Rhaglen a chofnodion

Cyngor Ymgynghorol Sefydlog at Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CYS) - Dydd Mawrth, 12fed Gorffennaf, 2016 2.15 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cyflwyniad gan Ysgol y Borth

Derbyn cyflwyniad ynglyn â’r Cyfnod Sylfaen.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Mr Alan Macdonald, Pennaeth Ysgol y Borth, i’r cyfarfod a gwahoddwyd ef i siarad â’r CYSAG am waith Addysg Grefyddol yr ysgol yn y Cyfnod Sylfaen.

 

Dosbarthodd Mr Alan Macdonald enghreifftiau o waith Addysg Grefyddol cyfnod Sylfaen plant yr ysgol yn ogystal â chynllun gwaith er mwyn i’r aelodau gael eu gweld. Eglurodd fod Addysg Grefyddol yn rhan hanfodol o’r Cwricwlwm wrth i elfennau’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd ymgysylltu mewn ffordd groes gwricwlaidd, mae’r ysgol yn ceisio gwau’r elfennau hyn i mewn i’w gynlluniau gwaith. Nid yw hon yn her mor fawr ac mae’n ymddangos gan fod Llythrennedd yn rhan o holl weithgareddau a gwaith yr ysgol.    

 

Darparwyd aelodau hefyd â chopi o raglen yr ysgol ar gyfer sesiynau addoli ar y cyd. Mae’r ysgol yn cynnal sesiwn addoli ar y cyd ddyddiol gyda straeon o’r Beibl a thema grefyddol wedi’u mapio allan mewn modd clir a phwrpasol ymlaen llaw. Arweinir y sesiynau hyn gan athrawon yr ysgol yn eu tro un ai draws eu cyfnod allweddol o’r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 2 neu o Flwyddyn 2 i Flwyddyn 6. Cynhelir sesiynau addoli ar y cyd o fewn yr ystafell ddosbarth hefyd. Mae’r disgyblion yn cymryd llawer o ddiddordeb yn y straeon a gyflwynir iddynt a gwneir ymdrech benodol i ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau cyflwyno rhag i’r sesiynau ddod yn ailadroddus. Bydd yr ysgol hefyd yn cymryd rhan yn y prosiect Llyfr Agored o fis Medi ymlaen lle bydd grŵp o unigolion penodol o’r Eglwys leol yn dod i’r ysgol i gyflwyno agweddau o addysg grefyddol drwy elfennau o ddrama. 

 

Cyflwynodd Mr Macdonald gopi o Gynllun Gwaith Blynyddoedd 1 a 2 a dosbarthwyd enghreifftiau o waith disgyblion ar ffurf llyfrau a lluniau er mwyn i Aelodau’r CYSAG gael eu gweld. Fe’u hysbyswyd y gwneir llawer o’r gwaith yn y Cyfnod Sylfaen drwy chwarae a llawer o waith trafod ac fe welir hyn drwy luniau ar wefan yr ysgol a’u cyfrif Twitter. Yn aml iawn gyda phlant, tystiolaeth ar lafar a geir yn y Cyfnod Sylfaen. Gellir hefyd gwerthuso llwyddiant y gwaith drwy edrych ar y canran o blant a gyflawnodd y lefel ddisgwyliedig mewn addysg bersonol a chymdeithasol; mae’r elfen hon wedi datblygu yn yr ysgol dros y blynyddoedd diwethaf ac mae Addysg Grefyddol yn rhan hanfodol o hyn yn y Cyfnod Sylfaen. 

 

Diolchodd aelodau’r CYSAG i Mr Alan Macdonald am roi o’i amser er mwyn mynychu’r cyfarfod a rhoddwyd cyfle iddynt ei holi am unrhyw agwedd o’r ddarpariaeth AG yn y cyfnod sylfaen yr oeddent angen unrhyw eglurhad arno. O’r deunyddiau a gyflwynwyd iddynt, roedd yr aelodau yn cydnabod bod y gwaith yn heriol ac yn ysgogi’r plant. 

 

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

3.

Cofnodion Cyfarfod 23 Chwefror, 2016 pdf eicon PDF 175 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y CYSAG a gynhaliwyd ar 23 Chwefror, 2016.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r CYSAG a gynhaliwyd ar 23 Chwefror, 2016 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.  

4.

Materion yn Codi pdf eicon PDF 221 KB

·        Cyflwyno Cynllun Gweithredu y CYSAG wedi’i ddiwygio.

 

·        Cyflwyno copi o ohebiaeth anfonwyd at CBAC ynglyn â darparu trefniadau HMS a chyfarwyddyd ynglyn â’r cwrs  TGAU newydd ynghyd ag argaeledd adnoddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer y cwrs Lefel A newydd. (Copi i ddilyn)

 

 

Cofnodion:

           Cadarnhaodd y Swyddog Addysg Gynradd ei fod wedi derbyn ymateb gan Esgobaeth Bangor i’r ohebiaeth a anfonwyd ar gais y CYSAG mewn perthynas â defnydd yr Eglwys o derminoleg yn ei adroddiad arolwg Adran 50 mewn perthynas ag Ysgol Llangaffo. Roedd Cyfarwyddwr Addysg Eglwysig Esgobaeth Bangor wedi egluro bod gan yr Eglwys yng Nghymru ei fframwaith ei hun ar gyfer arolygon a gynhaliwyd o dan Adran 50 o Ddeddf Addysg 2005 a’i fod yn gosod y disgwyliadau a’r broses mewn perthynas â chynnal yr arolygon hynny. 

 

           Rhoes yr Ymgynghorydd Her GwE gopi diwygiedig i’r CYSAG o’r Cynllun Gweithredu yn seiliedig ar ei Adroddiad Blynyddol 2014/15 a’r materion sydd wedi codi yn ystod 2015/16 a dywedodd y byddai’n mynd i fwy o fanylion am gynnwys y Cynllun o dan eitem 7 ar yr agenda lle byddai’n rhoi diweddariad i CYSAG am hyn ac unrhyw ddatblygiadau perthnasol eraill. 

 

           O ran darpariaeth a chynllunio AG yn Ysgol Garreglefn, rhywbeth yr oedd CYSAG wedi gofyn i’r Ymgynghorydd Her GwE gadw golwg arno, dywedodd y Swyddog ei bod wedi ymweld ag Ysgol Garreglefn er mwyn craffu ar y ddarpariaeth Addysg Grefyddol a’i bod wedi gwneud argymhellion yn dilyn hynny. Gan fod newidiadau staffio wedi digwydd yn Ysgol Garreglefn roedd hi’n bwriadu ail ymweld â’r ddarpariaeth Addysg Grefyddol yn yr ysgol.  

 

           Cadarnhaodd y Cadeirydd bod Pennaeth Ysgol y Bont wedi derbyn y gwahoddiad i fynychu cyfarfod CYSAG er mwyn rhoi cyflwyniad ar ddarpariaeth AG yr ysgol ond bod dal angen cadarnhau manylion ei bresenoldeb. 

 

           Cadarnhaodd y Swyddog Addysg Gynradd bod y llythyr yr oedd CYSAG wedi gwneud cais am ei anfon i CBAC mewn perthynas â’r ddarpariaeth o drefniadau HMS ar gyfer y cwrs TGAU newydd ac argaeledd adnoddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer y Cwrs Safon Uwch newydd wedi ei ddrafftio ond efallai y bydd angen ei addasu. 

 

Hysbysodd Mrs Mefys Edwards y CYSAG fod y maes llafur Safon Uwch newydd yn dechrau ym mis Medi, 2016 a’i bod wedi dod i ddeall nad yw’r deunyddiau ar gyfer y fanyleb newydd yn debygol o fod yn barod tan ddiwedd mis hydref ac nad oes unrhyw gadarnhad o argaeledd deunyddiau cyfrwng Cymraeg. Mae cyrsiau hyfforddi athrawon ar gyfer y cyrsiau maes llafur TGAU (sy’n dechrau ym mis Medi, 2017) a Safon Uwch bellach ar gael ond mae mynychu ‘r hyfforddiant Safon Uwch ym mis Hydref yn golygu cost o tua £200 ar gyfer un aelod o staff ac yn ymarferol mae’n golygu y bydd angen i’r ysgol dalu £250 pellach er mwyn cyflogi athro/athrawes llanw. Mae pryder na fydd nifer o ysgolion yn gallu fforddio hyn. Nododd Mrs Mefys Edwards hefyd fod GwE wedi cyflwyno system o “Ymarferwyr Arweiniolsy’n golygu y bydd 3 Ymarferydd Arweiniol ar gyfer pob pwnc - un ar gyfer pob Hyb yng Ngwynedd/Môn, Conwy/Dinbych ac Y Fflint/Wrecsam. Yn ychwanegol at hynny, mae un o’r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Arolygiadau Estyn pdf eicon PDF 110 KB

Cyflwyno gwybodaeth yn dilyn arolygiadau Estyn.

Cofnodion:

Cyflwynwyd y wybodaeth berthnasol o’r arolygon Estyn a wnaed yn  Ysgol y Ffridd ac Ysgol Pencarnisiog ar gyfer ystyriaeth CYSAG. 

 

Cadarnhaodd y Swyddog Addysg Gynradd nad oedd unrhyw faterion yn codi mewn perthynas ag Ysgol y Ffridd. Mae Ysgol Pencarnisiog ar hyn o bryd yn destun monitro gan Estyn ac mae’r Arolygwr wedi argymell yn yr adroddiad arolwg y dylai’r ysgol sicrhau bod y cynlluniau gwaith yn ymateb yn llawn i anghenion y Cwricwlwm Cenedlaethol a’r maes llafur ar gyfer Addysg Grefyddol.

 

Dywedodd yr Ymgynghorydd Her GwE ei bod wedi ymweld af Ysgol Pencarnisiog yn ddiweddar er mwyn craffu ar lyfrau a chynlluniau gwaith disgyblion. Gallai gadarnhau bod digon o dystiolaeth o Addysg Grefyddol yn llyfrau gwaith y plant yn y Cyfnod Sylfaen a thystiolaeth o Addysg Grefyddol mewn llyfrau gwaith CA2. Yr elfen sydd angen ei chryfhau yw dilyniant a chydlyniant cynllunio. I’r diben hwn, mae Pennaeth Ysgol Pencarnisiog yn ei rôl fel cydlynydd wedi ymweld ag ysgol arall er mwyn cael syniadau am arferion ac er mwyn gweithio ag athro/athrawes arall er mwyn ceisio mapio AG allan  ar draws Ysgol Pencarnisiog. Bydd gan yr ysgol athro/athrawes CA2 newydd ym mis Medi. 

 

Cytunwyd nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd.

 

DIM GWEITHREDU PELLACH

6.

Hunan-Arfarniadau Ysgol pdf eicon PDF 328 KB

Cyflwyno hunan arfarniadau AG yr ysgolion canlynol:

 

·        Ysgol Gynradd Pencarnisiog ac

·        Ysgol Syr Thomas Jones

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiadau hunan werthuso Addysg Grefyddol gan Ysgol Pencarnisiog ac Ysgol Syr Thomas Jones ar gyfer ystyriaeth y CYSAG.

 

Croesawodd CYSAG hunan werthusiad Ysgol Pencarnisiog fel asesiad gonest a theg o ddarpariaeth yr ysgol a chanlyniadau Addysg Grefyddol ac roedd yn ail bwysleisio ei rôl gefnogol gan nodi ei fod yn edrych ymlaen ar gael derbyn diweddariad ar gynnydd gan Ysgol Pencarnisiog maes o law.  

 

Arweiniodd Mrs Mefys Edwards y CYSAG drwy hunan werthusiad Ysgol Syr Thomas Jones a thynnwyd sylw at feysydd cyrhaeddiad ac arfer da o fewn Addysg Grefyddol o dan y prif benawdau yn ogystal â’r meysydd ar gyfer datblygu. Cyfeiriodd ar arferion addoli ar y cyd yn yr ysgol a dywedodd bod sesiynau addoli ar y cyd yn cael eu cynnal yn ddyddiol gan yr ysgol gyfan ar wahân i ddydd Mercher pan gynhelir sesiynau gyda thiwtoriaid yn y dosbarth ac fe allai’r testun gynnwys trafodaethau am rywbeth sydd wedi digwydd yn y newyddion a ddefnyddir er mwyn adlewyrchu arno. Mae’r darlleniadau a’r thema yn y sesiynau addoli ar y cyd yn rhai Cristnogol eu natur. Y Pennaeth sy’n arwain y sesiynau ddydd Llun, y disgyblion eu hunain sy’n arwain ddydd Mawrth a dydd Iau ac aelod o Uwch Dîm Arweinyddiaeth yr ysgol sy’n arwain ar ddydd Gwener.

 

Bu’r CYSAG gydnabod yr hunan werthusiad fel adroddiad cynhwysfawr a manwl. O ran hunan werthusiadau AG sydd dal heb eu derbyn, dywedodd y Swyddog Addysg Gynradd bod tri wedi eu cyflwyno yn y dyddiau diwethaf ac y byddent ar gael yn y cyfarfod nesaf. Mae angen ystyried ffyrdd amgen o gael gwybodaeth am safon a’r ddarpariaeth o AG yn yr ysgolion hynny nad ydynt wedi cyflwyno adroddiadau hunan werthusiad e.e. cynnal ymweliadau.

 

Hysbysodd Ymgynghorydd Her GwE y CYSAG ei bod wedi addasu’r canllawiau eleni i adlewyrchu’r pwyslais ar y fframweithiau llythrennedd a rhifedd ac er mwyn hyrwyddo cysondeb o ran dull a chynnwys. Mae adran ar gyfer adlewyrchu ar y safonau mewn sgiliau sy’n cynnwys llythrennedd, rhifedd, TGCh a meddwl wedi eu cynnwys.

 

Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi mynychu sesiwn addoli ar y cyd yn Ysgol Bodffordd lle mai’r Samariad Trugarog oedd y thema. Dywedodd y Swyddog Addysg Gynradd y byddai’n cysylltu â’r ysgolion ym mis Medi er mwyn gofyn iddynt ystyried gwahodd aelodau o CYSAG i arsylwi cyfnodau addoli ar y cyd.

 

Cytunwyd i nodi adroddiadau hunan werthuso Ysgol Pencarnisiog ac Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch a diolchwyd i’r ysgolion am eu darparu. 

 

GWEITHREDU:

 

           Darparu CYSAG â diweddariad ar gynnydd Ysgol Pencarnisiog mewn perthynas â darpariaeth AG, cynllunio a chanlyniadau yn y man.

           Ymgynghorydd Her GwE i lunio rhestr o’r ysgolion y mae Aelodau CYSAG eisoes wedi ymweld â nhw fel rhan o’r arfer monitro cyfnodau addoli ar y cyd.  

7.

Diweddariad gan Ymgynghorydd Her GwE

Ymgynghorydd Her GwE i roi diweddariad ar ddatblygiadau i’r CYSAG.

Cofnodion:

Adroddodd yr Yr Ymgynghorydd Her GwE fel a ganlyn:

 

           Bod Cynllun Gweithredu’r CYSAG yn seiliedig ar Adroddiad Blynyddol 2014/15 a’r argymhellion a wnaed o ganlyniad. Mae blaenoriaethau’r Cynllun Gweithredu wedi eu nodi isod ac fe awgrymir y dylai’r rhain barhau i ffurfio sail gwaith y CYSAG ar gyfer 2016/17. Eglurodd y Swyddog sut y cynigiwyd y byddai pob blaenoriaeth yn cael ei bodloni a sut y byddai tystiolaeth yn cael ei chadw, y canlyniadau arfaethedig yn ogystal â’r corff/pobl sy’n gyfrifol am sicrhau bod y camau angenrheidiol yn cael eu cymryd gan yr Awdurdod Lleol, yr Ymgynghorydd Her GwE neu’r Aelodau CYSAG eu hunain. Rhoddodd y Swyddog hefyd ddiweddariad i’r CYSAG am y gweithredoedd a’r cynnydd hyd yma o dan bob pennawd blaenoriaeth yn ogystal â’r gweithredoedd a oedd wedi’u cynllunio ar gyfer y misoedd nesaf. 

 

           Datblygu arweinyddiaeth dda mewn Addysg Grefyddol ac addoli ar y cyd

           Ymateb i adroddiad Donaldson, sef Dyfodol Llwyddiannus  (Successful Futures) gan ei fod yn berthnasol i Addysg Grefyddol

           Cefnogi athrawon uwchradd wrth iddynt baratoi ar gyfer paratoi a darparu’r maes llafur TGAU

           Hyrwyddo addoli ar y cyd

 

           Bod ysgolion cynradd yn gwneud defnydd helaeth o’r teclyn INCERTS ar gyfer olrhain ac asesu perfformiad a chynnydd disgyblion a’i fod yn cael ei ddefnyddio er mwyn hysbysu asesiadau athrawon yn bennaf, ond nid yn unig, mewn Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth. Daeth i’r amlwg bod athrawon yn defnyddio hen ddisgrifiadau lefelau ar gyfer maes llafur AG yr Eglwys Gatholig yng Nghymru yn hytrach na’r rhai y cytunwyd arnynt ar gyfer y Fframwaith Enghreifftiol Cenedlaethol ar gyfer AG o ganlyniad i'r ffaith bod yn rhaid iddynt ddewis y gyfres briodol o ddisgrifwyr lefelau a’u bod yn cael eu cam-gyfeirio - drwy’r amrywiaeth o opsiynau sydd ar gael - at y gyfres anghywir. Ceisiodd Ymgynghorydd Her GwE gymeradwyaeth CYSAG er mwyn cael tynnu sylw’r ysgolion at y camgymeriad hwn ac i’w cynghori i gael defnyddio’r disgrifiadau lefel ar gyfer y Fframwaith Enghreifftiol Cenedlaethol.  

 

Cytunwyd

 

           Nodi’r diweddariad.

           Cefnogi bod blaenoriaethau’r Cynllun Gweithredu fel maent wedi’u cyflwyno yn ffurfio sail ar gyfer gwaith y CYSAG yn 2016/17.

 

GWEITHREDU: Ymgynghorydd Her GwE i gynghori ysgolion cynradd y sir drwy lythyr o’r angen, wrth ddefnyddio rhaglen dracio INCERTS, i sicrhau eu bod yn dewis y setpriodol o ddisgrifwyr lefelau ar gyfer AG yn ymwneud â’r Fframwaith Enghreifftiol Cenedlaethol.   

8.

Cymdeithas CYSAGau Cymru pdf eicon PDF 368 KB

Cyflwyno’r wybodaeth ganlynol  

 

·        Cofnodion cyfarfod y Gymdeithas a gynhaliwyd yn yr Hwlffordd ar 8 Mawrth, 2016.

 

·        Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Gwaith y Gymdeithas a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ar 10 Mai, 2016.

 

·        Rhaglen cyfarfod y Gymdeithas a gynhaliwyd yn Rhyl, Sir Ddinbych ar 23 Mehefin, 2016. (Cynrychiolwyr a fu’n bresennol yn y cyfarfod i roi adborth)

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd y dogfennau canlynol ac fe’u nodwyd gan y CYSAG:

 

           Cofnodion y cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru gynhaliwyd yn Hwlffordd ar 8 Mawrth, 2016.

           Cofnodion Pwyllgor Gwaith Cymdeithas CYSAGau Cymru gynhaliwyd yng Nghaerdydd ar 10 Mai, 2016.

           Y rhaglen ar gyfer cyfer cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhelir yn Y Rhyl, Sir Ddinbych ar 23 Mehefin, 2016. Nodwyd nad oedd cofnodion drafft wedi eu cylchredeg hyd yma. 

 

9.

Cyfarfod Nesaf

Dydd Mawrth, 11 Hydref, 2016 am 2 y.p.

Cofnodion:

Nodwyd y cynhelir cyfarfod nesaf y CYSAG am 2pm, dydd Mawrth 11 Hydref 2016.