Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Proposed venue: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Cofnodion: Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Cofnodion Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd 2012.
Materion yn Codi
Nododd y Cynghorydd W.I. Hughes y ffaith nad oedd y cyflwyniad ‘Teuluoedd Swyddi’ ar y rhaglen. Eglurodd y Pennaeth Adnoddau Dynol Dros Dro bod yr eitem wedi ei gohirio tan y cyfarfod nesaf fel y gellid gwneud gwaith pellach ar fersiwn Ynys Môn a fyddai’n rhoddi i Aelodau well dealltwriaeth o’i effaith.
GWEITHREDU :Cytunwyd y byddai’r cyflwyniad ar Deuluoedd Swyddi gyda gogwydd Ynys Môn yn cael ei roi ar raglen y cyfarfod nesaf. |
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-
“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem isod oherwydd y tebygrwydd y cai gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad.” |
|
Y Diweddaraf ar Delerau ac Amodau Cofnodion: Rhoes y Pennaeth Adnoddau Dynol Dros Dro ddiweddariad i’r Panel ar y Telerau a’r Amodau.
Soniodd am y cynnydd a wnaed hyd yn hyn o ran tynnu yn ôl y cynllun lwfans defnyddiwr car hanfodol a nododd y byddai costau teithio yn cael eu talu ar yr un raddfa sef 52.2c ar gyfer defnyddwyr hanfodol ac achlysurol. Nodwyd y byddai’n rhaid talu treth ar y lwfans teithio.
Gofynnodd yr Aelodau a fyddai modd i’r staff ddefnyddio cerbydau’r fflyd ar gyfer busnes y Cyngor. Dywedodd y Swyddog bod y cerbydau fflyd wedi bod ar gael i’r staff ond eu bod trwy ddewis wedi dewis eu cerbydau eu hunain ar gyfer busnes y Cyngor.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.
GWEITHREDU: Bod diweddariad yn cael ei gyflwyno i’r cyfarfod nesaf o’r Panel hwn. |
|
Datgamoad Drafft ar y Polisi Tâl Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Swyddog Adnoddau Dynol (Strategaeth) ar yr uchod.
Dywedodd y Swyddog y cyflwynwyd y ddogfen i’r Panel hwn yn ei gyfarfod diwethaf ac y gofynnwyd i’r Undebau am eu sylwadau. Nododd y bydd y Datganiad Drafft ar y Polisi Tâl yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor llawn yn ei gyfarfod ym mis Mawrth.
Holodd yr Aelodau am y gwahaniaeth rhwng y ‘Lleiafswm Cyflog Cenedlaethol’ a’r ‘Cyflog Byw’ i’r gweithwyr sydd ar y cyflogau isaf. Dywedodd y Swyddogion bod yr Awdurdod ar hyn o bryd yn talu £6.29 i’r swyddogion sydd ar y cyflogau isaf. Mae’r ‘Cyflog Byw’ i’r swyddogion sydd ar y cyflog isaf wedi cael ei godi yn genedlaethol yn ystod yr wythnosau diwethaf ac mae’r awdurdod yn adolygu eu sefyllfa ond nid ydyw ar hyn o bryd yn bwriadu mabwysiadu’r fenter hon.
PENDERFYNWYD nodi y bydd y Datganiad Drafft ar y Polisi Tâl yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Sir llawn yn ei gyfarfod ar 5 Mawrth, 2013.
GWEITHREDU:
· Bod y Datganiad ar y Polisi Tâl yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Sir llawn ar 5 Mawrth, 2013.
· Bod cost talu cyflog byw yn cael ei weithio allan a’i ddwyn i sylw’r Aelodau yn y cyfarfod nesaf. |
|
Gwerthuso Swyddi - Cynllun Prosiect Cofnodion: Rhoes y Pennaeth Adnoddau Dros Dro ddiweddariad i’r Panel ar y cynnydd a wnaed mewn perthynas ag Arfarnu Swyddi a chylchredodd gopi o’r Cynllun Prosiect er gwybodaeth i’r Aelodau.
Nododd y bydd angen gwneud gwaith anferthol i gwrdd â’r dyddiad cau ar gyfer gweithredu’r cynllun erbyn Ebrill 2014. Rhoddwyd manylion i’r Panel yngl!n â’r prosesau angenrheidiol. Rhoes y Swyddog fanylion cryno am yr Hawliadau Cyflog Cyfartal a dderbyniwyd hyd yma a’r broses y bydd yn rhaid ei dilyn i ddelio gyda hawliadau o’r fath.
Mynegodd yr Aelodau eu pryderon ynglyn â’r baich gwaith y bydd yn rhiad i’r Adain Adnoddau Dynol ymdopi ag ef o ran y cynllun gwerthuso swyddi a gofynnwyd a oedd gan yr adain ddigon o adnoddau i gyflawni tasg o’r fath. Roedd y Pennaeth Adnoddau Dynol Dros Dro yn cytuno bod y tîm bychan yn yr Adain Adnoddau Dynol yn wynebu tasg anferthol o ran delio gyda’r cynllun gwerthuso swyddi ar rai adegau penodol yng ngweithrediad y cynllun gweithredu e.e. apeliadau.
Roedd hi o’r farn y bydd rhaid i’w hadain ganolbwyntio yn llwyr ar y cynllun gwerthuso swyddi yn arbennig felly ar adegau’r apeliadau mewn perthynas â sgorau’r swyddi.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad a dwyn y pryderon i sylw’r Prif Weithredwr o ran y baich gwaith y bydd yr Adain Adnoddau Dynol yn ei wynebu yn y misoedd nesaf mewn perthynas â’r gwaith sy’n gysylltiedig â’r cynllun gwerthuso swyddi.
GWEITHREDU:
· Mynegi pryder i’r Prif Weithredwr o ran y baich gwaith y bydd yr Adain Adnoddau Dynol yn ei wynebu mewn perthynas â’r cynllun arfarnu swyddi.
· Bod y Pennaeth Adnoddau Dynol Dros Dro yn cyflwyno Strategaeth Ddrafft mewn perthynas â Chyflog Cyfartal i’r cyfarfod nesaf.
· Bod y Pennaeth Adnoddau Dynol Dros Dro yn darparu diweddariad ar gynnydd gyda’r cynllun prosiect yn dwyn sylw at yr hyn y llwyddwyd i’w wneud ar hyn sydd ar ôl i’w wneud i gadw pethau ar y trywydd iawn. |
|
Cyflogau Gwasanaethau Llywodraeth Leol 2013/14 Cofnodion: Dywedodd y Pennaeth Adnoddau Dynol Dros Dro, er gwybodaeth, y derbyniwyd gohebiaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn gofyn am farn wleidyddol ar y trafodaethau cyfredol ynglyn â chyflogau. Yn dilyn trafodaethau gyda chynrychiolwyr yr Undebau ac awdurdodau lleol, nododd y daethpwyd i gytundeb cyffredinol ymysg y rhan fwyaf o’r Cynghorau y dylid cyflwyno cynnig priodol o ran cyflog. Y cynnig yw 1% ond dylid cael cytundeb bod ad-drefniant o’r telerau ac amodau cyflogaeth yn rhan o’r cynnig cyflog.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad er gwybodaeth.
GWEITHREDU: Dim |
|
Adolygiad Penaethiaid Gwasanaeth Cofnodion: Nododd y Pennaeth Adnoddau Dynol Dros Dro bod y Dirprwy Brif Weithredwr wedi gofyn am Gyfarfod Arbennig o’r Panel Tâl a Graddfeydd ddiwedd mis Mawrth i drafod adolygu’r Penaethiaid Gwasanaeth yn yr awdurdod.
PENDERFYNWYD nodi y cynhelir Cyfarfod Arbennig ym mis Mawrth i drafod yr Adolygiad Penaethiaid Gwasanaeth.
GWEITHREDU : Gwneud trefniadau i Gyfarfod Arbennig gael ei gynnal ym mis Mawrth i drafod y mater uchod. |