Rhaglen a chofnodion

Cyngor Ymgynghorol Sefydlog at Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CYS) - Dydd Mawrth, 9fed Mehefin, 2015 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion Cyfarfod 24 Chwefror, 2015 pdf eicon PDF 186 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y CYSAG a gynhaliwyd ar 24 Chwefror, 2015.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r CYSAG a gynhaliwyd ar 24 Chwefror 2015 a chadarnhawyd eu bod yn gywir yn amodol ar nodi’r isod

 

           Mai’r enw cywir ar y prosiect Llyfr Agored y cyfeirir ato dan eitem 3.1 yw’r prosiect Agor y Llyfr ac mae’n cyflwyno storïau o’r Beibl trwy ddrama.

           Bod y Swyddog Ysgolion y cyfeirir ato hefyd dan eitem 3.1 yn cael ei gyflogi gan Gobaith Môn.

           Mewn perthynas ag eitem 4, dywedodd y Swyddog Addysg Gynradd wrth y CYSAG ei fod yn bwriadu gwahodd mynegiadau o ddiddordeb gan ysgolion ar gyfer ymweliad addoli ar y cyd gan aelodau o’r CYSAG yn y flwyddyn ysgol newydd ym mis Medi.

           Mewn perthynas ag eitem 7, cadarnhaodd y Swyddog Addysg Gynradd ei fod wedi dwyn yr argymhellion i sylw ysgolion yr Ynys.

           Yn unol â’r cais a wnaed yn y cyfarfod diwethaf, cyflwynwyd i sylw’r CYSAG gopi o'r ohebiaeth a ddosbarthwyd i ysgolion gan yr Eglwys yng Nghymru yn gofyn am eu barn ynghylch sut y gallai’r Eglwys eu cefnogi.  Cadarnhaodd Miss Kirsty Williams fod fersiwn ddwyieithog wedi ei chylchredeg i’r ysgolion ac er bod ychydig o ymatebion eisoes wedi eu derbyngyda rhai ohonynt yn bositif o ran cadarnhau cysylltiad cyfredol gydag eglwys neu gapel ac yn mynegi diddordeb mewn cael mynediad i adnoddau a chymorth addysgiadol gan yr Eglwys yng Nghymrudywedodd nad  oedd digon o ymatebion wedi cyrraedd i fedru dod i gasgliad cyffredinol.  Eglurodd y byddai’n adrodd yn fanylach i gyfarfod nesaf y CYSAG.

3.

Materion yn Codi pdf eicon PDF 301 KB

Cyflwyno er gwybodaeth yn unol â’r cais yn y cyfarfod blaenorol, gohebiaeth a anfonwyd i ysgolion gan yr Eglwys yng Nghymru.

Cofnodion:

Fel yr uchod.

4.

Arolygiadau Ysgolion pdf eicon PDF 113 KB

·        Cyflwyno gwybodaeth mewn perthynas ag arolygiadau Estyn Gwanwyn, 2015.

 

·        Cyflwyno adroddiad Adran 50 mewn perthynas ag Ysgol Parch. Thomas Ellis.

 

 

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd y wybodaeth a ganlyn i’w hystyried gan y CYSAG –

 

           Dyfyniadau o adroddiadau arolygu Estyn mewn perthynas â Chanolfan Addysg y Bont, Ysgol Llangoed, Ysgol Kingsland ac Ysgol Bodorgan.  Cadarnhaodd y Swyddog Addysg Gynradd nad oedd unrhyw faterion yn codi o’r adroddiadau yr oedd angen dod â nhw i sylw’r CYSAG.

 

Cyfeiriodd yr Is-Gadeirydd at ganllawiau a gyhoeddwyd gan Estyn ar gyfer ei arolygwyr cofrestredig ynghylch y disgwyliad eu bod yn cynnwys sylw ym mhob adroddiad arolwg ysgol (gan gynnwys y rheini ar ysgolion Eglwys) ynghylch ansawdd y ddarpariaeth mewn perthynas â datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion fel gofyniad statudol.  Dywedodd yr Is-Gadeirydd fod y mater wedi codi o ganlyniad i bryderon nad oedd pob adroddiad arolygu’n rhoi sylw i’r agwedd hon.  O safbwynt cyrff CYSAG, byddai cyfeiriad o’r fath yn ddefnyddiol i’r corff yn ei swyddogaeth fonitro.

 

Esboniodd yr Ymgynghorydd Her Gwe fod un o'r cyrff CYSAG wedi sylwi bod yr agwedd hon wedi ei gadael allan mewn rhai adroddiadau mewn perthynas ag ysgolion yn ei ardal leol a’i fod wedi dwyn sylw Estyn wedyn at yr angen i’r broses o adrodd ar arolygiadau fod yn gyson.  Yn broffesiynol, nid oedd yn credu bod y mater wedi codi mewn perthynas ag adroddiadau arolygu ar ysgolion yn lleol yn Ynys Môn.

 

           Adroddiad Adran 50 mewn perthynas ag Ysgol Parch.Thomas Ellis.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Addysg Gynradd ei fod wedi cysylltu gyda thair ysgol Eglwys yr Ynys ar gyfer eu hadroddiadau arolwg Adran 50 a bod yr adroddiad ar Ysgol Parch.Thomas Ellis uchod wedi ei dderbyn.

 

Nododd y CYSAG y wybodaeth gan gydnabod gwaith yr holl ysgolion dan sylw yr oedd yr adroddiadau arolwg yn tystio iddynt.

 

Cytunwyd i dderbyn a nodi’r wybodaeth.

 

CAM GWEITHREDU YN CODI: Y Swyddog Addysg Gynradd i anfon llythyr cydnabyddiaeth i’r ysgolion ar ran y CYSAG.

5.

Ymweliadau Addoli ar y Cyd pdf eicon PDF 194 KB

Trafod ymweliadau a wnaed a’r pro forma.

 

(Dogfennaeth arweiniol gan Cymdeithas CYSAGau Cymru a chan Estyn ynglyn ag ysgolion anenwadol ynghlwm)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y CYSAG sylw i ymweliadau a wnaed gan Aelodau ac i ffurflen safonol arfaethedig ar gyfer cofnodi’r ymweliadau hynny a amlinellwyd gan yr Ymgynghorydd Her Gwe mewn cyflwyniad gweledol.

 

Cafwyd adroddiad llawn gwybodaeth gan y Cynghorydd Gwilym O. Jones ar ei ymweliadau i Ysgol y Fali ac Ysgol y Tywyn i arsylwi’r arferion addoli ar y cyd yn y ddwy ysgol. Ar adeg ei ymweliadau roedd yr arferion yn y ddwy ysgol yn seiliedig ar y thema rhoi diolch a’r teulu byd eang yn y naill ysgol ac ar y thema cyfeillgarwch yn y llall.

 

Cyfeiriodd yr Ymgynghorydd Her Gwe at y cyd-destun addoli ar y cyd a dyletswyddau CYSAG fel y corff sy’n gyfrifol am fonitro addoli ar y cyd yn yr ysgolion hynny yn ei ardal i sicrhau eu bod yn cydymffurfio gyda’r gofyn statudol i ddarparu gweithred ddyddiol o addoli ar y cyd ar gyfer yr holl ddysgwyr.  Dywedodd fod aelodau’r CYSAG wedi datgan eu bod yn fodlon cyflawni’r ddyletswydd honno trwy archwilio adroddiadau hunanwerthuso AG yr ysgolion, sy’n cynnwys adran ar addoli ar y cyd, a thrwy ymweld ag ysgolion. Dywedodd hefyd eu  bod wedi cael canllawiau gan Gymdeithas CYSAGau Cymru ac Estyn i'w cynorthwyo yn y dasg honno.  Pwrpas y ffurflen safonol yw darparu dull cyson a threfnus i aelodau’r CYSAG fedru cofnodi eu hymweliadau a chyflwyno sylwadau arnynt.  Cynigiodd y dylai’r ffurflen gynnwys darpariaeth ar ffurf ticio blwch i gofnodi’r agweddau a ganlyn -

 

           Y math o sesiynau addoli ar y cyd a arsylwyd;

           Y rheini sy’n arwain ac yn cyfrannu at y sesiwn;

           Hyd y sesiwn;

           Y thema(âu) a oedd yn sail ar gyfer y sesiwn;

           P'un a wahoddwyd pobl grefyddol o’r gymuned leol i gyfrannu;

           P'un a oedd gweddïo yn rhan o’r sesiwn neu p’un a adroddwyd hanesion o’r Beibl neu straeon moesol neu a ganwyd emynau;

           Pa 3 datganiad ym marn y sylwedydd oedd yn disgrifio orau’r sesiwn addoli ar y cyd a arsylwyd (darperir cyfres o ddatganiadau).

 

Croesawodd y CYSAG y ffurflen safonol fel ffordd o ddarparu fframwaith syml i’r Aelodau roi  adborth ar eu hymweliadau addoli ar y cyd mewn ffordd unffurf ac nad yw’n feirniadol, gyda’r amod y dylid ychwanegu adran ar gyferunrhyw sylwadau eraill”.  Cytunwyd i fwrw ymlaen ar y sail honno am gyfnod prawf.  Awgrymwyd hefyd y dylid codi’r mater gyda’r ysgolion trwy’r grwpiau strategol cynradd ac uwchradd i gael eu cefnogaeth ar gyfer y broses adrodd arfaethedig.  Cadarnhaodd y Cynrychiolwyr Athrawon ar y CYSAG eu bod yn gyfforddus gyda’r cynnig ar y ddealltwriaeth fod yr ysgolion yn cael gwybod am bwrpas y ffurflen safonol a sut y dylid ei defnyddio.

 

Ystyriodd y CYSAG sut y dylid rhannu’r wybodaeth ar y ffurflenni a gwblheir ac, ar ôl trafodaeth, cytunwyd fel a ganlyn -

 

           Trefnu i’r wybodaeth fod ar gael i’r ysgolion ac mai cyfrifoldeb yr  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Hunan Arfarniad Ysgol - Ysgol Ffrwd Win pdf eicon PDF 74 KB

Cyflwyno adroddiadau hunan arfarnu AG gan Ysgol Ffrwd Win, Ysgol Parc y Bont, Ysgol Henblas and Ysgol Garreglefn.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r CYSAG yr adroddiadau hunanarfarnu AG ar Ysgol Ffrwd Win, Ysgol Parc y Bont, Ysgol Henblas ac Ysgol Carreglefn.

 

Nododd y CYSAG y wybodaeth gan fynegi ei werthfawrogiad o gyflawnder y wybodaeth a ddarparwyd.

 

Cytunwyd i nodi’r wybodaeth.

 

CAM GWEITHREDU’N CODI: Swyddog Addysg Gynradd i ddiolch i’r ysgolion ar ran y CYSAG.

7.

Adolygiad Donaldson o'r Cwricwlwm a Threfnaiadu Asesu yng Nghymru

Ymgynghorydd Her GwE i roi diweddariad.

Cofnodion:

Adroddodd yr Ymgynghorydd Her GwE ar yr ymateb i adolygiad Donaldson o’r Cwricwlwm a Threfniadau Asesu yng Nghymru.

 

Dywedodd yr Ymgynghorydd Her GwE fod Cymdeithas GYSAGau Cymru a’r Panel Ymgynghorol Cenedlaethol ar gyfer Addysg Grefyddol wedi ymateb i’r ymgynghoriad ar yr adolygiad a’i bod hithau hefyd wedi ymateb ar ran y CYSAG.  Wrth wneud hynny roedd wedi dwyn sylw at nifer o bwyntiau gan gynnwys yr isod -

 

           Croesewir y cyfeiriad penodol at AG yn yr adroddiad adolygu a bod CYSAG Ynys Môn yn cytuno bod angen i’r cwricwlwm cenedlaethol ac Addysg Grefyddol adlewyrchu anghenion plant a phobl ifanc yng Nghymru mewn oes ddigidol.

           Bod y CYSAG yn cymeradwyo’r safbwynt ynghylch pwysigrwydd AG yn y 6 maes newydd o ddysgu a phrofiad a gynigir gan yr Athro Donaldson ond ei fod yn bryderus y gallai AG gael eichollineu ei hymylu o fewn y Dyniaethau a’r meysydd dysgu a phrofiad eraill.

           Bod yr adolygiad yn argymell proses asesu sy’n cefnogi gwell dysgu a pharhad addysgol o’r Cyfnod Sylfaen yr holl ffordd trwodd hyd at pan fydd plentyn yn gadael ysgol fel ei fod yn gwneud cynnydd graddol yn ôl ei bwysau/phwysau ar draws y continwwm.  Mae’r CYSAG yn cytuno mai pwrpas yr asesiad yw sicrhau bod dysgwyr yn gwneud cynnydd da yn eu dysgu.  Fodd bynnag, gall proses asesu newydd fod yn heriol i’r CYSAG o ran cyflawni ei gyfrifoldeb statudol i fonitro safonau AG.

           Bod yr adolygiad yn cynnig y dylai ysgolion ac athrawon gael mwy o ryddid i siapio’r cwricwlwm.  Mae’r CYSAG yn cytuno y dylai athrawon ddarparu profiadau AG sy’n berthnasol ac yn ddiddorol ond dylai plant a phobl ifanc hefyd ddysgu am y cymunedau crefyddol lleol a chenedlaethol sy’n cyfrannu at fywyd yng Nghymru h.y. y Cwricwlwm Cymreig.

           Mae’r CYSAG yn awyddus i barhau i gyfrannu at y broses o ddatblygu cwricwlwm cenedlaethol newydd.  Mae cynnal safonau AG uchel yn flaenoriaeth i’r corff.  Gobeithir bod Llywodraeth Cymru’n cydnabod profiad, gwybodaeth ac arweinyddiaeth Cymdeithas CYSAGau Cymru a’r Panel Ymgynghorol Cenedlaethol ar gyfer Addysg Grefyddol y cynrychiolir y CYSAG arno a Mudiad Addysg Grefyddol Cymru y mae gwaith y CYSAG yn cyfrannu ato.

 

Dywedodd yr Is-Gadeirydd ei fod wedi llunio ymateb i Adolygiad Donaldson ar ran yr Eglwysi Rhyddion ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru lle’r oedd wedi mynegi eu pryderon am rôl y consortia addysg sy’n tanseilio’r gefnogaeth ar gyfer AG o fewn ysgolion a’i fod wedi gwneud cais i’r gwasanaeth cymorth ar gyfer y CYSAG gael ei ailsefydlu ar y sail bod y cyfrifoldeb am AG yn gorwedd yn lleol gyda’r CYSAGau a bod awdurdodau addysg lleol yn cael yr adnoddau fel bod modd i hynny ddigwydd.

 

Cytunwyd i nodi’r wybodaeth.

 

DIM CAM GWEITHREDU PELLACH YN CODI

8.

Deunyddiau Enghreifftiol i Ddatblygu Llythrennedd a Rhifedd mewn AG CA3

Ymgynghorydd Her GwE i roi cyflwyniad ar Chwaraewyr pêl droed Mwslimaidd yn yr Uwch Gynghrairi ddangos sut y mae defnyddio deunyddiau enghreifftiol i ddatblygu llythrennedd a rhifedd mewn AG CA3.

Cofnodion:

Cafwyd cyflwyniad gweledol gan yr Ymgynghorydd Her GwE ar fodiwl o waith a ddatblygwyd gan yr Ymgynghorydd AG yng Nghaerfyrddin sydd wedi ei deilwrio’n benodol tuag at sicrhau fod bechgyn ym Mlynyddoedd 7 ac 8 yn ymgysylltu’n well gydag AG.  Mae’r modiwl yn seiliedig ar brofiadau pêl-droedwyr Moslemaidd amlwg yn yr Uwch Gynghrair sy’n cynnal ac yn glynu wrth eu harferion ffydd grefyddol yng nghyd-destun eu bywydau proffesiynol.

 

Aeth yr Ymgynghorydd Her GwE ymlaen i ddangos sut mae’r modiwl yn hyrwyddo sgiliau llythrennedd yn ogystal â gwella gwybodaeth a dealltwriaeth dysgwyr o’r ffydd Foslemaidd trwy bennu tasgau sy’n edrych ar agweddau ar ffydd fel y maent yn ymwneud â bywydau proffesiynol pêl-droedwyr ac sy’n golygu bod angen i’r dysgwr gwblhau ymarferion ysgrifennu.  Mae’r modiwl yn cynnwys uned ar weddi, uned ar Ramadan ac uned ar fwyd a diod ac mae’r rhain yn edrych ar yr heriau y mae pêl-droedwyr Moslemaidd yn yr Uwch Gynghrair yn eu hwynebu wrth ddilyn eu ffydd o fewn gofynion eu bywydau proffesiynol ac yna’n cysylltu’r rheini wedyn gyda thasgau ysgrifennu penodol.  Dywedodd y Swyddog fod copïau o’r modiwl ar gael ar CD.

 

Croesawodd y CYSAG y deunydd fel adnodd creadigol a heriol a chymeradwyodd yr aelodau ei gylchredeg i ysgolion uwchradd yr Ynys.

 

Cytunwyd i gefnogi dosbarthu’r adnodd i ysgolion uwchradd yr Ynys ac i ddiolch i Mrs Mary Parry, Ymgynghorydd AG yng Nghaerfyrddin am ei pharodrwydd i rannu’r deunydd.

 

CAMAU GWEITHREDU’N CODI:

 

           Bod Mrs Heledd Hearn (Cynrychiolydd Athrawon Uwchradd) a Mr Dafydd Griffiths (Rhaglen Gymorth Genedlaethol ar gyfer Rhifedd a Llythrennedd) yn dosbarthu’r adnodd i ysgolion uwchradd yr Ynys, y naill i Ysgol Uwchradd Bodedern ac Ysgol David Hughes a’r llall i Ysgol Syr Thomas Jones, Ysgol Gyfun Llangefni ac Ysgol Uwchradd Caergybi.

           Bod y Swyddog Addysg Gynradd yn diolch i Mrs Mary Parry trwy lythyr ar ran y CYSAG.

9.

Datblygu Gwaith y CYSAG pdf eicon PDF 138 KB

Ymgynghorydd Her GwE i adrodd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i sylw’r CYSAG gopi o gyflwyniad a wnaed yng nghyfarfod CYSAGau Cymru yn Nhorfaen mewn perthynas â CYSAGau a threfniadau consortia ar ffyrdd o hwyluso gwaith CYSAGau yn y cyd-destun hwnnw.

 

Dywedodd yr Ymgynghorydd Her GwE fod llawer o’r argymhellion a wneir yn y cyflwyniad eisoes wedi cael eu mabwysiadu gan y CYSAG yn ei Gynllun Gweithredu.

 

Cytunwyd i nodi'r wybodaeth.

 

CAM GWEITHREDU’N CODI: Swyddog Pwyllgor i gynnwys Cynllun Gweithredu’r CYSAG ar raglen y cyfarfod nesaf.

10.

Cymdeithas CYSAGau Cymru

Ystyried/derbyn diweddariad ynglyn â’r isod

 

·        Enwebiadau ar gyfer y Pwyllgor Gwaith

·        Cyfarfod y Gymdeithas ar 25 Mehefin, 2015 yn yr Wyddgrug, Sir Fflint.

Cofnodion:

Dosbarthwyd cofnodion cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd yng Nghastell-nedd a  Phort Talbot ar 6 Mawrth 2015 ac fe’u nodwyd.

 

Rhoddodd y CYSAG sylw i’w gynrychiolaeth yn y cyfarfod o Gymdeithas CYSAGau Cymru a gynhelir yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint ar 25 Mehefin.  Cadarnhaodd yr Is-Gadeirydd a’r Ymgynghorydd Her GwE eu bod yn bwriadu mynychu’r cyfarfod a nodwyd bod gwahoddiad agored yn parhau i unrhyw un o aelodau’r CYSAG fel trydydd cynrychiolydd.

 

Mewn perthynas ag enwebiadau ar gyfer Pwyllgor Gwaith Cymdeithas CYSAGau Cymru, nodwyd bod y Cynghorydd Michael Gray o Gaerffili wedi tynnu’n ôl yn dilyn ei ymddeoliad, a bod Phil Lord wedi ei enwebu am swydd Is-Gadeirydd Cymdeithas CYSAGau Cymru.