Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Arbennig, Pwyllgor Adfywio - mae’r cronfeydd elusennol yn cael eu gweinyddu’n awr gan elusen gofrestredig breifat, Y Gymdeithas, ac nid yw’r Cyngor Sir bellach yn ymddiriedolwr. - Dydd Mawrth, 13eg Mawrth, 2018 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Cafwyd datganiadau o ddiddordeb gan :-

 

Mr Richard Griffiths – datganiad o ddiddordeb sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 4 – Ceisiadau am Grantiau Mawr 2018/19 – Cymdeithas Dreftadaeth Amlwch, a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar yr eitem.

 

Mr R Meirion Jones – datganiad o ddiddordeb sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 4 – Ceisiadau am Grantiau Mawr 2018/19 – Band Biwmares, a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar yr eitem.

 

Mr Richard O Jones – datganiad o ddiddordeb sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 4 – Ceisiadau am Grantiau Mawr 2018/19 – Cymdeithas Dreftadaeth Amlwch, a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar yr eitem.

 

Mr Bryan Owen – datganiad o ddiddordeb sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 4 – Ceisiadau am Grantiau Mawr 2018/19 – Tudur Cyf., a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais ar yr eitem. 

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 30 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 14 Chwefror, 2018.

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Chwefror, 2018 eu cadarnhau.

3.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 14 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :- 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd fel y cyflwynwyd nhw.

4.

Ceisiadau Grantiau Mawr 2018/19

Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.

 

Adroddodd y Trysorydd bod 34 o geisiadau wedi dod i law a’u bod wedi eu hystyried gan y Pwyllgor mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Chwefror, 2018.  Lluniodd y Pwyllgor restr fer o 15 o geisiadau grant a oedd angen eu hasesu mewn mwy o fanylder ac a oedd angen mwy o wybodaeth arnynt mewn perthynas â’r cais.  Nodwyd bod y Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd, 2017, wedi penderfynu argymell i’r Ymddiriedolaeth Elusennol lawn y dylid rhyddhau £350k i ariannu grantiau mawr yn 2018.  Cymeradwyodd yr Ymddiriedolaeth Elusennol lawn yr argymhelliad yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Ionawr, 2018.

 

Cynhaliwyd trafodaeth fanwl mewn perthynas â’r 15 cais ar y rhestr fer ac fe BENDERFYNWYD argymell i’r Ymddiriedolaeth Elusennol lawn yn y cyfarfod a gynhelir ar 17 Ebrill, 2018 :-

 

·      Bod 14 o’r ceisiadau grant a gafodd eu rhoi ar y rhestr fer yn cael eu cefnogi gyda 12 yn derbyn y swm y gofynnwyd amdano a 2 yn derbyn swm llai na’r hyn y gofynnwyd amdano;

·      Bod 1 o’r 15 cais a roddwyd ar y rhestr fer yn aflwyddiannus;

·      Bod adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Ymddiriedolaeth Elusennol lawn gyda’r symiau a argymhellir fel y cytunwyd gan y Pwyllgor Adfywio.