Rhaglen a chofnodion

Cyngor Ymgynghorol Sefydlog at Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CYS) - Dydd Mawrth, 18fed Chwefror, 2014 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

Croeso

Rhoddodd y Cadeirydd groeso i bawb oedd yn bresennol ac estynnodd groeso arbennig i Miss Kirsty Williams i’w chyfarfod cyntaf o GYSAG Ynys Môn fel cynrychiolydd yr Eglwys yng Nghymru ar gorff y CYSAG.  Nododd y Cadeirydd hefyd nad oedd unrhyw gynrychiolydd o’r Grŵp Athrawon yn bresennol yn y cyfarfod ac nad oedd cworwm yn y cyfarfod oherwydd hynny ac felly ni ellid gwneud penderfyniadau.  Awgrymwyd a chytunwyd felly bod busnes y cyfarfod yn cael ei gynnal ar sail trafodaeth yn unig.

1.

Cyflwyniad

Derbyn cyflwyniad gan Ysgol Santes Fair.

Cofnodion:

Cafwyd cyflwyniad gan Christine Hunt o Ysgol Gatholig y Santes Fair, Caergybi ar y dull o ddysgu Addysg Grefyddol yn Eglwys y Santes Fair fel ysgol ffydd gyda chyfeiriad arbennig at y pwyntiau a ganlyn:

 

           Statws Addysg Grefyddol fel pwnc craidd yn yr ysgol a’i ddarparu mewn ffordd hynod strwythuredig  yn unol â’r cynllun gwaith Come and See a gyflwynwyd tua 4 blynedd yn ôl.  Ar lefel iau, caiff y pwnc ei ddysgu am 2½ awr bob wythnos ac ar lefel y babanod caiff ei ddysgu am 2¼ awr bob wythnos ac yn yr adran feithrin am 2 awr yr wythnos.

           Y themâu a’r pynciau sydd o fewn Addysg Grefyddol yn yr ysgol ar draws y grwpiau blwyddyn a sut y mae'r rhain yn cysylltu â’r rhannau perthnasol o’r ysgrythur- “y grid ysgrythurol.”

           Lefelau cyrhaeddiad mewn Addysg Grefyddol mewn perthynas â gwybodaeth a dealltwriaeth a myfyrio ar ystyr a sut y caiff y rhain eu gwerthuso.  Bydd cymedroli’n digwydd ar sail esgobaethol.

           Trosolwg o’r pwnc o safbwynt y gwahanol adrannau sy’n cyfrannu ac yn cefnogi testun arbennig e.e. yr ysgrythur fydd yn cael ei defnyddio i ddysgu’r pwnc, yr adnoddau dysgu i’w defnyddio, y canlyniadau dysgu a thargedau cyrhaeddiad, cysylltiadau trawsgwricwlaidd â meysydd eraill o ddysgu yn ogystal â deunyddiau cefnogol ar ffurf gweddïau a chaneuon/emynau.  Rhannwyd esiamplau o asesiadau ar bob lefel er gwybodaeth i’r Aelodau.

 

Rhoddwyd cyfle i aelodau’r CYSAG ofyn cwestiynau ar gynnwys y cyflwyniad ac roedd y materion canlynol ymysg y rhai a godwyd ac a drafodwyd -

 

           Sut mae’r ysgol yn rhoi sylw i ffydd a chredoau eraill a’r ymateb i’r hyn sydd yn ei hanfod yn gwricwlwm Cristionogol.

           O ystyried nad yw Addysg Grefyddol yn cael cymaint o amlygrwydd mewn perthynas â’r Cwricwlwm Cenedlaethol, a oes unrhyw effaith y gellir ei weld ar agweddau ac ymddygiad cyffredinol plant mewn ysgolion lle mae mwy o bwyslais ar Addysg Grefyddol.

           Y pontio o ysgol gynradd sy’n ysgol ffydd i ysgol uwchradd prif-lif.

           Sut mae cynllun gwaith Addysg Grefyddol yn Ysgol y Santes Fair gyda’i bwyslais ar gynnwys ysgrythurol a thymhorau'r eglwys a’r amser a roddir i ddysgu AG yn cymharu gyda’r Maes Llafur Cytun Lleol ar gyfer AG yn ysgolion yr Awdurdod.

           Y trefniadau yn yr ysgol ar gyfer adlewyrchu’r Cwricwlwm Cymreig ac addysg ar gyfer datblygiad cynaliadwy a dinasyddiaeth byd-eang ac a oedd hynny’n cael ei wneud o fewn AG neu drwy bynciau eraill yn y cwricwlwm.

           Y lefel o gydweithio gydag ysgolion cynradd eraill yn ardal dalgylch Caergybi a’r cyfleon ar gyfer cydweithio, rhannu a gweithio gyda’i gilydd.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Christine Hunt am ei hamser yn mynychu’r cyfarfod hwn o’r CYSAG ac yn rhannu gyda’i Aelodau esiamplau o’r gwaith a’r arferion yn Ysgol y Santes Fair.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

3.

Cofnodion Cyfarfod 26 Tachwedd, 2013 pdf eicon PDF 221 KB

Bydd cofnodion cyfarfod blaenorol y CYSAG a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd, 2013 yn cael eu cyflwyno i’w cadarnhau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r CYSAG a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd 2013 yn amodol ar newid y cyfeiriad at “weithdy ar y cyd” o dan y trydydd pwynt bwled yn eitem 4 i ddarllenaddoli ar y cyd”.

 

Materion yn codi

 

           Cadarnhaodd y Swyddog Addysg bod adroddiadau hunanwerthuso Ysgol y Tywyn ac Ysgol Gynradd Llanddona wedi eu hail-gyflwyno wedi eu cwblhau’n llawn.

           Dywedodd y Swyddog Addysg y byddai’n cylchredeg copi o’r ddogfen gyfarwyddo o’r enw Pobl, Cwestiynau a ChredoauAddysg Grefyddol yn y Cyfnod Sylfaen i ysgolion cynradd yr Awdurdod fel yr oedd wedi ei anfon ymlaen iddo ef gan yr Arweinydd Systemau.  Eglurwyd nad oedd y ddogfen bellach ar gael trwy wefan Llywodraeth Cymru.  Ategodd yr Arweinydd Systemau mai’r amcan wrth argymell y dylai’r wybodaeth hon gael ei rhannu i ysgolion yw bod ysgolion yn ei defnyddio fel ffynhonnell syniadau ond nid fel sail ar gyfer newid arferion.

           Cadarnhaodd y Swyddog Addysg bod Ysgolion Gyfun Llangefni ac Uwchradd Bodedern wedi anfon eu data perfformiad CA3 mewn AG.

           Dywedodd Mr Stephen Francis Roe wrth y CYSAG bod y cyfarfod o Fwrdd Diogelu Lleol Gwynedd a Môn ar 28 Ionawr  yr enwebwyd ef i’w fynychu, wedi ei ohirio oherwydd bod Cynhadledd Diogelu Gogledd Cymru arfaethedig i’w chynnal ym mis Mawrth.  Cadarnhaodd Mr Roe ei fod wedi cofrestru ar gyfer y gynhadledd Gogledd Cymru.

4.

Adroddiad Blynyddol CYSAG Ynys Môn 2012/13 pdf eicon PDF 517 KB

Trafod ymateb yr Awdurdod i’r argymhellion yn yr adroddiad.

Cofnodion:

Cafwyd cyflwyniad gan yr Arweinydd Systemau i’r CYSAG yn seiliedig ar yr argymhellion a wnaed gan CYSAG i’r Awdurdod Lleol fel roeddent i’w gweld yn ei Adroddiad Blynyddol 2012/13 mewn perthynas â hyrwyddo arfer dda a chynnal safonau o fewn y Ddarpariaeth o AG a threfniadau addoli ar y cyd ar draws ysgolion y sir ac mewn perthynas â hyrwyddo mynediad i athrawon AG ac ymarferwyr i gyfarwyddyd a deunyddiau cefnogol.  Yn ei chyflwyniad, canolbwyntiodd yr Arweinydd Systemau ar sut y gellir sicrhau’r CYSAG bod yr argymhellion hynny’n cael eu gweithredu’n llawn gan yr Awdurdod Lleol a sut y gall wedi hynny werthuso ei effeithlonrwydd ei hun fel corff ymgynghorol.

Wrth drafod rôl y CYSAG yn cefnogi Cydlynwyr Addysg Grefyddol ac arweinyddion pwnc, fe wnaed y pwyntiau canlynol

 

           Gan gofio bod y ffocws cenedlaethol ar Lythrennedd a Rhifedd fel meysydd blaenoriaeth yn y rhaglen gwella ysgolion a’r pwyslais a roddir ar wella’r sgiliau hynny ar draws pob pwnc yn y Cwricwlwm Cenedlaethol, fe all AG fod â goblygiadau o ran potensial ar gyfer dysgu’r rhain.

           Yr angen i athrawon ysgol / prifathrawon sicrhau bod y ddarpariaeth ar gyfer AG yn cael ei gwneud mewn trefniadau hyfforddi athrawon.

           Yr angen i ystyried ffyrdd o alluogi’r CYSAG i fonitro a yw hyfforddiant wedi digwydd a’i effeithlonrwydd e.e. drwy gasglu safbwyntiau drwy holiadur blynyddol i athrawon allai fynd i’r afael â’r ystod a’r nifer o gyfleon a ddarperir ar gyfer hyfforddiant AG a’r gweithgareddau a wnaed.

           Yr angen i ystyried ffynonellau tebygol o hyfforddiant ar ffurf Eglwysi a sefydliadau trydydd parti fel Mudiad Addysg Grefyddol Cymru.  Nodwyd bod MAGC ar hyn o bryd yn ystyried pa ran y gall ei chwarae fel cydlynydd hyfforddiant ar draws Cymru yn amodol ar gael cytundeb ynglŷn â chyllid a threfniadau eraill gyda’r Awdurdodau Addysg Lleol, consortia addysg ac / neu  ysgolion.

           Y posibilrwydd y gallai Aelodau’r CYSAG ymweld ag ysgolion unigol fel sylwedyddion fel ffordd o gyflawni cyfrifoldeb monitro’r corff mewn perthynas â threfniadau addoli ar y cyd yn yr ysgolion a sut y gellid cynnal ymweliadau o’r fath yn ymarferol.  Awgrymwyd y gallai Aelodau o’r CYSAG gael eu cyfatebu gyda’u hysgolion lleol ac y dylai unrhyw ymweliadau a gynhelir fod ar sail gwahoddiad gan yr ysgol.

           Yr angen i ddatblygu protocol ar gyfer casglu gwybodaeth am ymweliadau i ysgolion ac o fwydo’r wybodaeth yn ôl wedyn i’r fforwm CYSAG.  Awgrymwyd y dylid datblygu holiadur yn arbennig ar gyfer defnydd Aelodau’r CYSAG er mwyn sicrhau y ceir cysondeb o ran agwedd ac adrodd yn ôl mewn ymweliadau o’r fath.

           Bod ystyriaeth yn cael ei roi i ffurfio Cynllun Gweithredu i alluogi’r CYSAG i fonitro cynnydd yn rheolaidd parthed cyflawni nodau ac amcanion yr Adroddiad Blynyddol.

 

CAMAU GWEITHREDU’N CODI:

 

           Arweinydd Systemau i adrodd yn ôl i’r CYSAG ar opsiynau posibl ar gyfer rhoi sylw i’r canlynol:

           I nodi dulliau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Safonau Addysg Grefyddol - Adroddiadau Hunan Arfarnu pdf eicon PDF 562 KB

·        Ystyried adroddiadau hunan-arfarnu Ysgol y Fali ac Ysgol Pentraeth

 

·        Ystyried y prif negeseuon o adroddiadau arolwg Estyn mewn perthynas ag Ysgol Ffrwd Win, Ysgol Caergeiliog ac Ysgol Santes Fair.

 

(Adroddiad y Swyddog Addysg ynghlwm)

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

5.1       Cyflwynwyd adroddiadau hunan-arfarnu Ysgol y Fali ac Ysgol Pentraeth a nodwyd eu cynnwys gan Aelodau’r CYSAG.

5.2       Cyflwynwyd adroddiad y Swyddog Addysg yn cynnwys y canfyddiadau perthnasol o adroddiadau arolwg Estyn ar Ysgol Ffrwd Win, Ysgol Caergeiliog ac Ysgol y Santes Fair a nodwyd y wybodaeth gan Aelodau’r CYSAG.

6.

Y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Genedlaethol ac Adolygiad o Gwricwlwm Cenedlaethol Cymru

Derbyn cyflwyniad gan Miss Bethan James, AS GwE.

Cofnodion:

            Rhoddodd yr Arweinydd Systemau gyflwyniad ar ofynion y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol drwy gyfeirio ar y Rhaglen Gefnogi Genedlaethol sy’n darparu cefnogaeth i ysgolion gyda gweithredu’r Fframwaith.  Eglurodd y disgwyliadau y bydd y gofynion yn eu rhoi ar athrawon Addysg Grefyddol fel a ganlyn

 

           Rhaid i’r Fframwaith gael ei hintegreiddio o fewn cynlluniau gwersi.

           Athrawon i ddefnyddio ystod o strategaethau dysgu i ddysgu ac addasu rhifedd, darllen, ysgrifennu a llafaredd i’r ystod lawn o lefelau sgiliau a gallu.

           Athrawon i fod â’r arbenigedd i ddysgu a gosod tasgau priodol fel y gall sgiliau llythrennedd a rhifedd gael eu hasesu ochr yn ochr â chynnwys pob maes pwnc.

           Athrawon i allu dehongli canfyddiadau’r asesiadau a’u defnyddio i ffurfio cynlluniau addysg unigol.

           Athrawon i ddeall bod profion llythrennedd a rhifedd yn seiliedig ar y Fframwaith ac y dylent fedru paratoi dysgwyr yn unol â hynny.

 

Aeth yr Arweinydd Systemau ymlaen i ddangos sut y gall Addysg Grefyddol fel pwnc gael ei ddefnyddio i ddatblygu sgiliau rhifedd, er enghraifft drwy ddefnyddio’r profiad o ymweld â chapel i gyfrifo faint o bobl all eistedd yn y capel a sut y gallai’r testun gael ei ddefnyddio i ddatblygu sgiliau llythrennedd er enghraifft drwy lunio poster i egluro ystyr yr ŵyl Hindŵ Diwali fyddai’n rhoi tystiolaeth o allu i ffurfio brawddegau, gramadeg, sillafu, atalnodi a llawysgrifen.  Dywedodd y Swyddog bod yr her o ran rhifedd yn benodol yn gorwedd gyda cheisio nodi cyd-destun rhifedd o fewn AG sydd wedi ei osod ar lefel briodol o’r Fframwaith Rhifedd h.y. un nad yw’n rhy simplistig.

 

           O safbwynt yr adolygiad o’r Cwricilwm Cenedlaethol, cadarnhaodd yr Arweinydd Systemau ei bod hi a chyn ymgynghorwyr eraill yn y dyniaethau wedi cyfarfod fel grŵp ddechrau mis Ionawr i ffurfio ymateb ar ran NAPfRE a hefyd y CYSAG i’r cyfnod cyntaf o’r adolygiad gan ddweud y dylai Addysg Grefyddol gael ei chynnwys mewn unrhyw ddatblygiadau ac/neu esiamplau a rennir gydag athrawon.  Roedd ail gyfnod yr adolygiad yn golygu cynnwys cwricwlaidd ac yn adlewyrchu nod Llywodraeth Cymru, sef bod y cwricwlwm yn un sydd ag amrywiaeth ac sy’n dysgu i ddisgyblion y sgiliau a’r wybodaeth sydd ei hangen i’w galluogi hwy i symud ymlaen yn y byd y tu hwnt i’r ysgol.  Aeth yr Arweinydd Systemau ymlaen i egluro sut y gallai’r disgwyliadau hyn berthnasu i AG sydd â sail statudol iddo ac sy’n cael ei lywodraethu gan maes llafur cytunedig wedi ei benderfynu’n lleol, o ran sicrhau bod AG yn adlewyrchu’r datblygiadau sy’n digwydd mewn rhannau eraill o’r Cwricwlwm.  Dywedodd y byddai’n ymateb i ail gyfnod yr ymgynghori, y disgwylir iddo fod ag amserlen dynn iawn, drwy bwysleisio’r angen i gynnwys AG mewn unrhyw ddatblygiadau, cyfarwyddyd, a deunyddiau enghreifftiol. 

 

Yn y drafodaeth a ddilynodd, ystyriodd yr Aelodau’r mater o ymgysylltu â sefydliadau allanol er mwyn cynyddu  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cymdeithas CYSAGau Cymru pdf eicon PDF 199 KB

·        Cyflwyno cofnodion drafft cyfarfod y Gymdeithas a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ar 10 Hydref, 2013.

 

·        Ystyried enwebiadau i’r Pwyllgor Gwaith (Gohebiaeth ynghlwm)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

7.1       Cyflwynwyd a nodwyd cofnodion drafft y cyfarfod o CCYSAGC a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ar 10 Hydref 2013.

 

Cadarnhaodd Miss Bethan James a Mr Rheinallt Thomas, i'r Is-Gadeirydd y byddent yn mynychu’r cyfarfod nesaf o’r CCYSAGC yng Nghaerffili ar 27 Mawrth.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr arfer mewn cyfarfodydd o’r CCYSAGC o gynnal cyfnod o fyfyrdod distaw ac awgrymodd y byddai’r CYSAG fel corff yn dymuno ystyried cynnal yr arferiad neu rywbeth tebyg yn ei gyfarfodydd ei hun, yn amodol ar gael cadarnhad y Swyddog Monitro ynglŷn â phriodoldeb gwneud hynny.  Dywedodd y Cadeirydd y byddai’n codi’r mater hwn gyda’r Swyddog a gofynnodd i’r Aelodau ystyried yr opsiynau canlynol gyda golwg ar ddod i gytundeb yn y cyfarfod nesaf

 

           Cadw pethau fel ag y maent

           Gweddi i’w rhoi cyn dechrau’r cyfarfod ffurfiol

           Cyfnod o fyfyrdod tawel

           Munud i feddwl

 

7.2       Cyflwynwyd er ystyriaeth yr Aelodau ohebiaeth gan Ysgrifennydd y CCYSAGC dyddiedig 5 Chwefror 2014 yn gwahodd cyrff CYSAG i ystyried gwneud enwebiadau i Bwyllgor Gwaith y CCYSAGC.

Nododd yr Is-Gadeirydd na allai CYSAG Ynys Môn enwebu un o’i Aelodau ei hun i’r Pwyllgor Gwaith oherwydd ei fod eisoes yn cael ei gynrychioli ar y Pwyllgor, er bod ganddo hawl, fodd bynnag i wneud enwebiad arall be bai’n dymuno.

 

Nododd Aelodau’r CYSAG bod gan Mr Rheinallt Thomas, Is-Gadeirydd CYSAG Ynys Môn ac aelod o Bwyllgor Gwaith CCYSAGC, flwyddyn arall ar ôl o’i gyfnod o wasanaeth.

8.

Gohebiaeth pdf eicon PDF 221 KB

·        Y Parch.Ganon Robert Townsend

 

·        Swyddfa  Rhun ap Iorwerth

 

(Gweler adroddiad y Swyddog Addysg o dan eitem 5)

Cofnodion:

 

Cyflwynwyd a nodwyd gohebiaeth gan Y Parchedig Ganon Robert Townsend a Swyddfa Rhun ap Iorwerth, AC.