Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ethol Cadeirydd

Ethol Cadeirydd.

Cofnodion:

Ailetholwyd Mr. Bob Parry OBE yn Gadeirydd.

2.

Ethol Is-Gadeirydd

Ethol Is-Gadeirydd.

Cofnodion:

Etholwyd Mr. Alwyn Rowlands yn Is-Gadeirydd.

3.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

 

Cafwyd datganiadau o ddiddordeb gan :-

 

Mr. Alwyn Rowlands – datganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 6 – Ceisiadau am Grantiau Mawr 2017/18 – Cais 8 Canolfan Hamdden Biwmares a’r cylch ac ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth na’r bleidlais ar yr eitem.

 

Mr. Ieuan Williams - datganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 6 – Ceisiadau am Grantiau Mawr 2017/18 – Cais 9 Cyngor Cymuned Llanfair ME ac ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth na’r bleidlais ar yr eitem.

 

Cadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn, Mr. T.V. Hughes - datganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 6 – Ceisiadau am Grantiau Mawr 2017/18 – Cais 22 Cwmni Tref Llangefni ac ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth na’r bleidlais ar yr eitem.

 

Is-Gadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn, Mr. T.Ll. Hughes - datganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 6 – Ceisiadau am Grantiau Mawr 2017/18 – Cais 2 Cyngor Tref Caergybi a Chais 27 – Cymdeithas Cae Cybi ac ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth na’r bleidlais ar yr eitem.

 

Rheolydd Grantiaudatganiad o ddiddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 6 – Ceisiadau am Grantiau Mawr 2017/18 – Cais 4 Cymunedau’n Gyntaf Môn.

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 58 KB

Cyflwyno’r cofnodion y cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Adfywio fel â

ganlyn :-

 

·           24 Chwefror, 2016

·           3 Mawrth, 2106

 

(Mabwysiadwyd y cofnodion gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol llawn a gafwyd ar 15 Mawrth, 2016)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Adfywio fel a ganlyn:-

 

• 24 Chwefror, 2016

• 3 Mawrth, 2016

 

(Mabwysiadwyd y cofnodion gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol lawn ar 15 Mawrth, 2016)

5.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 15 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol :-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd a oedd ynghlwm.”

6.

Ceisiadau Grantiau Mawr 2017/18

Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Trysorydd ar y ceisiadau a dderbyniwyd am Grantiau Mwy.

 

Dywedodd y Trysorydd bod y Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau, yn ei gyfarfod ar 1 Tachwedd 2016, wedi penderfynu rhyddhau swm o £350k tuag at Grantiau Mwy yn 2017/18. Yn ystod yr wythnosau’n cychwyn ar 21 Tachwedd a 28 Tachwedd, hysbysebwyd y grantiau a oedd ar gael gan Ymddiriedolaeth Ynys Môn am symiau dros £8,000 i gynorthwyo gyda phrosiectau cyfalaf mawr neu i gyllido gwasanaethau penodol a fyddai o fudd i bobl Ynys Môn. Er mwyn medru ystyried y ceisiadau am grantiau, rhaid iddynt gwrdd ag o leiaf un o amcanion yr Ymddiriedolaeth fel y cânt eu pennu yng Ngweithred yr Ymddiriedolaeth Elusennol. Dyma’r amcanion hynny:-

 

Cymorth i grwpiau difreintiedig

Adfywio’r economi leol

Gwella sgiliau

Lleihau tlodi

Gwarchod treftadaeth

Gwarchod yr amgylchedd

Cymryd rhan mewn gweithgareddau’n gysylltiedig â chwaraeon, iechyd a lles y gymuned

Datblygu ysbryd a llesiant cymunedol

 

Derbyniodd Ymddiriedolaeth Ynys Môn 31 o geisiadau erbyn y dyddiad cau, sef 6 Ionawr, 2017. Roedd manylion am y ceisiadau ynghlwm fel Atodiad A yr adroddiad. Er mwyn cynorthwyo’r Pwyllgor i ystyried y ceisiadau, roedd y Swyddogion wedi eu sgorio ymlaen llaw yn erbyn cyfres o feini prawf a oedd eisoes wedi cael eu defnyddio i asesu’r ceisiadau.

Derbyniodd y Pwyllgor fanylion ynghylch cefndir y ceisiadau gan y Swyddogion ac yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:-

 

Rhoi sylw i 12 cais mewn cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor hwn a bod Aelodau’r Pwyllgor Adfywio’n cael copïau o’r ceisiadau a’r matrics sgorio;

Bod y sawl gyflwynodd 9 cais yn cael eu cynghori i gyflwyno eu ceisiadau am grant bychan gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol;

Rhoi’r awdurdod i’r Trysorydd hysbysu’r sawl gyflwynodd y 10 cais arall bod eu ceisiadau wedi bod yn aflwyddiannus.