol

 

Cyflwyno cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 10 Gorffennaf, 2019.

Cofnodion:

Pwyllgor Grantiau Cyffredinol

 

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Gorffennaf, 2019.

 

Nododd y Cadeirydd – oherwydd fod cyn lleied o geisiadau am gymorth grant wedi dod i law am arian o’r Gronfa Gymunedol a Chwaraeon – Grantiau Cyfalaf am 2019/20, fod y Pwyllgor Grantiau Cyffredinol wedi penderfynu y dylid hysbysebu ymhellach y cyfle sydd ar gael i sefydliadau gwirfoddol a sefydliadau eraill gyflwyno ceisiadau am grantiau gyda dyddiad cau o Rhagfyr 2019 ar gyfer derbyn y cyfryw geisiadau.  Yn ei chyfarfod ar 23 Ionawr, 2019, dyrannodd Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn gyllideb o £125k i’r Pwyllgor Grantiau Cyffredinol ond dim ond £36,422 gafodd ei glustnodi. Nododd ymhellach fod y Pwyllgor Grantiau Cyffredinol o’r farn y dylid ystyried ceisiadau gan sefydliadau sydd wedi derbyn cymorth grant yn y ddwy flynedd ddiwethaf os oes arian ar gael.

 

PENDERFYNWYD :-

 

·       Hysbysebu ymhellach y cyfle i sefydliadau gwirfoddol a sefydliadau eraill gyflwyno ceisiadau am grant oherwydd fod cyn lleied o geisiadau wedi dod i law;

·       Bod ceisiadau gan sefydliadau sydd wedi derbyn cymorth grant yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yn cael eu hystyried os oes arian ar gael.

 

 

6.

Llywodraethiant Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn (YEYM) a Chymdeithas Elusennol Ynys Môn/Isle of Anglesey Charitable Association pdf eicon PDF 45 KB

Cyflwyno adroddiad gan yr Ysgrifennydd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan yr Ysgrifennydd ar drosglwyddo asedau Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn i’r Gymdeithas Elusennol (Y Gymdeithas).

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol fod y Gymdeithas Elusennol Gorfforedig (CEG) wedi cael ei chreu a’i chofrestru fel endid cyfreithiol ar wahân ond nad yw’n weithredol eto ac nad oes ganddi unrhyw asedau neu rwymedigaethau. Yn ei gyfarfod ar 27 Mehefin, 2018, rhoddwyd caniatâd amodol i drosglwyddo asedau Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn o stiwardiaeth y Cyngor fel unig ymddiriedolwr yr elusen i’r Gymdeithas fel endid ar wahân. Yn unol â’r awdurdod a ddirprwywyd i’r Ysgrifennydd, mae Swyddogion Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn bellach wedi rhoi cyfarwyddyd i  Brown Jacobson baratoi’r weithred trosglwyddo asedau gyda dyddiad gweithredu o 30 Medi, 2019. Ar y dyddiad hwnnw, bydd asedau Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn yn trosglwyddo i’r Gymdeithas a’r Gymdeithas wedyn fydd yr endid cyfreithiol sy’n gyfrifol am yr asedau elusennol.

 

Dywedwyd y bydd angen cyfarfod cychwynnol byr o Gymdeithas Elusennol Ynys Môn yn fuan ar ôl 30 Medi, 2019, er mwyn ethol Cadeirydd, Is-gadeirydd a Swyddogion er mwyn awdurdodi pobl i lofnodi sieciau ac i ddelio gyda’r arian ar ran y Gymdeithasol. Awgrymwyd y dylid trefnu Sesiwn Friffio fel y gall y Gymdeithas gychwyn ystyried ei rhaglen waith newydd ac i ymgymryd â nifer o swyddogaethau er mwyn sicrhau ei bod yn rhedeg yn effeithlon.

 

Yn dilyn trafodaethau, PENDERFYNWYD:-

 

·       Nodi’r bwriad i drosglwyddo asedau Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn i Gymdeithas Elusennol Ynys Môn ar 30 Medi, 2019;

·       Cynnal cyfarfod cychwynnol o’r Gymdeithas Elusennol ar 7 Hydref, 2019;

·       Trefnu Sesiwn Friffio fel y gall y Gymdeithas ddechrau ystyried ei swyddogaethau.

 

 

7.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 16 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r isod:-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem isod oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni ym Mharagraff 12(A(4) y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd a oedd ynghlwm.”

 

8.

Cais am cyllid grant oddi wrth Gwmni Budd Cymunedol Cemaes

Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Trysorydd ar yr uchod. 

 

PENDERFYNWYD cefnogi’r cais diwygiedig a gyflwynwyd gan Gwmni Budd Cymunedol Cemaes.