Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 269 KB

Cofnodion cyfarfod blaenorol y CYSAG a gynhaliwyd ar 28 Mehefin i gael eu cyflwyno i’w cadarnhau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd cofnodion cyfarfod blaenorol CYSAG a gynhaliwyd ar 28 Mehefin, 2013 fel rhai cywir.

3.

Materion yn Codi pdf eicon PDF 73 KB

·        Ysgolion lle bo’n berthnasol wedi eu hatgoffa am yr angen i gyflwyno adroddiad hunan arfarnu.

·        Gwefan Addysg Grefyddol (Copi ynghlwm)

·        Cefnogaeth gan y GwE

·        Adroddiad Estyn ar Addysg Grefyddol mewn Ysgolion Uwchradd wedi’i  ddosbarthu i’r ysgolion ar 5 Medi, 2013 (Copi ynghlwm)

·        Adolygiad o Bynciau’r Cwricwlwm Cenedlaethol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

           Atgoffodd y Swyddog Addysg yr Aelodau yn unol â'r drafodaeth yn y cyfarfod blaenorol bod corff CYSAG Ynys Môn yn hanesyddol wedi cadw'r hawl i benodi Cadeirydd o blith cynrychiolwyr yr AALl ar y corff a bod yr AALl yn draddodiadol wedi arfer ei hawl i wneud y penodiad. Dywedodd Swyddog CYSAG, yn y cyfnod ers y cyfarfod blaenorol, fod y Cynghorydd Dylan Rees wedi cael ei benodi i ymgymryd â'r swyddogaeth a chyflwynodd y Cynghorydd Rees i'r CYSAG fel ei Gadeirydd newydd.

 

Cymeradwyodd aelodau'r CYSAG y penodiad yn unfrydol.

 

           Gan gyfeirio at y ddwy ysgol yr oedd dal i ddisgwyl am eu hadroddiadau hunan-arfarnu AG yn y cyfarfod blaenorol, dywedodd y Swyddog Addysg nad oedd yr adroddiadau o Ysgol Pentraeth ac Ysgol y Fali wedi dod i law er gwaethaf sawl cais am y wybodaeth. Awgrymodd bod llythyr yn cael ei anfon at Gadeirydd Corff Llywodraethol yr ysgolion perthnasol. Roedd aelodau’r CYSAG yn cytuno â'r awgrym hwn, o ystyried bod y wybodaeth yn hanfodol i’r corff gyflawni ei gyfrifoldebau monitro a chan gymryd i ystyriaeth y ffaith bod ceisiadau blaenorol wedi eu gwneud am yr adroddiadau.

 

Camau dilynol: Y Swyddog Addysg i ysgrifennu at Gadeiryddion priodol Cyrff Llywodraethol Ysgol Pentraeth ac Ysgol y Fali i holi am argaeledd eu hadroddiadau hunan-arfarnu Addysg Grefyddol, a pham fod eu darparu’n bwysig i gyflawni dyletswyddau'r CYSAG fel corff monitro.

 

           Cadarnhaodd y Swyddog Addysg fod gwybodaeth am fynediad i wefan Newyddion AG wedi cael ei ddarparu i Aelodau CYSAG ac i bersonél perthnasol eraill. Gofynnodd Miss Bethan James, yr Arweinydd Systemau, i'r Aelodau rannu unrhyw wybodaeth am brosiectau lleol ac arferion da neu arloesol y maent o bosibl yn ymwybodol ohonynt, fel y gallai'r rhain gael eu lledaenu'n ehangach.

           Cadarnhaodd y Swyddog Addysg fod y trefniadau y cytunwyd arnynt yn y cyfarfod blaenorol, lle y byddai CYSAG yn gofyn am adroddiadau hunan-arfarnu'r ysgolion ar sail gylchol yn y sectorau cynradd ac uwchradd, wedi cael eu rhoi ar waith ac mai adroddiad hunan-arfarnu Ysgol Uwchradd Bodedern oedd yr adroddiad uwchradd cyntaf a dderbyniwyd o dan y system newydd, fel sydd wedi ei gynnwys ar yr agenda.

           Mewn perthynas â darparu cymorth ar gyfer y CYSAG, hysbysodd y Swyddog Addysg yr Aelodau fod yr AALl wedi cynnal trafodaethau â GwE, gyda'r canlyniad y bydd 3 diwrnod bob tymor o amser yr Arweinydd Systemau yn cael ei wneud ar gael i'r CYSAG. Bydd y gefnogaeth a ddarperir ar ffurf canllawiau, mewnbwn arbenigol ac adroddiadau i'r CYSAG ond ni fydd yn cynnwys cynnal ymweliadau ag ysgolion. Cafodd mater cefnogaeth ei godi a’i symud ymlaen ar lefel Gogledd Cymru oherwydd sail statudol corff CYSAG. Dywedodd Miss Bethan James, yr Arweinydd Systemau, y byddai'n darparu cymorth gweinyddol i'r CYSAG yn bennaf er bod cais wedi'i wneud ei bod yn parhau yn ei rôl gynrychioliadol yng nghyfarfodydd y CCYSAGC. Oherwydd y newid  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Adroddiad Blynyddol CYSAG Ynys Môn 2012/13 pdf eicon PDF 594 KB

Cyflwyno drafft o Adroddiad Blynyddol CYSAG Ynys Môn am 2012/13.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol drafft CYSAG Ynys Môn am 2012/13 i'w ystyried a'i gymeradwyo.

 

Darparodd Miss Bethan James, yr Arweinydd Systemau, wybodaeth i'r Aelodau ynglŷn â chefndir paratoi'r adroddiad, ynghyd ag esboniad cryno o'i gynnwys a oedd yn seiliedig ar drafodaethau CYSAG yn ei gyfarfodydd a gynhaliwyd yn ystod 2012/13. Aeth y Swyddog ymlaen i ddod â'r materion canlynol i sylw'r CYSAG –

 

           Gan gyfeirio at adroddiadau hunan-arfarnu'r ysgol, p’un a oedd y CYSAG yn hapus i gefnogi'r arfer o enwi’r ysgolion hynny a oedd wedi methu â chyflwyno adroddiad hunan-arfarnu ar gyfer CYSAG.

 

Trafododd yr Aelodau y mater a gofynnwyd am eglurhad ynghylch yr amserlen a'r gwaith sydd ynghlwm wrth gwblhau'r hunan-arfarnu. Dywedodd yr Arweinydd Systemau bod disgwyl i ysgolion fod wedi ymgymryd â'r gwaith cynllunio paratoadol, sy'n gwneud cwblhau'r ffurflen hunan-arfarnu yn dasg llai beichus.

 

Yn wyneb y ffaith bod ceisiadau wedi cael eu gwneud i ysgolion gyflwyno eu hadroddiadau hunan-arfarnu i sylw'r CYSAG am resymau monitro, a bod methiant cychwynnol i wneud hynny yn cael ei ddilyn i fyny gyda gohebiaeth, cytunodd Aelodau’r CYSAG â'r egwyddor bod ysgolion sy'n parhau i fethu â chydymffurfio yn cael eu henwi yn yr Adroddiad Blynyddol.

 

Cytunwyd bod ysgolion sy'n methu â chyflwyno eu hadroddiadau hunan-arfarnu yn cael eu henwi yn yr Adroddiad Blynyddol. Cytunwyd hefyd bod Ysgol y Tywyn ac Ysgol Llanddona yn cael y cyfle i ddiwygio eu hadroddiadau hunan-arfarnu i gynnwys, yn achos y cyntaf, farn ar ansawdd y deilliannau neu ddarpariaeth mewn Addysg Grefyddol, ac yn yr achos olaf, farn ar ansawdd y ddarpariaeth ar gyfer addoli ar y cyd, i gynnwys barn ar y ddarpariaeth Addysg Grefyddol.

 

           Gan gyfeirio at ganlyniadau mewn Addysg Grefyddol, p’un a oedd y CYSAG yn hapus â'r arfer o enwi ysgolion sy'n gallu dynodi nodweddion da er mwyn tynnu sylw at arfer da y gall ysgolion eraill dynnu arno.

 

Cytunwyd bod yr ysgolion hynny sy’n gallu dynodi nodweddion da yn cael eu henwi yn yr Adroddiad Blynyddol.

 

           Gan gyfeirio at argymhelliad y CYSAG i AALl Ynys Môn mewn perthynas â chanlyniadau mewn Addysg Grefyddol, p’un a oedd y CYSAG yn hapus i gadw argymhelliad Cyd-gysylltwyr AG i gael eu gwahodd i gyflwyno eu gwaith i Aelodau CYSAG.

 

Cytunwyd bod yr argymhelliad hwn yn cael ei gadw yn yr Adroddiad Blynyddol.

 

           Gan gyfeirio at yr adran sy’n amlinellu'r cymorth a ddarperir gan Wasanaethau Ymgynghorol Cynnal, nododd yr Arweinydd Systemau y bydd angen rhoi ystyriaeth i gynnwys yr adran hon ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, gan fod cangen ymgynghorol Cynnal wedi ei diddymu ar 31 Mawrth, 2013.

           Gan gyfeirio at y rhestr o gyhoeddiadau Llywodraeth Cymru ar ffurf dogfennau canllawiau i athrawon Addysg Grefyddol, dywedodd yr Arweinydd Systemau bod y cyfan ond y ddogfen canllawiau Pobl, Cwestiynau, a Chredoau: Addysg Grefyddol yn y Cyfnod Sylfaen wedi cael  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Safonau Addysg Grefyddol pdf eicon PDF 361 KB

·        Asesiadau Athrawon CA3 (Haf 2013) a Chanlyniadau Arholiadau Allanol (Haf 2013)

 

·        Adroddiadau arolygiadau mewn perthynas ag Ysgol Cemaes; Ysgol Corn Hir, Ysgol Moelfre ac Ysgol Llaingoch (Copi o adroddiad y Swyddog Addysg ynghlwm)

 

·        Hunan Arfarniad Ysgol Uwchradd Bodedern (Copi ynghlwm)

 

·        Trefniadau ar gyfer monitro  Safonau AG ac addoli ar y cyd i’r dyfodol (Papur ynghlwm)

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

           Cyflwynwyd adroddiad ar asesiadau CA3 Athrawon mewn AG, ynghyd â chanlyniadau arholiadau allanol haf 2013 i sylw'r CYSAG. Roedd yr adroddiad yn darparu gwybodaeth am y safonau a gyrhaeddwyd, cyflawniad cymharol merched a bechgyn, a nifer yr ymgeiswyr yn yr arholiadau.

 

Hysbysodd yr Arweinydd Systemau y CYSAG nad oedd data perfformiad CA3 ar gyfer dwy ysgol uwchradd wedi dod i law. Cytunwyd y dylid gofyn i’r ddwy ysgol dan sylw - Ysgol Gyfun Llangefni ac Ysgol Uwchradd Bodedern - ddarparu'r data gofynnol. Amlygodd y Swyddog y ffaith bod y bwlch mewn perfformiad rhwng bechgyn a merched mewn un ysgol yn llai nag mewn rhai o'r lleill - eglurodd Mrs Mefys Edwards yn fyr y drefn o addysgu yn Ysgol Syr Thomas Jones. Awgrymodd yr Arweinydd Systemau fod y CYSAG yn ystyried derbyn cyflwyniad ar gynnwys gwersi AG TGAU, ac yn benodol ar y dulliau a ddefnyddir i wella cyfranogiad a pherfformiad bechgyn mewn AG fel maes pwnc - efallai cyflwyniad gan fechgyn o ran eu hagwedd tuag at Addysg Grefyddol fel pwnc. Hefyd rhoddodd esboniad i Aelodau o gwrs byr Astudiaethau Crefyddol.

 

Cytunwyd i dderbyn yr adroddiad a nodi ei gynnwys.

 

Camau dilynol:

           Y Swyddog Addysg a’r Arweinydd Systemau mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd i drefnu bod y CYSAG yn cael cyflwyniad yn ei gyfarfod nesaf ynghylch safonau a pherfformiad ac i benderfynu ar gynnwys y cyflwyniad.

           Y Swyddog Addysg ar ran y CYSAG i atgoffa Ysgol Gyfun Llangefni ac Ysgol Uwchradd Bodedern i baratoi a chyflwyno eu data perfformiad AG CA3.

 

           Cyflwynwyd adroddiad y Swyddog Addysg a oedd yn darparu crynodeb o rannau perthnasol o adroddiadau Estyn ar Ysgol Cemaes, Ysgol Corn Hir, Ysgol Moelfre ac Ysgol Llaingoch i ystyriaeth y CYSAG. Nododd yr aelodau’r adroddiad.

 

           Cyflwynwyd adroddiad hunan-arfarnu Addysg Grefyddol Ysgol Uwchradd Bodedern i ystyriaeth y CYSAG.

Dywedodd yr Arweinydd Systemau fod yr adroddiad yn rhoi trosolwg defnyddiol o safonau mewn AG yn yr ysgol, yn ogystal â blas o'r math o weithgareddau, tasgau a thrafodaethau a drefnir fel rhan o'r ddarpariaeth AG ar wahanol gyfnodau ac fel rhan o drefniadau addoli ar y cyd.

 

Nododd y CYSAG yr adroddiad a mynegodd ei werthfawrogiad o'r wybodaeth a ddarparwyd.

 

Camau dilynol: Y Swyddog Addysg i ysgrifennu ar ran y CYSAG at Bennaeth AG yn Ysgol Uwchradd Bodedern i ddiolch iddi/iddo am yr adroddiad.

 

·                    Cyflwynwyd canlyniadau’r holiadur a gwblhawyd gan Aelodau'r CYSAG ar ddiwedd cyfarfod blaenorol y fforwm ym mis Mehefin. Roedd yr holiadur yn ceisio mesur gwybodaeth a dealltwriaeth aelodau o Addysg Grefyddol a gweithdy ar y cyd, yn ogystal â cheisio nodi eu barn am argymhellion i wella effeithiolrwydd y CYSAG fel corff monitro e.e. trwy drefnu i'r Aelodau fynychu sesiwn addoli ar y cyd mewn sampl o ysgolion ac/neu i ymweld ag ysgol i drafod hunan-arfarniad yr ysgol o AG gyda'r Cyd-gysylltydd AG neu Bennaeth yr Adran.

 

Er  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Cefnogaeth y Gwasanaeth Ymgynghorol

Derbyn diweddariad ar y gefnogaeth a roddwyd.

Cofnodion:

Cytunwyd bod y mater hwn wedi cael sylw o dan y materion yn codi o'r cofnodion.

 

7.

Cymdeithas CYSAGau Cymru pdf eicon PDF 425 KB

·        Cyflwyno rhaglen a phapurau cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ar 10 Hydref, 2013 ynghyd â diweddariad ar lafar o drafodaethau’r cyfarfod.

 

·        Cyflwyno’r Adroddiad y Trysorydd am 2012/13.

 

·        Cyflwyno adroddiad ar weithgareddau’r Gymdeithasol am 2012/13.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

           Cyflwynwyd agenda cyfarfod y CCYSAGC a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ar 10fed Hydref, 2013 ynghyd â chofnodion cyfarfod y Gymdeithas, a gynhaliwyd yng Nghaernarfon, Gwynedd. Nodwyd y ddogfennaeth.

           Cyflwynwyd a nodwyd Adroddiad y Trysorydd ar gyfer 2012/13.

           Cyflwynwyd a nodwyd adroddiad ar weithgareddau'r CCYSAGC yn ystod 2012/13

8.

Gohebiaeth

Derbyn diweddariad ar ohebiaeth a dderbyniwyd (Gweler adroddiad y Swyddog Addysg o dan eitem 5)

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Swyddog Addysg at ohebiaeth a dderbyniwyd ac a anfonwyd, fel y nodwyd yn ei adroddiad o dan eitem 4. Tynnodd y Swyddog sylw at gais a dderbyniwyd a'i anfon ymlaen ato gan y Swyddog Addysg Uwchradd yn dilyn cyfarfod cynharach o Fwrdd Diogelu Lleol Gwynedd a Môn i gynrychiolydd enwadol fynychu cyfarfod y Bwrdd a gynhelir yng Ngwesty'r Celtic Royal, Caernarfon ar 28ain Ionawr, 2014.

 

Mynegodd Mr Stephen Francis Roe ddiddordeb mewn mynychu'r cyfarfod yn rhinwedd ei swydd fel Swyddog Diogelu i Synod Cymru, a chafodd ei enwebu i wneud hynny gan Aelodau’r CYSAG.

9.

Cyfarfod Nesaf y CYSAG

2:00 o’r gloch y prynhawn, dydd Mawrth, 18 Chwefror, 2014.

Cofnodion:

Nodwyd fod cyfarfod nesaf y CYSAG fel a drefnwyd am 2pm ar ddydd Mawrth, 18fed Chwefror 2014.