Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Gwnaeth Mr Richard Griffiths ddatganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 4 – Ceisiadau am Grantiau Mawr 2019/20 – Caru Amlwch ac ni chymerodd ran yn y bleidlais ar yr eitem.

 

Gwnaeth Mr Richard O Jones ddatganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 4 – Ceisiadau am Grantiau Mawr 2019/20 – Caru Amlwch a ni chymerodd ran yn y bleidlais ar yr eitem.

 

Gwnaeth Mr J Arwel Roberts ddatganiad o ddiddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 4 – Ceisiadau am Grantiau Mawr 2019/20 – Meithrinfa Morlo.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 27 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 13 Chwefror, 2019.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Chwefror, 2019.

3.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 14 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

‘O dan Adran 100(A)4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.’

Cofnodion:

PENDERFYNWYD :-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar sail y tebygolrwydd y gall gwybodaeth gael ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

4.

Ceisiadau Grantiau Mawr 2019/20

Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Trysorydd ar yr uchod.

 

Dywedodd y Trysorydd y derbyniwyd 29 o geisiadau’n wreiddiol ac y cafodd y rheiny ystyriaeth gychwynnol gan y Pwyllgor hwn yn ei gyfarfod ar 13 Chwefror, 2019.  Penderfynodd y Pwyllgor roi 14 o geisiadau am grantiau ar restr fer ar gyfer asesiad manylach ac er mwyn derbyn gwybodaeth bellach am y ceisiadau hyn yn ôl yr angen.  Nodwyd bod y Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau yn ei gyfarfod ar 6 Tachwedd, 2018 wedi penderfynu argymell i’r Ymddiriedolaeth Elusennol lawn fod £350k yn cael ei ryddhau tuag ag ariannu grantiau mawr yn 2019.  Yn ei gyfarfod ar 23 Ionawr, 2019, penderfynnodd yr Ymddiriedolaeth Elusennol lawn gymeradwyo’r argymhelliad.

 

Cafwyd trafodaeth fanwl ar y 14 cais a oedd ar y rhestr fer a PHENDERFYNWYD argymell fel a ganlyn i’r Ymddiriedolaeth Elusennol lawn yn ei gyfarfod ar 16 Ebrill, 2019:-

 

·           Bod 12 o’r ceisiadau am grantiau a oedd ar y rhestr fer yn cael eu cefnogi gydag 11 ohonynt yn derbyn y swm y gofynnwyd amdanol ac un yn derbyn swm llai na’r un y gofynnwyd amdano;

·           Nad oedd 1 o’r 14 cais ar y rhestr fer wedi bod yn llwyddiannus;

·           Anfon 1 o’r 14 cais ar y rhestr fer ymlaen i’r Ymddiriedolaeth lawn i’w ystyried ar gyfer ei ariannu y tu allan i’r broses flynyddol ar gyfer dyfarnu grantiau mawr;

·           Bod adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Ymddiriedolaeth Elusennol lawn gyda’r symiau a argymhellir fel y cytunwyd arnynt gan y Pwyllgor Adfywio.