Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

Estynnodd y Cadeirydd groeso i bawb a oedd yn bresennol i’r cyfarfod hwn o’r CYSAG ac yn arbennig felly i Mrs Manon Morris Williams a oedd yn bresennol yn ei chyfarfod cyntaf fel Aelod o’r CYSAG.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd gyda thristwch mawr at y brofedigaeth a ddaeth i ran yr Athro Euros Wyn Jones yn ddiweddar ar golli ei wraig.  Estynnodd ei gydymdeimlad dwysaf ef ac Aelodau’r CYSAG gyda'r Athro Jones a'i deulu yn eu colled.  Safodd yr holl Aelodau a Swyddogion mewn distawrwydd fel arwydd o gydymdeimlad a pharch.

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni wnaed yr un datganiad o ddiddordeb.

 

2.

Cofnodion Cyfarfod 7 Hydref, 2015 pdf eicon PDF 251 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y CYSAG a gynhaliwyd ar 7 Hydref, 2014.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r CYSAG a gynhaliwyd ar 7 Hydref 2014 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

3.

Materion yn Codi pdf eicon PDF 150 KB

·        Kirsty Williams, Yr Eglwys yng Nghymru i adrodd yn ôl mewn perthynas â’r Eglwys yng Nghymru yn cefnogi ysgolion ym Môn.

 

·        Ymgynghorydd Her GwE i adrodd yn ôl ar yr adolygiad o’r Cwricwlwm (Araith y Gweinidog Addysg ynghlwm)

 

·        Ymgynghorydd Her GwE i adrodd yn ôl ar Gynllun Gweithredu’r CYSAG (Ynghlwm)

 

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.1       Cafodd aelodau’r CYSAG ragor o wybodaeth gan Kirsty Williams o’r Eglwys yng Nghymru ynghylch bwriadau’r Eglwys mewn perthynas â chynnig cymorth sy’n gysylltiedig ag Addysg Grefyddol ar gyfer ysgolion yn dilyn cynnig a wnaed yn wreiddiol i’r cyfarfod o’r CYSAG a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf 2014.

 

Cyfeiriodd Miss Williams at lythyr yr oedd bwriad i’w anfon at ysgolion uwchradd yr Ynys i ofyn iddynt pa gymorth y maent yn ei gael gyda dysgu Addysg Grefyddol a sut fath o gymorth fyddai’n ddefnyddiol iddynt.  Dywedodd fod gan yr Eglwys swyddog sy'n ymweld ag ysgolion uwchradd i ddarparu rhywfaint o Addysg Grefyddol o enwad Cristnogol ond ei fod yn cyfuno’r swyddogaeth honno gydag addysg chwaraeon fel Cristion hefyd.  Mae prosiectau yn digwydd yn y sector cynradd gan gynnwys y prosiect Llyfr Agored sy'n cyflwyno Addysg Grefyddol trwy ddrama.  Esboniodd Miss Williams fod gan yr Eglwys yng Nghymru fwy o berthynas un i un gydag ysgolion cynradd ac er y bwriedir i’r llythyr fynd at yr ysgolion cynradd hefyd byddai’n well ganddi, oherwydd y berthynas gyfredol gyda nhw, pe cysylltid â nhw ar sail un i un i geisio sefydlu pa gymorth ychwanegol y byddent yn dymuno ei gael.  Cyfeiriodd at ddau brosiect arall yr oedd yr Eglwys yn ymwneud â nhw ar hyn o bryd gyda disgyblion Blwyddyn 6 - roedd un yn cynnwys sioe deithiol y gall disgyblion Blwyddyn 6 ei mynychu gyda thiwtoriaid cyswllt Blwyddyn 7 i'w cynorthwyo gyda’r pontio i’r ysgol uwchradd a’r llall yn brosiect lle cydweithir gyda sefydliadau eraill i ysgrifennu cwricwlwm blwyddyn o hyd ar symud ymlaen fel thema AG mewn ysgolion cynradd.

Er bod y CYSAG yn croesawu argaeledd yr adnodd gan yr Eglwys yng Nghymru ar gyfer ysgolion, pwysleisiodd mai mater i’r ysgolion yn lleol yw penderfynu a fyddent yn manteisio ar gynnig yr Eglwys o gymorth ai peidio.  Awgrymwyd a chytunwyd y dylid cynnwys yr ohebiaeth i ysgolion y cyfeiriwyd ati gan Miss Williams fel eitem er gwybodaeth ar raglen cyfarfod nesaf y CYSAG.

 

Cytunwyd i nodi’r wybodaeth.

 

CAM GWEITHREDU YN CODI:   Swyddog Pwyllgor i gynnwys gohebiaeth yr Eglwys yng Nghymru i ysgolion ar y mater cymorth fel eitem er gwybodaeth ar raglen cyfarfod nesaf y CYSAG.

 

3.2       Adroddodd Miss Bethan James, Ymgynghorydd Her GwE  fel a ganlyn mewn perthynas â’r adolygiad o’r Cwricwlwm:

 

           Bod y Datganiad a wnaed gan Weinidog Addysg Llywodraeth Cymru ar ddatblygu cwricwlwm newydd ar gyfer Cymru ac yr oedd copi ohono wedi ei ddarparu ar gyfer aelodau'r CYSAG, yn cyfeirio at drawsnewid datblygiad proffesiynol i hwyluso cyflawni’r cwricwlwm newydd a safonau uwch o fewn y dosbarth.  Fodd bynnag, ni fydd Llywodraeth Cymru o angenrheidrwydd yn darparu hyfforddiant ar gyfer Athrawon AG oherwydd nad yw'n bwnc cwricwlwm cenedlaethol ac efallai y bydd yn rhaid rhoi sylw i ffyrdd eraill o ddarparu cymorth ar gyfer disgyblion AG yn lleol.  Mae NAPFfRE eisoes wedi trafod nifer o fodelau y gellid eu mabwysiadu ac mae’r gwaith  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Adroddiad Blynyddol CYSAG Ynys Môn 2013/14 pdf eicon PDF 488 KB

Cyflwyno Adroddiad Blynyddol CYSAG Ynys Môn 2013/14.

Cofnodion:

Cyflwynwyd fersiwn swyddogol Adroddiad Blynyddol 2013/14 er gwybodaeth i’r CYSAG.  Nodwyd bod y fersiwn ddrafft wedi ei thrafod yng nghyfarfod diwethaf y CYSAG ym mis Hydref 2014.

 

Dywedodd yr Ymgynghorydd Her GwE fod ffurf yr adroddiad wedi newid i adlewyrchu cyfarwyddyd a gafwyd gan Lywodraeth Cymru o’i hadolygiad o adroddiadau blynyddol cyrff CYSAGau, a’r angen i CYSAGau werthuso eu heffeithiolrwydd fel cyrff ymgynghorol gyda throsolwg am Addysg Grefyddol ac addoli ar y cyd mewn ysgolion. Dywedodd y Swyddog ei fod yn anoddach i’r CYSAG, oherwydd pwysau ar Awdurdodau Lleol a diflaniad swydd yr Ymgynghorydd AG, i gael sicrwydd bod ei fewnbwn yn cael ei roi ar waith. O’r herwydd, mae’r CYSAG wedi meddwl sut y gall ymestyn ei gyfrifoldeb trwy ymgorffori argymhellion ar gyfer yr AALl ar ddiwedd pob rhan o’r adroddiad blynyddol.  Mae’r rhain, yn eu tro, wedi eu trosi’n gynllun gweithredu sy’n cynnwys pedair blaenoriaeth ynghyd â phwyntiau gweithredu, tystiolaeth gefnogol ac amlinelliad o’r canlyniadau y disgwylir y bydd gweithredu’r blaenoriaethau yn eu cyflawni.

 

Rhoddodd y CYSAG sylw i’r Cynllun Gweithredu gan ganolbwyntio’n arbennig yn y drafodaeth ddilynol ar sut y byddai aelodau’r CYSAG, o dan y bedwaredd flaenoriaeth mewn perthynas â hyrwyddo addoli ar y cyd o safon dda, yn adrodd yn ôl ar eu hymweliadau i ysgolion i arsylwi arferion addoli ar y cyd a p’un a ddylid cyflwyno atborth yn llafar neu ar ffurf adroddiadau ysgrifenedig.

Dywedodd Ymgynghorydd Her GwE efallai y byddai’n rhaid gloywi dealltwriaeth yr Aelodau o’r hyn a olygir gan addoli ar y cyd o safon dda trwy gyfeirio at ganllawiau CYSAGau Cymru ar addoli ar y cyd ac y gellir ychwanegu at hynny trwy i’r Aelodau rannu eu profiadau o fewn y CYSAG.  Byddai pro-fforma drafft hefyd yn ddefnyddiol i gofnodi bod ymweliad addoli ar y cyd wedi ei gynnal ond nid o angenrheidrwydd i adlewyrchu unrhyw farn.

Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i’r Aelodau gynnal rhagor o ymweliadau addoli ar y cyd ag ysgolion cyn cyfarfod nesaf y CYSAG; cadarnhaodd y Swyddog Addysg Gynradd y byddai hynny ar sail wirfoddol h.y. byddai’r ysgolion yn cael gwahoddiad i fynegi diddordeb mewn gwadd ymweliad oni bai bod yna amgylchiadau lle mae aelod o’r CYSAG eisoes wedi sefydlu cysylltiad gydag ysgol e.e. fel llywodraethwr.

 

Cytunwyd i nodi’r Adroddiad Blynyddol swyddogol a’r Cynllun Gweithredu ar gyfer 2013/14.

 

CAMAU GWEITHREDU YN CODI:

 

           Swyddog Addysg Gynradd/Swyddog Pwyllgor i gylchredeg Canllawiau CYSAGau Cymru ar Addoli ar y Cyd i ysgolion ac Aelodau’r CYSAG.

           Swyddog Addysg Gynradd i wahodd mynegiadau o ddiddordeb gan ysgolion ar gyfer ymweliad arsylwi addoli ar y cyd gan Aelod o’r CYSAG yn y cyfnod rhwng rŵan a mis Mehefin 2015.

           Ymgynghorydd Her GwE i ddrafftio pro-fforma ar gyfer cofnodi ymweliadau addoli ar y cyd gan aelodau’r CYSAG.

           Swyddog Pwyllgor i gynnwys eitem ar y rhaglen ynghylch addoli ar y cyd ar gyfer cyfarfod nesaf y CYSAG.

5.

Arolygiadau Ysgolion - Hydref 2014 pdf eicon PDF 119 KB

Cyflwyno gwybodaeth ynglyn ag arolygiadau ysgolion yn ystod Hydref, 2014.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor adroddiad y Swyddog Addysg Gynradd yn crynhoi canfyddiadau perthnasol o adroddiadau Arolygiadau Estyn mewn perthynas ag Ysgol y Parch Thomas Ellis, Ysgol Parc y Bont ac Ysgol Uwchradd Bodedern.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Addysg Gynradd nad oedd unrhyw faterion yn codi o’r adroddiadau a gyflwynwyd.

 

Atgoffwyd y CYSAG gan Mrs Manon Williams fod ysgolion eglwys hefyd yn destun arolygiadau ar wahân dan Adran 50 Deddf Addysg 2005 a bod tair ysgol eglwys wedi cael eu harolygu dan y trefniadau hynny.

 

Awgrymwyd y byddai’n fuddiol i’r CYSAG gael copïau o’r adroddiadau arolygiad Adran 50.

 

CAM GWEITHREDU YN CODI:  Swyddog Addysg Gynradd i drefnu i gopïau o’r adroddiadau arolygiad Adran 50 fod ar gael i Aelodau’r CYSAG lle cynhaliwyd y fath arolygiadau.

6.

Hunan-Arfarniadau Ysgol pdf eicon PDF 296 KB

Cyflwyno adroddiadau hunan-arfarnu gan Ysgol Llangoed ac Ysgol Santes Gwenfaen, Rhoscolyn.

Cofnodion:

 

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor adroddiadau hunanarfarnu Addysg Grefyddol Ysgol Gynradd Llangoed ac Ysgol Santes Gwenfaen, Rhoscolyn.

 

Atgoffwyd y CYSAG gan yr Ymgynghorydd Her GwE, trwy gyflwyniad gweledol, o’r angen i  adroddiadau hunanarfarnu ysgolion adlewyrchu’r derminoleg a ddefnyddir gan Estyn i arfarnu perfformiad ysgolion yn eu hadroddiadau arolygu, a cheisiodd ddangos pa mor dda yr oedd yr adroddiadau hunanwerthuso a gyflwynwyd yn tynnu ar y gronfa o ymadroddion ansoddol a gwerthusol a ddefnyddir gan Estyn a lle gellid gwneud gwelliannau pellach.

 

Nododd y CYSAG y wybodaeth gan gydnabod gonestrwydd yr ysgolion yn cydnabod meysydd ar gyfer eu gwella.  Cytunwyd ei fod yn briodol bod yr Ymgynghorydd Her GwE fel rhan o’i swydd, yn hytrach na’r CYSAG, yn rhoi atborth i’r ysgolion ynghylch gwelliannau y gellid eu gwneud i adroddiadau hunanarfarnu AG lle mae’n berthnasol.

 

Cytunwyd i dderbyn yr adroddiadau hunanarfarnu a nodi eu cynnwys a diolch i’r ysgolion dan sylw am drefnu iddynt fod ar gael i’r CYSAG.

 

DIM CAM GWEITHREDU PELLACH YN CODI

7.

Canlyniadau Addysg Grefyddol 2014 pdf eicon PDF 287 KB

Cyflwyno adroddiad Ymgynghorydd Her GwE.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r Pwyllgor adroddiad gan yr Ymgynghorydd GwE a oedd yn rhoi dadansoddiad o gyraeddiadau a chanlyniadau arholiadau allanol Addysg Grefyddol ar gyfer Haf 2014.

 

Adroddodd yr Ymgynghorydd Her GwE fod y canlyniadau’n adlewyrchu sefyllfa gyffredinol iach o ran Addysg Grefyddol mewn ysgolion yn Ynys Môn.  Cyfeiriodd at yr argymhellion ar gyfer yr Awdurdod Lleol ar ddiwedd yr adroddiad a luniwyd fel rhan o rôl ymgynghorol CYSAG ac i gefnogi a galluogi athrawon i barhau i ddarparu Addysg Grefyddol dda yn ysgolion y sir.

 

Cytunwyd i dderbyn yr adroddiad a nodi ei gynnwys.

 

CAM GWEITHREDU YN CODI:  Swyddog Addysg Gynradd i sicrhau bod ysgolion yn ymwybodol o’r argymhellion.

8.

Cymdeithas CYSAGau Cymru pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno gwybodaeth ynglyn â’r isod

 

·        Gweithgareddau’r Gymdeithas 2013/14

·        Adroddiad y Trysorydd

·        Cofnodion Cyfarfod 2ail Gorffennaf , 2014

·        Rhaglen ar gyfer Cyfarfod 26 Tachwedd, 2014 yn Nhorfaen

 

(Adroddiad ynghlwm)

 

·        Cofnodion drafft cyfarfod 26 Tachwedd, 2014 yn Nhorfaen

 

(Ynghlwm)

 

·        Enwebiadau ar gyfer y Pwyllgor Gwaith a swydd yr Is-Gadeirydd

 

(Ynghlwm)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

8.1    Cyflwynwyd er gwybodaeth i’r CYSAG wybodaeth ynghylch cyfarfodydd, gweithgareddau a sefyllfa ariannol Cymdeithas CYSAGau Cymru. 

 

Dygodd yr Is-Gadeirydd sylw at faterion o ddiddordeb o’r cyfarfod o Gymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf 2014 ym Mhowys, gan gynnwys cyflwyniad NAPfRE ar drefniadau Consortia cyfredol ar gyfer cefnogi cyrff CYSAGau a’r amrywiadau ynddynt.  Yn y cyfarfod o Gymdeithas CYSAGau Cymru yn Nhorfaen ar 26 Tachwedd 2014, cafodd y Gymdeithas ddiweddariad ar newidiadau mewn arholiadau AG yn ogystal â chyflwyniad ar ddata AG a’r hyn y gellir ei ddysgu ohono.

 

Mewn perthynas â’r adolygiad o’r Cwricwlwm, dywedodd yr Ymgynghorydd Her GwE fod gan y CYSAG gyfrifoldeb i ddatblygu Cwricwlwm Addysg Grefyddol ar gyfer ysgolion Ynys Môn a bod hynny wedi bod yn cael ei wneud ar y cyd gyda Gwynedd yn y gorffennol. Mae’r maes llafur cytûn cyfredol yn seiliedig ar y Fframwaith Enghreifftiol Cenedlaethol ac mae dymuniad ar lefel broffesiynol i weld parhad fframwaith cenedlaethol a fabwysiedir yn lleol ac sy’n gwasanaethu fel maes llafur lleol.  Er budd cysondeb cenedlaethol a datblygu adnoddau, dywedodd y Swyddog nad oedd yn credu y byddai athrawon yn dymuno gweld amrywiad yn Ynys Môn.  Yn wyneb y ffaith y gall bod newidiadau i bynciau o ganlyniad i’r adolygiad o’r Cwricwlwm, efallai y bydd athrawon AG yn dymuno i AG adlewyrchu’r pynciau eraill.  O’r herwydd, pwysir ar Lywodraeth Cymru i gynnwys Addysg Grefyddol mewn unrhyw drafodaethau a fydd yn digwydd fel bod trefniadau’n cael eu gwneud ar gyfer fforwm cenedlaethol ar AG hefyd os bydd unrhyw bynciau o’r Cwricwlwm yn cael eu trafod mewn grwpiau cenedlaethol.

 

8.2       Rhoddwyd sylw i gynnig enwebiadau ar gyfer Pwyllgor Gwaith Cymdeithas CYSAGau Cymru a swydd yr Is-Gadeirydd.

 

Dywedodd yr Is-Gadeirydd wrth y CYSAG ei fod yn bwriadu sefyll i lawr fel Aelod o’r Pwyllgor Gwaith er ei fod yn bwriadu parhau i fynychu cyfarfodydd o Gymdeithas CYSAGau Cymru ac felly roedd cyfle i CYSAG Ynys Môn enwebu rhywun arall i ymgymryd â’r swyddogaeth honno.

 

Cytunwyd i enwebu Miss Bethan James am swydd Is-Gadeirydd Cymdeithas CYSAGau Cymru a hefyd i wasanaethu ar Bwyllgor Gwaith Cymdeithas CYSAGau Cymru.

 

CAM GWEITHREDU YN CODI:  Swyddog Addysg Gynradd i anfon y ffurflen enwebu at Gymdeithas CYSAGau Cymru.

9.

Unrhyw Fusnes Arall

Ystyried unrhyw fater arall sydd angen sylw.

Cofnodion:

Ni thrafodwyd unrhyw fusnes arall.

 

10.

Cyfarfod Nesaf

Dydd Mawrth,16 Mehefin, 2015.

Cofnodion:

Cytunwyd y dylid dwyn ymlaen ddyddiad cyfarfod nesaf y CYSAG o 16 Mehefin i ddydd Mawrth 9 Mehefin 2015.