Rhaglen a chofnodion

Cyngor Ymgynghorol Sefydlog at Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CYS) - Dydd Mawrth, 6ed Hydref, 2015 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion Cyfarfod 9 Mehefin 2015 pdf eicon PDF 189 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y CYSAG a gynhaliwyd ar 9 Mehefin, 2015.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion blaenorol y CYSAG a gynhaliwyd ar 9 Mehefin, 2015 a chadarnhawyd eu bod yn gywir yn amodol ar gynnwys enw Stephen Francis Roe yn y rhestr o bobl a oedd yn bresennol.

3.

Materion yn Codi

Swyddog Addysg Cynradd i adrodd ar ymateb yr ysgolion i’r pro-forma addoli ar y cyd.

Cofnodion:

4.  Ymweliadau Addoli ar y Cyd

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y pwyntiau gweithredu a ganlyn:-

 

           Yr Ymgynghorydd Her GwE i gylchredeg y pro-fforma i gofnodi addoli ar y cyd i aelodau’r CYSAG. 

 

Dywedodd yr Ymgynghorydd Her GwE er nad oedd yr holl Aelodau wedi derbyn copi o’r pro-fforma, ei fod wedi cael ei ddilysu a’i fod wedi’i gynnwys fel eitem ar yr agenda.

 

           Y Swyddog Addysg Gynradd i wneud ysgolion yn ymwybodol trwy’r grwpiau strategol cynradd ac uwchradd o bwrpas y pro-fforma a sut y caiff ei ddefnyddio

 

Adroddodd y Swyddog Addysg Gynradd fod y Grŵp Strategol Cynradd yn cefnogi defnyddio’r pro-fforma. Dywedodd y byddai’n mynd ar ôl barn y sector uwchradd gyda’r Swyddog Addysg Uwchradd.

 

Awgrymodd yr Ymgynghorydd Her GwE y dylid treialu’r pro-fforma am gyfnod o flwyddyn i weld a ellid dod i gonsensws, gan gyflwyno adroddiad yn seiliedig ar ddefnydd cyffredin o’r  ffurflen ymysg yr Aelodau. Erbyn diwedd y flwyddyn, bydd unrhyw wendidau yn y pro-fforma wedi dod i’r amlwg ac mae angen i’r CYSAG fod yn agored i ddiwygio’r pro-fforma yn unol â hynny.

 

Cytunwyd i dreialu’r pro-fforma ar gyfer cofnodi ymweliadau addoli ar y cyd am gyfnod o flwyddyn.

 

Cam Gweithredu:  

 

           Yr Ymgynghorydd Her GwE i gylchredeg y pro-fforma i gofnodi ymweliadau addoli ar y cyd i aelodau’r CYSAG. 

 

7.  Deunyddiau Enghreifftiol i Ddatblygu Llythrennedd a Rhifedd yn AG CA3

 

Cyfeiriodd yr Ymgynghorydd Her GwE at y cyflwyniad a roddodd yn y cyfarfod diwethaf ar ddeunyddiau a ddatblygwyd gan Mrs Mary Parry, Ymgynghorydd AG yng Nghaerfyrddin, a gofynnodd am gadarnhad fod yr holl ysgolion uwchradd ar Ynys Môn wedi derbyn copi o’r modiwl ar CD

 

Dywedodd Mrs Mefys Edwards nad oedd hi wedi gwneud defnydd o’r CD hyd yma ond ei bod yn bwriadu ei dreialu gyda disgyblion Blwyddyn 8 a’i addasu i’w rhaglen waith.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd fod y Swyddog Addysg Gynradd wedi ysgrifennu llythyr o ddiolch at Mrs Mary Parry.

 

4.

Arolygiadau Estyn pdf eicon PDF 112 KB

·        Cyflwyno gwybodaeth  ynghylch yr arolygiadau a gynhaliwyd gan Estyn.

 

·        Cyflwyno adroddiad arolygiad Adran 50 ynghylch Ysgol Llangaffo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

           Cyflwynwyd gwybodaeth berthnasol ynglŷn â’r arolygiadau Estyn a wnaed yn Ysgol Gymraeg Morswyn ac Ysgol Bodffordd i’r CYSAG ei hystyried. Nodwyd y wybodaeth.

 

           Cyflwynwyd yr adroddiad Adran 50 ynghylch Ysgol Llangaffo i’r CYSAG ei ystyried.

 

Cyfeiriodd yr Is-gadeirydd at y defnydd o’r term ‘cydaddoli’ (‘corporate worship’ yn Saesneg) yn fersiwn Gymraeg yr adroddiad Adran 50 tra bod y fersiwn Saesneg yn cyfeirio at ‘collective worship’ a cheisiodd eglurhad ar yr anghysondeb rhwng y ddwy fersiwn. Dywedodd o bosib gan fod Ysgol Llangaffo yn ysgol Eglwys yng Nghymru, y medrai fod yngydaddoliyn gyfreithiol. Tynnodd yr Is-gadeirydd sylw at y ffaith fod y defnydd cywir o’r derminoleg wedi bod yn broblem am flynyddoedd. Cynigiodd dynnu sylw Esgobaeth Bangor at y gwall hwn a’u bod yn gofyn i’r Esgobaeth ddefnyddio’r term cywir am ‘collective worship’ yn y Gymraeg h.y. ‘addoli ar y cyd’, o fewn yr adroddiad i gyd-fynd â’r defnydd o’r term ‘collective worship’ yn fersiwn Saesneg yr adroddiad. Cytunodd y CYSAG, a bu iddo  gydnabod hefyd bod yr adroddiad yn gynhwysfawr ac yn llawn gwybodaeth ac yn brawf o lwyddiannau Ysgol Llangaffo.

 

Cyfeiriodd Mr Christopher Thomas at y ffaith fod yr adroddiad yn dweud “The school meets the statutory requirement for collective acts of worship”. O ystyried bod natur yr adroddiad yn sôn am fod ynysbrydoledigwrth gyfeirio at addoli ar y cyd mae’n bechod iddo dderbyn sylw mor ‘mater o ffaithâ’r un a ddyfynnwyd. Dywedodd fod yr adroddiad yn darllen yn dda iawn ac y dylid ei longyfarch ar y cyfan.

 

Dywedodd y Swyddog Addysg Gynradd efallai ei fod yn adlewyrchu’r derminoleg arolygu safonol a ddefnyddir i ddisgrifio nodweddion o’r fath.

 

Cytunodd y Cadeirydd ei fod yn adroddiad cadarnhaol ac awgrymodd bod y llythyr at Esgobaeth Bangor hefyd yn cydnabod bod yr adroddiad yn cyfeirio at y ffaith fod yr addoli ar y cyd yn ysbrydoledig. Cytunodd y CYSAG i hyn.

 

Cyfeiriodd yr Ymgynghorydd Her GwE at y darnau o adroddiadau arolygu ESTYN y mae’r Swyddog Addysg Gynradd yn eu paratoi ar gyfer y CYSAG a dywedodd y rhoddir sylw arbennig i gyfeiriadau yn yr adroddiadau at addoli ar y cyd ac Addysg Grefyddol. Dywedodd ei bod hefyd wedi gofyn i’r Swyddog wirio’r adroddiadau ar gyfer yr adran ar bartneriaethau lleol, a phan geir cyfeiriad at gapel neu eglwys, y dylai hynny hefyd gael ei amlygu fel rhan o sgriwtini’r CYSAG ar yr adroddiadau hynny. Byddai hynny’n galluogi cynrychiolwyr o’r Enwadau Crefyddol ar y CYSAG i adrodd yn ôl i’w grŵp fod ysgolion yn gwerthfawrogi’r cysylltiadau hynny a medru gweithio gyda’i gilydd efo cymunedau crefyddol lleol.

 

Cytunwyd i nodi’r adroddiad Adran 50 ar Ysgol Llangaffo.

 

Cam Gweithredu:

 

Y Swyddog Addysg Gynradd i ysgrifennu ar ran y CYSAG at Esgobaeth Bangor:

 

           I gydnabod yr adroddiad a llwyddiant Ysgol  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Hunan-Arfarniad gan Ysgolion - Ysgol Bryngwran pdf eicon PDF 348 KB

Cyflwyno adroddiadau hunan arfarnu AG gan yr ysgolion canlynol :

 

·      Ysgol Bryngwran

·      Ysgol y Fali,

·      Ysgol Rhosybol ac

·      Ysgol Llanfechell.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiadau hunanarfarnu Addysg Grefyddol a baratowyd gan Ysgol Bryngwran, Ysgol y Fali, Ysgol Rhosybol ac Ysgol Llanfechell i’r CYSAG eu hystyried.

 

Cyfeiriodd yr Ymgynghorydd Her GwE at yr adroddiad gan Ysgol Rhosybol sef drafft cyntaf a oedd wedi’i gyflwyno mewn camgymeriad. Roedd wedi gofyn i’r Pennaeth gyflwyno’r ail ddrafft i’r CYSAG erbyn ei gyfarfod nesaf ac felly awgrymodd y dylent anwybyddu’r  adroddiad oedd o’u blaenau.

 

Rhoddodd yr Ymgynghorydd Her GwE gyngor i’r CYSAG ynghylch yr hyn y dylai fod yn ymwybodol ohono wrth asesu ansawdd yr hunanarfarniadau. Dywedodd bod angen i’r rhan gyntaf sy’n sôn am ba mor dda yw’r deilliannau roi tystiolaeth o’r hyn y gall y plant ei wneud mewn Addysg Grefyddol e.e. cyfeirio at y ffaith fod y mwyafrif o’r disgyblion yn medru cymharu arferion crefyddol yn eithriadol o dda, yn dda, yn ddigonol neu’n anfoddhaol. Nododd ymhellach y dylai’r CYSAG edrych ar ba sgiliau sydd gan y plant; faint o’r plant fedr ddefnyddio’r sgiliau hynny, ac ansawdd y sgiliau hynny. Mae tueddiad weithiau mewn adroddiadau hunanarfarnu i ysgolion ddrysu rhwng yr hyn mae’r athrawon yn ei baratoi a’r profiadau a gaiff y plant gyda’r safonau a welir yn llyfrau ysgol y plant.

 

Mae ail ran yr adroddiad hunanarfarnu yn cyfeirio at y ddarpariaeth ac yn ddelfrydol bydd ysgolion yn darparu gwybodaeth am natur y gwersi a’r math o waith a wnaed mewn gwersi Addysg Grefyddol e.e. pa straeon Addysg Grefyddol mae’r plant yn eu hastudio, a gaiff siaradwyr gwadd eu gwahodd i’r ysgolion ac ati. Dywedodd yr Ymgynghorydd bod lle i wella adroddiadau hunanarfarnu ymhellach yn enwedig er mwyn gwneud yr agweddau ansoddol yn fwy cadarn. Awgrymodd ar gyfer cyfarfod y CYSAG yn y gwanwyn, bod y Swyddog Addysg Gynradd yn cynnig ei bod hi ar gael i’r ysgolion am gyfnod yn y bore, yn y prynhawn ac ar ôl ysgol fel bod modd i unrhyw un sy’n dymuno cael ei chyngor wneud hynny. Cynghorodd y CYSAG, wrth iddo sgriwtineiddio’r adroddiadau, y dylai chwilio am y termau hynny sy’n darparu barn ansoddol e.e. da, digonol, yn gwella, cryf ac ati.

 

Holodd Mr Christopher Thomas a oedd enghraifft o’r ddogfen hunanarfarnu ar gael i’r holl ysgolion.

 

Cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Her GwE fod dogfen enghreifftiol ar gael ond petai’r ysgolion yn cadw’n rhy agos at y fformat penodol hwnnw gall adroddiadau hunanarfarnu rhai o’r ysgolion ymddangos yn debyg iawn, a dyna pam felly mae wedi cynnig gweithdy i roi sylw i unrhyw faterion neu bryderon ynglŷn â pharatoi adroddiadau hunanarfarnu AG.

 

Holodd y CYSAG faint o ysgolion oedd heb ddarparu hunanarfarniad AG. Dywedodd y Swyddog Addysg Gynradd bod llawer heb wneud. Awgrymodd y Cadeirydd wrth bwysleisio’r ffaith fod yr Ymgynghorydd Her GwE ar gael i ddarparu cyngor, y dylid tynnu sylw at yr angen i’r ysgolion ddarparu eu hadroddiadau hunanarfarnu AG i’r CYSAG er mwyn iddo fedru gweithredu ei  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Cynnal a Chodi Safonau TGAU

Mrs Mefys Edwards , Ysgol Syr Thomas Jones i roi cyflwyniad.

Cofnodion:

Rhoddodd Mrs Mefys Edwards gyflwyniad gyda sleids yn dangos y canlyniadau y llwyddwyd i’w cyrraedd yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch.

 

Adroddodd ar sut mae’r Adran AG wedi cynnal a chodi safonau yn yr ystafell ddosbarth, ac wedi ymateb i’r adroddiad hunanarfarnu am y llynedd. Cyfeiriodd at ganlyniadau’r arholiadau TGAU ar gyfer 2014/15, a nododd fod Blwyddyn 10 ac 11 wedi gwneud yn eithriadol o dda ac wedi cyrraedd eu targedau disgwyliedig:-

 

           Blwyddyn 11 - 98% A*- C (dros hanner yn derbyn A - A*)

           Blwyddyn 10 - 91% A*- C (bron i hanner yn derbyn A – A*)

 

Dywedodd Mrs Edwards wedi iddynt ddadansoddi’r canlyniadau hynny, fod yr Adran wedi penderfynu canolbwyntio ar y bechgyn trwy Gynllun Gweithredu, ac wedi ceisio eu herio trwy ganfod gwahanol ffyrdd o gadw eu diddordeb yn y cwrs. Yr ail amcan oedd cynnal a chodi safonau. Nododd ar ddechrau’r flwyddyn gyda chymorth yr anogwyr dysgu, y rhoddir prawf i’r plant i ganfod trwy ba ffyrdd y maent yn dysgu orau, ac yn ei dro mae hynny’n rhoi gwybodaeth iddi hi ynghylch sut mae’r plant yn dysgu boed hynny’n weledol, ar lafar neu trwy ddulliau cinesthetig h.y. trwy wneud pethau. Roedd yr Adran yn gobeithio gwella’r gwersi trwy gynnal gweithgareddau a fyddai’n mynd â bryd y bechgyn, a thracio’r bechgyn yn fwy cyson. Penderfynwyd hefyd ceisio gwella’r cyfathrebu gyda’r anogwyr dysgu a rhieni e.e. negeseuon testun i atgoffa rhieni am brofion fyddai’n digwydd yn fuan, a thrwy gydnabod canlyniadau da.

 

Adroddodd Mrs Edwards ar sut maent wedi adnabod y ffyrdd mae disgyblion yn dysgu a chyfeiriodd at ddadansoddiad o arddulliau dysgu yn ei dosbarth ym Mlwyddyn 11 fel a ganlyn:-

 

Mae 5 yn dysgu’n weledol;

Mae 2 yn dysgu ar lafar;

Mae 12 yn dysgu trwy ddulliau cinesthetig. 

 

Dywedodd Mrs Edwards fod ganddi ddiddordeb mewn treialu gweithgareddau i ddisgyblion sy’n dysgu trwy ddulliau cinesthetig ac aeth ymlaen i ymhelaethu ar rai o’r dulliau dysgu a ddefnyddir yn yr ystafell ddosbarth i gynnal diddordeb y dysgwyr hynny sy’n dysgu mwy trwy wneud yn hytrach na gwrando e.e. trwy ddefnyddio clipiau teledu a ffilm cyfoes i annog disgyblion i ymateb ac i gyfleu eu barn ar lafar ac yn ysgrifenedig; gwneud defnydd o newyddion a digwyddiadau yn y gymuned; asesu ar gyfer dysgu lle mae’r disgyblion yn gyfrifol am asesu eu gwaith eu hunain a gwaith disgyblion eraill gan herio ei gilydd a hwy eu hunain ac ati. Cyfeiriodd at y system goleuadau traffig ar gyfer tracio cynnydd disgyblion a’r mewnbwn a wneir gan athrawon ac anogwyr dysgu ynglŷn â’r disgyblion hynny sydd angen cefnogaeth bellach.

 

Dywedodd Mrs Edwards ei bod yn hapus iawn gyda’r sgoriau AG a gafodd Ysgol Syr Thomas Jones yn arholiadau’r haf a bod Blwyddyn 10 ac 11 wedi llwyddo i gyrraedd eu targedau. Cadarnhaodd fod safonau’r bechgyn hefyd yn dda. Cadarnhaodd hefyd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Adroddiad Blynyddol CYSAG Ynys Môn am 2014/15 pdf eicon PDF 521 KB

Cyflwyno drafft o Adroddiad Blynyddol CYSAG Ynys Môn am 2014/15.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol drafft CYSAG Cyngor Sir Ynys Môn ar gyfer 2014/15 i’r CYSAG ei ystyried a’i gymeradwyo.

 

Adroddodd yr Ymgynghorydd Her GwE ar yr agweddau a ganlyn -

 

           Mae’r adroddiad yn ceisio rhoi’r cyd-destun ynghylch sut mae’r CYSAG ar Ynys Môn yn sgriwtineiddio safonau mewn AG e.e. Tudalen 4 yr Adroddiadmae adroddiadau hunanarfarnu 8 o ysgolion wedi cael eu trafod rhwng 2014/2015. Mae cofnodion y cyfarfodydd CYSAG yn dangos bod mwy nag 8 adroddiad hunanarfarnu wedi cael eu trafod, ond mae rhai o’r rhain yn cyfeirio at ysgolion a arolygwyd yn y blynyddoedd cynt. Roedd yr 8 Adroddiad a gyflwynwyd ar gyfer y flwyddyn academaidd hon ac mae’r rhai eraill wedi cael sylw yn yr Adroddiad Blynyddol ar gyfer y flwyddyn flaenorol.

 

           Mae'r Awdurdod Addysg ar Ynys Môn wedi bod yn gefnogol i hunanarfarnu ac mae wedi gofyn i ysgolion hunanfarnu Addysg Grefyddol o fewn y flwyddyn ond, er gwaethaf hynny, dim ond 15% o’r ysgolion sydd wedi ymateb.

 

Cafwyd trafodaeth wedyn ynghylch a ddylai'r Adroddiad Blynyddol adlewyrchu'r gyfradd ymateb. Y farn gyffredinol oedd y dylid cynnwys y wybodaeth honno, er ei bod yn siomedig, ond gan dynnu sylw yn yr adroddiad ar yr un pryd at y ffaith fod y system wedi newid eleni.

 

Dywedodd y Swyddog Addysg Gynradd y byddai'n ysgrifennu at ysgolion nad ydynt wedi ymateb o gwbl i gyfleu siom y CYSAG nad oedd eu hadroddiadau hunanarfarnu wedi cael eu cyflwyno hyd yma a'i fod yn edrych ymlaen at eu derbyn cyn gynted ag y bo modd. Ar ben hynny, mae’r Awdurdod Addysg yn annog ysgolion i fod yn "barod ar gyfer arolwg" sy'n golygu felly y dylai beth bynnag y mae ysgolion wedi ei baratoi o ran hunanarfarnu fod ar gael eisoes.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am berfformiad cymharol CYSAG Ynys Môn yn hyn o beth, cadarnhaodd yr Ymgynghorydd Her GwE fod y wybodaeth yn dangos bod CYSAGau Gwynedd a Môn yn perfformio’n arbennig o dda wrth gasglu adroddiadau hunanarfarnu o gymharu ag awdurdodau eraill. Cododd y CYSAG y pwynt fod bod yn arbenigwr AG yn yn ystyriaeth o bwys yng nghyswllt yr hyn y mae athrawon yn gallu ei wneud yn y pwnc a chyfeiriwyd yn benodol at y sector cynradd lle nodwyd y gellid gwneud mwy i fynd i'r afael ag ymarfer dysgu cychwynnol ar gyfer pwnc statudol i roi i athrawon y wybodaeth gyffredinol y mae arnynt ei hangen i fynd i'r afael â'r pwnc hwn.

 

           O ran canlyniadau, atgoffodd yr Ymgynghorydd Her GwE y CYSAG ei fod wedi cytuno y gellid enwi ysgolion a’i bod felly wedi dewis detholiadau o adroddiadau hunanarfarnu ysgolion i ddangos y math o weithgareddau y maent yn ymgymryd â nhw.

           Darpariaethmae’r CYSAG yn gallu adnabod darpariaeth dda o fewn y sectorau cynradd ac uwchradd tra hefyd yn nodi agweddau a fydd yn derbyn sylw yn ystod y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cynllun Gweithredu'r CYSAG pdf eicon PDF 219 KB

Ystyried y perfformiad yn erbyn y Cynllun Gweithredu.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Cynllun Gweithredu’r CYSAG i'w ystyried ac am sylwadau a chyfeiriwyd yn arbennig at y cynnydd a wnaed gan y CYSAG o ran cyflawni’r blaenoriaethau a'r canlyniadau yn y Cynllun Gweithredu. ’Roedd y CYSAG wedi arfarnu ei berfformiad fel a ganlyn:

 

           Datblygu arweinyddiaeth dda mewn AG ac addoli ar y cyd

 

Canlyniad 1 – cynnydd anfoddhaol

Canlyniad 2 – cynnydd da

Canlyniad 3 – cynnydd boddhaol

 

              Cau'r bwlch rhwng safonau a gyflawnir gan fechgyn a merched mewn TGAU

 

Canlyniad 1 – cynnydd da

Canlyniad 2 – cynnydd da

 

              Diweddaru gwybodaeth athrawon e.e. Dogfennau Canllaw Llywodraeth  Cymru ac adroddiad thematig Estyn

 

Canlyniad 1- cynnydd anfoddhaol

 

              Hyrwyddo addoli ar y cyd o ansawdd da

 

  Canlyniad 1 – cynnydd da

  Canlyniad 2 – cynnydd da

  Canlyniad 3 – cynnydd da

 

Dywedodd yr Ymgynghorydd Her GwE y byddai, gyda chytundeb y CYSAG, yn cynnwys sylwadau yn yr Adroddiad Blynyddol i adlewyrchu'r cynnydd a wnaed. Cytunodd y CYSAG.

 

DIM CAM GWEITHREDU PELLACH YN CODI

 

9.

Cynlluniau Llywodraeth Cymru o fewn Addysg Grefyddol pdf eicon PDF 223 KB

Yr Is-Gadeirydd i arwain trafodaeth ynghylch yr uchod.

 

 

(Gwybodaeth gefndirol ynghlwm)

Cofnodion:

Cafodd y CYSAG wybodaeth gefndirol mewn perthynas â'r ymateb i'r cyhoeddiad a wnaed gan Weinidog Addysg Llywodraeth Cymru ynghylch cynigion i ailddynodi Addysg Grefyddol ynCrefydd, Athroniaeth a Moeseg’.

 

Tynnodd y Swyddog Addysg Gynradd sylw'r CYSAG at e-bost yr oedd wedi ei dderbyn  y bore hwnnw oddi wrth Ysgrifennydd Cymdeithas CYSAGau Cymru gyda chopi o ohebiaeth yr oedd wedi ei chael gan Weinidog Addysg Llywodraeth Cymru yn egluro'r sefyllfa o safbwynt newidiadau arfaethedig i Addysg Grefyddol.

 

Dywedodd yr Is-gadeirydd fod Pwyllgor Gwaith Cymdeithas CYSAGau Cymru wedi cyfarfod yr wythnos flaenorol ac wedi penderfynu y dylid dosbarthu’r ohebiaeth uchod i gyrff CYSAG. Cyfeiriodd at gyd-destun a chefndir cyhoeddiad gwreiddiol y Gweinidog  ym mis Gorffennaf a’r ymateb a gafwyd iddo. Os mai'r bwriad yw ailddynodi AG dywedodd y deellir y byddai’n rhaid gwneud hynny drwy gyfrwng deddfwriaeth sylfaenol i ddiwygio’r Ddeddf Addysg ac y byddai goblygiadau hefyd i’r CYSAGau. Dywedodd yr Is-gadeirydd ei bod yn anodd sgwario’r cyhoeddiad gyda'r ffaith fod y Gweinidog yn derbyn Adolygiad Donaldson sy'n gefnogol i AG. Dywedodd ei fod yn credu ei bod yn bwysig bod CYSAGau yn parhau i fod yn effro i ddatblygiadau posibl a’i fod yn sicrhau ei fod mewn sefyllfa i allu ymateb iddynt.

 

Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn fodlon y gellid gadael y mater i Gymdeithas CYSAGau Cymru yn awr a bod CYSAG Ynys Môn yn gefnogol i ymdrechion Cymdeithas CYSAGau Cymru yn hyn o beth. Cymeradwyodd y CYSAG y safbwynt hwn.

 

Dywedodd yr Ymgynghorydd Her GwE ei bod yn debygol y bydd Cymdeithas CYSAGau Cymru yn cael ei hystyried yn rhanddeiliad lefel uchel mewn trafodaethau ar ddatblygu Adolygiad Donaldson a bod gwerth y gymdeithas yn cael ei gydnabod yn enwedig o ran ymgysylltu â'r ystod o gymunedau ffydd trwy'r cyswllt y mae’n ei ddarparu gyda  CYSAGau eraill.

 

Awgrymwyd a chytunwyd y dylid gwneud AC Ynys Môn yn ymwybodol o safbwynt Ynys Môn ar y mater hwn.

 

Cytunwyd i nodi'r wybodaeth a'r sefyllfa ar hyn o bryd.

 

Gweithredu:

 

Y Swyddog Addysg Gynradd i ysgrifennu at yr Aelod Cynulliad dros Ynys Môn i roi gwybod iddo am safbwynt CYSAG Ynys Môn ar y mater hwn.

  

10.

Cymdeithas CYSAGau Cymru

Y cynrychiolwyr oedd yn bresennol yng nghyfarfod  Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd yn Yr Wyddgrug ar 25 Mehefin, 2015 i adrodd yn ôl ar unrhyw fater yn codi o’r cyfarfod hwnnw.

Cofnodion:

Cylchredwyd cofnodion cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd ar 25  Mehefin, 2015 yn Sir y Fflint yn ystod y cyfarfod a nodwyd y byddai'r fersiwn Gymraeg ar gael cyn bo hir.

 

Dywedodd yr Is-gadeirydd y cynhaliwyd dau gyfarfod ar y diwrnod – y cyfarfod Cyffredinol a'r cyfarfod Blynyddol. Cyfeiriodd at y ddau gyflwyniad a wnaed yn y cyfarfod Cyffredinolun gan Ysgrifennydd Cymdeithas CYSAGau Cymru ar ddarparu hyfforddiant mewn swydd ar addoli ar y cyd yn Wrecsam a'r llall gan Phil Lord ynglŷn â phrosiect gweithio mewn partneriaeth.

 

O ran y Cyfarfod Blynyddol, cyfeiriodd yr Is-gadeirydd at y pwyntiau canlynol:

 

           Dyrchafwyd Gavin Craigen i’r Gadair ond mae wedi ymddiswyddo ers hynny o'r swydd honno a disgwylir y bydd yr Is-gadeirydd sydd newydd gael ei ethol – Phil Lord – yn cael ei gadarnhau yn Gadeirydd yn y cyfarfod nesaf.

           Mae dau aelod newydd wedi cael eu penodi i'r Pwyllgor Gwaith, sef y Cynghorydd Ernie Goulsworthy o Ferthyr a Ruth Davies o Wynedd.

           Rhoddwyd sylw i adroddiad y Trysorydd gyda’r argymhelliad (a dderbyniwyd) o gynnydd o 2.5% yn ffi’r tanysgrifiad blynyddol ar gyfer aelodaeth o Gymdeithas CYSAGau Cymru am 2015/16 i £433.

 

Cytunwyd y byddai’r CYSAG yn argymell i'r AALl ei fod yn talu’r tanysgrifiad blynyddol o £433 i Gymdeithas CYSAGau Cymru ar gyfer 2015/16.

11.

Canlyniadau Addysg Grefyddol 2015

Ymgynghorydd Her GwE i roi diweddariad ynglyn ag argaeledd data perfformiad.

Cofnodion:

Cytunwyd i ohirio ystyried y mater hwn tan y cyfarfod nesaf.

12.

Cyfarfod Nesaf

2:00 y prynhawn, ddydd Mawrth, 16 Chwefror, 2016.

Cofnodion:

Nodwyd bod cyfarfod nesaf y CYSAG wedi cael ei drefnu ar gyfer 2.00pm ar 16 Chwefror, 2016. Cynigiodd y Cadeirydd y dylid gohirio'r cyfarfod am wythnos tan 23 Chwefror, 2016 er mwyn osgoi gwrthdaro â'r gwyliau Hanner Tymor a chytunwyd i wneud hynny.