Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Adfywio - mae’r cronfeydd elusennol yn cael eu gweinyddu’n awr gan elusen gofrestredig breifat, Y Gymdeithas, ac nid yw’r Cyngor Sir bellach yn ymddiriedolwr. - Dydd Mercher, 24ain Chwefror, 2016 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ethol Cadeirydd

Ethol Cadeirydd.

Cofnodion:

Ail-etholwyd Mr. Bob Parry OBE yn Gadeirydd.

2.

Ethol Is-Gadeirydd

Ethol Is-Gadeirydd.

Cofnodion:

Ail-etholwyd Mr. Derlwyn R. Hughes yn Is-gadeirydd.

3.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Datganodd Mr. R. Meirion Jones ddiddordeb personol a rhagfarnus mewn perthynas â cheisiadau grant gan Gwmni’r Frân Wen a’r Eisteddfod Genedlaethol a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau hynny.

 

Datganodd Mr. T. Victor Hughes – Cadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn – ddiddordeb personol a rhagfarnus yn y ceisiadau grant gan yr Eisteddfod Genedlaethol a Menter Gymdeithasol Llangefni a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau hynny.

 

Dywedodd sawl aelod o’r Pwyllgor eu bod yn aelodau o Bwyllgorau Apȇl Cyllid Eisteddfod leol yn eu cymunedau.  Dywedodd y Trysorydd mai’r cyngor a gafwyd gan y Swyddog Monitro oedd y dylent ddatgan diddordeb ond y gallent gymryd rhan a phleidleisio.

 

 

 

4.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 16 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

"Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau a ganlyn, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei rhyddhau fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A y Ddeddf a'r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm".

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol :-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y sail y gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A i’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

5.

Ceisiadau am grantiau mawr 2016/17

Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â cheisiadau grant a dderbyniwyd gan bedwar sefydliad. 

 

Dywedodd y Trysorydd fod Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Ionawr 2016, wedi penderfynu ariannu’r ymrwymiadau cyfredol o £660k a dyrannu hyd at £200k o adnoddau cyfalaf i ariannu ceisiadau am grantiau mawr.  Nodwyd bod angen asesu pob cais yn unol â'r weithdrefn a gymeradwywyd gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol ar 22 Medi 2015, a oedd ynghlwm fel Atodiad 1 i'r adroddiad, ac yn unol â'r meini prawf ychwanegol a gymeradwywyd gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol ar 27 Ionawr 2016 fel a ganlyn:-

 

·       Cynaliadwyedd – rhaid i'r ymgeisydd ddangos y gall y prosiect barhau heb gyllid grant pellach h.y. y gellir ariannu’r costau cyfalaf unwaith y bydd y prosiect yn weithredol yn achos grantiau cyfalaf ac y gall y prosiect barhau heb gymorth ychwanegol gan yr Ymddiriedolaeth yn achos grantiau refeniw

·       Budd – rhaid i'r ymgeisydd ddangos sut bydd y prosiect o fudd i drigolion Ynys Môn;

·       Gwerthuso – rhaid i'r ymgeisydd ddarparu manylion am y meini prawf llwyddiant ar gyfer y prosiect a sut y byddant yn cael eu mesur.

 

Cynhaliodd y Pwyllgor werthusiad manwl o’r pedwar cais a dderbyniwyd a PHENDERFYNWYD:-

 

·           Cefnogi, mewn egwyddor, y ceisiadau grant a dderbyniwyd gan Fenter Gymdeithasol Llangefni ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru; 

·           Gwahodd cynrychiolwyr o Gwmni’r Frân Wen a Menter Iaith Môn i gyfarfod arbennig o'r Pwyllgor Adfywio i'r fynd i’r afael â materion a godwyd gan y Pwyllgor;

·           Y bydd y Pwyllgor yn penderfynu ar lefel y dyraniad grant yn y cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor Adfywio sydd i'w gynnal ar 3 Mawrth, 2016.