Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cyflwyniad

Derbyn cyflwyniad gan Ysgol y Borth ar waith y Cyfnod Sylfaen.

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd wrth y CYSAG y byddai'r cyflwyniad y trefnwyd i’w gael gan Ysgol y Borth ar waith y Cyfnod Sylfaen yn cael ei ohirio tan y cyfarfod nesaf ym mis Mehefin, a hynny oherwydd amgylchiadau nad oedd modd eu hosgoi.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

 

3.

Cofnodion Cyfarfod 6 Hydref, 2015 pdf eicon PDF 308 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y CYSAG a gynhaliwyd ar 6 Hydref, 2015.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r CYSAG a gynhaliwyd ar 6 Hydref 2015 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

4.

Materion yn Codi - Gohebiaeth pdf eicon PDF 81 KB

Cyflwyno er gwybodaeth ohebiaeth anfonwyd at Aelod Cynulliad Ynys Môn ynghylch cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer Addysg Grefyddol.

Cofnodion:

           Nodwyd bod croeso i unrhyw aelodau o'r CYSAG nad ydynt wedi derbyn y pro-fforma ar gyfer cofnodi ymweliadau ag ysgolion i arsylwi’r trefniadau addoli ar y cyd ofyn am gopi gan yr Ymgynghorydd Her GwE.

           Cadarnhaodd y Swyddog Addysg Gynradd ei fod wedi ysgrifennu at Esgobaeth Bangor ynghylch  yr adroddiad arolygu Adran 50 ar Ysgol Llangaffo i dynnu sylw at anghywirdeb yn y fersiwn Gymraeg o ran y defnydd o'r ymadrodd  "addoli ar y cyd" a'i fod yn aros am ymateb.

           Dywedodd yr Ymgynghorydd Her GwE wrth y CYSAG fod dau weithdy i gynorthwyo ysgolion gyda pharatoi adroddiadau hunanarfarnu AG wedi cael eu cynnal yn Ysgol Gyfun Llangefni lle cynrychiolwyd tua wyth ysgol gan gyfuniad o Benaethiaid, cydlynwyr ac athrawon. Atgoffwyd y cynrychiolwyr a oedd yn bresennol o'r ddogfennaeth sydd ar gael, ynghyd â chanllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ynghylch cynllunio ac asesu Addysg Grefyddol, yn ogystal â'r adnoddau a'r deunyddiau y dylent geisio cael mynediad iddynt, a rhoddwyd cyngor iddynt hefyd ar sut i fynd ati i hunanarfarnu AG.

           Cadarnhaodd y Cadeirydd fod y Swyddog Addysg Gynradd wedi anfon copi o Adroddiad Blynyddol y CYSAG ar gyfer 2014/15 i Lywodraeth Cymru. Mae’r Cadeirydd, y Swyddog Addysg Gynradd a'r Ymgynghorydd Her GwE yn bwriadu ailymweld â Chynllun Gweithredu'r CYSAG yn wyneb yr argymhellion yr oedd wedi eu gwneud i'r Awdurdod Addysg yn yr adroddiad blynyddol a’i ailgyflwyno i'r cyfarfod nesaf.

 

Dywedodd yr Ymgynghorydd Her GwE fod angen monitro ymateb yr ysgolion i'r adolygiad o'r cwricwlwm yn sgil adolygiad Donaldson – Dyfodol Llwyddiannus. Mae rhai ysgolion yng Nghymru wedi’u dynodi fel rhan o’r Rhwydwaith Ysgolion Arloesol i ddatblygu a threialu’r cwricwlwm newydd i Gymru ar y cyd â phartneriaid eraill. Awgrymodd y byddai’r CYSAG yn awyddus i gadw i fyny ag  unrhyw ddatblygiadau mewn Addysg Grefyddol er mwyn dylanwadu ar rai o'r partneriaid sy'n cynghori ysgolion. Mae angen i'r CYSAG felly gymryd camau y flwyddyn nesaf i sicrhau ei fod yn y sefyllfa orau i ddylanwadu ar ffurf y cwricwlwm newydd ac mae ganddo ddiddordeb mewn dysgu am unrhyw weithgareddau AG creadigol, cyffrous neu gyfoes y mae athrawon ar Ynys Môn yn eu treialu fel enghreifftiau posib ar gyfer y cwricwlwm newydd. Nodwyd bod Cymdeithas CYSAGau Cymru yn un o’r rhanddeiliad allweddol yn y trafodaethau ar ddatblygu'r Adolygiad Donaldson.

 

           Cadarnhaodd y Swyddog Addysg Gynradd ei fod wedi cysylltu â’r ysgolion hynny nad oeddent wedi cyflwyno eu hadroddiadau hunanarfarnu AG i‘r CYSAG.

           Cyflwynwyd a nodwyd gohebiaeth a anfonwyd gan y Cadeirydd at yr Aelod Cynulliad dros Ynys Môn ar ran y CYSAG a oedd yn crynhoi ei sefyllfa mewn perthynas â chynlluniau arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol Addysg Grefyddol

 

5.

Arolygiadau Estyn

Cyflwyno gwybodaeth am arolygiadau Estyn a gynhaliwyd mewn perthynas ag Ysgol Llannerchymedd, Ysgol y Borth, Ysgol Rhosneigr, Ysgol Garreglefn ac Ysgol Llandegfan.(Gwybodaeth i’w chyflwyno yn y cyfarfod)

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w hystyried gan y CYSAG, y wybodaeth berthnasol o arolygon Estyn a gynhaliwyd yn Ysgol y Borth, Ysgol Garreglefn, Ysgol Llandegfan, Ysgol Llannerch-y-medd ac Ysgol Rhosneigr.

 

Nododd y CYSAG bod y sylwadau a wnaed gan yr arolygwyr o ran y ddarpariaeth yn yr ysgolion mewn perthynas â bodloni gofynion y maes llafur cytûn ar gyfer Addysg Grefyddol, darparu cyfnodau addoli ar y cyd ystyrlon i ddisgyblion a hyrwyddo datblygiad ysbrydol, cymdeithasol a diwylliannol y disgyblion yn gadarhanol at ei gilydd. Nododd y CYSAG hefyd, er gwaethaf diffygion a nodwyd mewn perthynas ag ansawdd y profiadau dysgu a chynllunio yn Ysgol Garreglefn, fod yr ysgol yn cael ei disgrifio fel cymuned hapus a gofalgar lle mae datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol y disgyblion yn cael ei hyrwyddo'n dda trwy wasanaethau a thrwy godi arian i elusennau.

 

Adroddodd y Swyddog Addysg Gynradd fod Ysgol Garreglefn, ar ôl yr arolwg, wedi cael ei hadnabod fel un yr oedd angen cymryd mesurau arbennig yn ei chylch ac mae Addysg Grefyddol ymysg yr anghysondebau a amlygwyd mewn perthynas â safon y cynllunio yn yr ysgol. Mae'r ysgol wedi llunio Cynllun Gweithredu manwl mewn ymateb i argymhellion adroddiad arolwg Estyn sy'n cynnwys Addysg Grefyddol, ac mae’r Ymgynghorydd Her GwE wedi ymweld â'r ysgol. Bydd Estyn yn ymweld â’r ysgol hefyd bob tymor i fonitro'r cynnydd yn erbyn pob un o'r argymhellion a roddwyd.

 

Roedd y CYSAG yn gytûn hefyd ei fod yn dymuno monitro cynnydd o ran Addysg Grefyddol yn benodol yn Ysgol Garreglefn ac roedd consensws mai’r ffordd orau o wneud hynny fyddai i’r Ymgynghorydd Her GwE gyflwyno adroddiad cynnydd maes o law.

 

Cytunwyd i nodi'r wybodaeth.

 

GWEITHREDU: Yr Ymgynghorydd Her GwE i adrodd yn ôl i'r CYSAG gyda hyn ar y cynnydd a wnaed yn Ysgol Garreglefn o ran y ddarpariaeth Addysg Grefyddol a chynllunio yn benodol.

6.

Hunan-Arfarniadau Ysgol - Ysgol Penysarn pdf eicon PDF 317 KB

Cyflwyno adroddiadau hunan arfarnu AG gan yr ysgolion canlynol -

 

Ysgol Penysarn,

Ysgol Talwrn,

Ysgol y Graig

Canolfan Addysg y Bont

Ysgol Amlwch

Ysgol y Ffridd  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd  yr adroddiadau hunanarfarnu Addysg Grefyddol a ddarparwyd gan Ysgol Penysarn, Ysgol y Talwrn, Ysgol y Graig, Canolfan Addysg y Bont, Ysgol Amlwch ac Ysgol y Ffridd i sylw’r CYSAG.

 

Nododd y CYSAG y canlynol:

 

           Amrywiadau yn yr adroddiadau hunanarfarnu o ran cynnwys a chyflwyniad gyda rhai o'r ysgolion yn cadw at y pro-fforma a gytunwyd ac eraill yn defnyddio ffurf naratif. Cyfeiriwyd yn benodol at yr hunanarfarniadau a ddarparwyd gan Ganolfan Addysg y Bont ac Ysgol Amlwch fel adroddiadau disgrifiadol.

 

Rhoddwyd gwybod i'r CYSAG bod y pro-fforma wedi cael ei ddosbarthu i ysgolion fel arweiniad ac fel arfer dda yn lleol ond nad oes unrhyw fframwaith cenedlaethol ar gyfer drafftio adroddiadau hunanarfarnu. Rhoddwyd gwybod i’r CYSAG hefyd fod Mrs Catherine Jones, nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw, wedi ymweld â Chanolfan Addysg y Bont ym mis Tachwedd i arsylwi cyfnod addoli ar y cyd yn yr ysgol fel rhan o arferion monitro cytunedig y CYSAG.

 

Cytunodd y CYSAG y byddai'n ddefnyddiol ac yn addysgiadol iddo wahodd Pennaeth Canolfan Addysg y Bont i gyfarfod y CYSAG i drafod y ddarpariaeth Addysg Grefyddol yn yr ysgol o safbwynt ysgol arbennig.

 

           Bod nifer o'r ysgolion yn nodi y byddai mwy o ymweliadau cymunedol yn gwella gwybodaeth a gwerthfawrogiad y disgyblion o gredoau eraill a hefyd yn gwella eu gallu i drafod a mynegi eu barn amdanynt.

 

Hysbyswyd y CYSAG bod yna gyfrifoldeb ar ysgolion i ddangos bod ymwelwyr cymunedol yn darparu profiadau defnyddiol i'r disgyblion a'u bod yn gallu adrodd ar brofiadau ffydd personol sy'n berthnasol i'r astudiaethau. Dywedodd yr Ymgynghorydd Her GwE bod llai o gyfleoedd i ysgolion mewn ardal wledig fel Ynys Môn i sicrhau bod disgyblion yn cael mynediad i amrywiaeth o grefyddau eraill o gymharu ag ysgolion mewn ardaloedd trefol, er bod ysgolion yn y gorffennol wedi gwneud defnydd o'r mosg ym Mangor a bod mwy o gyfleoedd i gysylltu trwy ddulliau digidol e.e. ymweliadau rhithiol a chyswllt drwy Skype. Tra bod profiadau o’r fath yn dda nid ydynt mor werthfawr â gallu sgwrsio wyneb yn wyneb â pherson o ffydd arall.

 

Dywedodd yr Ymgynghorydd Her GwE hefyd wrth y CYSAG ei bod wedi diwygio’r pro-fforma hunanarfarnu i gynnwys darpariaeth ar gyfer safonau llythrennedd, rhifedd a TGCh mewn Addysg Grefyddol. Mae rhai datganiadau gan ysgolion yn tueddu i fod yn rhai generig ac felly er mwyn annog athrawon i gyfeirio at Addysg Grefyddol ac at sgiliau ar draws y cwricwlwm mae is-bennawd i'r perwyl hwnnw wedi cael ei gynnwys yn y templed. Hefyd, yn dilyn y gweithdy a gynhaliwyd gydag athrawon cynradd yn y tymor blaenorol, mae’r arweiniad wedi cael ei addasu i lunio mwy o ddatganiadau y gall athrawon eu defnyddio i ddangos sut mae’r ddarpariaeth AG mewn ysgol yn wahanol neu’n sefyll allan.

 

Cytunwyd i nodi'r adroddiadau hunanarfarnu Addysg Grefyddol a gyflwynwyd a diolch  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Canlyniadau Addysg Grefyddol 2015 pdf eicon PDF 380 KB

Ymgynghorydd Her GwE i adrodd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Ymgynghorydd Her GwE mewn perthynas â chanlyniadau arholiadau Addysg Grefyddol ar gyfer haf 2015 er gwybodaeth i’r CYSAG ac fe’i nodwyd.

 

Atgoffwyd y CYSAG gan yr Ymgynghorydd Her GwE o’r newidiadau arfaethedig i'r cwrs TGAU Astudiaethau Crefyddol. Y bwriad yw cyfuno manyleb gyfredol cwrs A (cynnwys mwy traddodiadol) a’r fanyleb gyfredol ar gyfer cwrs B (cynnwys mwy cyfoes) ac roedd i fod i ddod i rym ym mis Medi, 2016. Dywedodd ei bod yn amlwg na fyddai'r fanyleb newydd ar gyfer y cwrs na’r canllawiau asesu yn cael eu cwblhau mewn pryd i athrawon fedru paratoi'n ddigonol ar gyfer eu gweithredu ym mis Medi, 2016 ac roedd unigolion, sefydliadau ac ymarferwyr sy'n ymwneud ag Addysg Grefyddol oll wedi cyflwyno sylwadau o’r herwydd i CBAC, Cymwysterau Cymru a Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru i ofyn am ohiriad. Dywedodd y gellid cadarnhau’n awr bod cyflwyno'r cwrs newydd wedi cael ei ohirio tan fis Medi, 2017.

 

Diolchodd Mrs Heledd Hearn, Ysgol Uwchradd Bodedern i’r CYSAG am gefnogi’r cais i ohirio cyflwyno'r cwrs TGAU newydd a gofynnodd hefyd am gefnogaeth gan y CYSAG ar gyfer y canlynol -

 

           Pwyso ar CBAC trwy lythyr:

 

           i wneud trefniadau HMS a chyhoeddi canllawiau ar gyfer y cwrs TGAU newydd erbyn tymor yr hydref, 2016 (yn lle gwanwyn 2017).

           i sicrhau bod adnoddau cyfrwng Cymraeg ar gael mewn da bryd ar gyfer y cwrs Lefel A newydd.

 

           Argymell bod Penaethiaid Ysgolion Uwchradd yr Awdurdod yn ystyried rhyddhau Penaethiaid /  Athrawon AG am gyfnod yn nhymor yr haf, 2016 er mwyn caniatáu amser iddynt gyfarfod i drafod  a llunio adnoddau / nodiadau AG ar gyfer y cwrs Lefel A newydd ac yn yr un modd am gyfnod yn nhymor yr haf, 2017 i baratoi ar gyfer y cwrs TGAU newydd.

 

Roedd y CYSAG yn gytûn y dylai gefnogi’r tri cham a awgrymir uchod ac awgrymodd ymhellach bod copi o'r ohebiaeth arfaethedig i'r CBAC yn cael ei anfon hefyd at Ysgrifennydd Cymdeithas CYSAGau Cymru.

 

Cytunwyd i -

 

           Anfon gohebiaeth at CBAC i godi’r materion a amlinellwyd uchod.

           Bod y CYSAG yn argymell bod Penaethiaid ysgolion uwchradd yr Awdurdod yn ystyried rhyddhau Penaethiaid AG i'w galluogi i gyfarfod â'i gilydd ar yr adeg ac i’r pwrpas a gynigiwyd.

 

GWEITHREDU:  Y Swyddog Addysg Gynradd, ar ran Cadeirydd y CYSAG, i anfon llythyr i CBAC gyda chopi i Ysgrifennydd Cymdeithas CYSAGau Cymru mewn perthynas â'r ddau fater penodol hyn.

8.

Cymdeithas CYSAGau Cymru - Cofnodion Cyfarfod 25 Tachwedd pdf eicon PDF 242 KB

·        Cyflwyno cofnodion cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd yng Nglyn Ebwy ar 25 Tachwedd, 2015. (Fersiwn Saesneg)

 

·        Cyflwyno adroddiad y Trysorydd  am 2014/15.

 

·        Cyflwyno gohebiaeth anfonwyd ar ran CYSAG Ynys Môn at Brif Weithredwr CBAC mewn perthynas â TGAU Astudiaethau Crefyddol.(Eitem 8 ar gofnodion Cymdeithas CYSAGau Cymru)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd y dogfennau canlynol ac fe’u nodwyd gan y CYSAG -

 

           Cofnodion cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd yng Nglyn Ebwy ar 25 Tachwedd  2015

 

Nododd y CYSAG y cyflwyniadau a wnaed yn y cyfarfod.

 

           Adroddiad y Trysorydd ar gyfer 2014/15

 

           Gohebiaeth a anfonwyd ar ran CYSAG Ynys Môn i Brif Weithredwr CBAC i fynegi pryder am y newidiadau yn rhaglenni gwaith yr arholiadau Addysg/ AG ar gyfer myfyrwyr yng Nghymru ac amseriad eu cyflwyno.

 

Dim gweithredu pellach

9.

Cyfarfod Nesaf

Dydd Mawrth, 14 Mehefin, 2016 am 2:00 o’r gloch y prynhawn.

Cofnodion:

Nodwyd y cynhelir cyfarfod nesaf y CYSAG am 2:00pm ar ddydd Mawrth, 14 Mehefin 2016.