Rhaglen a chofnodion

Cyngor Ymgynghorol Sefydlog at Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CYS) - Dydd Mawrth, 17eg Mehefin, 2014 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

Rhoddodd y Cadeirydd groeso i bawb oedd yn bresennol gan estyn croeso arbennig i Mr. Christopher Thomas i’w gyfarfod cyntaf o GYSAG Ynys Môn fel cynrychiolydd yr Eglwys Gatholig.

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion Cyfarfod 18 Chwefror, 2014 pdf eicon PDF 177 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y CYSAG a gynhaliwyd ar 18 Chwefror, 2014.

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r CYSAG a gynhaliwyd ar 18 Chwefror 2014 yn amodol ar gynnwys Mr Rheinallt Thomas (Is-Gadeirydd) yn y rhestr o rai oedd yn bresennol.

 

Materion yn codi

 

           Adroddodd yr Arweinydd Systemau yng nghyswllt nodi dulliau o hwyluso a chefnogi cyfleon hyfforddi i Athrawon AG a Chydlynwyr i godi safonau AG lle bo angen hynny a bod tair ystyriaeth wedi dod i’r amlwg sef

           Yr angen i ddod i ddealltwriaeth mewn egwyddor bod CYSAG Ynys Môn ynghyd â’r Awdurdod ym Môn yn barod i weithio ar y cyd gyda chyrff CYSAG eraill yng Nghymru i ffurfio rhaglen hyfforddi.  Cyfeiriodd yr Arweinydd Systemau at y cwrs hyfforddi i Athrawon CA3 ar ddeall safonau yn CA3 ac a gynhaliwyd y flwyddyn ddiwethaf, fel esiampl o’r manteision o weithio ar y cyd i ddarparu hyfforddiant ar amser pan nad yw grwpiau sy’n draddodiadol yn gyfrifol am ddarparu hyfforddiant i athrawon mewn AG mwyach ar gael.  Roedd y cwrs yn cynnwys o ran trefniadau, cyfraniad a chyfranogiad - gyrff CYSAG Gogledd Cymru, Cymdeithas CYSAGau Cymru, Cynghorau Môn a rhai eraill yng Ngogledd Cymru a’u hysgolion.  Dywedodd y Swyddog ei bod hi a’i chyd-aelodau o’r PYCAG yn gobeithio adeiladu ar lwyddiant y model hwn o weithio’n gydweithredol ac i’w ddatblygu ymhellach yn y dyfodol.  Ei hargymhelliad hi fyddai bod Cyngor Ynys Môn yn cefnogi Cynghorau a chyrff CYSAG eraill o ran gweithio gyda’i gilydd i ddarparu rhaglen o hyfforddiant.  Roedd teimlad hefyd y dylid rhoi ystyriaeth i ddatblygu rhaglen o gyrsiau dros ddwy i dair blynedd ac a fyddai ar gael yn lleol, gyda hynny’n caniatáu amser i athrawon gynllunio ar eu cyfer ac a fyddai’n rhoi sylw dyledus i anghenion y sectorau cynradd a’r uwchradd ac yn mynd i’r afael â gofynion cyfredol fel llythrennedd a rhifedd.

           O safbwynt hwyluso a chefnogi athrawon i ddod at ei gilydd i drafod meysydd sy’n ymwneud ag Addysg Grefyddol gyda golwg ar rannu arfer dda a syniadau, dywedodd yr Arweinydd Systemau y gallai’r CYSAG, o safbwynt y sector cynradd yn arbennig, dderbyn y byddai’n rhaid i hon fod yn ddarpariaeth cost isel ar y cyd heb gynnwys grwpiau allanol ac a fyddai’n adeiladu ar y grwpiau cyfredol yn lleol.  Efallai y byddai gofyn i’r CYSAG fel corff ystyried gwneud ychydig o’r gwaith cefnogi gweinyddol ac fe ellid sefydlu rota o hwyluswyr gyda  Chyngor Ynys Môn efallai yn cyllido sesiwn gychwynnol.  Efallai wedi hynny y byddai’n bosibl cael cydlynwyr AG yn y sector cynradd i sefydlu eu rhwydwaith eu hunain o fewn y sir.

           I sefydlu cymorthfeydd ar ôl ysgol ar ddechrau pob tymor ar gyfer yr ysgolion y disgwylir iddynt gyflwyno eu hadroddiadau hunanarfarnu i’r CYSAG i’w hatgoffa hwy o rai o’r ystyriaethau allweddol wrth wneud hynny.

 

Dywedodd yr Is-Gadeirydd wrth yr Aelodau bod llythyr ar ran Cynghorau Eglwysi Rhydd Cymru wedi  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.

3.

Gweithio mewn Partneriaeth

Derbyn cyflwyniad gan Kirsty Williams, yr Eglwys yng Nghymru yn rhinwedd ei swydd fel Galluogwr Gweinidogaeth Plant, Ieuenctid a Theuluoedd yr Eglwys.

Cofnodion:

 

Cafwyd cyflwyniad gan Kirsty Williams i’r CYSAG yn rhinwedd ei swydd fel Galluogydd Gweinidogaeth Plant, Ieuenctid a Theuluoedd i’r Eglwys yng Nghymru a rhoddodd gerbron adroddiad oedd yn rhoi crynodeb o’r syniadau a gyflwynwyd.  Yn ei chyflwyniad awgrymodd Ms Williams y ffyrdd canlynol y gallai'r Eglwys yng Nghymru gynnig cefnogaeth ymarferol i ysgolion mewn AG –

 

           Hyrwyddo sesiynau hyfforddi i athrawon mewn themâu perthnasol o fewn AG o fewn neu y tu allan i’r ysgol.

           Darparu pecynnau addysgol i athrawon sydd yn hygyrch ac yn hawdd i’w defnyddio e.e. bocsys adnoddau yn cynnwys arteffactau, cynlluniau gwersi a deunyddiau cefnogi eraill y gall athrawon eu harwyddo i mewn ac allan.

           Systemau mentora i blant mewn perthynas â’r hyn y maent yn ei ddysgu yn y gwersi Addysg Grefyddol a allai yn ei dro ddarparu prosiect mentora drwy’r ysgol gyfan.

           Darparu llecynnau gweddïo i’w defnyddio yn unigol gan blant neu fel rhan o ymarfer dosbarth fel sy’n briodol.

           Darparu lleoliadau gwirfoddoli i bobl ifanc sydd efallai yn ei chael yn anodd i gael at gyfleon gwirfoddoli.

           Gwasanaeth cwnsela i ategu’r ddarpariaeth bresennol o fewn ysgolion.

           Dyddiau symud ymlaen i blant a phobl ifanc i roi iddynt y sgiliau ar gyfer symud ymlaen i’r cyfnod nesaf yn eu bywydau.

 

Roedd Aelodau’r CYSAG yn cydnabod yr awgrymiadau a wnaed ac roeddent am bwysleisio na all y CYSAG fel corff ond hwyluso’r broses o rannu gwybodaeth am wasanaethau ac adnoddau i ysgolion er mwyn iddynt hwythau weithredu arnynt fel y byddant yn barnu’n briodol, ac mai mater i ysgolion unigol yw a fyddant yn derbyn y cynnig o wasanaeth ai peidio.

 

Tynnodd yr Arweinydd Systemau sylw at y ffaith bod rhai o’r gwasanaethau y mae’r Galluogydd Gweinidogaeth Plant, Ieuenctid a Theuluoedd yr Eglwys yn ei awgrymu y gallai’r Eglwys eu cynnig eisoes yn cael eu darparu o fewn ysgolion ac amlygodd y meysydd canlynol fel rhai y byddai’r Galluogydd efallai yn dymuno eu hystyried er mwyn osgoi dyblygu’r ddarpariaeth ac adnoddau:

 

           Canolfan Adnoddau Cenedlaethol Cymru ar gyfer Addysg Grefyddol sy’n darparu ystod o adnoddau yn cynnwys bocsys adnoddau sy’n ymdrin â rhai o’r themâu a grybwyllwyd.

           Adran y plant yng Ngwasanaeth Llyfrgell Ynys Môn sy’n benthyca bocsys o arteffactau yn ogystal â llyfrau i ysgolion. 

           Bod prinder o adnoddau ar gael i ysgolion sy’n adlewyrchu’r cwricwlwm Cymreig o ran diffinio ffydd ac ymlyniad i ffydd yng Nghymru o safbwynt Cymreig.  Dylai’r adnoddau a ddarperir gan yr Eglwys yng Nghymru adlewyrchu’r dimensiwn hwnnw.

           Mae rhai gwasanaethau fel cwnsela, mentora a gwasanaethau hyfforddi eisoes wedi eu sefydlu’n dda mewn nifer o ysgolion uwchradd y sir. Efallai y byddai’r Eglwys yng Nghymru felly yn dymuno ystyried pa anghenion penodol y mae’n gallu ymateb iddynt a bod ei chynrychiolydd yn gwneud pobl ifanc a’u rhieni’n ymwybodol mai’r eglwys sy’n darparu’r gefnogaeth i ysgolion lle bo hynny’n berthnasol. 

 

Awgrymodd y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Safonau Addysg Grefyddol - Adroddiadau Estyn pdf eicon PDF 263 KB

Derbyn gwybodaeth ynghylch ansawdd y ddarpariaeth mewn ysgolion sydd wedi derbyn arolwg.

Cofnodion:

Cyflwynwyd gwybodaeth am y canfyddiadau perthnasol o adroddiadau archwiliad Estyn mewn perthynas ag Ysgol Biwmares ac Ysgol Goronwy Owen.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Addysg Cynradd nad oedd unrhyw faterion yn codi o safbwynt yr ysgolion a archwiliwyd.  Fodd bynnag, tynnwyd sylw’r CYSAG at yr amrywiad yn nefnydd yr archwiliwr o derminoleg yn disgrifio’r ddarpariaeth ar gyfer hyrwyddo datblygiad cymdeithasol moesegol, diwylliannol ac ysbrydol y disgyblion a dywedodd bod yr arolygwr yn achos Ysgol Biwmares yn cyfeirio at sesiynau addoli ar y cyd gyda’r arolygwr yn achos Ysgol Goronwy Owen yn cyfeirio’n anghywir at “gynulliadau rheolaidd”.  Atgoffodd y Swyddog Addysg Cynradd yr Aelodau bod y CYSAG eisoes wedi dwyn yr anghysondeb hwn yn y defnydd o derminoleg gan arolygwyr ysgolion i sylw ESTYN  a chafwyd ymateb ar y pryd gan Brif Arolygwr y corff yn ceisio egluro bod cyfarwyddyd atodol ESTYN i arolygwyr ar addoli ar y cyd yn gwahaniaethu rhwng addoli ar y cyd a chynulliadau boreol ac roedd hefyd yn nodi y gallai cynulliad boreol gynnwys gweithred o addoli ar y cyd.  Roedd yr ymateb hefyd yn gwahodd y CYSAG i amlygu unrhyw anghysonderau eraill y gallai eu nodi.

 

Nododd yr Is-Gadeirydd fod, yn ogystal â’r defnydd anghywir o’r term “cynulliad boreolhefyd anghysondeb rhwng y term Saesneg a’r cyfieithiad Cymraeg cyfatebol gyda hynny’n arwain at anghysondeb o ran iaith yn ogystal ag ystyr.  Awgrymodd, a chytunwyd ar hynny, y dylai’r gwahaniaeth gael ei ddwyn i sylw Prif Arolygwr Estyn.

 

Dywedodd yr Arweinydd Systemau y gallai hefyd fod yn enghraifft lle yr oedd yr arolygwr yn defnyddio hunan-arfarniad yr ysgol ac y gallai fod o fudd, felly, i atgoffa’r ysgolion o’r angen i ddefnyddio’r derminoleg gywir wrth ddrafftio eu hadroddiadau hunan-arfarnu.

 

Penderfynwyd

 

           I nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd.

           Bod yr enghraifft o’r defnydd anghywir o derminoleg yn adroddiad yr Arolygwr ar Ysgol Goronwy Owen yn cael ei ddwyn at sylw Prif Arolygwr Estyn.

 

CAMAU GWEITHREDU’N CODI:  Y Swyddog Addysg Cynradd i ddrafftio llythyr i Brif Arolygwr Estyn yn unol â phenderfyniad y CYSAG.

5.

Cyflawni Dyletswyddau Monitro'r CYSAG pdf eicon PDF 147 KB

Cyflwyno gohebiaeth yr Awdurdod ac ymateb o ran craffu ar adroddiadau hunan-arfarnu a bod yn bresennol mewn sesiynau addoli ar y cyd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r CYSAG gopi o lythyr a anfonwyd i Brifathrawon y sir yn gofyn am eu cydweithrediad gyda darparu adroddiadau hunan-arfarnu ysgolion yn unol ag amserlen benodol ac yn hyrwyddo ymweliadau addoli ar y cyd.

 

Gan gyfeirio at ymweliadau addoli ar y cyd i ysgolion gan Aelodau o’r CYSAG eglurodd y Swyddog Addysg Cynradd ei fod yn ei lythyr wedi ceisio pwysleisio’r ffaith y byddai unrhyw Aelod o’r CYSAG a fyddai’n mynychu sesiwn o addoli ar y cyd mewn ysgol fyddai’n gwirfoddoli yn gwneud hynny gyda golwg ar gael syniad o brofiadau’r disgyblion yn y maes hwn ac nid i arwain mewn unrhyw ffordd.  Dywedodd y Swyddog ei fod eisoes wedi derbyn ymateb gan nifer o ysgolion yn rhoi eu hunain ymlaen i dderbyn ymweliad o’r fath.

 

Awgrymodd yr Arweinydd Systemau y byddai o gymorth pe bai’r Cyfarwyddyd CYSAG Cymru Gyfan ar Addoli ar y cyd yn cael ei anfon eto i’r Aelodau i’w helpu hwy yn eu paratoadau ar gyfer eu hymweliadau.

 

Yn dilyn trafodaeth, penderfynwyd y byddai aelodau’r CYSAG yn cynnal ymweliadau addoli ar y cyd i’r ysgolion rheini oedd wedi cynnig eu hunain fel a ganlyn, ac y byddai’r Aelodau unigol yn cysylltu â’r ysgolion i drefnu amser a dyddiad fyddai’n hwylus i’r ddwy ochr:

 

Ysgol Uwchradd Bodedern – Y Cynghorydd G.O.Jones

Ysgol Parch. Thomas Ellis - Mr Rheinallt Thomas

Ysgol y Parc, Caergybi – Y Cynghorydd R.Llewelyn Jones

Ysgol Kinglsand, Caergybi ac Ysgol Pentraeth – Kirsty Williams

Canolfan Addysg y Bont – Mrs Catherine Jones

Ysgol Parc y Bont, Llanddaniel – Miss Bethan James (fel Arweinydd Systemau)

 

CAMAU GWEITHREDU’N CODI:  Swyddog y Pwyllgor i gylchredeg Cyfarwyddyd CYSAGau Cymru ar Addoli ar y Cyd i’r Aelodau.

6.

Cymdeithas CYSAGau Cymru pdf eicon PDF 301 KB

·        Cyflwyno cofnodion drafft cyfarfod y Gymdeithas a gynhaliwyd yng Nghaerffili ar 27 Mawrth, 2014. (Fersiwn Saesneg)

 

·        Cyflwyno enwebiadau terfynol ar gyfer y Pwyllgor Gwaith.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r CYSAG gofnodion drafft y cyfarfod o’r CYSAGau a gynhaliwyd yng Nghaerffili ar 27 Mawrth, 2014 a hefyd yr enwebiadau terfynol i Bwyllgor Gwaith y Gymdeithas.

 

Nododd yr Is-Gadeirydd y bydd y wefan newyddion AG yn awr ar gael am ddim fel yr adroddwyd dan eitem 5(11) y cofnodion.  Dywedodd y Swyddog Addysg Cynradd y byddai’n dweud wrth ysgolion y sir bod y wefan bellach ar gael am ddim. 

 

Gan gyfeirio at Farc Ansawdd Addysg Grefyddol dywedodd yr Arweinydd Systemau bod cyfarwyddyd ar gyfer hunanarfarnu yn awr ar gael ar wefan REQM (ar gael i ysgolion yng Nghymru trwy glicio ar y tab Cymru) a hefyd holiaduron dysgwyr ar gyfer y sectorau cynradd ac uwchradd allai fod o ddefnydd arbennig i Benaethiaid Adrannau a chydlynwyr AG mewn amgylchiadau lle y bo grŵp o ysgolion yn dod at ei gilydd mewn dalgylch neu glwstwr.

 

Penderfynwyd

           Nodi’r wybodaeth.

           Yng nghyswllt enwebiadau i’r Pwyllgor Gwaith i ddirprwyo i’r Is-Gadeirydd yr awdurdod i bleidleisio ar y diwrnod ar ran CYSAG Ynys Môn.

7.

Adolygiad o'r Cwricwlwm Cenedlaethol a'r Trefniadau Asesu Cymru pdf eicon PDF 174 KB

·        Cyflwyno’r ddogfenCais am Dystiolaeth.”

 

·        Cyflwyno’r Holiadur plant a phobl ifanc.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r CYSAG yr Adolygiad Annibynnol o Asesiad a dogfenCais am DystiolaethCwricwlwm Cenedlaethol Cymru a holiadur.

 

Eglurodd yr Arweinydd System beth oedd y cefndir gan gyfeirio at y gofynion yn nhermau’r maes llafur Addysg Grefyddol a sut yr oedd yn gwahaniaethu oddi wrth y cwricwlwm cenedlaethol oherwydd ei fod yn cael ei benderfynu’n lleol.  Fodd bynnag, mae’r holl gyrff CYSAG yng Nghymru wedi mabwysiadu’r fframwaith cenedlaethol ar gyfer AG a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru gyda hynny’n golygu bod pwynt cyfeirio cyffredin bellach o safbwynt sgiliau, ystod a lefelau cyrhaeddiad yn AG.  Rhaid i’r maes llafur a gytunir yn lleol gael ei adolygu bob 5 mlynedd ond fe benderfynwyd yn lleol yn 2013 i ohirio’r adolygiad hyd nes y bydd yr adolygiad o’r cwricwlwm cenedlaethol wedi’i gwblhau.  Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu cais am dystiolaeth ar y cwricwlwm ac wedi rhyddhau holiadur i rieni, plant a phobl ifanc a phartïon sydd â diddordeb mewn addysg.  Roedd yr Athro Graham Donaldson a gomisiynwyd i gynnal yr adolygiad wedi cytuno i gyfarfod â Grŵp o Gymdeithasau CYSAGau Cymru ar 20 Mehefin ac y mae hefyd wedi caniatáu i unrhyw ymateb ffurfiol gael ei ohirio tan ar ôl cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru ym Mhowys ar 2 Gorffennaf.  Dywedodd bod angen i’r CYSAG ystyried a oes ganddo fel corff farn ar yr adolygiad o’r cwricwlwm cenedlaethol. 

 

Yn y drafodaeth a ddilynodd, rhoddodd Aelodau’r CYSAG ystyriaeth i’r holiadur Cais am Dystiolaeth gan roi eu hymateb lle yr oedd hynny’n berthnasol i’r cwestiynau oedd ynddo.  Roedd y CYSAG yn cytuno i ddirprwyo’r Awdurdod i’r Arweinydd Systemau i ymateb yn ffurfiol i’r holiadur ar ei ran yn seiliedig ar safbwyntiau a fynegwyd yn ystod y drafodaeth yn y cyfarfod hwn.

 

Penderfynwyd dirprwyo awdurdod i’r Arweinydd Systemau i ymateb yn ffurfiol i’r ddogfen Cais am Dystiolaeth ar ran y CYSAG yn seiliedig ar y safbwyntiau a fynegwyd yn ystod y drafodaeth arno.

 

CAMAU GWEITHREDU’N CODI:  Yr Arweinydd Systemau i lunio ymateb priodol.

8.

Gohebiaeth pdf eicon PDF 87 KB

·        Cyflwyno adroddiad gan y Diacon Stephen Roe o Gynhadledd Diogelu Gogledd Cymru a gynhaliwyd ar 28 Mawrth, 2014.

Cofnodion:

 

Cyflwynwyd er gwybodaeth i’r CYSAG adroddiad gan y Parch Stephen Roe (Yr Eglwys Fethodistaidd) o Gynhadledd Diogelu Gogledd Cymru a gynhaliwyd yn Llandudno ar 28 Mawrth 2014.

 

Nododd y CYSAG y wybodaeth ac roedd yn gytûn yn ei ddiolchiadau i’r Parch Stephen Roe am fynychu’r gynhadledd ac am adrodd yn ôl ar weithgareddau’r dydd.

9.

Cyfarfod Nesaf

Dydd Mawrth, 7 Hydref, 2014 am 2:00 o’r gloch y prynhawn.

Cofnodion:

Nodwyd y byddai’r cyfarfod nesaf o’r CYSAG yn cael ei gynnal am 2:00 p.m. ar ddydd Mawrth 7 Hydref 2014.