Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Shirley Cooke 01248 752514 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Canolfan Addysg y Bont

Derbyn cyflwyniad gan Sioned Parry, Ysgol y Bont ar waith AG yr ysgol.

Cofnodion:

Cafwyd cyflwyniad gan Ms Sioned Parry, athrawes yng Nghanolfan Addysg Y Bont, ar ddarpariaeth AG yr ysgol fel rhan o bolisi Addysg Grefyddol yr ysgol. Cyfeiriodd at y dulliau arfer dda a ddefnyddir yn yr ysgol i addysgu disgyblion ag anghenion addysgol arbennig, a’r profiadau AG a dderbyniant, sy’n canolbwyntio ar sgiliau cymdeithasol, moeseg, moesau ac addysgu’r disgyblion am barch.

 

Mae’r dulliau addysgu yn yr ysgol yn cynnwys y canlynol:-

           

  creu gweddi ysgol sy’n cael ei defnyddio ym mhob dosbarth a gwasanaeth, fel bod y plant yn gallu cymryd rhan a’i hadrodd;

  addasu caneuongwneud caneuon yn hwyl i’r plant;

  cyfathrebu gan ddefnyddio symbolau ac arwyddion – Makaton;

  sesiynau gwrando e.e. ‘Llond Llaw’ – plant yn eistedd yn dawel a gwrando ar storïau o’r Beibl;

  paratoi bocsys esgidiau Nadolig ar gyfer plant difreintiedig mewn gwledydd tramor;

  Wythnos Ryngwladoledrych ar grefyddau a’r ffordd o fyw mewn gwledydd eraill;

  ymweld ag adeiladau crefyddol e.e. Cadeirlan Llanelwy - y llynedd bu’r plant yn perfformio a chanu mewn cyngerdd ar gyfer Ysgolion Arbennig Gogledd Cymru; bu’r plant yn ymweld ag Eglwys Sant Cyngar, Llangefni gan wneud prosiect yn y dosbarth ar ffenestr gwydr lliw'r Eglwys;

  dysgu am symbolau a gwyliau crefyddol;

  gwahoddir siaradwyr gwadd i gynnal gwasanaethau.

 

Nodwyd nad yw’r ysgol yn addysgu myfyrio ar hyn o bryd ond mae’n edrych ar wahanol ffyrdd o ymateb i synwyrusrwydd.

 

Diolchodd y CYSAG i Ms Parry am ei chyflwyniad a’r arferion addysgu ardderchog sydd ar waith yn yr ysgol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dylan Rees ei fod yn Lywodraethwr Ysgol yng Nghanolfan Addysg Y Bont.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Dim.

3.

Cofnodion Cyfarfod 12 Gorffennaf, 2016 pdf eicon PDF 188 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y CYSAG a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf, 2016.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol CYSAG a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2016 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

4.

Materion yn Codi

·        Cadarnhau yr anfonwyd llythyr at y CBAC ynghylch costau hyfforddiant athrawon ar gyfer y cwrs maes llafur Safon Uwch AG ac argaeledd deunyddiau cyfrwng Cymraeg ar gyfer y cwrs.

 

·        Rhoi diweddariad ar gynnydd/sefyllfa Ysgol Pencarnsiog.

 

·        Rhoi diweddariad ynghylch yr ysgolion mae Aelodau’r CYSAG wedi ymweld â nhw fel rhan o’r arfer o arsylwi ar gyfnodau addoli ar y cyd ynghyd â’r ysgolion hynny sydd wedi rhoi gwahoddiad am y tymor i ddod.

 

 

 

 

 

 

Cofnodion:

Adroddodd y Cadeirydd bod cyfnod gwasanaeth Mr Rheinallt Thomas fel cynrychiolydd ar y Pwyllgor wedi dod i ben ar ôl nifer o flynyddoedd. Mae Mr Thomas wedi dweud ei fod yn dymuno aros mewn cysylltiad â’r CYSAG.

 

Atgoffodd y Cadeirydd y CYSAG bod sedd wag ar y Pwyllgor ar gyfer aelod cyfetholedig. Rhoddwyd cynnig ymlaen i wahodd Mr Thomas i weithredu fel Aelod cyfetholedig o’r CYSAG. Byddai’r broses yn golygu awgrymu i Swyddogion Cyngor yr Ysgolion Sul yn Ynys Môn eu bod yn apwyntio Mr Thomas fel eu cynrychiolydd.

 

GWEITHREDU: Y Swyddog Addysg Cynradd i:-

 

  Ysgrifennu at Mr Rheinallt Thomas yn ei wahodd i wasanaethu fel Aelod cyfetholedig o’r CYSAG; ac os yw Mr Thomas a Swyddogion Cyngor yr Ysgolion Sul yn Ynys Môn yn cytuno â’r cynnig,

  Gwahodd Swyddogion i ffurfioli’r apwyntiad.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Addysg Cynradd bod llythyr wedi ei anfon at CBAC ym mis Gorffennaf yn codi pryderon y CYSAG mewn perthynas â chost hyfforddiant i athrawon ar faes llafur newydd y cwrs Lefel “A” AG, a diffyg deunyddiau cyfrwng Cymraeg ar gyfer y cwrs. Adroddodd y Swyddog nad yw CBAC wedi ymateb i’r llythyr hyd yma.

 

Adroddodd Mrs Heledd Hearn, Ysgol Uwchradd Bodedern, y cynhelir hyfforddiant ar gyfer maes llafur y cwrs TGAU newydd ym mis Chwefror 2017 a bydd y ddarpariaeth yn ddigost. Dywedodd bod cwricwlwm LefelA” AG bron yn barod yn Saesneg a bydd y Gymraeg yn dilyn yn fuan. Nodwyd bod CBAC wedi gwrando er nad ydynt wedi ymateb i’r CYSAG.

 

Arolygiadau Estyn – Gwanwyn 2016

 

Cafwyd diweddariad gan yr Ymgynghorydd Her (GwE) ar gynnydd yn Ysgol Pencarnisiog, sy’n cael ei monitro gan Estyn ar hyn o bryd. Nodwyd bod yr ysgol, yn dilyn ymweliad yr Ymgynghorydd Her â’r ysgol, wedi ymateb yn syth i sylwadau Estyn, yn arbennig yn y Cyfnod Sylfaen. Rhoddwyd deunyddiau enghreifftiol i’r Pennaeth er mwyn gwella arferion addysgu yn yr ysgol a bydd yr Ymgynghorydd Her (GwE) yn adrodd yn fuan ar y cynnydd.

 

Adroddodd yr Ymgynghorydd Her ei bod yn hyderus bod yr ysgol yn ymateb yn dda i argymhellion Estyn, a bydd yn dychwelyd i adolygu’r ddarpariaeth AG yn yr ysgol yn ystod tymor y gwanwyn, cyn i Estyn ail-ymweld.

 

Hunan Arfarniadau Ysgolion

 

Adroddodd y Swyddog Addysg Cynradd ei fod wedi cysylltu ag ysgolion ym mis Medi i ofyn iddynt ystyried gwahodd Aelodau o’r CYSAG i arsylwi cyfnodau addoli ar y cyd. Er bod rhai ysgolion wedi ymateb yn gadarnhaol i’r cais, nodwyd nad oedd Aelodau’r CYSAG wedi mynychu unrhyw sesiynau pellach ac nad oedd unrhyw wahoddiadau wedi eu derbyn ar gyfer gweddill y tymor. Cynigiodd y Cynghorydd Gwilym Jones ymweld ag Ysgol Pencarnisiog i arsylwi ar addoli ar y cyd yn yr ysgol.

 

Gweithredu: Y Swyddog Addysg Cynradd i gysylltu â Phennaeth Ysgol Pencarnisiog i drefnu ymweliad gan y Cynghorydd Gwilym Jones i  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Hunan Arfarniadau Ysgol pdf eicon PDF 227 KB

Cyflwyno adroddiadau  hunan arfarnu AG yr ysgolion canlynol :

 

·        Ysgol Gynradd Biwmares

·        Ysgol Gynradd Brynsiencyn

·        Ysgol Uwchradd Bodedern ac

·        Ysgol Parch. Thomas Ellis

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd hunan arfarniadau Addysg Grefyddol Ysgol Biwmares, Ysgol Brynsiencyn, Ysgol Parch Thomas Ellis ac Ysgol Uwchradd Bodedern i’w hystyried gan y CYSAG.

 

Adroddodd yr Ymgynghorydd Her (GwE) y byddai’n dymuno cael mwy o wybodaeth am gynnwys y gwersi; y math o drafodaethau a gynhelir yn yr ysgolion; a’r unedau dysgu a ddefnyddir gan yr ysgolion. Dywedodd ei bod wedi anfon canllawiau newydd i ysgolion, gan awgrymu eu bod yn rhoi argraff fwy penodol o’r hyn sy’n digwydd yn y gwersi Addysg Grefyddol fel rhan o’r naratif.

 

Nodwyd yr uchod gan Aelodau’r CYSAG.

 

6.

Adroddiad Blynyddol CYSAG Ynys Môn 2015/16 pdf eicon PDF 521 KB

Cyflwyno Adroddiad Blynyddol drafft CYSAG Ynys Môn am 2015/16.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Blynyddol drafft CYSAG Ynys Môn ar gyfer 2015/16.

 

Adroddodd yr Ymgynghorydd Her (GwE) bod Adroddiad Blynyddol y CYSAG yn seiliedig ar waith a wnaethpwyd yn 2015/16. Cyfeirioddat ei diweddariad ar waith GwE o dan eitem 7 yng nghofnodion y cyfarfod blaenorol. Nodwyd bod yr adroddiad eleni, yn wahanol i Adroddiadau Blynyddol yn y gorffennol, yn cynnwys nifer o adroddiadau hunan arfarnu ysgolion. Yn 2014 ceisiodd Cyngor Sir Ynys Môn annog pob ysgol i gyflwyno adroddiad hunan arfarnu ac ysgrifennodd y Clerc at bob ysgol gynradd ac uwchradd yn gofyn iddynt gyflwyno adroddiad hunan arfarnu i CYSAG Ynys Môn. Ymatebodd 12 ysgol gan gyflwyno copïau o’u hadroddiadau ar gyfer 2015/16. Mae sawl CYSAG arall wedi mabwysiadu patrwm CYSAG Ynys Môn a chafodd mwy o adroddiadau eu sgriwtineiddio y llynedd.

 

Nodwyd bod cynnydd yn araf o ran cynyddu nifer yr ysgolion sy’n cyflwyno adroddiadau hunan arfarnu. Mae Estyn wedi pwysleisio nad yw Cyrff Llywodraethu’n gwneud digon i herio ysgolion o ran eu perfformiad mewn Addysg Grefyddol. Holodd y CYSAG a oedd angen cysylltu â Chadeiryddion y Cyrff Llywodraethu?

 

Awgrymodd y Swyddog Addysg Cynradd bod angen atgoffa ysgolion o bwysigrwydd cwblhau adroddiadau hunan arfarnu. Nodwyd mai 26 adroddiad hunan arfarnu a dderbyniwyd yn ystod y tair blynedd diwethaf, gyda 27 arall yn sefyll.

 

Cyfeiriodd yr Ymgynghorydd Her at yr adran yn yr adroddiad sy’n gofyn am ymateb yr Awdurdod i waith y CYSAG yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Y llynedd, cynhwyswyd arfarniad o flaenoriaethau CYSAG yn y Cynllun Gweithredu a mabwysiadwyd y Cynllun Gweithredu diwygiedig yng nghyfarfod diwethaf y CYSAG. Trafododd Aelodau’r CYSAG a oedd angen arfarnu gwaith y llynedd ynteu ganiatáu mwy o amser i’r grŵp sefydlu ac aeddfedu.

 

Adroddodd yr Ymgynghorydd Her bod cais wedi’i wneud i ysgolion roi sylw i’w cryfderau a’u gwendidau. Mae rhai ysgolion wedi cydnabod bod lle i wella. Nodwyd nad yw’r CYSAG yn ail-ymweld â’r materion gwella hyn ar hyn o bryd er mwyn cadarnhau bod gwelliant wedi digwydd.

 

Gweithredu:

 

  Cytunodd y CYSAG i dderbyn yr Adroddiad Blynyddol;

  Cytunodd y CYSAG i adolygu ei Gynllun Gweithredu bob dwy flynedd, gyda’r adolygiad nesaf yn 2016/17.

  Y Swyddog Addysg Cynradd i ysgrifennu at y 27 ysgol sydd heb gyflwyno eu hadroddiadau hunan arfarnu, gan ofyn iddynt eu cwblhau cyn gynted â phosib.

7.

Diweddariad gan yr Ymgynghorydd Her GwE

Derbyn diweddariad gan Ymgynghorydd Her GwE.

Cofnodion:

Cafwyd diweddariad gan yr Ymgynghorydd Her (GwE) ar ei gwaith yng Ngwynedd ac Ynys Môn fel aelod o’r Panel Ymgynghorol Cenedlaethol ar Addysg Grefyddol, sy’n cynnig cefnogaeth i GYSAGau ar draws Cymru. Mae’r Panel wedi cyfarfod i geisio llunio canllawiau i ysgolion a chynorthwyo ysgolion i baratoi ar gyfer cwricwlwm sydd ychydig yn wahanol. Enw’r ddogfen, sydd ar ffurf drafft ar hyn o bryd, yw “Beth sy’n gwneud AG da?”, ac mae’n cynnwys 10 pwynt bwled. Mae’r ffurf yn syml ar gyfer y rheini nad ydynt yn arbenigwyr AG, ac mae’n gofyn cyfres o gwestiynau y gall athrawon eu defnyddio pan fyddant yn cyfarfod i drafod themâu. Mae’n edrych hefyd ar y cyfraniad y gall AG ei wneud o ran datblygu llythrennedd, rhifedd, darllen a sgiliau TG. Treuliodd y Panel beth amser yn ceisio dehongli sut fyddai’r canllawiau’n gweithio o’u selio ar thema ‘Y Byd Naturiolar gyfer disgyblion yn y Cyfnod Sylfaen, a pha weithgareddau fyddai’n adlewyrchu egwyddorion AG. Treuliwyd peth amser hefyd yn modelu canllawiau ar gyfer CA2 ond ni chafodd hyn ei rannu gydag aelodau’r Panel. Rhaid cymryd i ystyriaeth hefyd bod Donaldson, yn ei adroddiadDyfodol Llwyddiannuswedi pwysleisio bod angen i’r plant eu hunain gael llais yn y modd y datblygir cynlluniau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag effaith Donaldson mewn perthynas ag AG, a pharhad y trefniadau o’r cynradd i’r uwchradd, adroddodd yr Ymgynghorydd Her bod y trefniadau presennol ar gyfer maes llafur AG sy’n cael ei benderfynu’n lleol yn parhau. Mae’r Athro Donaldson wedi datgan yn gryf y dylai AG fod yn rhan o’r cwricwlwm a chafodd hynny ei groesawu, ond byddai newid trefniadau o ran gweinyddu AG yn lleol yn gofyn am newid deddfwriaeth. Tra bod parhad yn cael ei adlewyrchu yn y cynlluniau lleol, nid ydynt yn dangos yn ddigon clir pa gyfraniad a wnaeth y plant wrth greu’r cynlluniau hynny. Efallai y byddai’n amserol i’r CYSAG ystyried sut i gasglu barn plant ac athrawon am yr hyn y dymunent ei gael gan y CYSAG o safbwynt AG.

 

Nodwyd cynnwys yr uchod gan Aelodau’r CYSAG.

8.

Cymdeithas CYSAGau Cymru pdf eicon PDF 280 KB

Cyflwyno cofnodion drafft cyfarfod y Gymdeithas a gynhaliwyd  ar 23 Mehefin, 2016 yn Rhyl, Sir Ddinbych. (Fersiwn Saesneg)

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd a nodwyd cofnodion drafft cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2016 yn Rhyl, Sir Ddinbych.

 

Adroddodd yr Ymgynghorydd Her (GwE) mai ychydig iawn fynychodd cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru yn Rhyl, gyda sylwadau gan grwpiau bach yn hytrach nag un llais ar y cyd.

 

Cyfeiriwyd at ddogfen Gill Vaisey, “Canllawiau ar Reoli Hawl Tynnu’n Ôl o Addysg Grefyddol”. Nodwyd bod y canllawiau yn canolbwyntio ar gynorthwyo Penaethiaid i reoli tynnu’n ôl o AG, a bydd y ddogfen ar gael i ysgolion.

 

Nododd y Pwyllgor gofnodion drafft cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru.

9.

Cyfarfod Nesaf

Nodi bydd cyfarfod nesaf y CYSAG yn cael ei gynnal am 2:00 y.p., ddydd Mawrth, 14 Chwefror, 2017.

Cofnodion:

Nodwyd bod cyfarfod nesaf y CYSAG wedi ei drefnu ar gyfer 2.00 o’r gloch ar ddydd Mawrth, 14 Chwefror, 2017.