Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Cyswllt: Shirley Cooke
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.
Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, cofnodion drafft cyfarfod blaenorol CYSAG a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2021. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod CYSAG blaenorol a gynhaliwyd 23 Tachwedd 2021 ac fe gadarnhawyd eu bod yn gywir.
Materion yn codi o’r cofnodion:-
Eitem 3 –
• Cyfeiriwyd at arweinwyr mewn ysgolion uwchradd yn rhannu eu harbenigedd mewn cynllunio'r cwricwlwm gyda'r sector cynradd yn Ne Ynys Môn. Codwyd cwestiwn a oedd ymgysylltu â'r sector cynradd yn digwydd ar hyn o bryd yn y pedair ysgol uwchradd arall ar Ynys Môn?
Ymatebodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol fod dwy athrawes CYSAG yn arweinwyr yn Ysgol Syr Thomas Jones ac Ysgol Bodedern. Adroddodd y byddai’n gofyn am eglurhad gan GwE ynghylch a oes arbenigedd athrawon mewn AG ar gael ym mhob ysgol yn Ynys Môn, ac adrodd yn ôl i gyfarfod nesaf y CYSAG.
Adroddodd yr Uwch Reolwr Cynradd bod GwE wedi sefydlu byrddau rhanbarthol ym mhob un o’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau, ac mae athrawon o ysgolion Ynys Môn ar y byrddau hyn. Amlygodd yr angen am gydweithio lleol rhwng y sector uwchradd a chynradd, a dywedodd fod trefniadau eisoes yn eu lle.
Nodwyd y bydd GwE yn penodi cynrychiolydd Dyniaethau i gefnogi ysgolion, ond ni fydd cefnogaeth arbenigol mewn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn cael ei ddarparu i'r CYSAG. Awgrymwyd bod y CYSAG yn gofyn am gefnogaeth arbenigol gan GwE, i gyflawni ei swyddogaeth o gefnogi ysgolion. Mae angen tegwch ym Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau, neu gellir colli Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, os na roddir yr un statws iddo â phynciau eraill y Dyniaethau.
PENDERFYNWYD bod yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol yn cysylltu â GwE i ofyn am wybodaeth ac eglurder ynglŷn â threfniadau rhwng y sector uwchradd a chynradd yn ysgolion Môn.
• Gan gyfeirio at bryderon y CYSAG ynghylch addysg yn y cartref, adroddodd y Cynghorydd Gwilym Jones bod y mater hwn wedi’i godi mewn cyfarfod o’r Panel Adolygu Rhaglen Ysgolion ar 25 Tachwedd 2021. Derbyniwyd cyflwyniad hefyd, fel y cadarnhawyd yng nghofnodion y Panel isod:-
• Cyfeiriwyd at drafodaeth fu yng nghyfarfod diwethaf y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd, 2021 a chyfeiriad wnaed at gynnydd yn nifer y plant a phobl ifanc a addysgir gartref • Nodwyd bod heddiw yn gyfle i’r Gwasanaeth Addysg rannu datblygiadau’r misoedd diwethaf gydag Aelodau Etholedig a hefyd yn gyfle i’r Aelodau ofyn cwestiynau • ‘Roedd y maes hwn yn un sy’n pontio rhwng y Gwasanaeth Addysg a’r Gwasanaethau Cymdeithasol a nodwyd bod sawl sylw ynghylch addysg ddewisol yn y cartref wedi bod mewn cyfarfodydd blaenorol o’r Panel Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol. Hyn oherwydd y potensial am faterion diogelu yn codi • Cyfeiriwyd at y gweithdrefnau mewn lle i weithio’n rhagweithiol er mwyn sicrhau trefniadau diogelu cadarn. Teulu Môn yn bwynt cyswllt os oes pryder. Sylw strategol hefyd i’r maes drwy Fwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru • Trefniadau’r Gogledd Orllewin → Lefel Weithredol: swydd newydd Athrawes Arweiniol Addysg Ddewisol Gartref ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2. |
|
Adroddiad Blynyddol CYSAG Ynys Môn 2020/21 PDF 998 KB Cyflwyno Adroddiad Blynyddol CYSAG Ynys Môn am y cyfnod 2020/21. Cofnodion: Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol drafft CYSAG Ynys Môn ar gyfer 2020/21 i’w ystyried a’i gymeradwyo.
Diolchodd Cadeirydd ac aelodau'r CYSAG i'r Ymgynghorydd Addysg Grefyddol am ei gwaith rhagorol yn paratoi Adroddiad Blynyddol cynhwysfawr ar gyfer 2020/21. Cymeradwywyd yr Adroddiad Blynyddol gan y CYSAG, yn amodol ar fân newidiadau fel y nodwyd yn y drafodaeth.
Cyfeiriwyd at Mrs Catherine Jones yn yr adroddiad, cyn-aelod o’r CYSAG, a fu’n cynrychioli Undeb Bedyddwyr Cymru am nifer o flynyddoedd cyn y pandemig. Rhoddodd Mrs Jones orau i'w rôl pan ddaeth cyfarfodydd rhithiol yn arferol. Estynnodd y CYSAG eu diolch i Mrs Jones am ei mewnbwn a'i gwasanaeth hir i'r CYSAG.
Mynegwyd pryderon bod nifer y disgyblion sy'n sefyll TGAU AG mewn rhai ysgolion yn cynyddu, tra bod y pwnc yn dirywio mewn ysgolion eraill. Cwestiynwyd ai diffyg arbenigedd mewn rhai ysgolion oedd yn gyfrifol am y gwahaniaeth, neu a yw'r maes llafur yn rhy heriol o gymharu â phynciau eraill.
Roedd y drafodaeth yn canolbwyntio ar nifer y disgyblion sy'n cael addysg Lefel A AG yn eu hysgolion eu hunain, neu'n gorfod teithio i rywle arall i astudio'r pwnc. Cadarnhaodd Mrs Heledd Hearn fod 2 ddisgybl o Flwyddyn 12 a dau o Flwyddyn 13 o Ysgol Gyfun Llangefni yn mynychu Ysgol Bodedern ar gyfer gwersi Addysg Grefyddol, oherwydd diffyg arbenigedd sydd ar gael yn eu hysgol leol ar hyn o bryd.
Nodwyd bod angen i ysgolion fod mor hyblyg â phosibl o ran addysgu oherwydd y gostyngiad yn y niferoedd sy'n ymgymryd ag AG. Mae Addysg Grefyddol bellach yn cael ei gynnig trwy gyfrwng y Saesneg, sydd wedi'i groesawu gan y CYSAG.
PENDERFYNWYD:-
• Bod Mrs Deborah Stammers yn cyfleu gwerthfawrogiad y CYSAG i Mrs Catherine Jones am ei chyfraniad i’r CYSAG dros nifer o flynyddoedd. • Mabwysiadu Adroddiad Blynyddol y CYSAG ar gyfer 2020/21, yn amodol ar gywiro mân wallau. • Bod yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol yn anfon copi o'r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2020/21 i Lywodraeth Cymru. |
|
Derbyn adroddiad gan Ymgynghorydd AG i'r CYSAG Derbyn diweddariad gan yr Ymgyghorydd AG ar faterion AG. Cofnodion: Adroddodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol ei bod wedi rhannu gohebiaeth ag athrawon y CYSAG mewn perthynas â’r gofyniad i ddisgyblion sefyll arholiadau Lefel A eleni. Dywedodd y bydd yn gyfnod heriol i ddisgyblion ac athrawon ddychwelyd i arholiadau mewn ysgolion, ac adleisiodd bryderon y CYSAG. Nodwyd bod peth hyblygrwydd wedi ei roi i ysgolion o ran dewis pynciau.
Gofynnwyd am eglurder ynghylch y trefniadau presennol mewn ysgolion ar gyfer Addysg Grefyddol, TGAU a Safon Uwch. Cadarnhaodd Mrs Heledd Hearn y bydd disgyblion yn sefyll 3 allan o 4 uned ar gyfer TGAU, a bydd pob ysgol yn penderfynu pa uned na fydd yn ei hastudio. O ran disgyblion Blwyddyn 10, mae ysgolion wedi derbyn peth gwybodaeth am gynnwys yr arholiadau e.e bydd y synagog a'r cartref yn cael eu cynnwys o fewn Iddewiaeth, ac mae'n debygol mai gwerthusiad fydd y cwestiwn, yn cario 15 marc. O ran Lefel A, mae cynnwys yr arholiad yn aneglur, ond cadarnhawyd y bydd rhai newidiadau yn cael eu gwneud. Bydd y maes llafur ar gyfer Bwdhaeth yn aros yr un fath ar gyfer Blynyddoedd 12 a 13, ac mae'r meysydd llafur ar gyfer Moeseg ac Athroniaeth wedi'u cwtogi, sydd wedi cael ymateb da gan athrawon.
PENDERFYNWYD nodi'r materion a godwyd yn ystod y drafodaeth. |
|
Maes Llafur Cytûnedig ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg Cymeradwyo Maes Llafur Cytûn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Cofnodion: Cyfeiriodd y Cadeirydd at Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig Ynys Môn a Gwynedd a gynhaliwyd yn rhithiol yn gynharach heddiw. Dywedodd fod y Gynhadledd wedi bod yn llwyddiannus iawn, a phleidleisiodd pob grŵp - Cynghorwyr, aelodau o sefydliadau crefyddol ac athrawon yn unfrydol i dderbyn Maes Llafur Cytunedig Ynys Môn.
PENDERFYNWYD derbyn y Maes Llafur Cytunedig ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg i'w fabwysiadu gan y Cyngor Sir. |
|
Unrhyw Faterion Eraill Unrhyw faterion eraill i’w trafod – gyda chytundeb y Cadeirydd.
Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd fod Cyfansoddiad drafft Cymdeithas CYSAGau Cymru wedi’i ddosbarthu i’r CYSAG er gwybodaeth, yn dilyn cyhoeddi’r agenda.
PENDERFYNWYD nodi’r newidiadau i Gyfansoddiad y CYSAG.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr Etholiadau Cyngor Sir sydd i ddod, a dywedodd ei fod yn ansicr os bydd yn mynychu unrhyw gyfarfodydd CYSAG yn y dyfodol. Fel Cadeirydd CYSAG Ynys Môn, diolchodd i’r CYSAG am yr holl gefnogaeth y mae wedi ei dderbyn, a dymunodd yn dda i bawb |