Rhaglen a chofnodion

Cyngor Ymgynghorol Sefydlog at Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CYS) - Dydd Mawrth, 14eg Chwefror, 2017 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Croeso a Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Cyflwyniad gan Ysgol Llanfawr

Derbyn cyflwyniad gan Ysgol Llanfawr are eu gwaith yn y maes Addysg Grefyddol.

Cofnodion:

Oherwydd absenoldeb anorfod cynrychiolydd o Ysgol Llanfawr, Caergybi, fe ohiriwyd yr eitem.

3.

Cofnodion Cyfarfod 11 Hydref, 2016 pdf eicon PDF 165 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y CYSAG a gynhaliwyd ar 11 Hydref, 2016.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y CYSAG a gynhaliwyd ar 11 Hydref, 2016 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

4.

Materion yn Codi

Cynrchiolaeth Cyngor Ysgolion Sul.

 

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod Mr Rheinallt Thomas wedi derbyn y rôl cynrychiolydd y Cyngor Ysgolion Sul ar y CYSAG.

 

Penderfynodd y CYSAG ffurfioli penodiad Mr Thomas fel aelod cyfetholedig o'r Pwyllgor.

 

O ran addoli ar y cyd mewn ysgolion, dywedodd y Cynghorydd Gwilym O Jones nad oedd wedi ymweld eto ag Ysgol Pencarnisiog i arsylwi’r addoli ar y cyd, ac y byddai'n cysylltu â Phennaeth yr ysgol maes o law i drefnu ymweliad.

 

Nodwyd y cafwyd ymateb cadarnhaol yn dilyn cais i 27 o ysgolion gyflwyno eu hadroddiadau hunanarfarnu Addysg Grefyddol, oherwydd bod rhagor o adroddiadau wedi dod i law.

5.

Adroddiad Estyn - Hydref 2016 pdf eicon PDF 110 KB

Cyflwyno gwybodaeth o adroddiadau Arolwg Estyn, Hydref, 2016 mewn perthynas â’r ysgolion canlynol:-

 

  Ysgol Gynradd Bodedern

  Ysgol Llanfawr

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r CYSAG wybodaeth o adroddiadau arolygu Estyn a gynhaliwyd yn Ysgol Gynradd Bodedern ac Ysgol Llanfawr ym mis Hydref, 2016.

 

Dywedodd yr Ymgynghorydd Her GwE mai prin iawn yw’r achosion lle mae Estyn yn rhoi enghreifftiau o sylwedd y gwaith addysg grefyddol a wneir mewn ysgolion. Fodd bynnag, nodwyd bod adroddiad Estyn ar Ysgol Llanfawr yn cyfeirio at enghreifftiau penodol o'r gwaith a wnaed yn y dosbarth h.y. disgyblion yn astudio Diwali; disgyblion hŷn yn ystyried a yw cymdeithas angen arweinwyr ai peidio.

 

Cytunwyd i nodi'r wybodaeth.

6.

Hunan Arfarniadau Ysgolion pdf eicon PDF 199 KB

Cyflwyno adroddiadau Hunan Arfarnu AG yr ysgolion a nodir:-

 

  Ysgol David Hughes

  Ysgol Llanfawr

  Ysgol Gymuned Rhosybol

  Ysgol Cylch y Garn

  Ysgol Caergeiliog

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Ysgol David Hughes ar addoli ar y cyd. Cyflwynwydadroddiadau hunanarfarnu gan Ysgol Llanfawr, Ysgol Gymuned Rhosybol, Ysgol Cylch y Garn ac Ysgol Caergeiliog i’w hystyried gan y CYSAG.

 

Cyfeiriodd yr Ymgynghorydd Her GwE at addoli ar y cyd yn Ysgol David Hughes, sy'n dilyn traddodiad Cristnogol, ond sydd hefyd yn agored i gynnwys crefyddau eraill. Perchir hawliau rhieni os ydynt yn dymuno eithrio eu plant o sesiynau addoli ar y cyd yn yr ysgol.

 

Nodwyd nad oes unrhyw ddisgyblion wedi tynnu allan o’r addoli hyd yn hyn, ac mae pob dysgwr yn teimlo'n gyfforddus yn mynychu’r gwasanaeth er gwaethaf yr amrywiaeth crefyddol yn yr ysgol. Teimlir bod yr agwedd gynhwysol hon yn gryfder yn yr ysgol ac y dylid ei llongyfarch.

 

Nodwyd y pwyntiau canlynol:-

 

  Nododd tair allan o bedair ysgol fod safonau, darpariaeth ac addoli ar y cyd yn dda, tra bod un ysgol wedi dweud bod ei chanlyniadau’n ddigonol.

  Mae’r ieithwedd wedi gwella mewn perthynas â sgiliau disgyblion.

  Mae’r canllawiau a gylchredwyd i’r ysgolion yn awgrymu bod ysgolion yn darparu gwybodaeth am natur a sylwedd y gwersi AG.

  Mae rhai ysgolion yn defnyddio meddalwedd asesu INCERTS i fonitro cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion yn y maes addysg grefyddol. Fodd bynnag, mynegwyd pryderon bod rhai o’r ysgolion sy'n defnyddio’r feddalwedd hon yn defnyddio’r lefelau disgrifio anghywir fel opsiynau

  Croesawyd gwahodd aelodau o’r gymuned / Capeli / Eglwysi i gymryd rhan mewn sesiynau addoli ar y cyd yn yr ysgolion.

  Cafwyd canlyniadau cadarnhaol yn Ysgol Rhosybol. Mae’r ysgol wedi gweithredu ar argymhellion Estyn a gwella’r ddarpariaeth yn y Cyfnod Sylfaen.

  Amlygwyd llwyddiant y cydweithio rhwng athrawon Ysgol Cylch y Garn ac Ysgol Rhyd y Llan wrth baratoi ar gyfer yr ysgol newydd.

  Nodwyd fod hunanarfarniad Ysgol Caergeiliog o safonau mewn addysg grefyddol yn rhoi pwyslais arbennig ar 'lais y plentyn'.

 

Gweithredu:

 

Y Swyddog Addysg Gynradd i atgoffa ysgolion i ddefnyddio'r opsiynau cywir wrth ddefnyddio meddalwedd cyfrifiadurol INCERTS.

 

Cytunwyd i nodi'r wybodaeth.

 

7.

Y Diweddaraf gan yr Ymgynghorydd Her GwE

Derbyn diweddariad gan Ymgynghorydd Her GwE (Miss Bethan James) ar y canlynol:-

 

  Safonau Addysg Grefyddol

  Adnoddau Addysg Grefyddol

  Addysg Grefyddol a’r Cwricwlwm am Oes

  Astudiaethau Crefyddol a TGAU/Safon Uwch

  Cynllun Gweithredu CYSAG Ynys Môn

Cofnodion:

Rhoddodd yr Ymgynghorydd Her GwE ddiweddariad ar y canlynol: -

 

Safonau mewn Addysg Grefyddol

 

Cyfeiriwyd at ganlyniadau arholiadau TGAU, Lefel Uwch a Lefel Uwch Gyfrannol mewn Astudiaethau Crefyddol yn y sector uwchradd yn Ynys Môn yn Haf, 2016, fel a ganlyn: -

 

TGAU

 

  128 o ymgeiswyr o 5 ysgol ym Môn;

  Dyfarnwyd gradd A * / A i 45.3% o ymgeiswyr am yr ail flwyddyn yn olynol;

  Enillodd 84.3% o ymgeiswyr gymhwyster Lefel 2 (A *-C), sef cynnydd o  +2.3% ers 2015;

  Methodd 2 ymgeisydd ag ennill cymhwyster Lefel 1 (1.6%);

  Mae merched yn fwy tebygol o ddewis addysg grefyddol fel pwnc na bechgyn (B: 34: G: 94);

  Mae'r gwahaniaeth rhwng perfformiad bechgyn a merched ar y lefelau uwch yn fychan iawn A * / A (1.6%), L2 (1.7%). Nid yw perfformiad bechgyn mewn Astudiaethau Crefyddol cystal â pherfformiad merched yn L1 (-5.9%) am y tro cyntaf mewn 6 blynedd;

  Dim ond 4 disgybl a safodd yr arholiad cwrs byr TGAU yn Ynys Môn.

 

Roedd Ynys Môn wedi perfformio'n dda mewn arholiadau TGAU o gymharu â'r 6 awdurdod arall yng Ngogledd Cymru.

 

Canlyniadau Safon Uwch

 

  54 o ymgeiswyr o 4 ysgol yn Ynys Môn;

  Dyfarnwyd gradd A * / A i 13.0% o ymgeiswyr

  Enillodd 74.1% o ymgeiswyr radd A-C.

 

Roedd canlyniadau a pherfformiad Safon Uwch yn Ynys Môn yn debyg i weddill Gogledd Cymru.

 

Canlyniadau Safon Uwch Gyfrannol

 

  11 o ymgeiswyr o 5 ysgol yn Ynys Môn;

  Dyfarnwyd gradd A * / A i 9.1% o ymgeiswyr

  Enillodd 36.4% o ymgeiswyr gymhwyster A-C.

 

Y ganran o ddisgyblion a enillodd raddau A-E yng Ngogledd Cymru oedd 78.9%, sy'n codi cwestiwn ynghylch a yw disgyblion yn derbyn yr arweiniad cywir cyn dychwelyd i'r ysgol i gymryd y cwrs Uwch Gyfrannol, neu ynghylch eu haddasrwydd ar gyfer y cwrs.

 

Dywedodd yr Ymgynghorydd Her GwE fod Cynnal yn datblygu e-gylchgrawn Addysg Grefyddol ar hyn o bryd ar gyfer plant yng Nghyfnod Allweddol 3 trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r erthyglau’n cael eu paratoi bob tymor gan dri awdur o gefndir AG. Mae Miss Bethan James a Mrs Mary Parry, Ymgynghorydd Addysg Grefyddol yng Nghaerfyrddin, yn ymgynghorwyr allanol. Thema'r rhifyn cyntaf, a lansiwyd yn yr hydref 2016, oedd 'Rhoi Organau', a thema’r ail rifyn yn y  gwanwyn fydd 'Ffoaduriaid'.

 

Addysg Grefyddol a'r Cwricwlwm Gydol Oes

 

Dywedodd yr Ymgynghorydd Her GwE fod y Panel Cenedlaethol ar gyfer Addysg Grefyddol (Cymru) (PYCAG) yn gweithio ar ddiffinio 'beth yw Addysg Grefyddol  dda?' Lluniwyd cyfres o ddatganiadau fel rhan o'r ddogfen waith ddrafft i baratoi ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol newydd. Nodwyd bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion yr Athro Donaldson, 'Dyfodol Llwyddiannus'. Mae'r Cwricwlwm Cenedlaethol cyfredol  yn dod i ben, a bydd yn cael effaith ar y Maes Llafur Cytûn yn Ynys Môn. Adolygir  y Maes Llafur bob pum mlynedd,  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cyfansoddiad y Pwyllgor pdf eicon PDF 495 KB

Derbyn sylwadau’r Pwyllgor ar Addysg Grefyddol ac  addoli ar y cyd mewn ysgolion.

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem uchod tan gyfarfod nesaf y CYSAG.

 

Nododd y CYSAG Gyfansoddiad y Pwyllgor er gwybodaeth.

 

Gweithredu:

 

Y Swyddog Addysg Gynradd i gadarnhau a fydd Cyfansoddiad y CYSAG yn cael ei gynnwys ar y rhaglen ar gyfer y cyfarfod nesaf.

9.

Cymdeithas CYSAGau Cymru pdf eicon PDF 702 KB

  Cyflwyno cofnodion drafft  y Gymdeithas a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin ar 18 Tachwedd, 2016.

 

  Ethol i’r Pwyllgor Gwaith.

 

  Nodi apwyntiad Paula Webber yn Ysgrifenyddes newydd y Gymdeithas.

 

  Nodi y cynhelir cyfarfod nesaf y Gymdeithas yn Brynbuga, Sir Fynwy ar

3 Mawrth, 2017.

Cofnodion:

Cyfeiriodd yr Ymgynghorydd Her GwE at gofnodion cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin ar 18 Tachwedd  2016. Nodwyd y prif bwyntiau canlynol: -

 

  Rhoddodd Pennaeth Ysgol Gymraeg Bro Myrddin gyflwyniad ar addoli ar y cyd yn yr ysgol uwchradd. ‘Roedd yr ysgol wedi derbyn cydnabyddiaeth gan Estyn am ansawdd ei darpariaeth addoli ar y cyd.

 

  Cyfeiriwyd at y feddalwedd asesu INCERTS. Mae ysgolion yn defnyddio'r disgrifyddion lefel o’r enw 'gwreiddiol' trwy gamgymeriad (fel y datblygwyd ar gyfer ysgolion Catholig beth amser yn ôl) yn hytrach na'r disgrifiadau o'r enw 'enghreifftiol'. Daw'r disgrifyddion lefel 'enghreifftiol' o'r Fframwaith Enghreifftiol Cenedlaethol ar gyfer Addysg Grefyddol yng Nghymru ac maent wedi cael eu mabwysiadu neu eu haddasu gan bob un o'r 22 CYSAG yng Nghymru.

 

  Mynegwyd pryder bod Addysg Grefyddol statudol o fewn cwricwlwm yr ysgolion yn cael ei gwasgu. Mae rhai ysgolion yn credu’n anghywir bod uned AG o fewn Bagloriaeth Cymru yn ddigon i gwrdd â’r gofynion statudol, er nad yw hynny'n wir.

 

  Rhoddwyd cyflwyniad ar sut mae ysgolion yn gweithio gyda'i gilydd wrth gyflwyno'r fanyleb newydd ar gyfer AG, yn debyg i'r gwaith a wneir gan Mrs Mefys Edwards yn y chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru.

 

Nododd y Pwyllgor gofnodion drafft Cymdeithas CYSAGau Cymru.

10.

Cyfarfod Nesaf

Nodi bydd cyfarfod nesaf y CYSAG yn cael ei gynnal y.p. ddydd Mawrth, 13 Gorffennaf, 2017.

Cofnodion:

Nododd y CYSAG fod cyfarfod nesaf y Pwyllgor wedi ei drefnu ar gyfer 2.00pm ar ddydd Mawrth, 13 Mehefin 2017.